Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
--SYNIADE DAFYDD JOS.
SYNIADE DAFYDD JOS. Mistar Glygudd,—Fuo 'rioed ffasiwn row ges i gin Sioned ar ol darllan fy syniade yn y KELT iddi hi. Deud fy hanes mewn papur newydd wrth bawb," medda hi. Fel 'na bydd hi, Syr, yn codi twrw mawr am a-yw funud ac wedyn yn cytuno. Mi welis fod y KELT hwnw wedi'i gadw yn y biwro yn ofalus hefo petha gora'r ty fydd yn dwad allan ddim ond ar speshal ocasions. Felly ma hi'n olright i mi sgwenu tipyn eto. Mi fyddai'n lecio lecsiwn bob amsar- digon o hwre a ffwrdd a hi a phawb yn fotio yn erbyn y Toris ond nhw i hunan. Ac mi rydwi am ofyn i chi neyd ych goia i bob prograsif fynd i fewn i'r Cwnti Cwnsil yn Llundan a phob rhyddfrydwr yng Nghymru nes na bo'na ddim hanas am na modarets na Thoris byth mwy. Ma'n werth i bawb neyd ymdrach fawr iawn i yru'r prygresifs yn i iiola—y nhw sy wedi gneyd Llundan ne wedi helpu John Burns i neyd o. Dyn iawn ydi John Burns codi bob bora cyn ehwecli pie bynag bydd o. Ma Sioned yn siwr o fod yn iawn does dim posib dal dwrnod yn erbyn i gynffon. Wel, helynt garw ydi helynt y llefrith ynte. Ma hi ar ben ar bobol y fusnes rwan. Tydio'n rhyfedd fel ma edicasion yn gneyd "cimint o wahaniath mewn petha. Pan o'n i'n hogyn llefrith a llaeth enwyn fydda nain yn roi i mi bob amsar. A dyma'r bobl yn deud rwan am beidio byta dim byta dim byd fel am fod dicad yno fo. Mi rydwi wedi deud wrth Sioned na chymai ddim uwd i frecwast, na bara llefrith i swpar. I be rwt ti'n gwrando ar bob stori dwad, medda hi. Mi wyddun i as talwm iawn na dodd dim ond isio i ferwi o ac mi fydd o'n olright, a mi fyddai'n i ferwi o i ti bob amsar. Ond nid llefrith wyt ti'n gael gin bawb yn Llundan cofia-ma na dipin o ddwr a chalch a phetha erill yno fo er bod y ■Ownti Cwnsil yn gneyd i ora i gadw fo'n Ian. Ond wath gen i be am riports y doctoried ma, llefrith ydi llefrith bob amsar, a ma fo'n ddigon da i fod yn fwyd a diod i fi. Ac mi rydach' chithe yn Llundan yn edrych yn gampus arno fo hefyd. Ac ma Sion Rhys yn deyd ma i Llyn Ffylied y dylwn i fynd Pan ddarllis i lythyr o i Sioned dyna hi'n deud ar unwath er i bod hi yn suffrajet na chyma hi byth mo'i hen fot o, ac os byth y cawsa hi fot y basa hi fel pob dynas gall yn fotio fel basa'r gwr yn deyd, achos be wn i bedi gwaniath rhwng toris a rhyddfrydwrs, medda hi, a mi rydwi'n siwr o wrando arna ti hefo hyny. Y peth ydwi'n synu ato fo ydi fod o'n meddwl cimint o hono foi hun. A ma fo yn un gwirion hefyd. Sut gebyst rydach chi'n gadal iddo fo sgwenu ffasiwn druth i'ch papur chi dwn i ddim-a does gyno fo ddim mymryn o barch i chi. Ac ma'n gwilidd iddo fo alw dyn sy gimint yn well na fo i hun yn fwbach. Tasa fo'n dwad i afal Sioned mi fasa hi'n rhoi iddo fo fwbach ac impedens mewn chwinciad llygad mochyn. Gora pan gynta iddo fo neyd apoloji rhag ofn i ni anfon llythyr twrna iddo fo. Mi rodd yn dda iawn gin i ddarllan ych barn chi am y gymdeithas newydd yna, ac ma'n dda gin i Sion Rhys am gytuno a miar hon. Ma rhaid i bod hi'n gymdeithas feiddgar i dreio rhoi enwa pobol yn perthyn iddi heb iddyn nhw wbod. Pan welis i ffrind y dwrnod o'r blan medda fi wrtho fo —sut ma'r Wels Lig yn dod ymlaen ? Diar mi be ydach chi'n gofyn i mi, medda fo. Ond tydach chi'n vies precedent, medda fina. Chlywis i ddim son, medda fo, a fynodd neb i mi, ac ma nhw'n iwsio fenw i heb ganiatad. Wel, Syr, ma adnod Sysnag yn deud Honesty is the best policy, a gwell i'r gymdeithas yma fydda cofio ma nid wrth godi twrw ma gneyd lies yn y byd, ac ma trwyi bawb wthio hefo'i gilidd ma posib mynd a'r maen i'r wal. Biti garw fod ni'r Cymry mor hoft o ffraeo hefo'n gilidd pan fydd isio gneyd rhywbeth o ddifri. Mi rydwi'n gorfod gadal lot o betha tan tro nesa.—Yr euddoch yn barchus, DAFYDD Jôs. P.S.—Felna ma rhoi ar y diwadd ynte ? Mi anfonis i lythyr i Shon Rhys Cymri" hefor post, a ma fo wedi dwad yn i ol a lot o betha arno fo—Try Barteifi, Try Aberyst- wyth-ac ar hyd y cwbwl "Not known," a medda Sioned: Pam fasa nhw'n treio Sylam Carfyrddin."
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. EISTEDDFOD. Heno cynhelir eisteddfod flynyddol Cymdeithas y Tabernacl yn King's Cross. BRYTHONWYR.—Nos Iau nesaf ceir noson yng ngwlad hud a lledrith gan aelodau y Brythonwyr. Yr areithydd am y noson fydd Mr. Goronwy Owen, B.A. MARWOLAETH.—Bydd yn ddrwg gan gan- noedd o ddarllenwyr y CELT glywed am farwolaeth yr hen chwaer, Mrs. Jones (Taly- bont, Ceredigion), *yr hyn gymerodd le yn mhreswylfod ei mab, 32, Sidney Buildings, Poplar, ar 20fed cyfisol, a hi wedi cyrraedd yr oedran teg o 81. Daeth Mrs. Jones i'r brifddinas tua pedair blynedd yn ol, ac ymaelododd gyda'r Methodistiad Calfinaidd: yn Mile End, ond yn herwydd gwendid a nychdod ni allai fynychu lie o addoliad ond anaml. Hannai Mrs. Jones o rai o arwyr Metdodistiaeth yn sir Aberteifi, ac i'w chyd- nabod, a phawb ddaeth i gyffyrddiad a hi, nid oedd radd o amheuaeth o barth i ddilys- rwydd ei phroffes a'i' chrefydd. Gwnaed cyfeiriadau arbennig at ei hymadawiad y Sul dilynol i'w marw mewn dwy bregeth-y naill gan y Parch. T. Jones, yn Poplar, yn y prydnawn, ac yn yr hwyr yn Mile End gan y Parch. D. Oliver. Aeth nifer fawr iawn o'i chydnabod ac ereill i Euston i hebrwng ei gweddillion, a dymuna Mr. Jones, drwy gyfrwng y CELT ddiolch yn gynes i'r rhai hynny sydd wedi anfon ato ac ereill am eu cydymdeimlad a'u cynorthwy. Claddwyd hi ar y 25ain cyfisol, yn mynwent Nazareth, Talybont, yn nghanol arwyddion cyffredinol o alar. Heddwch i'w llwch. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Ionawr 30ain, cynhaliwyd un arall o gyfarfodydd ein Cymdeithas Ddiwylliadol, pryd y dar- llenwyd papur galluog a dyddorol gan ein cydwladwr, Mr. John Rowland, o'r Bwrdd Masnach. Ei destyn ydoedd Ai mantais i Gymru, ac i'r byd yn gyffredinol yw parhad y Gymraeg fel iaith lafaredig." Llywyddwyd gan yr is-lywydd, Mr. David Jones, a chaed sylwadau pellach ar y diwedd gan y Mri. R. Morgan, J. W. Thomas, R. Gomer Jones, a Ben Evans. Hefyd yn ystod y cyfarfod galwodd Mr. Huw R. Gruffydd sylw aelodau y gymdeithas at ddosbarthiadau yr iaith Gymraeg, a fwriedir gynnal o dan nawdd Cynghor Sirol Llun- dain. Cymdeithas Ddirwestol y M erched.- Nos Lun, 4ydd cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol tra llewyrchus o dan nawdd y gymdeithas uchod. Rhoddwyd te a dan- teithion trwy garedigrwydd Mrs. Timothy Davies, yr hon hefyd a lanwodd y gadair am y noson. Yn ystod y cyfarfod cymerwyd rhan mewn canu, dadleu, ac adrodd gan y cyfeillion canlynol: Mri. Evans, John Humphreys, W. P. Jones, D. William, a Rees, ac hefyd Misses Oliver, Judith Thomas, Myfanwy Lloyd, Kate Jones,iMiss Humphreys, a Miss Williams. Cyfeiliwyd gan Mr. Idris Lewis. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan Mr. Thomas, Warwick Road, a Timothy Davies, Ysw., A.S. Wedi cyflwyno y diolch- iadau arferol terfynwyd trwy gydganu emyn, ac ymadawodd pawb gan obeithio cael cyfarfod cyffelyb eto yn fuan. Diau fod llwyddiant y cyfarfod hwn i'w briodoli i raddau helaeth i ymdrechion gweithgar Miss Jones. DEWI SANT, PADDINGTON. Pi-iotlas. Ar Ionawr 31ain, yn Eglwys St. Pedr, High- gate Hill, unwyd mewn glan briodas, Mr. R. II. Pierce, Holloway, a Miss Ellen Ford- ham, Hampstead. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. Richards, caplan;
Y BYD CREFYDDOL.
Y BYD CREFYDDOL. [GAN Y DIWINYDD.] Awn ymlaen yn awr er rhoddi i'n dar- llenwyr grynodeb o brif ddaliadau y dys- gedigion newydd. Cofied ein darllenwyr mai dim ond crynodeb geir yn yr erthyglau yma-ac os cawn hamdden gwnawn ddod yn ein holau eto ar hyd yr an llwybrau er trin y pynciau gyda rhagor o ofal a rhagor o fanylder. Gyda hyn o eglurhad ynte, awn yn ein blaen ar hyn o bryd. Y Beibl. I lawer o'n darllenwyr uniongred, y cwestiwn gyfyd yn naturiol wrth ddarllen ein herthyglau blaenorol, ydyw hwn-Beth mae'r bobl yma yn wneyd o'r Beibl? Yn ddigwestiwn, y mae y ddysg newydd yma yn milwrio yn erbyn llythyren yr ysgrythyr, felly rhaid mai dysg-gau ydyw. Naturiol ynte ydyw i ni ddechreu drwy egluro cred y mwyafrif o'r Diwinyddion Newydd ynglyn a'r Beibl. Yn ein herthygl ddiweddaf cyfeir- iasom at y dadguddiad newydd y mae Uwch-Feirniadaeth wedi roddi o nodwedd a gwerth y Beibl. Ni fydd yn destyn unrhyw syndod i neb ag sydd yn gyfarwydd a meddwl a dysg yr oes, ynte, i ddeall fod Mr. Campbell a'i gyfeillion yn gwneud i ffwrdd yn ben- dant ag ysbrydoliaeth y Beibl yn ol yr hen ddull o ddeall ysbrydoliaeth. Nid ydyw yr Hen Destament na'r Newydd yn eu barn hwy, damaid yn fwy ysbrydoledig na llyfrau goreu ein byd ni. Y mae yn werthfawr fel casgliad o human documents "-fel Ilyfr yn cynwys ffrwythprofiad yr oesau, ond nid ydyw yn unrhyw ddatguddiad arbenig i'r byd yma, fel yr ystyrid ef unwaith. Bu adeg pan y cyfrifid y Beibl y gwers- lyfr uchaf ar yr oil o'r gwyddorau, ond erbyn heddyw, nid oes ond y lleiafrif yn ein heglwysi yn credu hynny. Nid ydyw y diwinyddion newydd wedi myned ond un cam ymhellach, a chredwn fod hwnnw yn gam naturiol a rhesymol. Y Canlyniad. Hawdd gweled, yn awr, fod y meddwl wedi ei ryddhau oddiwrth lawer o lyifeth- eiriau. Nid ydyw Gardd Eden, ond chwedl brydferth, yn ddim mwy na darn o fardd- oniaeth braf, yn cynwys rhyw gnewyllyn o wirionedd, ag a ddarganfyddodd profiad dynoliaeth mewn bywyd. Nid ydyw'r CWYlnp chwaith yn ddim byd mwy na darlun o ryw brofiad personol-profiad ddaw i ran pob person. Yn ein byd ni, mae'n wir, y mae pob dyn rywbryd neu gilydd ym Mharadwys, ac unufudd-dod i orchymyn y dwyfol o'n mewn ni ein hunain sydd yn cau drysau paradwys o'n hoi o hyd. Dyna enghraifft o ddylanwad uniongyrchol y gred newydd am natur y Beibl. Nid oes unrhyw wirionedd sylfaenol nad ydyw o angen- rheidrwydd yn cael dylanwaedu arni yn herwydd y standpoint newydd yma. (Fw Barhciu.)