Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
NEW JEWIN WELSH CHAPEL, FANN STREET, E.G. TEA & CONCERT (in aid of a special Church Fund) ON THURSDAY EVENING, MARCH 14tl|, 1907. <528?d Chairman- GWILYM OWEN, Esq. wm Tea on the Tables at 6.30. Concert 8 o'clock prompt, Tickets One Shilling Each- CINIO GENEDLAETHOL CYMDY LLUKDAIH, YN Y BRIF NEUADD,GWESTY CECIL" DYDD GWYL DEWI, fiOS WENER CYNTAF 0 FAWRTH, 1907, '1, "J-r-.J" .r'-j CADEIRYDD ELLIS J. GRIFFITH, YSW., A.S. ..r-r-r-r- Croesaw am 7. Cinio am 8. Datgenir gan Miss GWLADYS ROBERTS-7. a Mr. THOMAS THOMAS. Cyfeilydd Mr. MERLIN MORGAN. Tocvnau i'w cael gan Mr. John Hinds, Mr. John Jenkins, Mr. G. W. Jones, Mr. J. T. Lewis, Mr. T. Woodward Owen, Mr. Arthur Rhys Roberts, Dr. B>. L. Thomas, Mr. Phillip Williams, neu gan yr Ysgrifennydd—ARTHUR GRIFFITH, 112, Gower Street. "AN ANALYSIS OF WELSH HISTORY" By HOWELL T. EVANS, B.A. Price 2/6. THE WELSH EDUCATIONAL PUBLISHING CO-, MERTHYR TYDFIL.
Am Gymry Llundain.
trefn a hapusrwydd ynghanol yr holl ddad- leu. Gwasanaethodd y Mri. A. E. Rowlands a R. Pierce Jones fel clercod y Ty am y noson. WALHAM GREEN.—Nos Fercher 6ed cyfisol, yng nghyfarfod y Gymdeithas Ddiwylliadol, darllenwyd papur gwir alluog a dyddorol gan Mr. Huw R. Gruffydd ar Vivisection." Wedi i Mr. Gruffydd ddarllen ei bapur caed sylwadau ar y diwedd gan y Mri. Williams ac E. Parry Evans, B.Sc., ynghyd a'r lly- wydd-Mr. J. Thomas, Warwick Road. Nid oeddym yn synu gweled y cynulliad yn llai nag arferol y tro hwn, gan fod yna ddau gyfarfod arall yn milwrio yn ei erbyn i raddau helaeth, sef cyfarfod Cymdeithas Ddirwestol y Merched y nos Lun blaenorol, a Dadl Seneddol, o dan nawdd yr Undeb yn Charing Cross Road y nos Wener dilynol. BORO'Nos lau, Cliwefror 7fed, cyn- haliodd yr Eglwys uchod ei gwyl de a'i chyngherdd blynyddol. Y cadeirydd ethol- edig eleni ydoedd Mr. David Thomas, Liverpool Road, N. Brodor o Daliesin yw Mr. Thomas, a chura ei galon yn gynes at ei genedl a'i wlad. Ceir ef bob amser yn barod i gynorthwyo pob achos teilwng, a pherchir ef yn fawr gan ei gydgenedl. Agorwyd addoldy y Boro' yn Guildford Street, lonawr Sydd, 1807. Pregethwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. D. Davies, Abertawy, a D. Jones, Crugybar. 'Roedd y cyngherdd eleni felly yn gyngherdd bencanmlwyddol i'r eglwys yn y lie. Ddaeth torf liosog ynghyd, a chafivyd eyfarfod hyfryd. Gwasanaethwyd wrth y byrddau te gan Mrs. Thomas Jones, Chatsworth Road, Homerton Mrs. M. John, Great Dover Street; Mrs. J. B. Evans, High- gate Miss Mary Williams, Ommany Road Miss Kate Jenkins, Chryssell Road Mrs. Morgan, Mostyn Road Mrs. J. Jones, Union Road; Mrs. T. Evans, Exmouth Street a Mrs. H. D. Thomas, Roman Road. Yn y cyngherdd datganwyd gan y Misses Agnes Parry, Louie James, Marguerite Evans, Maggie Williams, Mri. Thomas Thomas a Dan Price. Cafwyd ganddynt nifer o gan- euon newyddion yn gymhlith a'r hen yn dra effeithiol a swynol, yr hyn a wnaeth y cyng- herdd yn un o'r goreuon a gafwyd yn y Boro' erioed. Nid oeddem wedi clywed Miss Louie James a Miss Maggie Williams o'r blaen, ond rhaid dweyd ddarfod iddynt fyned drwy eu gwaith yn rhagorol. Meddant ar leisiau da, canant yn loyw swynol a deallus. Os parhant eu hefrydiau megis yn awr, gellir disgwyl llawer oddiwrth y ddwy. Am y pedwar ereill y maent yn dra adna- byddus a chymeradwy, ac esgynant yn iiarhaus yn eu gwerth a'u dylanwad. Ni chlywsom hwy erioed yn canu yn well na'r tro hwn. Y mae Mr. Dan Price yn gerddor perffaith. Cyfeiliwyd yn rhagorol iddynt gan Miss Jenny Jones, A.R.C.SVT. -Marw Gojfa.—Dydd lau, Cliwefror 7fed, bu farw Mrs. Edwards, 23 Windmill Street, Lam- beth, yn 50 mlwydd oed. Merch ydoedd i Evan ac Ann Jones, Tanybryn, Machynlleth. Daeth i Lundain yn 1872 unodd mewn priodas a Mr. Edwards, 23, Windmill Street, lie y cawsant fasnach eang ym mlaen hyd yn awr. Nid oedd iechyd Mrs. Edwards wedi bod yn gryf ers amser; dioddefai oddiwrth ddolur y galon. Bu farw yn dra sydyn gan adael ei phriod gyda deg o blant i alaru ar ei hoi. Dydd lau diweddaf claddwyd hi ym meddrod y teulu yn Tooting, yng ngwydd torf o'i chydnabod. Gwein- yddwyd gan y Parch. D. C. Jones. Cydym- deimlir a'r galarwyr yn nydd eu trallod. Merch iddi hi oedd y gantores swynol, Miss Harriet Edwards. SHIRLAND ROAD. Yr hael a ddychymyg haelioni." Cafwyd engraifft nodedig o hyn vn y lie hwn nos Tau, Ionawr y Slain, gan Mr. a Mrs. Price, Cambridge Gardens, y rhai sydd o hyd yn gwneud rhyw weithred hael. Y tro hwn aethant y tu hwnt i'r cwbl trwy roddi swper i'r oil o bobl ieuainc yr eglwys, ar raddfa na chaed ei bath mewn cysylltiad a chapel o'r blaen. Er fod Mr. Price yn ddyn prysur iawn, eto mae yn llwyddo i roddi amser at lawer o achosion crefyddol a dyngarol. Tua dechreu y flwyddyn bu yn dioddef gan afiechyd trwm, a bu yn gaeth yn ei ystafell am dros bythef- nos, ond yn lie cwyno a beio iIawd, bu yn gyfle iddo ddychymygu haelioni, a ffrwyth y bythefnos honno oedd y swper a gaed. Yr oedd y neuadd wedi ei threfnu a'i haddurno yn addas i'r amgylchiad, y byrddau yn llawn a'r muriau wedi ei gorchuddio ag arwyddeiriau cyfarchiadol, a rhaid eu bod wedi costio llafur a meddylgarwch nid bychan i'r ddeuddyn caredig hwn, ond yr oedd yn amlwg fod y cyfan yn llafur cariad. Eisteddodd dros gant a hanner o bobl ieuainc, heblaw y blaenoriaid a'i gwragedd, wrth y byrddau, y rhai oeddent wedi eu hulio a'r cigoedd goreu gyda melusion a ffrwythau o bob math i ddilyn. Yr oedd yno hefyd liaws o aelodau ereill yn gwas- anaethu ar y gwahoddedigion. Wedi'r wiedd caed caneuon gan Mr. Ivor Foster, Mr. Lloyd Jones, Miss Price, Miss Davies, Miss James, a Miss Williams, a chwareuwyd ar y crwth gan Mr. Tom Jones. Cafwyd hefyd areithiau doniol ac adeiliadol gan Mr. Price, Mr. Anthony, a Mr. H. Hughes. Cynygiwyd ac eiliwyd diolchgarwch i Mr. a Mrs. Price gan Meistri W. Davies a E. J. Davies. Cymerwyd darlun o'r ystafell cyn, ac ar ol i'r gwahoddedigion eistedd wrth y byrddau. Yr oedd pob dyn a dynes ar lyfr yr Eglwys wedi cael gwahoddiad personol trwy y post, a cymerwyd pob gofal gyda'r cyfeiriadau, ond os darfu i'r gwahoddiad fethu cyrraedd rhyw rai, am nad oedd cyfnewidiad eu cyf- eiriad wedi hysbysu y bn hynny. Amcan y swper oedd cael gafael ar bawb er cydna- byddu a hwy yn well nag y gellir mewn cyfarfodydd cyffredin. Yn sicr mae Mr. a Mrs. Price wedi deall mae y Theology oreu i ddynion ieuainc Llundain yw yr un cymdeithasol a chyfeillgar. JEWIN NEWYDD.—Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd y Gym- dithas Ddiwylliadol, wedi ei drefnu gan Miss J. Lucretia Jones a Miss Maggie A. Jones. Yn ystod y tymor yr ydym wedi cael nifer o gyfarfodydd llewyrchus, ac nid oedd hwn yn ol i'r un o honynt. Yr oedd y trefniadau ynglyn a'r cyngherdd, yn ogystal a'r danteithion, yn adlewyrchu cryn lawer o glod i ddeheurwydd y ddwy chwaer ieuanc, a sicr yw fod pawb oedd yn bresennol wedi mwynhau eu hunain. Cadeiriwyd gan un o wyr ieuainc yr Eglwys ym mherson Mr. Richard Owen, a than ei arweiniad ef cyn- yrchwyd brwdfrydedd a dyddordeb yn yr oil o'r gweithrediadau. Gwasanaethwyd gan y talentau canlynol Miss Sibley, Miss Lalla Thomas, Miss Annie Thomas, Mr. J. Phillips, Mr. J. Pugh, a Mr. Stanley Davies, ynghyd a pharti o King's Cross. EALTNGY Sabboth nesaf, 17eg cyfisol, bydd cynrychiolwyr o'r Oyfarfod Misol yn talu ymweliad ag Ealing, gyda'r amcan o sefydlu Eglwys yn y rhanbarth hon o'r ddinas. Er fod achosion crefydyol yn cael eu cynnal yma yn wythnosol er's amser, eto yr oedd y cyfeillion yn cael eu hamddi- fadu o freintiau ag ordinhadau Eglwysig, a theimlid y pwysigrwydd o hynny. Felly anfonwyd cais at y Cyfarfod Misol i gy- meryd yr achos mewn llaw, a chynnyrch hynny ydyw ymweliad y ddau gynrychiolwr, sef y Parch. F. Knoyle, B.A., a Mr. T. J. Anthony. DEWI SANT, PADDINCTON-Nos Fawrth, Chwefror 5ed, yn ystafell yr Eglwys uchod, gerbron aelodau y Gymdeithas Lenyddol,. darllenwyd. papur galluog gan y Parch, Gwilym H. Havard, B.D., gweinidog Wilton Square, ar Awstin o Hippo." Yn ddiam- heu mae Mr. Havard yn ddarllenwr mawr, ac yn feddyliwr dwfn. Yr oedd olion hynny yn eglur weledig ar ffrwyth ei fyfyrdod, Esgob oedd Awstin, o Hippo, yn Africa, yn y 4dd ganrif, ac ystyrir ef, y pwysicaf ym mhlith y Tadau Apostolig, 11 eu y Latin Fathers," fel eu gelwid. Dychwelwyd ei i'r ffydd Gristionogol drwy weddiau taerion ei fam, Monica. Pregethodd lawer ar ol ei droedigaeth, ac y mae llawer o'i weithiau ar gael byth, ac yn destynau efrydiaeth yn yr prif ysgolion a'r colegau, ond prif ddiben ei fodolaeth, er hynny, fel y dywedai Mr.. Havard, oedd gwrthwynebu heresiau a chyf- eiliornadauei ddydd. Siaradwyd ym mhellach ar y pwnc gan y Parch. W. Richards, caplan, a chafwyd un o'r nosweithiau mwyaf adeil- adol ydym wedi ei gael yn ystod y tymor.