Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-. SYNIADE DAFYDD JOS.

News
Cite
Share

SYNIADE DAFYDD JOS. Mistar Glygydd,-Wel dyma'r Senadd yn ista eto, ac mi gawn lot o siarad-a tipyn bach o waith yn sgil y donia. Dydw i ddim yn dallt y bobol ma wir. Son am neud hyn a'r Hall ac yn y diwedd yn gweld yr amsar wedi rhedag heb iddyn nhw neud dim. Ond ma'r dechra yn addo'n dda, ac mi leiciwn i weld addewidion araeth y Brenin yn dwad yn ffaith. Fel yr ydw i wedi deud o'r blaen mi faswn i yn rhoi fot i'r merched, ond wir ddyn i ma'r twrw a'r rows ma'r suffrajets 'ma yn i neud bron a gneyd i mi fynd yn i herbyn nhw. Ma Sioned yn deud yn ben- dant nad oes dim rheswm mewn bod merched yn treio ymladd hefo'r ceffyla. Mi rodd yn dda iawn gin i glwad am y Bwrdd Addysg newydd. Gobeithio gneith o les i ni. Mi naiff Alfred Davies ysgrifenydd dan gamp, a fydd ar y plant ddim ofn Mr. 0. M. Edwards fel spector. Ond wyddoch chi ma'r ysgolion canol raddol 'ma yn gneyd tipyn bach o ddrwg- welsoch chi mor anodd ydi cael morwyn- ma nhw i gyd am fynd a'u pena yn y gwynt i sgwenu hefor teipwriter a phetha tebyg, ac mae meddwl am gael lie da i weini wedi niynd o'r ffasiwn. Wel mi wn i hyn—ma'r bobl buo Sioned yn gweini hefo nhw ers talwm ydi'i ffrindia gora hi rwan, ac ma gynyn nhw barch mawr iddi—a'r plant iagodd hi iddyn nhw yn fwy hoff 0 frechdan driog gyni hi na dim arall gan nhw gartre. Ma hi'n talu i fynd i weini, ac mi wel yung ledies y counti scwl hyny cyn hir. Mi rydwi'n falch o weld plant yn cael addysg a mynd yn scleigion ond nid mynd yn bobl fawr a balch cyn deall be ydi' be. Ma'n rhaid i mi addef nad ydwi'n medru gwneyd fawr ddim o'r comisiwn ma hefo'r Eglwys. I be ma'r holl holi dda. Y petha mwyaf dyddorol ydi'r ffordd bydd yr Athraw 0 Henry J os a'r Barnwr yn rhyw hanar ffraeo hefo'i gilydd—hynny ydi mewn ffordd respectabl felly. DAFYDD Jôs.

NODION 0 SIR ABERTEIFI.

Advertising

Advertising