Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. BARRETT'S GROVE.-Nos Iau nesaf cynhelir cyngherdd blynyddol capel y Gohebydd," Barrett's Grove. CYNGOR SIR LLUNDAIN.-Traddodir darlith heno, nos Sadwrn, yng nghapel y Tabernacl, King's Cross, gan Mr. Cleland, C.S.,Ll., ar waith y Cyngor Sir a materion dinesig ereill. Mae Mr. Cleland yn un o brif am- ddiffynwyr yr ysbryd rhyddfrydol ar y cyngor, a bydd yn ddyddorol glywed ganddo hanes y gwaith sydd wedi ei wneud ar ran y dinasyddion. GWYL DEWI.-Nid yw'r Clwb Cymraeg yn myned i gynnal ciniaw cenedlaethol ar ddydd Gwyl Dewi fel yr oeddid wedi hysbysu. Gan fod Cymdeithas yr Hen Frythoniaid yn cynnal eu gwledd y noson honno teimlid mai gwell fuasai cynnal gwledd y clwb ar ryw adeg arall. PREGETH SAESNEG.—Dr. Cynddylan Jones oedd yn pregethu yn Saesneg yng nghapel Jewin prydnawn Sul diweddaf, ac apeliai yn daer am ragor o gyfraniadau tuag at ddi- ddyledu y capel. Yr oedd un hen Gymro yno na ddeallai lawer o honi yn tystio ar y diwedd mai traethiad ar y New Theology ydoedd. EAST HAM.—Nos Iau diweddaf cafwyd Cyfarfod Cystadleuol hwylus iawn yn Sibley Grove, pryd y daeth nifer liosog ynghyd. Talentau lleol fu yn cymeryd rhan ynddo, a gwnaeth pawb o'r cystadleuwyr eu rhan yn bur dda yn yr oil o'r cystadleuaethau mewn canu, adrodd, ysgrifennu, barddoniaeth, &c. Yr oedd beirdd ieuainc y lie wedi gwisgo yr awen, a mawr hyderir y parha bob un o honynt i ymestyn ymlaen at berffeithrwydd cawsant ganmoliaeth uchel gan y beirniad a'r bardd, y Parch. Llew. Bowyer. Llywydd- wyd y cyfarfod gan Mr. J. L. Johns. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, 16eg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas Ddiwylliadol, pryd y caed anerchiad gan ein cydwladwr, Timothy Davies, Ysw., A.S. Ei destyn ydoedd: Robert Owen" (y Socialist). Y mae Mr. Davies o'r dechreu wedi arfer cymeryd rhan flaenllaw yng ngweithrediadau y gymdeithas, a da genym ei weled yn parhau felly, er fod ei ddyled- swyddau cyhoeddus yn cynyddu. Yr oedd liefyd yn destyn llawenydd i ni i weled llywydd y gymdeithas yn bresennol yn ein mysg y tro hwn. Gwyddom yn dda fel pobl ieuainc perthynol i'r eglwys hon nad oes neb yn fwy parod i'n cefnogi a'n cynorthwyo ymhob cyfeiriad da na Mr. Thomas, War- wick Road, er fod amgylchiadau wedi ei rwystro i fod yn bresennol mor gyson yn ein cyfarfodydd yn ystod y tymor presennol. Cafwyd cynulliad cymharol dda, er nad mor liosog a rhai cyfarfodydd blaenorol a gawsom. DEWI SANT, PADDINGTON.—Y Gymdeithas Lenyddol a Chertidorol.-Nos Fawrth, Ionawr 15fed, dan nawdd y gymdeithas ddiwylliadol ac adeiladol hon, cafwyd cyngherdd rag- orol, o dan gyfarwyddyd Mr. D. Jenkins, Sheldon Street, yn St. David's Hall. Trodd y cyngherdd allan yn llwyddiant perffaith, ac y mae clod mawr yn ddyledus i Mr. Jenkins, am ei ymdrechion diflino gyda holl weithrediadau yr eglwys, ers pan y dewis- wyd ef i'r swydd o warden yn Dewi Sant. Beth bynnag a gymer mewn llaw, gwna a'i holl egni, a dilynir ei lafur a llwyddiant anarferol bob amser. Analluogwyd y cadeirydd penodedig, Mr. Ben Fielding, i fod yn bresennol, ond danfonodd gynrych- iolydd cymwys i lenwi ei le, ym mherson Mr. Chambers, ei agent, yr hwn a wnaeth ei waith yn dra chanmoladwy. Cymerwyd rhan yn y cyngherdd gan y rhai canlynol:— Pianoforte solo, Miss Bryant; song, Love the pedlar," Miss Nancy Parry comic duet, "The Twins," Mr. Bert Havil a Mr. Jack Morris; song, "Y Gauaf Gwyn," Miss M. Pierce; recitation, Evangeline," Miss Dolly Barrett song, Go to Sea," Mr. Tom Jenkins song, 0 na byddai'n haf o hyd," Miss Mary Davies; song, Thora," Mr. Nobel; duet, In Spring time," Misses Parry and Pierce; Pary, "Rhestrwn," con- ductor, Mr. Dan Jones; song, "In Mellow Autumntide, Mr. Nobel; violin solo, Mr. Woodroffe comic song, Mr. Havil; song, Yn iach i ti Gymru," Miss Mary Davies; song, Meddyliau Plentyn," Miss Nancy Parry; song, I Bias Gogerddan, Mr. Tom Jenkins; song, "My Ships," Miss Pierce. Cyfeiliwyd gan Miss Nancy Pierce a Mr. T. Vincent Davies. JEWIN.-Cynhaliwyd cyngherdd blynyddol capel Jewin nos Iau, 17eg, pryd y caed cyn- ulliad campus a chanu tra rhagorol. Yr unawdwyr eleni oeddent Misses Gertrude Hughes a Dilys Jones, Mri. Thomas Thomas a Harry Dearth; a chyfeiliwyd gan Mr. Walter Hughes, yr organydd. Llywyddwyd gan Mr. F. A. Harrison, a chaed araeth ganddo ar waith y Cyngor Sir Llundeinig. Mae Mr. Harrison yn un o ymgeiswyr rhydd- frydol rhanbarth Finsbury ym mis Mawrth, a diau y gwna aelod campus hefyd os caiff ei ethol. WOOLWICH.—Da genym ddeall fod rhagol- ygon Capel Bethel—capel newydd yr Ani- bynwyr yn ardal Woolwich, yn dra llew- yrchus ar hyn o bryd, ac fod cynnydd par- haus yn cymeryd lie yn nifer yr aelodaeth. Nos Stil diweddaf bu'r frawdoliaeth yn ethol diaconiaid newydd yno, a syrthiodd y coel- bren ar y Mri. T. Powell, R. G. Thomas, a R. J. Evans, tri o ffyddloniaid yr achos a gwyr sydd au calonnau yn y gwaith.—Nos Ian, lOfed o'r mis hwn, rhoddwyd gwledd Nadolig i'r plant yn y lIe trwy garedigrwydd rhai o ffyddloniaid yr achos. Daeth torf o'r rhai ieuainc ynghyd, ac addurnwyd y capel yn addas i'r amgylchiad. Llywyddwyd y cynulliad gan Mr. J. Evans, ac arweinid gan Mr. R. G. Thomas, a thrwy ofal yr ysgrif- enydd, Mr. E. W. Davies, llwyddwyd i gael nifer o unawdwyr ac offerynwyr tra chymer- adwy. KING'S Cross.—Cyngherdd cartrefol oedd nodwedd rhaglen y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf, a chaed cymdliad cymeradwy yno tan lywyddiaeth Mr. T. J. Evans. Canwyd yn ystod y noson gan Miss Jennie Williams, Mri. J. Waters, Stanley Davies, J. W. Pugh, Hirwen Davies, Howell Evans, ac ereill, a chaed adroddiad gan Mri. Luther Evans a J. Evans. Cyfeiliwyd yn rhagorol gan yr organydd enwog, Mr. D. Richards, A.R.C.O. SOCRATES. "-Dyma destyn darlith a roed i Gymdeithas y Tabernacl nos Iau, 17eg, gan y Parch. Herbert Morgan, Castle Street, a chan mai dyma'r tro cyntaf i weinidog ieuanc y Bedydddwyr fod ar ymweliad a'r lie teimlid cryn ddyddordeb yn ei araith. Caed sylwadau rhagorol ganddo ar ddysg yr hen athronwyr, a thynnai wersi buddiol i ni yn yr oes hon o'r hanesion a adroddai. Cadeiriwyd yn dra deheuig gan yr Athro Jenkyn W. Thomas, Grocers School. CASTLE STREET.—Nos Sadwrn diweddaf caed yng nghapel Castle Street un o'r cyngherddau uwchraddol mae Cymdeithas y lie yn enwog am danynt. Dyma'r ail am y tymor presennol, a daeth llond y neuadd i fwynhau'r wledd oeddid wedi ei pharatoi ar eu cyfer. Y datganwyr am y noson oeddynt Misses Jennie Ellis a Dilys Jones, Mri. Merlin Davies a David Evans. Rhoddwyd unawd ar y crwth gan Mr. R. Jeremy, ac adroddwyd yn ei dull digymar gan Mrs. Tudor Rhys. Cyfeiliwyd am y noson gan. Mr. Harold Howell. Yr oedd rhaglen gampus wedi ei threfnu, ac er fod arlwy ragorol wedi ei pharatoi bu'r ail-alwadau yn ami, gan mor dda y canu. Afraid yw manylu ar gantorion mor dda, ond gellir- dyweyd i'r cyfan droi allan yn wir lwydd- ianus. Llywyddid am y noson gan y mas- nachwr ieuanc, Mr. Gwilym Owen, Fenchurch Street, a chaed ganddo araith edmygol ar waith y Gymdeithas, a llwyddiant yr eglwys, gan ddymuno pob bendith iddynt eto yn y dyfodol tan eu gweinidog newydd. Diolch- wyd i'r cadeirydd am ei bresenoldeb gan y Parch. Herbert Morgan a Mr. John Owen, a diweddwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau."

AGOR LLYFRGELL SHIRLAND ROAD.,

Advertising