Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. BARRETT'S GROVE.-Nos Iau nesaf cynhelir cyngherdd blynyddol capel y Gohebydd," Barrett's Grove. CYNGOR SIR LLUNDAIN.-Traddodir darlith heno, nos Sadwrn, yng nghapel y Tabernacl, King's Cross, gan Mr. Cleland, C.S.,Ll., ar waith y Cyngor Sir a materion dinesig ereill. Mae Mr. Cleland yn un o brif am- ddiffynwyr yr ysbryd rhyddfrydol ar y cyngor, a bydd yn ddyddorol glywed ganddo hanes y gwaith sydd wedi ei wneud ar ran y dinasyddion. GWYL DEWI.-Nid yw'r Clwb Cymraeg yn myned i gynnal ciniaw cenedlaethol ar ddydd Gwyl Dewi fel yr oeddid wedi hysbysu. Gan fod Cymdeithas yr Hen Frythoniaid yn cynnal eu gwledd y noson honno teimlid mai gwell fuasai cynnal gwledd y clwb ar ryw adeg arall. PREGETH SAESNEG.—Dr. Cynddylan Jones oedd yn pregethu yn Saesneg yng nghapel Jewin prydnawn Sul diweddaf, ac apeliai yn daer am ragor o gyfraniadau tuag at ddi- ddyledu y capel. Yr oedd un hen Gymro yno na ddeallai lawer o honi yn tystio ar y diwedd mai traethiad ar y New Theology ydoedd. EAST HAM.—Nos Iau diweddaf cafwyd Cyfarfod Cystadleuol hwylus iawn yn Sibley Grove, pryd y daeth nifer liosog ynghyd. Talentau lleol fu yn cymeryd rhan ynddo, a gwnaeth pawb o'r cystadleuwyr eu rhan yn bur dda yn yr oil o'r cystadleuaethau mewn canu, adrodd, ysgrifennu, barddoniaeth, &c. Yr oedd beirdd ieuainc y lie wedi gwisgo yr awen, a mawr hyderir y parha bob un o honynt i ymestyn ymlaen at berffeithrwydd cawsant ganmoliaeth uchel gan y beirniad a'r bardd, y Parch. Llew. Bowyer. Llywydd- wyd y cyfarfod gan Mr. J. L. Johns. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, 16eg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas Ddiwylliadol, pryd y caed anerchiad gan ein cydwladwr, Timothy Davies, Ysw., A.S. Ei destyn ydoedd: Robert Owen" (y Socialist). Y mae Mr. Davies o'r dechreu wedi arfer cymeryd rhan flaenllaw yng ngweithrediadau y gymdeithas, a da genym ei weled yn parhau felly, er fod ei ddyled- swyddau cyhoeddus yn cynyddu. Yr oedd liefyd yn destyn llawenydd i ni i weled llywydd y gymdeithas yn bresennol yn ein mysg y tro hwn. Gwyddom yn dda fel pobl ieuainc perthynol i'r eglwys hon nad oes neb yn fwy parod i'n cefnogi a'n cynorthwyo ymhob cyfeiriad da na Mr. Thomas, War- wick Road, er fod amgylchiadau wedi ei rwystro i fod yn bresennol mor gyson yn ein cyfarfodydd yn ystod y tymor presennol. Cafwyd cynulliad cymharol dda, er nad mor liosog a rhai cyfarfodydd blaenorol a gawsom. DEWI SANT, PADDINGTON.—Y Gymdeithas Lenyddol a Chertidorol.-Nos Fawrth, Ionawr 15fed, dan nawdd y gymdeithas ddiwylliadol ac adeiladol hon, cafwyd cyngherdd rag- orol, o dan gyfarwyddyd Mr. D. Jenkins, Sheldon Street, yn St. David's Hall. Trodd y cyngherdd allan yn llwyddiant perffaith, ac y mae clod mawr yn ddyledus i Mr. Jenkins, am ei ymdrechion diflino gyda holl weithrediadau yr eglwys, ers pan y dewis- wyd ef i'r swydd o warden yn Dewi Sant. Beth bynnag a gymer mewn llaw, gwna a'i holl egni, a dilynir ei lafur a llwyddiant anarferol bob amser. Analluogwyd y cadeirydd penodedig, Mr. Ben Fielding, i fod yn bresennol, ond danfonodd gynrych- iolydd cymwys i lenwi ei le, ym mherson Mr. Chambers, ei agent, yr hwn a wnaeth ei waith yn dra chanmoladwy. Cymerwyd rhan yn y cyngherdd gan y rhai canlynol:— Pianoforte solo, Miss Bryant; song, Love the pedlar," Miss Nancy Parry comic duet, "The Twins," Mr. Bert Havil a Mr. Jack Morris; song, "Y Gauaf Gwyn," Miss M. Pierce; recitation, Evangeline," Miss Dolly Barrett song, Go to Sea," Mr. Tom Jenkins song, 0 na byddai'n haf o hyd," Miss Mary Davies; song, Thora," Mr. Nobel; duet, In Spring time," Misses Parry and Pierce; Pary, "Rhestrwn," con- ductor, Mr. Dan Jones; song, "In Mellow Autumntide, Mr. Nobel; violin solo, Mr. Woodroffe comic song, Mr. Havil; song, Yn iach i ti Gymru," Miss Mary Davies; song, Meddyliau Plentyn," Miss Nancy Parry; song, I Bias Gogerddan, Mr. Tom Jenkins; song, "My Ships," Miss Pierce. Cyfeiliwyd gan Miss Nancy Pierce a Mr. T. Vincent Davies. JEWIN.-Cynhaliwyd cyngherdd blynyddol capel Jewin nos Iau, 17eg, pryd y caed cyn- ulliad campus a chanu tra rhagorol. Yr unawdwyr eleni oeddent Misses Gertrude Hughes a Dilys Jones, Mri. Thomas Thomas a Harry Dearth; a chyfeiliwyd gan Mr. Walter Hughes, yr organydd. Llywyddwyd gan Mr. F. A. Harrison, a chaed araeth ganddo ar waith y Cyngor Sir Llundeinig. Mae Mr. Harrison yn un o ymgeiswyr rhydd- frydol rhanbarth Finsbury ym mis Mawrth, a diau y gwna aelod campus hefyd os caiff ei ethol. WOOLWICH.—Da genym ddeall fod rhagol- ygon Capel Bethel—capel newydd yr Ani- bynwyr yn ardal Woolwich, yn dra llew- yrchus ar hyn o bryd, ac fod cynnydd par- haus yn cymeryd lie yn nifer yr aelodaeth. Nos Stil diweddaf bu'r frawdoliaeth yn ethol diaconiaid newydd yno, a syrthiodd y coel- bren ar y Mri. T. Powell, R. G. Thomas, a R. J. Evans, tri o ffyddloniaid yr achos a gwyr sydd au calonnau yn y gwaith.—Nos Ian, lOfed o'r mis hwn, rhoddwyd gwledd Nadolig i'r plant yn y lIe trwy garedigrwydd rhai o ffyddloniaid yr achos. Daeth torf o'r rhai ieuainc ynghyd, ac addurnwyd y capel yn addas i'r amgylchiad. Llywyddwyd y cynulliad gan Mr. J. Evans, ac arweinid gan Mr. R. G. Thomas, a thrwy ofal yr ysgrif- enydd, Mr. E. W. Davies, llwyddwyd i gael nifer o unawdwyr ac offerynwyr tra chymer- adwy. KING'S Cross.—Cyngherdd cartrefol oedd nodwedd rhaglen y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf, a chaed cymdliad cymeradwy yno tan lywyddiaeth Mr. T. J. Evans. Canwyd yn ystod y noson gan Miss Jennie Williams, Mri. J. Waters, Stanley Davies, J. W. Pugh, Hirwen Davies, Howell Evans, ac ereill, a chaed adroddiad gan Mri. Luther Evans a J. Evans. Cyfeiliwyd yn rhagorol gan yr organydd enwog, Mr. D. Richards, A.R.C.O. SOCRATES. "-Dyma destyn darlith a roed i Gymdeithas y Tabernacl nos Iau, 17eg, gan y Parch. Herbert Morgan, Castle Street, a chan mai dyma'r tro cyntaf i weinidog ieuanc y Bedydddwyr fod ar ymweliad a'r lie teimlid cryn ddyddordeb yn ei araith. Caed sylwadau rhagorol ganddo ar ddysg yr hen athronwyr, a thynnai wersi buddiol i ni yn yr oes hon o'r hanesion a adroddai. Cadeiriwyd yn dra deheuig gan yr Athro Jenkyn W. Thomas, Grocers School. CASTLE STREET.—Nos Sadwrn diweddaf caed yng nghapel Castle Street un o'r cyngherddau uwchraddol mae Cymdeithas y lie yn enwog am danynt. Dyma'r ail am y tymor presennol, a daeth llond y neuadd i fwynhau'r wledd oeddid wedi ei pharatoi ar eu cyfer. Y datganwyr am y noson oeddynt Misses Jennie Ellis a Dilys Jones, Mri. Merlin Davies a David Evans. Rhoddwyd unawd ar y crwth gan Mr. R. Jeremy, ac adroddwyd yn ei dull digymar gan Mrs. Tudor Rhys. Cyfeiliwyd am y noson gan. Mr. Harold Howell. Yr oedd rhaglen gampus wedi ei threfnu, ac er fod arlwy ragorol wedi ei pharatoi bu'r ail-alwadau yn ami, gan mor dda y canu. Afraid yw manylu ar gantorion mor dda, ond gellir- dyweyd i'r cyfan droi allan yn wir lwydd- ianus. Llywyddid am y noson gan y mas- nachwr ieuanc, Mr. Gwilym Owen, Fenchurch Street, a chaed ganddo araith edmygol ar waith y Gymdeithas, a llwyddiant yr eglwys, gan ddymuno pob bendith iddynt eto yn y dyfodol tan eu gweinidog newydd. Diolch- wyd i'r cadeirydd am ei bresenoldeb gan y Parch. Herbert Morgan a Mr. John Owen, a diweddwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau."
AGOR LLYFRGELL SHIRLAND ROAD.,
AGOR LLYFRGELL SHIRLAND ROAD., Da gennym weled fod capel M.C. ShirlancI Road wedi sylweddoli un o'i genhadaethau arbennig at Gvmry ieuainc y ddinas drwy ffurfio llyfrgell ragorol ynglyn a'r lie. Nos- Wener diweddaf caed noson hapus i ddathlu'r agoriad, a daeth torf o bobl ieuainc ac ereill i gyd-lawenhau ar gyflawniad y gwaith. Llywyddwyd gan Mr. J. Hughes, yr hwn a roddodd hanes y mudiad, a hysbysai fod eisoes dros bum cant o gyfrolau o weithiau clasuron goreu'r Gymraeg wedi eu sicrhau, a disgwyliai nad oedd y cyfan ond dechreu i fudiad mwy eang a gwerthfawr yn y dyfodol, Yr oedd Anthropos, Elfed, y Parchn. F. Knoyle, D. Tyler Davies, ac ereill o garedig- ion lien wedi dod ynghyd, a chaed anerch- iadau edmygol gan yr oil ar waith yr eglwys yn tori tir newydd er budd pobl darllengar y lie. Dywedai Anthropos fod yn llawen ganddo. weled yr arbenigrwydd a roddid i weithiau Cymraeg, ac anogai bawb i ymgynefino a goreuon ein hiaith, am fod gan lyfrau Cymraeg fwy o swyn i Gymro na'r un llyfr arall. Nid oedd am iddynt gyfyngu yr efrydiau i un rnaes, eithr apeliai atynt i geisio am y goreu ym mhob iaith. Byddai llyfrgell fel hon yn gymorth mawr iddynt i ddewis llyfrau da, a hyderai y byddai yn gymorth i ddiwylliant a chrefydd yn y lie hefyd. Cwestiwn pennaf Elfed oedd Beth ydych chi am wneud o'r llyfrau hyn ? Credai mai cwrdd i greu arwydd mewn darllen ddylai'r cwrdd i fod, ac yna y gwneid y defnydd priodol o'r llyfrau rhagorol hyn wedyn. 'Does dim angen darllen pob llyfr eto anogai hwynt i ddarllen pob gwaith yr ym- gymerent ag ef, yn drwyadl. Dylent ar bob cyfrif geisio dod o hyd i feddwl yr awdwr a thrwy hynny ddod i gyfrinach neu genhadaeth pob cyfrol a astudid ganddynt. Hyderai weled llyfrgelloedd o'r fath ynglyn- a phob sefydliad yn Llundain. Yn ychwanegol at anerchiadau gan y Parchn. F. Knoyle a D. T. Davies. Caed caneuon swynol gan Misses Maggie Daviesr Harrow Road, a Miss James, a therfynwyd trwy gydganu Hen Wlad fy Nhadau."
Advertising
NOTE.—Advertisements must reach the Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- lated into Welsh free of charge.