Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

"NERTH Y GORUCHAF."

News
Cite
Share

"NERTH Y GORUCHAF." Dyma deitl cyfrol newydd drwchus ar Waith yr Ysbryd, gan y Parchedig L. Probert, D.D., Prifathraw Coleg Anibynol Bala- Bangor. Mae Dr. Probert mor adnabyddus eisoes fel awdwr yn ogystal ag fel pregethwr, fel na raid iddo wrth lythyrau canmoliaeth. Drwy y cyfrolau a gyhoeddodd o'r blaen sicrhaodd iddo ei hun safle ymysg ysgol- heigion a duwinyddion blaenaf y genedl o ran ehangder ei wybodaeth a thieiddgarwch ei feddwl, a gwyr y lliaws myfyrwyr a fu o dan ei addysg pa mor drwyadl y gwna ei waith. Ac ni thyn y gyfrol hon ddim oddiwrth ei anrbydedd, yn hytrach gesyd ei genedl o dan rwymau ychwanegol iddo. Bendithiwyd Cymru o bryd i bryd ag ymweliadau nerthol yr Ysbryd Glan, ac nid oedd y diweddaf yn ol i'r un o'r rhai blaen- orol. Cysgodwyd drosti lawer gwaith gan Nerth y Goruchaf, gwisgwyd ei bapostolion a'i saint yn fynych a'r nerth o'r uchelder, a phrofodd miloedd o'i phobl weithrediadau grymus gallu nad yw o'r byd hwn. Gwnaeth y Diwygiad diweddaf un peth na wnaed mohono—i'r un graddau beth bynnag—gan y diwygiadau blaenorol, mae wedi cymhell un o'r duwinyddion blaenaf i roddi i ni y traethiad belaetb a manwl hwn o'r ysbryd a'i weithrediadau. A dylai y profiad a gafodd Cymru o'r gweitbrediadau bynny ei gwneud yn barod iawn i roesawu y llyfr, ac i dalu sylw difrifol i'r mater pwysig yr ymdrinir ag ef ynddo. Rhennir y gyfrol yn ddwy ran. Penawd y rhan gyntaf yw Yr Ysbryd a'i Weithred- iadau," a phenawd yr ail ran ydyw Gweitb- rediadau yr Ysbryd." Or braidd, efallai, y mae y penawdau yn ddigon clir a deffiniol, er mai anhawdd awgrymu gwelliant. Ond dengys y penodau ymhob rhan fod gwa- haniaeth amlwg cydrhyngddynt serch hynny. Yr ysbryd a'i waith yn flaenorol i Ddydd y Pentecost sydd yn y rhan gyntaf, yr ysbryd a'i waith yng ngweinidogaeth yr efengyl ac yn yr eglwys sydd yn yr ail ran. Wele grynodeb o'r cynwysiad :-Rban I: Yr Ysbryd a'r Duwdod, yr Ysbryd a'r Cread, yr Ysbryd a Rhagluniaeth, yr Ysbryd a'r Datguddiad, yr Ysbryd ac Ysbrydoliaeth, yr Ysbryd a'r Ymgnawdoliad, yr Ysbryd a'r Gwaredwr, yr Ysbryd a'r Pentecost. Rhan II. Swyddogaeth yr Ysbryd yn yr argy- hoeddiad o bechod; Edifeirwch fel rhodd o eiddo yr ysbryd Adenedigaeth yn waith chwyldroadol yr ysbryd Graddau gweith- rediad yr Ysbryd mewn Sancteiddhad; Ffrwyth yr Ysbryd yn rhyddid ysbrydol; Gwerth tystiolaeth brofiadol yr Ysbryd; Gwaith yr Ysbryd ac effeithiolrwydd gweddi Preswyliad yr Ysbryd yn fywyd i'r Eglwys Cyflwr yr Eglwys a diffoddiad yr Ysbryd Adgyfodiad y meirw yn waith yr Ysbryd Olan. Dilynir gan atodiad, ymha un y rhoddir sylw helaeth i amryw faterion nag a allesid roddi iddynt ynghorff y gwaith. Gwelir fod y maes a gymerodd yr awdwr parchedig yn un eang iawn, ac yn cyffwrdd a holl agweddau y pwnc. 0 ganlyniad nis gallai yr ymdriniaeth fod mor hysbyddol ag y buasai rhywrai yn dymuno, efallai. Ond y mae yn ddigon helaeth i gorff dar- llenwyr Cymreig, ac os meistrolant holl gynnwys y gyfrol, hwy a feddant wybodaeth gryn lawer ehangach a syniadau gryn dipyn teilyngach am uu o'r pynciau mwyaf a phwysicaf. Diau y carasai llawer, yn enwedig o bregethwyr, gael ymdriniaeth lawnach ar rai o'r materion. Hwyrach y gwna Dr. Probert y gymwynas honno a hwy yn yr amser a ddaw. Ni raid hysbysu neb sy'n gyfarwydd a gweithiau blaenorol Dr. Probert fod y gyfrol yn drwyadl efengylaidd, ac nid ydym yn meddwl anghytuna odid neb o syniadau ac ysbryd efengylaidd a dim a ddywed yn ail xan y llyfr ynghylch gweithrediadau yr ysbryd yn argyhoeddiad, adenedigaeth, a sancteiddiad pechadur. Ond nid ydym yn llawn mor sicr y ca gydsyniad mor gyffred- inol a phopeth sydd yn y rhan gyntaf. Cymer y Prifathraw parchedig y safle a gyfrifir yn geidwadol ynglyn a'r pynciau hyn, yn wir, ni wnawn unrhyw gaIn ag ef drwy ddweyd mai ymhlith y dosbarth ceid- wadol y cymer ei safle ynglyn a duwinydd- iaeth yn gyffredinol. Ond y mae un peth i'w ddweyd am ei geidwadaeth dduwinyddol ef nas gellir ei ddweyd am bawb, nid ceid- wadaeth anwybodaeth a chulni ydyw. Dengys y gyfrol hon ei fod yn berffaith gyfarwydd a'r syniadau a'r damcaniaethau diweddaraf, fel eu gelwir, ac os yw yn gwrthod y syniadau a'r damcaniaethau hynny, gwrthyd hwy ar ol eu chwilio a'u profi. Ac nid anfantais i dduwinyddion ieuainc Cymru yw cael syniadau ceidwadol wedi eu gosod o'u blaen mor deg ac mewn ysbryd mor ragorol ag y gwneir yma. Mae llawn cymaint o berygl mewn ymwrthod a syniadau sydd wedi eu dal am amser hir heb roddi iddynt ystyriaeth ddifrifol ag sydd mewn ymwrthod a syniadau gwahanol yn unig am eu bod yn newydd. Ar yr un pryd rhaid i ni ddweyd ein bod yn teimlo anhawsterau mawr ar ein ffordd i dderbyn rhai o syniadau y Prifathraw, yn enwedig ynghylch Datguddiad ac Ysbrydoliaeth—y ddau bwnc sydd i ni yn sylfaen duwin- yddiaeth i gyd, ac ynghylch y pynciau hyn ceir amrywiaeth dirfawr yn syniadau dynion sydd yn gwbl efengylaidd. Gwrthyd Dr. Probert yr athrawddysg o ysbrydoliaeth eiriol, sydd yn gwneud ysgrifenwyr yr Ysgrythyr yn beiriannau yn llaw yr Ysbryd, ond deil afael sicr yn. yr athrawddysg fod datguddiad yn wrthrychol. Yn y fan yma y mae anhawsterau y pwnc i ni. Sut y daeth y datguddiad gwrthrychol i feddyliau yr ysgrifenwyr a gydnabyddir yn ysbrydoledig ? A ellir tynnu llinell glir i wahaniaethu cyd- rhwng y wybodaeth sydd yn dod drwy weithrediad naturiol y meddwl a'r wybod- aeth sy'n dod (neu a ddaeth, yn hytrach) drwy ddatguddiad uniongyrchol ? Ni fedrwn am foment dybied mai datguddiad i'r syn- wyrau anianyddol, hynny yw, i'r llygad a'r glust, a olygir wrth ddatguddiad gwrth- rychol. Rhaid felly mai meddyliol ydoedd. Os felly ai ar hyd llinellau gweithrediad arferol y meddwl y daeth ? Os mai e, ymha fodd y gwahaniaethai oddiwrth wy- bodaeth arall ? Os nad e, onid yw y dyn a'i derbyniodd yn myned yn beiriant wedi'r cwbl ? Dyna yr ymholiadau a godent yn ein meddwl ni wrth ddarllen y rhannau o'r llyfr galluog a gwerthfawr hwn sy'n ymdrin a'r pynciau a nodwyd. Buasai yn dda gennym pe traethasai Dr. Probert ei farn addfed yn helaeth arnynt, oblegid mae'n anodd genym gredu nad ydynt wedi aw- grymu eu hunain iddo. Mae brawddeg yn y rhagfynegiad" sy'n awgrymu, hwyrach, paham nad aeth i mewn yn fanwl i'r holl bynciau cysylltiedig a Datguddiad ac Ys- brydoliaeth :—" Yn gymaint ag fod y du- winydd cyfundrefnol i gymeryd y Beibl fel gair Duw, gan adael beirniadaeth arno i ofal yr amddiffynydd (apologist), dilynais y gol- ygiad traddodiadol gyda golwg ar ei ddwy- fol-ysbrydoliaeth ac awduraeth ei lyfrau." Ond tybiwn glywed rhywun yn gofyn yn ol, gadewch i ni wybod pa ystyr a roddwch i'r ymadrodd Gair Duw, a pha fodd y mae dyn i adnabod y gair hwnnw. Yr ydym wedi manylu ar y rhan arbennig hon o'r llyfr oblegid ein bod yn argyhoedd- edig mai y pynciau hyn sydd i benderfynu nodwedd duwinyddiaeth y dyfodol. Mae syniadau yr eglwys yn amhendant yn eu cylch. Tuedda i roddi mwy o le i ddyn fel derbynydd datguddiad, nag a roddid iddo unwaith, ac awydda am wybod dull gweith- rediad yr Ysbryd Glan arno. A thuedda hefyd, ni gredwn, i chwilio mwy i brofiad ac ymwybyddiaeth Gristionogol. Os nad ydym yn camsynio y mae Ilyfrau 0 natur llyfr Dr. William James ar Amrywiaeth Profiadau Crefyddol yn sicr o amlhau, a bydd hanes y Diwygiad diweddaf yng Nghymru yn sicr o fod yn gymhelliad neill- duol i rywrai eu cynyrchu. Dyna yr hanes cyfoethocaf i'r meddyliwr a'r athronydd Cristionogol o unrhyw hanes ers cenhedl- aethau. Ond pe na ddygai y Diwygiad unrhyw ffrwyth llenyddol a duwinyddol heblaw y gyfrol hon byddai gan ddarllen- wyr Cymru grefyddol achos arbennig i ddiolch am dano.