Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
LLYTHYR SION RHYS.
LLYTHYR SION RHYS. Mistir Golygidd, Anwl Sir,—Ma yna ryw Ddafi Jos yn pregethi i syniade yn yeh papur chi rwthnos wetha. Wrth gwrs, ddylwn i ddim gwneud sylw o ryw fwbach felni, ond man anodd i ddin ddiodde pob cirill i fod a'i big yndo fe. Dyna pam rw i yn sgrifeni gair i chi rwythnos yma. Yn amser rhyfel y degwm mi ysgrifenodd ffeirad bach y plwy yma lythyr i'r Gwalia, papur y Toris, ag rodd en ymosod arna i yndo fe. Wel, don i ddim yn flaenor yr amser hynny, ag mi sgrifenes i ateb iddo fe. Falle na choilwch chi ddim, ond mi cawd e, wedi i'n llythyr i ddwad mas, wedi boddi yn Llyn Ffwlied yn ymyl y Vicredj. Gobeithio y cymriff Dafi Jos air bach caredig fel yna, rhag ofan y bydda yn iwsio whip ato fe, waith pan gna i hyny mi fydd ar ben arno fe. Ma gair yn ddigon i ddin call. Wi am weid gair o gydymdeimlad wrth Sioned sach hyny. Wi yn credi dyle hi gal Fot, yn lie Dafi'r gwr. Dyna marn i, a dyna neithwn i pe byswn i yn lle'r Preim Minister, mi'rodwn i fot i bob gwraig ag mai'i gwr i dipin bach yn wag yn i ben-ag rw i yn siwr nad all Sioned ddim bod mor ddwl a Dafi i gwr, ne mi fydden wirth bod y ddoi wedi cwrdd, ag mai Cambel a dynion mowr erell yn gweid nag os dim gwirthie i gal nawr. Wel, syndod i'r bid, yr w i yn cytuno a Dafi Jos ar un peth-am y gymdeithas newidd yna sy gyda chi yn Llynden. Wrth gwrs, yr ych chi, Golygidd y CELT, yn perthyn iddi, ond dyma win weyd, ma rhyw sparbils bach eise gogoniant sin perthin iddi hi. Wi ddim yn credu yn yr hogie yma sin gwisgo coleri tair modfedd a rhagor o daldra, ag yn meddwl achub Cymru cyn dysgu Cymrag. Os 6s gida nhw dipyn o olwg ar i gwlad mi ddysgan i hiaith hi, cyn galw i hynen yn arweinwyr iddi hi. Ma rhai dynion yn meddwl gallan nhw wneud Member of Parlament pan byddan nhw wedi ffeile gwneud pregethwir ne gyfreithwir. Fyse lawer rhytach iddi nhw dreio mynd yn ffeiradon, waith mi fydden anodd iddi nhw fod yn ffelier tani. Mi helodd William yn nai, si yn shop Howel, Cardidd, y Western Met i fi didd Llin dwetha, a mi fiodd y Scwl- mistir yma yn i ddarllen e i Mali a fine. Rodd y Mel yn gweyd fod rhyw John Hiw Edwards yn sgryfenidd i'r gymdithas, ag ma fe odd Editor y Welsh Refiw. Pwi iw e gwedwch, a beth si eise arno fe ? Pan bidd e wedi gweyd rhwbeth gwerth sharad am dano fe dros i wlad, mi fidd yn ddigon cloi iddo fe sharad am yn dysgi ni fel Cymry wedyn. Man gas gan yng ened i am yr arweinyddion Seisneg yma. Nhw sy wedi damio Cymru os blynydde. Dyma eich Diwie, o Isrel! Cofiwch nag w i ddirn yn mofyn rhagor o impidens Dafi Jos. Ma fe- eise'n adres i odi e. Wel, rw i yn ddigon. enwog i bawb wbod yn adres i, ond ma hyn yn dangos nag iw Dafi Jos ddim yn gwbod. dim am lenyddiaeth i wlad. Shon Rhys,- Cymri, ddaw a Uythir i fi bob amser. Wel, gwdbei, a chofiwch fi atoch chi, at y Diwinidd, ag at y printer. Gwdbei yto. SHON RHYS.
UYFARFOD MISOL LLUNDAIN.
UYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Jewin. Nos Fercher. Llywyddion, ParclL. Peter Hughes Griffiths a Mr. John Burrell. Ar ol darllen a chadarnhau cofnodion a gweithrediadau y cyfarfod misol blaenorol,. cyflwynodd Mr. Burrell y gadair i'r Parch. P. Hughes Griffiths. Wrth roddi i fyny y gadair sylwodd Mr. Burrell mai da fyddai i swyddogion ein heglwysi ddangos mwy o ddyddordeb yng ngwaith y cyfarfod misol trwy eu presenoldeb yn fwy rheolaidd yn y cyfarfodydd. Pasiwyd pleidlais gynnes o ddiolchgarwch i'r cynlywydd ar gynygiad y Parch. S. E. Prydderch, yn cael ei eilio gan Mr. William Evans, Wilton Square. Pen-- derfynwyd i Bwyllgor y Genhadaeth Dramor drefnu cyfarfod cenhadol ar ymweliad Miss- Williams (Silchar), a Mr. E. H. Williams a Llundain pan ar eu ffordd yn ol i'r maes cenhadol yn India. Hefyd darllenwyd llythyr dyddorol oddiwrth y Parch. Pen- gwern Jones, o Sylhet. Gwnaed coffhad am farwolaeth Mr. David Jones, un o swydd- ogion Eglwys Falmouth Road, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu yr ym- adawedig. Gwnaed cais arbennig am i'r holl gasgliadau gael eu hanfon i'r trysorydd, Mr. 0. Morgan Owen, yn ddioed gan fod yr amser eisoes wedi rhedeg ymhell. Penod- wyd Mr. 0. Lloyd Owen, Willesden Green, i ofalu am yswiriant adeiladau'r Cyfundeb yn Llundain. Derbyniwyd adroddiadau Pwyll- gor Enwi a Phwyllgor yr Ymweliad a'r Eglwysi. Ynglyn ac adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion penderfynwyd rhoddi grants i Eglwysi Lewisham, Wood Green, Walthamstow, ac Ealing. Penodwyd fod y Parch. F. Knoyle a Mr. J. Anthony i fynd i Ealing ar ran y Cyfarfod Misol i'w chorffori yn Eglwys. Penodwyd y Parch. Llewelyn Edwards, Mri. G. W. Jones, Lewisham;. John Thomas, Walham Green, a James Evans, Clapham Junction, i fyned i Willes- den Green ar ran y C.M. i ddewis blaenoriaid nos Sabboth, Chwefror 17eg. Penodwyd Mr. D. R. Hughes i ohebu a'r City Lands Committee parthed dadorchuddio cofgolofn Parch. James Hughes, yn Bunhill Fields. Cynhelir y Cyfarfod Misol nesaf yn Charing, Cross Road, Chwefror 27. Testyn yr ym- drafodaeth yn y Seiat ddilynol, lawn Crist." I gymeryd rhan yn y drafodaeth, Parchn. R. 0. Williams ac S. E. Prytherch, Mri.. D. Edwards, Clapham Junction, a D. R. Hughes. Gohiriwyd ystyriaeth mater y Cartref Cymreig hyd y cyfarfod nesaf. Pasiwyd fod y Pwyllgor Cymanfa'r Pasg i ystyried y cwestiwn o wneyd trefniadau am y dyfodol gyda golwg ar y priodoldeb o symud y Seiat i nos Wener y Groglith, ac ad drefnu'r Gymanfa. Cadarnhawyd gwaith Eglwys Willesden Green yn galw y Parch. J. Thickens ynweinidogyr Eglwys,, a gofynwyd i'r ysgrifenydd anfon at Mr. Thickens i'w hysbysu o hyn.
Advertising
"AN ANALYSIS OF WELSH HISTORY." By HOWELL T. EVANS, B.A. Price 2/6. THE WELSH EDUCATIONAL PUBLISHING CO., MERTHYR TYDFIL.
Am Gymry Llundain.
Davies, Barking. Mr. William Morgan a Mrs. Morgan, Poplar, a fu mor garedig a rhoddi y danteithion y tro yma. DEWI SANT, PADDINGTON.-Nos Fawrth, Ionawr 22ain, yn ystafell yr Eglwys, treu- liwyd noson hynod o ddifyr, gan y merched a'r dynion ieuainc, mewn gwahanol chwareu- on a cherddoriaeth. Yr oedd yr holl drefniadau wedi eu hymddiried i Mr. Tom Jenkins, Haverstock Hill, a phrofodd yntau ei hun yn wir feistr ar y gwaith. Medrodd gadw digon o fynd" yn y cyfarfod o'r dechreu i'r diwedd, a dyna ddirgelwch llwyddiant cyfarfodydd o'r natur yma. Can- wyd amryw weithiau gan hwn a'r llall, ac yn eu plith gellir enwi y cymwynaswyr hyn, sef Miss Maggie Pierce, Miss Nancy Parry, Mr. Dan Jones, Artesian Road, a'i gyfaill (deuawd). Cafwyd danteithion melus er diwallu y dyn oddifewn, a thystiolaeth pawb yn bresennol, ac nid bychan oedd eu nifer, ydoedd eu bod wedi mwynhau noson mor lawen, nad a yn fuan yn anghof. Diolchwyd i'r Master of the Ceremonies gan y Caplan mewn geiriau pwrpasol. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Nancy Pierce. LLADD MR. WHITELEY.—I gannoedd o Gymry ieuainc Llundain 'doedd yr un masnachdy mor adnabyddus a Whiteley, Westbourne Grove. I fechgyn a merched ieuainc o'r wlad, 'roedd y siop yn fath o ddechreu bywyd yn Llundain, a gwyddai Mr. Whiteley yn dda mai ieuainc o'r wlad oedd y gweithwyr caletaf o ddigon. Yn ystod y 30 mlynedd diweddaf mae cannoedd lawer o'n cydgenedl wedi bod yn ei wasan- aeth, ac ar hyn o bryd gwyddom am ddegau wedi ennill safleoedd pwysig a pharch yn y lie. Nid syndod felly i'r cylch Cymreig gymeryd llawer o ddyddordeb yn hanes ei lofruddiaeth, yr hyn a gymerodd le dydd Ii.u yr wythnos ddiweddaf, trwy i ryw lane ieuanc dieithr ei saethu i farwolaeth. Dydd Mercher diweddaf claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yng nghanol arwyddion o alar a pharch cyffredinol. RADNOR STREET.—Nos Lun nesaf troddodir darlith gan Mr. E. Vincent Evans, o flaen Cymdeithas Lenyddol y lie hwn ar Cys- ylltiadau Cymreig awduron Seisnig." Gan fod "Y Finsent yn llenor tra adnabyddus disgwylir traethiad lied ddyddorol ganddo ac er ei fod yn Gymro pybyr ar bob adeg deallwn mai yn Saesneg y bydd ei ddarlith y tro hwn. Hwyrach mai y rheswm am hynny yw, nad oes ond ychydig amser y cychwynwyd dosbarthiadau Cymraeg yng nghapel Radnor Street. CYNGHERDD SEISNIG.-Ynglyn a'r Gym- deithas ddarbodol sydd yn perthyn i Eglwys St. James, Paddington, caed cyngherdd lied lwyddianus nos Lun diweddaf. Gwasan- aethai'r Parch. Marcus Rainsford a'r Mri. H. Lawson ac A. Marshall Jay fel llywydd- ion, a chaed caneuon gan Mr. Merton (tenor), Lloyd Jones, Ap Caer (baritone), W. J. Wliur (bass). Cyfeiliwyd gan Mri. J. W. Dunn a Miss Agnes Lennox, a throdd y cyfan allan yn dra llewyrchus. Yr oedd nifer o Gymry ieuainc y cylch yn gofalu am y trefniadau ynglyn ag ef. MARWOLAETH WILLIAM DAVIES. — Boreu ddydd Mercher diweddaf bu farw'r cerddor Cymreig adnabyddus, William Davies-a adwaenid yn gyffredin William Davies Sant Pauls-ar ol ychydig ddiwrnodau o gystudd. Brodor o ardal Rhosllanerchrugog oedd Mr. Davies, a daeth i gryn fri yn ieuanc fel cantor o'r radd flaenaf. Meddai ar lais tenor hynod o swynol, a disgwylid ar un adeg y gwnai ddringo i binaclau uchaf byd y gan ym mysg cantorion gwlad y Sais. Enilloddamryw safleoedd pwysig trwy ei fedr, a Hanwodd y safle o brif-denorydd yn eglwys Sant Paul am flwyddi lawer. Ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf ymneillduodd o'r safle honno a rlioddodd ei holl amser at ddysgu ereill yn y Guildhall School of Music. Yr oedd yn fedrus iawn fel athraw, ac o bryd i bryd cafodd lu mawr o efrydwyr enwog tan ei ofal. Fel cyfansoddwr, er hynny, y mae wedi enill bri yn bennaf yn y byd Cymreig, ac mae llawer o'i ganeuon fel 0 na byddai'n haf o hyd," a "Nant y Mynydd" yn ganeuon sydd i aros yn ein hiaith. Ymbriododd a'r gantores enwog, Miss Clara Leighton, ac mae hi a'i bach- gennyn deuddeg oed wedi eu gadael i alaru eu colled. Cleddir yr hyn sydd farwol o hono prydnawn heddyw, Sadwrn, am ddau o'r gloch. Bydd yr angladd yn cychwyn o'i breswylfod, 9, Manor Road, Clissold Park, am 1.30 o'r gloch, a chyrhaedda Abney Park Cemetery ymhen tua hanner awr wedyn.