Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
FALMOUTH ROAD WELSH C.M. CHAPEL, NEW KENT ROAD, S.E. ORGANIST'S GRHND COMPLIMENTARY CONCERT" ORGAN RECITAL, On Thursday, March list, 1907. CHAIRMAN T. WOODWARD OWEN, ESQ. ARTISTES: Soprano Miss AMY EVANS (Pupil of Signor Randegger and Winner of Soprano Solo, Cardiff National Eisteddfod) Contralto Miss MARGUERITE EVANS, R.A.M. Tenor Mr. W. SPENCER THOMAS, R.C.M. At the Grand Organ Dr. CUTHBERT HARRIS, Mus. Doc. (Dunelm), F.R.C. Selections by the Children's ehoir. Conductor, Mr. E. Jones, R.T.S.C. Admission: 3/- (Reserved), 2/- & 1/- DOORS OPEN 7.30 P.M. COMMENCE 8 P.M. Tickets can be obtained from Members of the Church, or of the Secretary, Mr. W. WILLIAMS, 104, Fort Road, S.E. MllDøe OHYIES, H.R.C.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. For Terms: Apply, 118, Euston Road. 1— -t LLXYNDAIN pj £ ^l THE London Ulcbimtan and Kelt-
Cymodi'r Dirprwywyr.
Cymodi'r Dirprwywyr. Er nad yw'r Ddirprwyaeth Eglwysig wedi cyfarfod yr wythnos hon, y mae pob lie i gasglu fod y gwahaniaethau a fodolai cyd- rhwng y Cadeirydd a Mr. S. T. Evans, ac ereill, wedi ea symud am ychydig ddyddiau. Gall yr ymholiad fyned yn ei flaen yn lied hwylns am rai wythnosau eto, ond mae'n sicr fod pob dyddordeb ynglyn a'i waith wedi ei golli gan y cyhoedd, ac na fydd yr adroddiad a rydd i Dy y Cyffredin ond o ychydig leshad i'r rhai a fwriadant dynnu allan Fesur Dadgysylltiad erbyn y Senedd- dymor nesaf. Ar ol y triniaethau anheg a gafodd rhai o'r tystion, a'r cwestiynau plen- tynaidd a roed iddynt ar amryw droion, y mae amryw o bersomiau oeddent wedi bwr- iadu ymddangos, yn ail ystyried eu safle, ac yn awyddus am ymddwyn tuag at yr holl Ddirprwyaeth gyda'r dirmyg a haedda, gan ei anwybvddu yn hollol. Sonir yr wythnos hon fod y Barnwr wedi cael eglurhad ar y Comissiwii gan Mr. D. Lloyd-George a'r Arglwydd Ganghellydd, a'i fod yn barod i gymeryd gwedd fwy eang ar yr ymholiad o hyn allan. Prin y gallwn gredu am y Barnwr y gwnaiff ildio i geisiadau Mr. S. T. Evans, nac ychwaith i fani bwyllog yr Athro Henry Jones. Hyd yn awr mae'r holl haid wedi bod yn rhyw anghytuno a'u gilydd, ac er fod rhai o bleidwyr y Ddirprwyaeth yn llawenhau yn y ffaith y ceir eisteddiadau yn ystod yr wythnos ddyfodol gellir cymeryd yn ganiataol nad yw'r cyfan ond heddwch tros amser y ffaith yw, mae'r Ddirprwyaeth mor farw o ran dylanwad a phe cauesid y drysau yforu. Etholiadau Cymru. Erbyn hyn mae'r holl etholiadau ynglyn a'r Cynghorau Sir Cymreig wedi eu cwbl- hau, a dengys y ffigyrau fod y Toriaid wedi enill yn ddirfawr trwy Dde a Gogledd. Bu brwydro caled mewn llu mawr o etholaethau, a brwydrau capel ac eglwys oeddent ran amlaf. Mae'r mwyafrif Radicalaidd yn y deuddeg Sir wedi ei leihau, tra mewn un neu dclwy o'r Siroedd gellir cyfrif y pleidiau bron yn gyfartal. Beth sydd i gyfrif am y eyfnewidiad rhyfedd hwn? Yn un peth nid yw'r wlad wedi boddloni ar waith y Wein- yddiaeth ynglyn a Mesur Addysg a Mesur Dadgysylltiad, a'r canlyniad naturiol yw fod llu mawr o'r etholwyr yn myned yn ddifater neu yn hollol wrthwynebol i'r polisi glas- dwraiddpresennol. Peth arall, mae'r cadau eglwysig wedi eu trefnu yn hynod o effeith- iol yn awr, ac os na ddihuna'r Ymneilldu- wyr a'r Rhyddfrydwyr yn y man, bydd amryw o'r prif wersylloedd yn syrthio yn yr ymgyrchoedd nesaf. Ceir engraifft nodedig arall o anrhefn a difaterwch yr enwadau ym- neillduol yng Ngliymru ynglyn a threfnu tystiolaeth erbyn y Ddirprwyaeth Eglwysig, Mae'r Ymneillduwyr wedi bod yn cysgu ac yn dadleu a'u gilydd tra mae'r Eglwyswyr wedi dihuno i'w cyfle. Y canlyniad yw, fod eu hachos yn ymddangos yn llawer gwell o flaen y cyhoedd Seisnig, nag yw mewn ffaith yng Nghymru. Yr un fydd hanes y brwyd- rau etholiadol nesaf. Os na threfnir y byddinoedd yn awr mewn pryd, daw adeg pan y bydd raid rhoddi'r awenau i ddwylaw dieithr, a gwae Gymru fydd hi pan ddel tan reolaeth estroniaid lleol.
DATHLU GWYL DEWI.
DATHLU GWYL DEWI. Daeth amryw adroddiadau i law yn ystod yr wythnos yn rhoddi hanes am gyfarfodydd arbennig a gynhaliwyd ar ddydd Gwyl Dewi. Ym mha dref bynnag, yn Lloegrneu ar y cyfandir, lie roedd torf o Gymry yn trigo caed esgus i gynnal Gwyl; ond y dull Seisnig o gadw gwledd oedd y iTurf a ddef- nyddid yn y mwyafrif o honynt. Yma ac acw ceir hanes am gyngherdd, ac weithiau araith a chan, ond daw un cyfarfod i sylw a haedda gofnodiad arbennig. Plant Ysgol Llanerwys. Ar wahan i ganu Hen Wlad fy Nhadau," mewn ambell i ysgol, ni chymer ysgolfeistri Cymru yr un sylw o ddydd Gwyl y genedl. Ni thrafferthir ganddynt i ddysgu caneuon cenedlgarol i'r plant, ac ni addysgir hwy yn hanes eu gwlad, ac ni chymhellir un gronyn o'r ysbryd gwladgarol arnynt ar hyd y flwyddyn. Ond gwelwn fod ysgol Llaner- wys yn eithriad nodedig. Saif yr ysgol mewn ardal anghysbell yn Sir Gaerfyrddin, yn nhawelwch y mynyddoedd, a thu allan i ddylanwadau anwaraidd y Sais. Mae Mr. Dan Jenkins, yr ysgolfeistr, yn Gymro o'r iawn ryw. Cymer ddyddordeb yn lien a hanes ei wlad, a gwyr pa addysg sydd yn ateb oreu i'r plant. Bob dydd Gwyl Dewi er's .blynyddau, y mae wedi cynnal cyng- herdd cenedlaethol, yn yr hwn y cymerir rhan gan yr holl ysgol. Gofala am ganeuon newydd, a darnau newydd i'w hadrodd, a ehailf gynorthwy gan feirdd a llenorion goreu'r siroedd at y gwaith. Eleni 'roedd y cwrdd mor ddoniol ag arfer—yn Gymraeg o'r dechreu i'r diwedd, ac yn wers i lawer cynulliad pa fodd i gadw dydd coffa'r hen Sant. Pe gallai Mr. 0. M. Edwards gymhell y cynllun ar ysgolion ereill ein gwlad, o hyn allan, byddai yn sicr o gyfiawnhau ei benod- iad gan y lies a ddeilliai i'n plant o'u dysgu i fod yn well Cymry ac i wybod rhyw- beth am eu hiaith a'u llenyddiaeth. Aberystwyth. Heb law y cyfarfodydd rhyfedd a geir yn y Cyngor Trefol mae cynulliadau teilwng o'r dref yn cael eu cynnal weithiau yn Aber- ystwyth. Eleni daeth torf fawr o'r bobl ynghyd i westy'r Waterloo i gynnal gwledd Genedlaethol, a throdd y cyfan yn llwydd- iant mawr. Abertillery. Er mai Saeson y myn pobl Sir Fynwy fod. fel rheol, daw adegau pryd yr hoffant gofio eu cysylltiadau Cymreig. Ynglyn a chym- deithas Gymreig newydd y lie ar nos Wyl Dewi caed y cyfarfod cyntaf yn neuadd Ysgol y Cyngor Gelly Crug. Daeth tua dau gant o Gymry twymgalon yr ardal ynghyd i ddathlu iendigaid gofwyl Dewi Sant yn swn y delyn a chyngan a llawen- ydd. Y mae'r neuadd yn un o'r ystafell- oedd harddaf yn Sir Fynwy, ac yn sicr yr oedd y cynulliad yr un godidocaf gafwyd yn yr ardal, yn enwedig ymhlith y Cymry, er's llawer blwyddyn faith. Y mae pob arwydd- ion fod Abertillery a'r cylch yn ymgyfranogi o'r deffroad Cymreig sydd yn dra amlwg drwy Gymxu. gyfan ar hyn o bryd. Cymer- wyd y gadair am y noson gan lywydd y Gymdeithas, Mr. W. D. Lewis Evans, M.A., y cyntaf i gynieryd ei raddau yn Mhrifysgol Llundain, yn yr ieithoedd Celtaidd, ac un o ieithwyr goreu Cymru heddyw. Aed drwy'r rhaglen, o'r mwyaf dyddorol a gwlad- garol, yr hon a gynwysai ganeuon Cymreig, anerchiadau gan lu o feirdd lleol, areithiau gwladgarol, ac unawdau ar y delyn. Yr oedd yn llawen gweled y fath ddechreuad mor addawol i Gymdeithas Gymreig y lie, ac mae'r ysgrifennydd, Mr. T. Morris, B.A., yn teilyngu clod am ei waith ynglyn aV cyfarfod cyntaf hwn. Pob llwydd i'r mud- iad yn yr ardaloedd prysur hyn.