Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

- LLYTHYRAU'R MORISIAID.

News
Cite
Share

LLYTHYRAU'R MORISIAID. [GAN P. Ap MON.] Yr unig fai a berthyn i'r wledd mae Mr. J. H. Davies yn arlwyo ger ein bron yw- fod rhaid aros cymaint cydrhwng y dysg- leidiau." Cynted ag y daw y darllenydd i ben draw yr wyth dalen a chwe' ugain, bydd gorfod i'r chwant am ragor orffwys heb ei ddiwallu am chwe' mis arall. Ond dyma'r ail ran i law, a dysglaid ardderchog yw hefyd. Cynnwysa agos i gant o lythyrau, pymtheg o honynt wedi eu hysgrifennu gan Lewis Morris, a'r rhelyw gan Gwilym Morris—y gwr o Gaergybi. Sylwaf fod gwr du y wasg wedi methu -er yn byw yn Rhydychen-a chadw rhag ymyraeth; priodola lythyr Rhif 92 i Lewis tra mai eiddo Gwilym yw, ac nid wyf sicr parthed cywirdeb blwyddiad llythyrau Rhifau 105, 106, a 107: onid 1751 ddylas- ent fod ? Ond dichon fy mod yn gwneuthur cam a'r gwirion yn y mater olaf. Modd bynnag, rhydd y llythyrau hyn gipdrem ddyddorol, nid yn unig ar gyfrinion bywydau y tri- mab o ddoniau mawrion cliwedl Goronwy, ond hefyd ar fywyd gwerin Cymru—yn enwedig brodorion Mon—yn y ddeunawfed ganrif. Llawer o ganmol sydd, ym myd y Sais ilengar ar ddyddlyfr Pepys. Gwerthfawr- ogir y llyfr rhyfedd hwnnw yn bennaf am gyfrif y goleuni a dafl ar ddull byw yr ail ganrif a'r bymtheg, a dyma i ninnau-y Cymry-diolch i lyfr Mr. Davies—dri o dylwyth Pepys yn cyflawni yr unryw was- anaeth ynglyn a materion Cymreig y ganrif ddilynol. Anhawdd dewis, ond dyma engraifft neu ddau o gynnwys y llyfr. Rhyfedd y dyddiau hyn, pan mae beiblau yn rhad ac ynghyraedd pawb, yw darllen fel y byddai ein tadau yn dyheu am gael copi 0 r Ysgrythur yn eu meddiant. Dyma fel yr ysgrifenai Gwilym yn y flwyddyn 1748 at ei frawd Rhisiart, yr hwn oedd yn byw yn Llundain, a gwr hefyd oedd ganddo law lielaeth yn nygiad allan yr argraffiad Cymraeg o'r beiblau rhad— Ymhle'r mae'r Beiblau ar oeddych yn ei addaw i boblach ? Mae yma yr hen ddis- gwyl am dannynt. Mae'r Bersonnyn yma yn ffaelio cael gwybod par bryd y daw chwaneg i'r wlad. Ai cysgu mae'r rheol- wyr ? O'ch na baech yn rhoddi tipyn 0 hanes y Bibl. Mae'r Bersonnyn yma agos wedi iori ei galon am ychydigyn." Gellir meddwl oddiwrth gynnwys rai o'r llythyrau fod llawn cymaint o alwad yn Mon am snisyn ag am feiblau. "Gwych yw'r Phenix snuff hwnnw sy'n dwyn pobl o farw i fyw, ac yn gyrru ymaith y tylwyth teg Dro arall—"In one of my letters,I desired, or should have desired, you to send me in a frank, 6 papers of the Phoenix snuff for Mr. Ellis, &c., but you did not take any notice on't, or perhaps could not, if I forgot. I am plagued out of my life about it by the Doctor, and a sister-in-law of mine, both valetudinarians, and to mend the matter, here's brother Davies wants a couple more, and if you don't make haste to forward these eight papers, a thousand to one but in a few posts the order will be increased to a dozen or two." Mewn llythyr arall— Och fi, ha wr fab, pa beth a wnair ? Dyma eisiau dwsing a haner o bapurau snising ac nid i'ch brawd Gwilym na hun na heddwch nes y ceffir hwynt. If you have any bowels of compassion for a brother, pray send the said number (for the poor) in a frank as soon as possible, ag onite, fe fydd fy nghroen i ar y pared." Ar y penawd hwn ysgrifennai Lewis at Rhisiart yn wawdlyd- Gwych yw'r Phoenix snuff a iacha wragedd gwallgofus. Gyrrwch lwyth o honno i Aberystwyth, da bod Meirian mewn order." Nid oedd yr un o'r brodyr yn ffafriol iawn i'r grefydd newydd, oedd y pryd hynny yn dechreu ennill tir yn Nghymru. I know nothing of the Methodists nor of their tricks, for there are none of them here. I have myself heard Howel Harris tell a congregation at Llanfairmuallt in Brecknockshire, that God was come among them that night. "Take hold of His skirts," says he, "for He never hath been among you before," with a great deal of the like fulsome stuff that made most of his audience weep." A dyma farn Gwilym am Fethodistiaid ei oes- Os bydd yn un lie un dyn yn rhagori ar ei gymydogion mewn castiau drwg a chnaf- eidd-dra, bydd sicr i hwnw droi'n bengrwn (mal y gelwir nhw yma) ag o hynny allan fe'i tybia ei hun yn angel y goleuni a phawb o'i ddisgyblion hwytheu o'r seintiau, ag a ddiystyra bawb arall o ba radd bynnag y bont." Dro arall- 'Rwy'n tebygu fod y Doctor yn meddwl mai darn o Fethodist yw eich brawd Gwilym Ddu, oni bae hynny ni ddodasai ar lawr eu campiau yn ei lythyr attaf. Och yfi ha wr fab, fe gamgymerth yn erchyll! Nid wyf wedi ymhyllu felly chwaith, o ran rwy'n tybied fod pryf naill ar gyrph ai rhywbeth ymhen pob rhai o honynt, a bod anferth gynrhonyn aflonyddgar ynghoppa pob dyn lied synhwyrol gynt sydd yn ymgynhennu a nhw." Ond er ei fod yn eglwyswr rhongc ac yn fawr ei sel tros ei gredo, eto nid oedd Gwilym bob amser yn cydolygu ag ymddyg- iadau arweinwyr a mawrion yr Eglwys. Nid yw Esgob Bangor mwy na gwr arall yn boddio mor llawer o bobl. Fe wnaeth lawer o ddrwg i'n Caer ni, drwy rwystro i'r bersonnyn a'r holl esgobaeth briodi Gwyddhelod, in Ireland called clan- destine marriages, but in Great Britain deserved a genteeler name. Peth brwnt yw gormod o grefydd neu o rith crefydd." Mae ganddo sen drom i Esgob Llanelwy. Dywed iddo glywed fod yr Esgob ar ei giniaw efo'g offeiriada' a goreuwyr y wlad o'i fawr ddoethineb, a dywadodd ei fod yn tybiaw mai gwell fyddai ped fai'r iaith Gymraeg wedi ei thynnu o'r gwraidd, etc a speech worthy of a Welsh bishop Pwy a ddywed, wedi darllen y frawddeg a ganlyn, mai peth diweddar yw'r cri fod yr Eglwys wladol yn nesu at Rufain ? Gwilym, at Rhisiart, yn y flwyddyn 1751 Dyma ddiwrnod wedi myned yn ofer heddy wrth rythu fy llygaid ar Esgob Bangor yn rhoddi bedydd i fagad o bob- loedd, hen ac ieuanc. Nid wyf yn leicio mor peth hanner da, fel y maent yn eu drin, rhy debyg i rodres a rhiolti Eglwys Rufain." Er anhawdd gorchwyl rhaid ymattal rhag difynnu rhagor, neu ofnaf y bydd Mr. Davies yn holi pwy a roddodd hawl imi dros- glwyddo ei waith i golofnau y KELT. Os yw y darllennydd am fwynhau casg- liad o'r llythyrau mwyaf blasus a chynnwys- fawr a ddaeth o'r wasg Gymreig ers llawer dydd, brysied i bwrcasu y gyfres yma. Gyda un difyniad arall dyma derfyn. Llythyr yw hwn wedi ei ddyddio Ebrill 27ain, 1752, anfonwyd gan Gwilym at Rhisiart, yn cynnwys gwrthdystiad cryf yn erbyn llyfr bychan o eiddo ryw John Evans, caplan yn Whitehall, yn mha lyfr y traetha yr awdwr yn ddiglawn ar wendidau a ffael- eddau y Welsh Charity Schools." Yn wyneb brad Caerdydd, a'r berw sy'n cyffroi goreu Cymru heddyw, mae y llythur yn amserol ac fel llais o'r dyddiau gynt yn ein hadgoffa fod ami i ornest wedi ei hym- ladd i gadw yr hen Frutanaeg yn fyw, ac i'n deffro ninnau i wneud ein rhan yn fwy egniol i roddi ei lie phriodol i'n iaith ymysg ein cenedl. Wawch pa beth ydyw y twrwf erchyll sydd o gwmpas y Neuadd Wen Pa beth sydd yn darfod i'r siaplan yna pan fo yn y modd echryslon yma yn ceisio taflu i lawr a llarpio mal new rhuadwy ein hysgolion Cymreig ni. Y rhain ynhyb pob Crist'nogaidd Gymro diduedd 'ynt dra mawr fendith i'n gwlad. A'i allan o'i bwyll y mae'r dyn ? Pam waeth pwy a yrro ymlaen y daionus orchwyl, bydded o Dwrc, Iddew brych, Pagan neu Fethodyst ? Onid fyddai hyfryd gennych a chan bob Cymro diled- ryw weled yn yr ysgol yma, sef ymhlwy Cybi ond odid 40 neu 50 o blantos tlodion yn cael eu haddyscu yn rhodd ac yn rhad i ddarllen yr hen Frutanaeg druan, ag i deall egwyddorion eu crefydd Pa beth a roddasai ein teidiau ni er gweled y fath ddedwyddwch (ag ynt yr ysgolion hyn) yn eu plith, a'i gael hefyd yn rhodd, ie, ei gymell iddynt ? Lie y clywais fy nhad yn dywedyd nad oedd ymhlwy Llanfihangel tre'r Bardd a fedrai ddarllain yr hen iaith gyffredin onid un gwr gwreng y sef Sion Edwart y Cowper, at yr hwn y byddai'n myned lanciau'r plwyf i ddyscu darllen gwaith Tomos Jones, y sywedydd, argraphydd, etc. Hen ddynan oedd Tomos, yntau a wnaeth lawer o les er cymmaint ei anwybodaeth. Rhodd filoedd o bobloedd i'w beiblau," ebr Huw Morus. Pwy a wyr na bu'sech chwi a minneu yn anllythrennog oni buasai yr hen gorphyn o Glorach (oblegid 'roedd Rhisiart Morus ein taid yn farwol) addyscu i nhad, ag felly rhoddi cychwyn i'r dawn bendigaid hwnnw. Nid wyf yn tybied fod nemawr o blentyn mewn oed yn y plwyf hwnnw yn awr heb fedru darllain, os oes, bai eu rhieni ydyw, oblegid bu yno yscol yn gynnar. Aent wedyn i'r wlad a fynnont, deg i un y gollyngent byth yn angof iaith eu bro, fel y mwya'r cywilydd gweled y Cymro coegfalch a'i dibrisia, o achos na cha'dd erioed moi sylfaeni ynddo. Diameu fod Rhagluniaeth yn gweithredu mewn amryw foddion nas gwyddom ni, bethau cib ddeillion par sut i'w deall. Digon tebyg mai heblaw tywallt gras i galonau'r gwirion- iaid yma, fod i'r odidawg hen iaith hefyd drwy'r modd yma gael fel pettai, ei hail fwrw a'i gloywi A'i tybied fod y siaplan yna mewn difrif yn meddwl y gwyr o oddi yna yn well nac offeiriadau Cymru par sut yr ydis yn trin yr yscolion yma, a phar faint y budd a'r lies y maent yn ei wneuthur, ag a wnant i'r gwerinos ? Os yw, disgwyliad gan bob dyn synhwyrol gonest o Gristion a fai Gymro, chwerthin am ei ben a'i ddiystyru. So much so for yr hen iaith. Rhwydd-deb iddi a'r sawl a'i caro. Hold hold meddwch chwithau, why all this ranting ? Why, it would make a saint rant. Oni ddywedasoch i mae ffrind i chwi oedd mab Ifan, os felly onid cymmwys oedd dangos i chwi ei fod wedi myned allan o bob cynghanedd ? yn rhodd, ymgeged, os hynny sydd raid iddo a Chwitfield a Jones, ond er corn ei wddwg na soniad am yr ysgolion Cymraeg, rhag ofn i Gymry osod Goronw i'w ddryllio yn bedwar aelod a phen a chowydd blaen llym miniawg."

[No title]