Hide Articles List

2 articles on this Page

Manion ym Myd Lien.

News
Cite
Share

Manion ym Myd Lien. Y Gorlan. Dyma gyhoeddiad misol Eglwys Charing Cross. Rhydd hanes o fis i fis am y gwaith a wneir ynglyn a'r eglwys bwysig hon. Er mai eglwys Gymraeg ydyw, rhoddir llawer o le i adroddiadau Seisnig yn y rhifyn hwn. Un o'r pethau goreu yn y rhifyn yw'r nodion golygyddol a roddir ar ei ddechreu. Yr Ymofynnydd. Yr ysgrif a dyn sylw yn y cyhoeddiad hwn am fis Mawrth yw'r hanes a rydd y Parch. R. J. Jones, Aberdar, ynglyn a'i ymweliad a'r Ddirprwyaeth Eglwysig yn Llundain. Yr cedd Mr. Jones wedi ei benodi i roddi man- ylion am yr enwad Undodaidd ger bron y Ddirprwyaeth, ond pan ddaeth i Lundain cafodd ei drin fel anwybodusun neu rhyw ddrwg-weithredwr. Nid oes eisieu dyweyd na welir mo Mr. Jones yma ond hynny. Bardd Gwledig. Mewn erthygl yn Cymru y mis hwn sonia un ysgrifennydd "Granellian oedd fardd," &c., gan anghofio fod y gwr diddan hwnnw mor fyw a barddonol ag erioed. Dyma ei ganig ddiweddaf, a gyfansoddodd erbyn cyngherdd plant ysgol Llancrwys, ac a ganwyd yno gan y meistr, Dan Jenkins :— CARU CYMRU FU. Chwi wyddoch bob copa am garu'r hen oes, Hai ho Gweno fwyn gu, Pa sut yr ai'r llanciau trwy ludded a loes, Hai ho! Gweno fwyn gu. I wel'd y llancesi heb wybod i'w mam, Dan nesu fel lladron o gam bach i gam, 'Nol diffodd y goleu, a'r tan yn ddifflam, Hai ho Gweno fwyn gu. Rhoid cnoc fach a gwialen i'r ffenest yn awr, Hai ho Gweno fwyn gu, A thoc fe ddoi Gweno ffraeth-enau i lawr, Hai ho Gweno fwyn gu, A Dai yn llawn hwyliau, dybaco a phoer Yn gwasgu ar Gweno yn wir bod hi'n oer, A gai e fyn'd mewn nes y codai y lloer Hai ho Gweno fwyn gu. Ar esgus o'i hanfodd o'r diwedd doi'r fun, Hai ho Gweno fwyn gu, I'r drws gydag ust! fod nhad ar ddihun,' Hai ho Gweno fwyn gu; Mewn congol o'r aelwyd yn ddistaw a chudd Caent wedyn ymgomio a'u gilydd yn rh'dd, Heb son am y lleuad hyd doriad y dydd Hai ho I Gweno fwyn gu. Cyn madael gwnai Dafydd adduned i Gwen. Hai ho! Gweno fwyn gu, Pan ddelai ffair Sulgwyn mai hwy fyddai'n ben, Hai ho Gweno fwyn gu A diwrnod y ffair 'roedd y merched yn syn Gwel'd Dafydd a Gwen gyda'u gilydd mor dyn,— A dyna fai'r gleber yn hir ar ol hyn, Hai ho Gweno fwyn gu. 'Roedd caru'r hen oes bron fel caru yn awr, Hai ho Gweno fwyn gu, 'Dyw natur yr ieuainc yn newid ddim fawr, Hai ho Gweno fwyn gu Os weithiau traed gwlybion gai'r gweilch mewn rhyw ddwr A chwn a swn powdwr os cadwent hwy stwr, Ymlaen yr ai'r caru ar waetha pob gwr Hai ho Gweno fwyn gu. GRANELLIAN. Adar ein Gwlad. Ychydig amser yn ol yr oeddem yn galw sylw at lyfr Cymraeg ar wyddoniaeth, ac wele yn awr lawlyfr i'r naturiaethwr ieuanc wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg glan, gloyw. Ymddengys fel pe bae ton o ddi- wygiad yn dod tros ein hysgolheigion, a'u bod o'r diwedd yn dechreu sylweddoli y posibilrwydd sydd yn iaith ein tadau. Peth newydd yw rhoddi hanes a disgrifiad o adar Cymru, ond y mae Mr. John Ashton wedi llwyddo i wneud llawlyfr rhagorol ar y mater. Rhydd ddisgrifiad byw, pert, o bob aderyn adnabyddus; ei nodweddion, ei faintioli, ynghyd a'i enwau yn Lladin a Saesneg. Llwydda i esbonio y man dermau gwyddonol mewn ffordd hapus a swynol, a dylai'r gwaith fod yn dderbyniol iawn gan ein hysgolion sy'n rhoddi gwersi yn yr awyr agored i'r plant yn ystod yr haf. Mae'r argraffwaith yn lan, ac arwyddion o gywirdeb i'w weled yn eglur ynglyn a phob disgrifiad a roddir. Pris y gyfrol yw Is. 6d., a chyhoeddir hi gan y Mri. W. Spurrell, Caerfyrddin. Eminent Churchmen. Cyfrol fechan o adgofion yw hon yn rhoddi hanes am rai eglwyswyr enwog fuont yn dal cysylltiad a Chymru. Y prif gymeriad a bortreadir yw Dr. Lewellin (fel y gelwir ef yn Seisnigaidd yma, ond Doctor Llewelyn oedd ei enw gan wladwyr Ceredigion) ar un adeg prifathraw coleg Dewi Sant, Llanbedr. Mewn gair, Dr. Lewellin oedd y prif athro cyntaf ar y coleg enwog hwn, a gweithiodd yn galed i'w godi i'r safle bwysig y mae ynddo heddyw. Merch i Dr. Lewellin yw awdures y gyfrol hon, ac feallai y dylem esgusodi llawer o'r man frychau hanesyddol sydd yn y gwaith, a'r duedd naturiol i orfoli gwaith yr hen Ddr. Gwr hynod oedd Dr. Lewellin ar lawer cyfrif, ond tueddai, fel ei ferch, i edrych yn ddiraddiol ar Gymru a'i phobl, ac hwyrach mai dyna'r rheswm nas cododd ond ychydig o wyr enwog o'i athrofa. Ceir rhai engreifftiau o snobeiddiwch yr hen Ddr. yn y gyfrol hon, ond ceisia y ferch edrych drostynt megys engreifftiau o'i ddifyrion. Mae'r adgofion yn rhai dar- llenadwy ddigon, ac i efrydwyr o oleg Llambed byddant yn agoriad melus i ail- adrodd straeon yr hen sefydliad yn nechreu ei fabandod rhyw hanner canrif yn ol. Pris y gyfrol yw swllt, ac argreffir hi gan y Mri. Spurrell, Caerfyrddin.

Advertising