Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

DECHREU BRAD.

Manion ym Myd Lien.

News
Cite
Share

Manion ym Myd Lien. Cipdrem ar Gymru. Dyna addewir i ni yn nghyfrol newydd y Parch. T. Stephens, Camberwell. Mae nifer o ysgrifenwyr galluog wedi eu sicrhau i roddi eu barn ar wahanol agweddau o'r bywyd Cymreig, a diau y gwna'r gyfres gyfrol gwerth ei darllen. Daw argraffiad Saesneg ac un Cymraeg allan ar yr un adeg, ac os ca'nt y fath dderbyniad ag a gafodd ei lyfr ar Welshmen ni ddylai achwyn. Seintiau Cymreig. Mae gwaith pwysig ar droed ynglyn. a hanes yr hen Seintiau Cymreig. Dygir ef allan o dan nawdd y Cymmrodorion, a'r awdurdodau Mri. Baring Gould a'r Parch. J. Fisher, Wrexham, sydd gyfrifol am y cynnwys. Ar hyn o bryd nid oes yn y farchnad yr un llyfr safonol ar yr hen seintiau Cymreig, ac mae angen am waith safonol wedi ei olygu gan rai sydd wedi astudio'r math yma "o hanes a llenyddiaeth. Cyhoeddwyd ganol y ganrif ddiweddaf ddwy gyfrol ragorol ar y mater, sef Rees Welsh Saints a'r Cambro-Briton Saints." Mae'r ddwy allan o'r wasg ers talm, a phan fydd copi ail-law ar werth gofynir crogbris am dani. Dylai'r gwaith newydd gael cylch- rediad helaeth iawn. Llythyrau'r Morrisiaid. Mae'r ail rifyn o'r gyfres ddyddorol hon newydd ddod o'r wasg, a chynwysa doraeth o lythyrau hynod o ddarllenadwy. Mae'r casglydd, Mr. J. H. Davies, Cofrestrydd Coleg Aberystwyth wedi gwneud gwaith amserol yn gofalu am y llythyrau hyn, oherwydd byddant o werth arbenig i bwy bynag fydd yn awyddus am astudio'r eyfnod-ar ddiwedd y 18eg a dechreu'r 19eg ganrif. Gan fod amryw rannau eto i ddod allan anogwn bob darllenydd Ilengar i sicrhau y llyfrau tra dyddorol hyn. Ell. pris yw 5s. y rifyn yn rhad drwy'r post. Geiriadur Bywgraffyddol. Yn Eisteddfod Caernarfon rhoddodd Cymdeithas yr Eisteddfod wobr o Y,50 am. y Geiriadur Bywgraffyddol goreu. Enillwyd y wobr, fel y cofir, gan Mr. Edward Jones, Llundain, ac mae'r gwaith, yn ol pob hanesr yn un llawn gwerth yr arian hefyd. Yr oedd deunaw ereill o gyfansoddiadau wedi dod i law, naw yn Gymraeg, fel eiddo Mr. Jones, a naw yn Saesneg. O'r cyfan- soddiadau Saesneg bernid mai eiddo "Asaph" oedd y goreu, a deallwn fod yn mwriad y llenor adnabyddus hwnnw gy- hoeddi ei waith ar fyrder. Nid oes genym yr un Geiriadur Bywgraffyddol diweddar. Y goreu a gaed yn Nghymru oedd eiddo Robert Williams a gyhoeddwyd yn 1852, ond yr oedd yntau wedi gadael allan lawer ó enwogion y genedl. Addawa "Asaph" y bydd yn ei gyfrol ef amryw gannoedd o enwau nas ceir yn ngwaith Robert Williams, a bwriada wneud cyfrol hardd am tua hanner gini. Bydd gwaith o'r fath yu. werthfawr i bawb a garant len a hanes Cymru, ac os cyhoeddir y gyfrol ar gynllmi priodol, fel Geiriadur" bydd yn sicr o gael cylchrediad helaeth. Gellir anfon enwau am y gwaith i Mr. R. Roberts (Asaph), Caernarfon. Cymru lonawr. Daeth rhifyn lonawr o'r cylchgrawn rhagorol hwn allan cyn y calan, ac er ei fod mewn llaw er's talm nid yw'n rhy hwyr Í alw sylw ato. Dyma ddechreu'r 32ain cyfrol, a ffodus yw'r un sy'n meddu y gyfres yn gyflawn. Cychwynir y flwyddyn gyda. rhifyn dwbl, ac mae'r cynnwys yn llawn gwerth y tal ofynir am dano. Mae mor llawn 0 amrywiaeth ag yw o ddyddorol, a haedda Mr. 0. M. Edwards deyrnged cened| am y r arlwy nodedig a rycld fel hyn o I ei ddarllenwyr y naill flwyddyn ar ol y Hal I.