Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
NID cadarn ond brodyrdde" yw ar- wyddair newydd Merthyr. O'i gyfieithu, Not force, but fellowship." Bu'R Parch. R. J. Campbell, M.A., yn pregethu yn Oory Hall, Caerdydd, nos Lun diweddaf, a chaed cynulliadau mawr yno. MAE Dr. John Rhys, Rhydychain newydd gyhoeddi cyfrol ar The Celtic inscriptions •of France and Italy." Efe, fel y gwyddis, YW un o'r awdurdodau goreu ar y fath bwnc.
[No title]
PWY SYDD AGOSAF I'R AFAL P
CREDO " D. A."
CREDO D. A." Myn D. A. Thomas fod pwnc Dadgysylltiad yn colli tir, ac nad yw'r Weinydd- iaeth bresennol o ddifri ynglyn a'r mater. Nid trwy dderbyn swyddau breision tan y Weinydd- iaeth oedd y ffordd oreu i'n Seneddwyr wthio cwestiwn Dadgysylltiad yn ei flaen. Credai ef na ddylai yr un Cymro dderbyn swydd o gwbl, oherwydd yr unig ffordd i lwyddiant oedd aros yn anibynol fel yr aelodau Gwyddelig. Trwy ymladd o'r tu allan oedd Cymru i ennill ei hiachaw- dwriaeth gwleidyddol. Byddai'n ddyddorol cael gwybod gan D.A." a wnai efe ei hun osod telerau i lawr pe cawsai gynnyg ar safle bwysig yn y Wein- yddiaeth ? Peth digon hawdd yw gosod rheolau i ereill, a siarad gwagedd wrth etholwyr gwledig. Mae Cymru eisoes wedi cael prawf, yn sefydliad Adran Addysg, mai trwy gael cyn- rychiolwyr doeth yng nghyf- rin gyngor y Weinyddiaeth y mae iddi enill ei hawliau. Bydd gair amserol oddi- wrth Mr. Lloyd-George yn llawer mwy tebyg o ennill Dadgysylltiad i Gymru na phe'r areithiau a bygythiai D. A. a'i ganlynwyr am genhedlaeth gyfan.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y GWYLIAU.—Dyma'r pasc wrth y drws, a bydd niter o'r Llundeinwyr yn tyrru i'r wlad cyn diwedd wythnos arall. CYFARFODYDD.—Mae dwy neu dair o'r cymdeithasau llenyddol yn terfynu eu tymor heno, a chyda gwyliau y pasc byddis yn trefau gwibdeithiau. i awyr y wlad o hyn allan. YR UNDEB.-Addefir yn gyffredinol mai un o'r pethau goreu yn nghwrdd yr Undeb nos Sadwrn diweddaf oedd datganiad Miss Gwladys Roberts o Cwynfan Prydain." Nid rhyfedd i Dr. Macnamara gael ei swyno gan gantores mor wych. Mrss TEIFY DAVIES.—Er wedi ymbriodi a cherddor o'r cyfandir mae Miss Teify Davies yn glynu wrth. ei hen enw poblogaidd. Daw yn ol i Loegr yn mis Mai, a cheir ei chlywed yn ami wedyn yn rhai o'n prif gynulliadau ac yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn Awst. Ei chyfeiriad yn Llun- dain fydd 10, Willow Road, Hampstead. CINIO'R CLWB.—Nos Fawrth nesaf cyn- helir cinio blynyddol y Clwb Cymraeg. Y prif siaradwyr eleni fydd Syr John Williams, a bydd yn ddyddorol i weled a geir gair bach ganddo ar y Ddirprwyaeth Eglwysig a'i helyntion. Byddai hwn yn destyn gwych i roddi araith faith arno. LLONGDDRYLLIAD.—Yn yr ystorm erwin a gaed ddydd Sul diweddaf aeth dwy neu dair o longau ar greigleoedd yn y sianel. Ar y Hong Jebba yr oedd ein cydwladwr, Mr. Evan Griffiths, Chelsea, yr hwn oedd yn dod yn ol o'i ymweliad ag ynysoedd y Canary. Da gennym ddeall nad yw wedi teimlo un anghysur oddiwrth ei brofiad peryglus yn y llongddrylliad. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, 13eg cyf- isol, o dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol yn y lie uchod, caed anerchiad grymus a gwladgarol gan Mr. T. J. Evans, o'r Taber- nacl, King's Cross. Mr. Edward Edwards, n B.A., oedd i fod i'n hanerch ar y noson hon, ond oherwydd gwaeledd iechyd, methodd a chyflawni ei ymrwymiad. 0 dan yr am- gylchiadau daeth Mr. Evans i'n gwasan- aethu. Ei destyn ydoedd Hen athraw- iaetli, a rhai cyfeiliornadau." Ar ol yr anerchiad caed ychydig sylwadau gan y Mri. Ben Evans, Huw R. Gruffydd, a David Jones, yr hwn a lanwai y gadair am y noson. Cyn ymadael pasiwyd yn unfrydol bleidlais oddiolchgirwc'i gwresocaf y Gymdeithas i Mr. Evans am ei wasanaeth. gwerthfawr, a mawr obeithiwn mai nid dyma ei ymweliad loaf a'r Gymdeithas hon. R. BORo'Nos Fercher, Mawrth 13, tradd- ododd y Parch. Thomas Stephens, B.A., Camberwell, ei ddarlith orchestol ar Ddi- winyddiaeth y Dyfodol" i Gymdeithas Lenyddol y Boro'. Buasai yn werth i'r holl eglwysi i wrando y ddarlith hon mewn trefn i'w gwneud yn fwy parod i dderbyn gwedd- au newyddion ar y gwirionedd ac yn llai erlidgar ar athrawon gweddau newyddion ar air y bywyd. Mae Mr. Stephens yn un o'r Cyrnry enwoocaf sydd yn y pulpud heddyw. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Machreth Rees, a diolchwyd yn wresog i Mr, Stephens am ei ddarlith, ac i Mr. Rees am lywyddu.
Gwledd yr Aelodau.
tra chwyldroadol cyn y dylanwada ddim ar y rheolau presennol. Feallai y gellir, gyda chydsyniad y Ty Uchaf ei hun, gyfnewid ychydig ar y rheolau ynglyn a gwaith y naill Dy a'r Hall; ond nid yw yn debyg y cantata Ty'r Arglwyddi i un Gweinyddiaeth ymyrryd dim a'i reolau a'i hawliau yn yr oes hon. Ofer yw gwaeddi am beidio anion mesurau iddo, a does neb ond y ffol a sieryd am ei ddiddymu yr unig ffordd i gael di- wygiad yw gadael iddo ef ei hun i drefnu cynlluniaxi a rheolau newydd, ac nid yw yn -debyg y gwna hynny tan gyfarwyddyd ac ar gais Syr H. Campbell Bannerman. Y Llyfrgell a'r Amgueddfa. Mae'r Siarter ynglyn a'r ddau sefydliad 1hyn bron a chael ei gorffen. Yr wythnos hon rhoddodd y Brenin ei sel ar y gwaith, ac ar ol cwblhau'r trefniadau swyddogol bydd pwyllgor yn cael ei alw ar fyrder er ystyried pwy a etholir yn ymddiriedolwyr. Un o'r pethau cyntaf i'w benderfynu gan y pwyllgor fydd pa swm sydd i'w chyfrannu i'r Llyfrgell yn Aberystwyth, a pha faint i'r AmgLieddfa yn Nghaerdydd. Ceisia rhai ddyweyd y dylid rhoddi rhagor i'r amgu- eddfa am fod gweithiau celf yn fwy drud- fawr nac ychydig lyfrau. Beth bynnag am hynny dylai'r pwyllgor gytuno ar gynllun -esmwyth ar y cychwyn fel ag i osgoi pob siomedigaeth a chwerwder rhagllaw. Yr ydym wedi gorfod aros yn hir am ychydig gydnabyddiaeth, a doeth y gwnelai y ddwy dref sydd i dderbyn y sefydliadau gytuno :a'll gilydd ar fyrder fel ag i osgoi pob ym- -ddangosiad o eiddigedd nen gydymgais anheg. A Geir Dadgysylltiad. Mae rhai o'r aelodau Cymreig yn parhau i godi'r cri hwn, ac ar eu heithaf yn ceisio dinystrio gwaith y Ddirprwyaeth Eglwysig. Dywedant mewn cyfarfodydd enwadol nad vw Syr Henry Campbell Bannerman wedi dweyd ei farn ar y pwnc o gwbl, ac mai gwagedd i gyd yw'r cri ei fod wedi rhoddi addewid pendant i Mr. D. Lloyd-George. 'Does neb ag sy'n adwaen Lylwydd y Bwrdd Masnach yn coelio'r fath ensyniadau. Gwyr pawb sydd wedi dilyn gyrfa Mr. Lloyd- George ac ereill o aelodau y Weinyddiaeth bresennol nad gwyr ydynt i werthu egwydd- orion am saig o swyddogol. Mae Mesur Dadgysylltiad i ddod trwy Dy'r Cyffredin y flwyddyn nesaf, ond pwnc arall fydd i'r hanes wedi iddo gyrhaedd Ty'r Arglwyddi. Molawd Penfro. Cymdeithas fyw yw cymdeithas gwyr Penfro yn Llundain. Cynhelir cyfarfodydd yn ami gan yr aelodau, ond eu huchel-wyl yw'r cinio blynyddol. Yn y wledd hon eleni torrodd un o'r aelodau allan mewn molawd i'r hen sir. Gwnaeth araith faith erbyn yr arngylehiad, a'r oil ar gan. Erbyn hyn mae'r folawd wedi ei chyhoeddi, ac er nad yw o unrhyw fri llenyddol, nac yn esiatnpl dda o farddoniaeth, eto y mae calon gynnes yn curo drwy'r cyfan, ac arwyddion eglur fod y brawd wedi ei lyncu gan ei destyn. Cyhoeddir y folawd gan Mri. Elliott Stock, 62, Paternoster Row, a gellir ei chael am •chwe cheiniog.