Hide Articles List

2 articles on this Page

Manion ym Myd Lien.

News
Cite
Share

Manion ym Myd Lien. MWYNDER HAF YN Y GAUAF. Ar ddiwrnod oer yn y gauaf, pan y mae eira ar lawr ac eira yn y cymylau llwydwyn uwch ben, pwy all feddwl am fyned trwy'r -coed dan segura, neu chwilio ochrau'r ffyrdd wyneb-heulog am syfi? Ac eto, dyna geisir gennym wneud gan ddau lyfr sydd o'n blaen. Ac nid ofer y cais chwaith. Os na ,chawn fyned ar ddeudroed drwy'r wig, gan yr oerfel, hyfryd yw myned yno mewn dych- ymyg os na chawn flas syfi ar dafod, da eu cael ar gan. Tro trwy'r Wig yw enw'r llyfr cyntaf oriau gydag adar, coed, a blodau," gan Richard Morgan (Caernarfon: swyddfa Cymry). Llyfr bach del, ar ddull Cyfres y y Fil," gan Mr. Owen M. Edwards, ydyw. Nid oes eisieu dweyd wrth neb o bobl pen- Sir Aberteifi pwy yw'r awdwr, nag wrth lawer ereill, gobeithio. Ond boed hysbys i'r rhai sydd wedi esgeuluso gwybod anai prifathraw ysgol yn Llanarmon yn Ial ydyw, un yn deall ei grefft ar lyfr gystal ag mewn ysgol. Y mae'r ysgrifau yn llawn hyd y fyl o wybodaeth, a honno mewn iaith gain, hawdd i bawb ei deall. Y mae llyfr iel hwn yn peri i ni obeithio am fwy o eang- rwydd i lenyddiaeth Cymru. Pwy a wyr na ddysg gwyddoniaeth siarad Cymraeg croyw ? Beth bynnag, llyfr Mr. Morgan sydd yn awr gennym yn dwyn gwanwyn a chathl foddawg coed," ys dywed hen fardd, i ganol .eira ac oerfel. Dyma gyfle am swllt i alltud- .ion y trefydd gael dychwelyd i fin nentydd, i lwybrau deiliog, i lechweddau disglair. Ac wedi'r tro trwy'r wig, bydd ganddynt fwy o wybodaeth a glanach calon, gwell Cymraeg -a siriolach byd. Mae'r darluniau'n dda, yr .argraffwaith yn foddhaus ond ei gynhwys- iad yw ei ragoriaeth. Bydd darllen hwn yn lwy o werth i bobl ieuaingc o Gymru yn Llundain, na llond gauaf o ofer-ddifyrion. Ac wedi bod am dro dan y coed, dyma ■SyjVr Maes gan y Parch. W. Bowen, Pen y Groes (Ammanfod: Gwilym Vaughan). Y mae enw'r argraffydd yn gymharol newydd "ond gan ei fod yn gwneud ei waith yn gymeradwy, mae'n debyg o gael ei nabod gan fwy. Am y bardd, y mae enw ei lyfr yn nodweddiadol o'i awen. Nid oes yma un ymgais at fod yn fawreddog na phell: cana yn yr ymyl, gerllaw i gartref pob meddwl; .cana yn felus, yn syml, yn loyw i'r ymad- rodd. Nid oes yma feithder na thrymder i flino neb, na rhodres i dramgwyddo neb. Y mae'r rhan fwyaf o'r testynau yn grefyddol; -a, cheir yma bryddest ar y Ficer Pritchard," yn llawn o naws diwygiad Cymreig. Ca llawer calon fwynhad a budd o'i dudalenau. Amryw. Mae llawer ymgais wedi ei gwneud at sefydlu cylchgrawn cenedlaethol Saesneg i Gymru, ond hyd yn awr methiantau truenus ydynt wedi bod. Bu'r Red Dragon" rhyw chwarter canrif yn ol yn amcanu at ddod yn ddylanwad, ond daeth nychdod cyn hir i'w gyfansoddiad. Wedi hyn gwnaeth "Wales" ymddangosiad byr a "Young Wales" ymdrech drafferthus i gadw anadl eisoes, ac yn awr wele The Nationalist ar fin gwneud ei ymddangosiad. Cyhoeddir ef yng Nghaerdydd, a dygir ef allan yn fisol am ,dair ceiniog. Nid yw cylchgronau'r mis wedi hollol anwybyddu'r Ddiwinyddiaeth newydd, ond ni cheir un datganiad mor bendant gan neb o'r ysgrifenwyr fel ag a geir yn Yr Ymof- ynydd am Chwefror. Dywed am ddysgeid- iaeth Campbell ei bod yn gefnogaeth i'r rhai sydd wedi dioddef pwys gwawd ac -erlidiau'r blynyddoedd i fyned ym mlaen gyda rhagor o wroldeb a llawenydd." Maen amlwg fod yr Undodiaid yn dra chyffredinol yn cefnogi syniadau Mr. Campbell.

Am Gymry Llundain.