Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. DIWEDD TYMOR.—Mae argoelion fod yr haf yn dod. Heno cynhelir cwrdd pen tymor yr Undeb yn Jewin, pryd y ceir araith gan Dr. Macnamara, ac mae nifer o'r Cym- deithasau llenyddol yn cau'r drws yr wyth- nos nesaf. DEWIS BLAENORIAID.-Nos Sul diweddaf aed trwy'r gwaith pwysig o ddewis blaen- oriaid yn eglwys M.C. Jewin. Yr oedd nifer o enwau gwyr parchus ar flaen tafod pob aelod yn ystod yr wythnos cynt, ond y rhai gawsant y mwyafrif angenrheidiol oeddent Mri. W. H. Jones, Rees Williams, ac Evan Davies. Mewn eglwys fawr fel hon gellid wrth hanner dwsin, o leiaf, yn ychwaneg. Nos lAu NESAF.—Mae'n resyn nas gellid cael rhagor nag un nos Iau yn yr wythnos. Ers amryw wythnosau bellach mae pedwar neu bump o gyfarfodydd pwysig yn cael eu cynnal ymysg y Cymry ar bob nos Iau. An- hawdd i'r oil fod yn llwyddiant. Gwelwn oddiwrth ein colofn hysbysebol yr wythnos hon eto fod nifer arbennig o gynulliadau i fod nos Iau nesaf. AWR GYDA'R WERIN.-Dyna oedd testyn araith a gaed gan Mr. T. Huws Davies ger bron Cymdeithas Brunswick nos Sadwrn diweddaf. Llywyddwyd gan y Parch. Thomas Jones, a chaed awr hapus wrth wrando ar werinwr ffraeth yn siarad ar bosibiliadau gwerin ein gwlad. SILVER STREET.—Nos Sadwrn, Mawrth Dfed, cynhaliwyd social a chyngherdd rhag- orol. Llywyddwyd a chaed araith gan Dr. Rowlands. Rhoddwyd y te gan Mr. Parry Griffith. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Mr. Evans a'i gyfeillion o Wilton Square Misses Stevens a Sylva, Mr. Thomas, Holborn Circus; Witherington Glee Party, Mr. Woods, Boro', a'i dair merch. Cyfarfod da, a chysur yw fod y gwaith yn y lie ar gynnydd, dan ofal y brawd Phillips. Dis- gwylir y Parch. Elfed Lewis yno y Sabboth cyntaf yn Ebrill. Cynhelir cyfarfod Saesneg pry dn awn Sabboth, a Chymraeg yr hwyr. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, 6ed cyf- isol, caed dadl Seneddol tra dyddorol, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol yn y lie hwn. Yn absenoldeb Timothy Davies, Ysw., A.S., gwasanaethwyd fel Llefarydd gan Mr. D. E. Thomas, a gwnaeth Mr. John Q. Roberts ei waith yn rhagorol fel prif-wein- idog ac arweinydd y Llywodraeth. Arwein- ydd yr wrthblaid ydoedd ein cyfaill ffyddlon Mr. Huw R. Gruffydd, yr hwn a gynygiodd y penderfyniad canlynol: That this House wishes to record its strong disapproval and condemnation of the policy of His Majesty's present Government since its accession to office." Mewn amddiffyniad caed araith faith, hyawdl, a biwdfrydig gan y prif-weinidog, yr hwn a gyffyrddodd a phrif gwestiynau gwleidyddol y dydd' megis ymreolaeth Mesur Tir, Mesur Addysg, &c., a theimlid cryn ddyddordeb gan y boneddigesau pan wnaeth ei sylwadau ar y cwestiwn o bleidlais i ferched. Cefn ogwyd arweinydd yr wrthblaid, ym mysg ereill, gan Mr. Doherty (cyfreithiwr), yr hwn a wnaeth sylwadau rhagorol. Yn ystod y cyfarfod hefyd siaradwyd gan ddau frodor o India, yn areithiau pa rai y teimlid cryn ddydd- ordeb. DEWI SANT, PADDINGTON.-Cylllfllcrtid.- Nos Fawrth, Mawrth 5ed, yn y neuadd Eglwysig, cafwyd cyngherdd dyddorol, o dan gyfarwyddyd Mr. Evan Lloyd, Kilburn, un o golofnau yr Eglwys yn Paddington. Wedi ychydig eiriau fel rhagarweiniad, gan y Parch. W. Richards, caplan, galwodd ar Morgan Morgans, Ysw., Bargyfreithiwr, i gymeryd y gadair. A ganlyn ydoedd trefn y rhaglen :Rhan 1. Pianoforte duett, Misses Olive Rogers a Nellie Lloyd can, Bells of Gold," Miss Nancy Parry can, "Shadowland," Miss Rogers; can, "The Inchape Bell," Mr. John Hughes, City Boy recitation, Barbara Frietchie," Miss Emily Thomas can, The Promise of Life," Miss Vanine Dann duett, If the world were ruled by girls," Messrs. Jack a R. H. Morris can, Selected," Miss V. Rolfe; can, Gwlad y Delyn," Mr. Hirwen Davies. Rhan II.: can, "Dear Heart," Miss Sarah Phillips; adroddiad, Modryb Shan," Mr. Hugh Evans pedwarawd, Nos Da'r Perorinion," Parti Croesybrenin can, She wandered down the mountain side," Miss Nancy Parry can, Arm, ye Brave," Mr. John Hughes can, For all Eternity," Miss V. Dann Hen Wlad fy Nhadau," Mr. Tom Jenkins. Cyf- eiliwyd yn fedrus gan Miss Rosie Parry. Talwyd diolchgarwch cynnes i bawb a gym- erasant ran yn y cyfarfod gan Mrs. Richards. Dywedodd fod clod mawr yn ddyledus i Mr. Lloyd am drefnu y fath gyngherdd rhagorol. Eiliwyd yn hapus gan Mr. Tom Jenkins. Yr oedd yr ystafell yn orlawn er garwed yr hin. STRATFORD.—Cwrdd cymdeithasol oedd atyniad pobl ieuainc Stratford, nos Iau, 7fed, a chaed cynulliad hwyliog, tan lywyddiaeth Mr. R. H. Roberts, Westminster. Caed te a moethau gan y Parch, a Mrs. Wilson Roberts, a bu nifer o'r merched ieuainc yn gweini yn ffyddlon ar y rhai oedd yn bres- ennol. Canwyd ac adroddwyd yn ystod y noson gan amryw, a chaed hwyl a diddanwch, yr hyn a fawr fwynhawyd. DOSBARTHIADAU CYMREIG. Erbyn hyn mae'r rhai hyn wedi eu sefydlu. Cynhelir hwy yn ysgol Hugh Myddleton, Clerkenwell Green, a'r athraw yw Mr. Goronwy Owen, B.A. Cynhelir dosbarth elfenol nos Lun o 7 i 9.30, a'r dosbarth uwchraddol nos Wener o 7 i 9.30. CASTLE STREET.—Nos Lun diweddaf cyn- haliwyd gwledd flynyddol y plant ynglyn a Chymdeithas Ddirwestol y capel hwn, tan lywyddiaeth Mr. John Owen, King Street. Rhoddid y wledd eleni gan Mr. a Mrs. Owen, a chaed caneuon ac adroddiadau gan y plant mewn cyngherdd dilynol. Yr oedd yr ystafell yn llawn o edmygwyr y plant a'u gwaith, a rhoddodd y Parch. Herbert Morgan anerchiad addas i'r amgylchiad iddynt cyn terfynu y cwrdd.

LLYFRAU NEWYDD.

EISTEDDFOD CITY ROAD.