Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-. SYNIADE DAFYDD JOS.

NODION 0 SIR ABERTEIFI.

News
Cite
Share

NODION 0 SIR ABERTEIFI. Fel y mae yr wythnosau yn dirwyn i ben, mae brwdfrydedd yr etholiadau agoshaol yn cynyddu, ac mae argoelion am ami i etholiad yn y Sir. Er i'r bardd-offeiriad, loan Tegid, gael ei gladdu yn Sir Benfro, teimlir cryn ddydd- ordeb drwy y Sir yn y mudiad sydd ar droed i godi cofadail iddo yn mynwent Nevern. Os nad ydwyf wedi cael fy nghamarwain, brodor o dref Aberteifi sydd wedi cychwyn y mudiad, a phwy yn well na'r Cynghorwr Ladd Davies, Aberteifi, allasai ei gychwyn oherwydd mae ei erthyglau ar loan Tegid yn dangos yn eglur ei edmygedd o hono. Hyderaf y gwnaiff Cymry Llundain daflu eu iiatling i'r mudiad hwn i ddynodi "GORWEDDFAN OERLLYD IOAN TEGID." Cyn pen ychydig wythnosau eto ceir gweld nifer o "motor cars yn rhedeg yn gyson rhwng y gwahanol drefydd yn y Sir. Mae cwmni y G.W.R. eisoes yn rhedeg cer- bydau bob dydd rhwng Llanbedr ac Aber- ayron, a rhwng Aberayron ac Aberystwyth. Mae yr un cwmni hefyd wedi hysbysu y byddant yn rhedeg cerbyd yn gyson rhwng Llanddyssil a Ceinewydd. Yn ein nodion diweddaf dywedwyd mai mab-ynghyfraith y Parch. T. J. Morris, Aberteifi, oedd y diweddar Mr. James Herring. Dylasid dweyd mai tad-ynghyf- raith oedd. Dywedir fod y Parch. J. Howells, Llwyn- celyn, wedi derbyn galwad i'r eglwys Ani- bynnol Ynysmeudw. Mae Mr. Howells wedi bod yn y Sir am flynyddau bellach, ac mae wedi gweinidogaethu gyda llwyddiant yn Llwyncelyn. Yn llys y man ddyledion yn Aberteifi, rhoddodd y Barnwr Bishop ei farn yn yr achos rhwng y Parch. Dalis Davies, Beulah, a Cadben David Morris, o'r un ardal. Gof- ynai Mr. Davies am iawn gan y diffynydd am drespassu dros ei dir. Rhoddwyd achos Mr. Davies o flaen y Barnwr gan Mr. Llewelyn Williams, A.S., ac ymddangosodd Mr. Villiers Meagre dros Mr. Morris. Dyfarnodd y Barnwr fod rhaid i Mr. Morris dalu yr hyn a ofynai Mr. Davies, ac ym mhellach i beidio a throseddu ar ol hyn. Derbyniwyd y penderfyniad gyda chymera- dwyaeth cyffredinol. Gwnes gyfeiriad byr yn fy llith diweddaf at y Champion Solo and Recitation Com- petitions sydd i gymeryd lie dydd Gwener y Groglith yn Capel Mair, Aberteifi. Go- beithio y gwnaiff eisteddfodwyr Llundain gymeryd mantais o hyn mewn pryd. Mae pum' gini am yr unawd oreu gan fab neu ferch o gan o ddewisiad eu hunain yn sicr o fod o werth cystadlu, a chan fod trens yn rhad, a'r masnachdai yn gauedig, hyderaf caf weld nifer o ymgeiswyr. Gellir cael rhaglen o'r cyfan gan Mr. Albert Rees, High Street, y ltrysorydd neu Mri. J. Jones, 24, St. Mary Street, a Harry Rees, 3, Brecon Terrace, Cardigan. CARDI."

Advertising

Advertising