Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Gwvl Dewi.

News
Cite
Share

Gwvl Dewi. Wele ni eto yn dathlu coffa nawdd sant cenedl y Cymry. Mae hyn yn hen arferiad, bellach, ac er yr edrychir arno gan rai fel ffrwyth ofergoeledd y dyddiau gynt, y mae'n gymorth i ereill i adnewyddu eu cyfamod a'u cenedlaetholdeb. Yr ydym ni, sydd ar grwydr o'n gwlad, yn cadw yr arferiad gyda mwy o bybyrwch, feallai, na'r bobl gartref, a dyna'r rheswm paham y codir gwladgarwyr mor selog ymysg Cymry'r ddinas. Nid yw hyn yn beth newydd chwaith. Yn y cof- nodion cyntaf sydd gennym am sefydliadau Cymreig yn Llundain, neu am fasnachwyr Cymreig oeddent yn trigo yma cyn dyddiau'r newyddiadur a'r misolyn, y mae hanes am eu sel dros gadwraeth Gwyl Dewi. Gwisgid y geninen ganddynt ar y laf o Fawrth, a chynhelid gwleddoedd cyn bod son am Gymry Fydd, a chymdeithasau byr-arhosol y dyddiau hyn. Nid peth diweddar yw cariad y Cymro at ei wlad. Myn ddangos ei hun ym mhob oes, ac un o'r ffurfiau mwyaf cydnaws a'i ddysgeidiaeth ac a'i draddodiadau yw gwisgo'r geninen ar Ddydd Gwyl Dewi er mwyn eadw ei Gymreigiaeth, yr bur a gloyw am un dydd o'r flwyddyn yn ei hanes. Boed i ddathliadau'r wyl eleni ychwanegu at nifer y rhai a garant yr Hen Wlad, ac na ddeued anglod iddi byth trwy frad yr un o wehelyth y creadur hwnnw a ddisgrifiwyd mor fyw yn un o gerddi yr hen Glan y Gors. EMYN AR DDYGWYL DEWI SANT. 0 Arglwydd lor ein tadau, Mewn gorfoleddus hwyl, Neshawn a, pher ganiadau, Fel tyrfa'n cadw gwyl. Ein llinyn a ddisgynodd Mewn etifeddiaeth fras, A'r nefoedd a'n dilynodd, Drwy oesedd Cred, a. gras. Os dig oedd gwedd y gelyn 0 weld ein newydd fri. Os mynnai fathru r delyn A ganai salm i Ti. Cyfodaist nawdd i'th lannau Ym mhroffwyd min y mor A dal mae'r tynion dannau I ganu mawl yr lor. 0 Arglwydd lor ein tadau, Na wrthod fawl dy blant Am linach o genhadau Ddilynodd Ddewi Sant. A'r newydd ddydd ddanghoso Ein Duw fy Nghymru'n ben A'th harddwch a arhoso, lor da, ar Walia Wen. Gwilí. Y Geninen. Ond ai'r Geninen yw arwyddlun Cymru ? Y mae hon wedi ei chysylltu a Chymru er oesau lawer, a gwisgir hi mewn coffa am wroldeb y dyddiau gynt gennym ar Ddydd Gwyl Dewi. Mae traddodiadau lawer i'w cael yn egluro paham y gwisgir y Geninen, ond y mae'r pwnc heb erioed ei benderfynu i sicrwydd. Mor ansier, yn wir, yw seiliau ein cred dros roddi'r fath safle i'r Geninen fel y mae ysgolorion diweddar yn ameu a'i hi ddylid ei gwisgo. Mewn papur a ddarllenwyd ger bron y Cymmrodorion yr wythnos ddi- weddaf dywedai Mr. Ivor John mai Oenin oedd yr hen enw Cymraeg am leek, garlickt daffodil, hyacinth, &c., ac mai gwall y Saia anysgedig y canol oesoedd oedd dyweyd mai'r leek oedd arwyddflodyn y Cymro yn hytrach na'r daffodil, sef Cenin pedr. Beth wneir o resymeg Mr. John nis gwyddom, ond mae'n eglur fod y geninen wedi gwreiddio mor ddwfn yn hanes y Genedl fel nas gellir ei throi o'r neilldu gan un ddarlith, hyd yn oed pan fo honno yn cael ei thraddodi tan nawdd y Cymmrodorion. Y Commissiwn. Nid yw'r datganiad a wnaeth yr Arglwydd Farnwr Williams wedi lieihau na symud dim o'r anhawsterau ynglyn a'r Ddirprwy- aeth Eglwysig a'i gwaith. Dywedai'r cadeirydd fod yr holl ddirprwywyr yn un- farn ar y dull o gario y gwaith ymlaen, ond mae'n eglur nad yw'r wlad mor gytun ar y cynlluniau na'r bwriadau. Y ffordd oreu fydd trefnu cymaint o dystiolaeth ag sydd bosibl, a dwyn y cyfan ger bron mor fuanag y bo modd, fel ag i orffen gyda'r gwaith. Bydd yn werth, wedyn, i ni weled a yw Cymru i gael ei hawliau a'i peidio. Yr* unig beth i'w benderfynu yw pa fath Fesur Datgysylltiad fydd dderbyniol gan y genedl, a chredwn mai doeth fyddai i'r aelodau Cym- reig gytuno ar unwaith ar rywamlinelliad o Fesur i'w osod o flaen y Weinyddiaeth fel yr hyn a ofynir genym. Pe gwneid hyn feallai y ciliai liawer o'r anhawsterau a'r ysbryd aniddig presennol sy'n bodoli ym, mysg y blaid Gymreig.