Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNGOR SIR LLUNDAIN.

DR. GRIFFITH JOHN.

News
Cite
Share

DR. GRIFFITH JOHN. Y Parch. D. Jones, Scranton, yn rhoddi hanes ei ymweliad a'r cenhadwr enwog. Ganol mis Rhagfyr cefais un o freintiau gwerthfawrocaf fy oes hyd yn hyn-sef cael yr anrhydedd o weled, ysgwyd Haw ac ym- ddyddan am yn agos i ddwy awr a'r cenadwr byd adnabyddus uchod. Y mae bellach yn henafgwr, oblegid yr oedd yn 75 oed, ym mhen tridiau wedi i mi ymweled ag ef. Nid yn unig y mae yn hen mewn dyddiau, ond y mae yn un o'r cenhadon hynaf ar y maes mewn unrhyw wlad, ar gyfrif rhif y blyn- yddau y mae wedi bod yn llafurio yn China. Diau ei fod erbyn hyn, fel Saul gynt ym mysg y proffwydi, yn uwch nag un cenhadwr arall ym mharch, barn, a theimlad y byd. Gwelais y dydd o'r blaen, mewn cyhoeddiad Seisnig, ysgrifenwr o Sais yn cyfeirio ato fel y cenhadwr mwyaf nodedig yn hanes y byd nid rhyfedd, gan hynny, fod Cymro yn teimlo yn llawen i'w gyfarch fel y gwron mwyaf anrhydeddus ar y maes cenhadol. Dyma y modd y daethum o hyd i'r fraint o ymweled ag ef. Pan yn ninas New York yn Mehefin diweddaf clywais yr hybarch dad Isaac Thomas yn dweyd yn y gwasanaeth yn yr eglwys Gynulleidfaol Gymreig ar heol yr 11 eg, ei fod wedi bod yn ei weled, ond ei fod mewn nychdod a gwendid mawr. Pan yn myned i wasanaethu yr eglwys uchod, yr ail Sul o Ragfyr penderfynais, os oedd y cenadwr heb fod yn mhell iawn o'r ddinas, y ceisiwn fyned i'w weled, pe dim ond cael anrhydedd i ysgwyd llaw ag ef. Felly y bu, boreu Rhagfyr 11, cefais y mab pedwar ugain mlwydd uchod i ddyfod gyda mi yn gydymaith. Ofnem ein dau, gan ei fod mor wael yn yr haf, na chawsem ond ychydig o gyfleustra i siarad ag ef. Beth bynag fuasai ein hynt a'n llwyddiant, aethom gyda'r cerbyd trydanol i Yonkers, N.Y., lie y cartrefa dau o feibion y cenhadwr, un yn feddyg a'r Hall yn brif-beirnianydd rhyw gwmni a'i swyddfa yn y ddinas. Mae y ddau mewn sefyllfa ddymunol a chartrefi eang, clyd a llawn ganddynt. Buom yn y ddau gartref yn chwilio am y gwr yr oedd ein bryd ar ei weled. Gyda'r meddyg y cartrefai yn yr haf, ond erbyn hyn y mae gyda'r mab arall yn 11 Delavan terrace. Siomwyd ni ar yr ochr oreu. Daeth geneth ieuanc i agor y drws i ni; ac yn union deg, cyn ein bod wedi cael amser i eistedd, y mae y cenhadwr yn dyfod i'n cyfarfod, ac yn ein cyfarch yn gynnes, a chawsom ymgom ddydd- orol ac adeiladol am tua dwy awr. Amlwg ydyw fod awelon glannau yr Hudson, a mwyn- had o dawelwch, gofal a charedigrwydd cartrefi y meibion, wedi gwneuthur llawer tuag at adfer ei iechyd a sirioli ei ysbryd, ac ymddengs yn obeithiol i adenill nerth gwr o'i oed ac o'i wasanaeth ef. Yr oedd gennyf gof plentyn am dano yn dyfod i Ebenezer, Heolyfelin, Aberdar. Dyfnhaodd y dyddordeb yn y wlad pan aeth y Parch. Evan Bryant allan o'r ardal honno i lafurio yno. Mae y Parchedigion William Owen a William Hopkyn Rees a'u llafur wedi peri i mi ddyddordeb ychwanegol yn y wlad eang a lliosog ei thrigolion, a chynyrchu awydd angerddol ynwyf am weled y gwr sydd wedi rhoddi 51 o flyn- yddau i lafurio yn eu plith. Ganwyd a magwyd Griffith John yn Abertawe. Ebenezer oedd ei gartref cref- yddol ef a'i deulu. Y Parch. E. Jacob oedd y gweinidog yr adeg honno, efe a'i derbyn- iodd yn aelod eglwysig, ac a'i hanogodd i gyflwyno ei ihuli i waith y weinidogaetb. Dechreuodd bregethu yn 14 oed. Pan yn ieuanc iawn derbyniwyd ef i Goleg Aber- honddu. Yn 1853, pan yn 22 oed, cynyg- iodd ei hun i wasanaeth Cymdeithas Genadol Llundain. Yn 1855 aeth allan i China, ae o'r adeg y glaniodd hyd 1861, llafuriodd yn Shanghai; ac o'r flwyddyn honno hyd yn bresennol, y mae wedi bod yn Hankow, ac y mae wedi gwneud gwaith anhygoel bron, yn y ddinas a'r rhanbarth hwn o'r wlad. Mae ei ymroddiad ef i'w waith wedi bod y fath fel nad ydyw wedi gorphwys ond ychydig neu ddim er ys dwy-ar-hugain o flynyddau. Ond mewn canlyniad gor-lafur bu raid iddo roddi i fyny a dychwelyd at ei feibion am seibiant llwyr a hollol. Dywedai gyda gwyleidd-dra wrthym ei fod ynglyn a'i waith fel efengylwr, bugail, a gwaith y coleg a chyfieithu y Beibl, wedi bod yn ceisio gwneud gwaith dau o leiaf, am lawer blwyddyn, ac yn y diwedd, ei fod wedi tori i lawr ac wedi methu cysgu am lawer o fisoedd cyn gadael y maes; ond y mae y fordaith a'r gorphwys wedi dwyn cwsg yn ot iddo ac y mae yn hyderus y ca ddychwelyd i orphen y gwaith y mae wedi gosod ei fryd arno, a marw yn y wlad y mae wedi rhoddi cymaint o'i fywyd iddi. (I'w Barhau.)

Cymanfa Gwyl Dewi.

[No title]