Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

--Cawl Cenin.

GWNEUD DEWI YN SANT.

News
Cite
Share

GWNEUD DEWI YN SANT. [GAN EILIR.] I gael gafael yn oes Dewi Sant rhaid myned yn ol am ryw ddeuddeg neu dair canrif a'r ddeg, oherwydd cytunir ymron gan bawb mai Sant yn perthyn i'r chweched ganrif ydoedd. Mae twysged wedi ei ys- grifennu am dano yn Gymraeg a Saesneg, ac yn iaith Llydaw a iaith y Ffrancod, o ran hynny, ond 'does gennym ddim yn hyn am dano na'r ddeuddegfed ganrif, pan ym- gymerodd Rhyddmarch ag ysgrifennu ei fywgraffiad. Ceisiodd y Prifathro John Rhys unwaith esbonio'r gair Llanddewi Brefi, ac awgrymai fod y gair brefi yn cyfeirio at y Sant. Dichon, meddai, mai o'r Lladin y tarddai, a'i fod yn cyfeirio at faint- ioli Dewi. O'r hyn lleiaf, ystyr "brefi" (os mai o brevis y daw) yw byr. Dywed traddodiad, modd bynnag, ei fod tros chwe' trodfedd o ddyn, ac yn dywysogaidd yr olwg. Ond os oedd dros ddwylath, felly pa iesieu, tybed, i'r ddaear godi yn fryn o dan ei draed wrth bregethu yn y gymanfa ? Y tebygolrwydd felly yw, fod dyfaliad y Prif- athro Rhys parthed maintioli Dewi yn gywir. Mynachod oedd Seintiau Cymru, a bywyd mynachaidd arweiniai Dewi a'i frodyr yn Nhy Ddewi, ac yr oeddent yn byw wrth reol gaeth tu hwnt i'r cyffredin. Yr oeddent yn byw ar fara a dwfr a llysieufwyd ni fwyta- ent gigfwyd un amser, ac ni chyffyrddent a diod gadarn. Treulient y dydd yn llafurio er mwyn eu bara beunyddiol yn y maes, a'r nos mewn mawl a gweddi. Ychydig o amser oedd ganddynt i orphwys, ac ni chaniateid awr segur iddynt ddydd o'r flwyddyn. Dewi Sant, o bosibl, oedd y cyntaf i bregethu ac arfer Ilwyr ymattaliad yng Nghymru. Gan gymaint ei sel dros ddirwest galwyd ef gan ei gydoeswyr Dewi Ddyfrwr. Oes feddw, anllad, oedd oes Dewi Sant, a theimlai'r Sant reidrwydd i ddal yr awenau yn dyn arno ei hun ac ar ei ddis- gyblion. SUT Y DAETH YN SANT Y GENEDL. Dewi yw unig Sant y genedl. Seintiau lleol yw'r Seintiau ereill sydd gennym un ac oil, a Sant Ileol oedd Dewi ei hun hefyd tra fu byw, ac am chwe chan mlynedd wedi iddo farw. Sut y daeth, ynte, yn Sant pob- logaidd Cymru, ac yn un i Dde a Gogledd dyngu wrtho ? Yn y ddeuddegfed ganrif yr oedd esgob yn Nhyddewi o'r enw Bernard-Norman o genedl-yr oedd Caergaint erbyn hyn wedi trawsfeddianu Eglwys Cymru. Gwr hirben ac ynddo lawer o'r gwladweinydd oedd Bernard, a deallodd yn fuan wedi ymsefydlu yn Nhyddewi mai prif angen Cymru oedd undeb, a phenderfynodd ei gwneuthyr yn Gymru unol. Yr offeryn ddefnyddiodd oedd yr Eglwys. Gwelodd nad oedd gan Gymru yr un Sant cenedlaethol, ai bod yn rhaid iddi gael un. Ymohebodd a'r Pab ynghylch y mater, ac awgrymodd mai'r goreu ellid ddyrchafu yn Sant cyfFredinol drwy ei ganoneiddio oedd Dewi. Yr oedd Rhydd- march-esgob a deyrnasai ychydig cyn hynny yn Nhyddewi—wedi chwilio pobpeth am Ddewi. Donfonwyd pob gwybodaeth i'r Pab ynghylch y Sant, a'r diwedd fu i Goleg y Cardinaliaid gael eu llwyr foddloni yn ei hawliau i gael ei ganoneiddio. A hynny gafodd drwy law Calixtus yr Ail. Yn y modd hwn daeth yn Sant i'r holl Eglwys yn holl wledydd cred. Darllenid ei fuchedd yn yr holl eglwysydd, a choffheid ef yn ngwas- anaeth y dydd y cyntaf o Fawrth-dydd ei farwolaeth, meddir. Yn lie bod yn Sant i Ddyfed, neu i un esgobaeth yn unig, daeth Dewi yn Sant i holl Gymru, ac ar y pedestal y gosodwyd ef arno gan Bernard a'r Pab y saif byth. Efe yw'r unig Gymro sydd wedi ei ganoneiddio, a chanddo ef yn unig y mae'r hawl i'w gyfrif yn Sant cenedlaethol Cymru.

Advertising