Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

IL Manion ym Myd Lien.

News
Cite
Share

IL Manion ym Myd Lien. Y Geninen. Mae'r Geninen wedi dechreu ei 25 mlwydd gyda rhifyn tra dyddorol; rhifyn sydd .eisoes wedi tynu sylw'r wlad oherwydd ei ysgrifau llym a beiddgar. Mewn cylch- grawn cliwarterol, at wasanaeth y genedl yn gyffredinol, rhaid rhoddi tipyn o ryddid i'r ysgrifenwyr, ac mae Eifionydd wedi llwyddo y tro hwn i gael nifer o feirniaid craff ar wahanol bynciau'r dydd. Egyr gydag ysgrif amserol, a hynod lem, ar Frad Dic- siondafydd—o'r hon y caed darn yn ein rhifyn diweddaf. Ceir can-duchan, eith- afol ei gwawd, ar yr Aelod Cymreig. 'Traetha Pwyll" ar y Beirdd a'r Beirniaid, a gesyd Pedr Hir ysgrif dda ar Gymraeg y Testament Newydd. Mae'r cynwys mor amrywioi fel y gall pawb gael arlwy flasus o fewn cloriau'r rhifyn, a gofaled pob cenedl- .aetholwr am ddod yn dderbynydd cyson o hono os am gydfyw a phob symudiad sydd yn y bywyd Cymreig. Pris swllt y rhifyn, a chyhoeddedig gan Mr. Gwenlyn Evans, -Caernar-fon. 4LGeiriadur Bwygraffyddol. Ysgrifenna dau o ohebwyr atom i'n hys- bysu ein bod wedi gwneud camgymeriad ynglyn a'r cyfansoddiad oedd yn ail oreu yn Eisteddfod Caernarfon am y wobr o hanner can punt. Yr oedd deg o gyfansoddiadau Cymraeg wedi dod i law, a naw yn y Saes- neg. Y goreu, fel y cofir, oedd y casgliad Gymraeg o eiddo Iorwerth Ceitho. Dywed Asaph yn ei gylchlythyr mai ei eiddo ef oedd y goreu o'r gweithiau Saesneg a anfonwyd i'r gystadleuaeth, ac yn ail i eiddo Iorwerth Geitlio. Nid yw hyn yn gywir. Dengys y beir- niadaethau fod un Saesneg arall yn cael ei restru o flaen un Asaph, ac mai y trydydd mewn gwirionedd yw eiddo y gwr o Gaernarfon. Dywed un o'r beirniaid am dano, he follows too slavishly the Dictionary of National Biography," ac os mai'r gwaith Seisnig hwnnw yw ei brif safon yna nis gall fod yn rhyw werthfawr iawn. Dywed un o'n gohebwyr ar sail lied dda mai gwaith y Parch. T. Mardy Rees oedd yr ail oreu, ac mai casgliad Seisnig oedd hwnnw hefyd. Y Geiriadur Buddugol. Mewn ymgom a Mr. E. Vincent Evans dywed y lienor a'r eisteddfodwr hwnnw fod y gwaith buddugol i gael ei gyhoeddi ar fyrder. Mae'r cyfan yn barod i'r wasg, ac yn ol y bwriad presennol cyhoeddir ef gan un o argraffwyr Caernarfon. Mae'r gwaith a. wnaed gan Mr. Edward Jones yn hynod drwyadl, a gobeithir y caiff y gyfrol werth- iant lied gyffredinol. Os yn bosibl daw'r gwaith allan yn un gyfrol hardd oddeutu "coron mewn pris, ac wedi ei argraffu mewn llythyren eglur, teilwng o holl gynyrchion Cymdeithas yr Eisteddfod. Gan fod angen am y fath lawlyfr neu eiriadur, hyderwn y gwna'r Gymdeithas yr oil yn ei gallu er sicrhau cywirdeb a destlusrwydd ynglyn a'r gyfrol. Ysbryd yr Oes." Dyma un o'r misolion mwyaf byw sydd yn dod o'r wasg Gymreig y blynyddau hyn. Mae rhifyn Ionawr ger ein bron, a chynwysa ysgrifau hynod addas ar ddechreu blwyddyn. Hwyrach mai un o'r ysgrifau a dyn fwyaf o sylw yw un Mr. William George, Criccieth, .ar ragolygon gwleidyddol Cymru yn 1907. Gwyddom mai sylwedydd craff yw Mr. George, fel ei frawd sydd yn Bennaeth ar y Bwrdd Masnach, ac mae ei gyngor a'i farn addfed, am i ni beidio codi rhwystrau ar ffordd y Weinyddiaeth bresennol, yn werth cael gwrandawiad. Nid trwy greu ymryson a bygwth a gorfodi, y mae i ni ennill iachaw- dwriaeth i Gymru, a da y gwnelai rhai o'n gwleidyddwyr ieuainc gofio hynny.

----COFIO'R TYLAWD.

Am Gymry Llundain.