Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales) President-The Right Hon. LORD RENDEL. Principal—T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), Ll.D. (Vict.). The npxt Term begins on January the 8th, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, XIO, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee Xi. Men Students reside in Registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES.IM.A., Registrar. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE. W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets, Upper and Lower from X4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol. THE LONDON WELSHMAN AND (CELT LLUNDAIN). A WELSH WEEKLY NEWSPAPER. Established 1895. The Official Organ of the London Welsh Community. EVERY SATURDAY. ONE PENNY. The only Welsh Paper Published in London It circulates among the 50,000 Welsh residents in London, and has a large and influential circulation throughout Wales and the Provinces. THE LONDON WELSHMAN AND KELT is a high-class Family Paper, and counts among its contributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. It is a unique Advertising medium, as all its columns are READ. TRADE ADVERTISEMENTS. Displayed. Per insertion :— Per Inch, in Column 2/6 „ Half Column. 15/- Column 1/8/0 „ Page 4/0/0 Reduction for a series of I3 or more insertions. Special Position by Arrangement. Official or Legal Announcements, Profes- sional Notices, Company Prospectuses, &c., will be charged at the rate of Sixpence a line per insertion. Eight lines to the inch. Births, Marriages, and Death Announce- ments, is. 6d. PUBLISHERS' NOTE.
PUBLISHERS' NOTE.
The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Reader or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Bookstall, so that they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer, and the address titust also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee oj good faith. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig. Cyfeirier pob Gohebiaeth a fwriedir i'n colofnau, The Editor"; pob Hysbysiad, a phob Archeb, u The ManageraV oll i'r Swyddfa, Celt Office," 211, Gray's Inn Road, London, W.C. NOTE.-Advertisements must reach the
GWARTH CAERNARFON.
GWARTH CAERNARFON. Fel yr oeddem yn disgwyl, y mae gwaith Pwyllgor Eisteddfod Caernarfon, ynglyn a'r arian oedd yng ngweddill o'r wyl fawr 1906, wedi cael condemniad cyffredinol drwy y wlad. Teimlir fod saith gant o bunnoedd wedi eu gwastraffu yn liollol drwy fympwyon crebachlyd haid o bersonnau anwybodus. Hyd yn awr yr oeddem wedi arfer credu fod yr ysbryd cenedlaethol yn bur llewyrclius yn hen dref y Gogledd, ac y buasai ei dinasyddion yn rhoddi rhyw fath o arweiniad i leoedd ieuainc a dibrofiad ar hyd a lied ein gwlad ond fel arall y bu, ac y mae esiampl Caernarfon yn hollol gydweddol a'r hunan- iaeth a'r awydd am gyfoeth sy'n nodwedd mor atgas yn rhai o drefi Seisnig y Deheudir. Ni chaed erioed well rheswm dros ddiwygio'r Eisteddfod a'i rheolaeth nag yng ngwaith y pwyllgor hwn yn troi y cyfan at elw personol neu at achosion lleol yn unig. Mae'r swm a bleidiwyd ganddynt i Gymdeithas yr Eis- teddfod i'w ddanfon, mae'n debyg, gyda chais ar i'r Gymdeithas ddychwelyd cyfran o hynny eilwaith, ond ni ddywedwyd beth wnai'r pwyllgor a'r fath swm pe cawsent fod y swyddogion yn Llundain mor ffol a chytuno a'u cais. Yr oeddem wedi gobeithio y buasid yn defnyddio rhan o'r enillion y tro hwn tuag at ddechreu cronfa deilwng i godi cofgolofn i Llywelyn. Mae'r bwriad wedi bod ar droed ar hyd y blynyddau, ond hyd yma 'does yr un cynllun wedi cael ei gario i gyflawn weithrediad. Byddai'r genedl yn hollol barod i gefnogi mudiad dros gael cofgolofn, pe caed pwyllgor teilwng i gario'r fath fwriad ymlaen. Hyd yn hyn diffyg trefniant yn unig sydd wedi rhwystro'r fath syniad, a phe buasai i bwyllgor Caernarfon gadw ymlaen am flwyddyn arall, gan roddi ychydig waith ynglyn a'r fath gronfa, ni fuasid yn hir iawn cyn cael digon o swm a alluogai y genedl i fyned ati o ddifrif i sylweddoli un o'i hen freuddwydion. Dywedir mai oes ymarferol yw hon, ac nad oes ganddi flas at gofgolofnau. Hwyrach fod hynny yn wir am yr adran Seisnig o'n cenedl ni, ond yr oeddem yn gobeithio nad oedd Caer- narfon wedi ei llyncu gymaint gan y wedd fasnachol yma, ac fod yr hen ddelfryd Gymreig o gariad at y cain ac anwyldeb o hen arwyr yn ddigon cadarn o'i mhewn i sicrhau i ni unwaith am byth y golofn hir- ddisgwyliedig hon.
[No title]
Dylanwad Cyfoeth. Caed esiampl nodedig yr wythnos ddi- weddaf o'r parch a'r addoliad a roddir i gyfoeth gan genedl y Sais. Bu farw dwy o wragedd enwog y genedl, un yn eithriadol am ei chyfoeth a'i haelioni, a'r Hall yn fyd- enwog am ei hunan-aberth a'i hymdrechion dros ddyrchafiad dynoliaeth yn gyffredinol. Yr oedd Baroness Burdett Coutts wedi etifeddu cyfoeth anarferol, wedi bod yn un o oleuadau cymdeithas urddasol am dros hanner canrif, ac wedi bod yn ddiarhebol am ei haelioni digyffelyb tros bob achos cym- deithasol. O'r ochr arall yr oedd Mrs. Josephine Butler wedi treulio oes hirfaith mewn ymdrechion clodwiw ar ran ei chwi- orydd anffodus ac wedi ymgydnabyddu a phob gwedd ar ddynoliaeth syrthiedig o fewn yr un cyfnod. Cafodd y cyntaf ei gogoneddu gan y genedl drwy gael lie beddrod ym mynachlog Westminster ond gweddus i'r olaf oedd gorweddfan ym mhlith ei theulu fel pob gwir gristion tawel a diymhongar. Faint bynag y rhinwedd yn y Baroness gyfoethog, o ranu ei da ymhlith y lliaws, credwn fod bywyd yr olaf yn dod yn llawer agosach i'r hyn a geisid ei ddysgu. gan y Gwaredwr ei hun. Er hynny, wele genedl a broffesant fod yn ddilynwyr y Gwr o Nazareth yn rhoddi mwy o bwys ar gyf- oeth na gweithred ac ar ddyledswydd nac aberth. Ychydig yw'r parch a'r clod a delir i fywydau pur ac hunan-aberthol y dyddiau hyn, a phe deuai'r Gwaredwr ei hun i fysg y bobl eto yn ei ddull diymhongar gynt cawsai ei ysgornio i ddinodedd ac anghlod tra y dyrchefid cymeriadau fel Carnegie, a Rockfeller Marks, fel duwiaa teilwng o fawl ac addoliad pawb o ddeiliaid y wlad Caerdydd a'r Gymraeg. Ar amryw achlysuron mae Caerdydd wedi dangos ei bod yn hynod o deyrngar i Gymru a mudiadau Cymreig. Yn hyn o beth y mae wedi bod yn dra ffodus mewn arweinwyr priodol ar ei byrddau cyhoeddus, y rhai sydd wedi gweithio llawer er ennili iddi yr anrhydedd o fod yn brif ddinas y Cymry. Ychydig amser yn ol penderfynodd rhai o honynt y dylai'r ddinas roddi'r cywair anghenrheidiol i'r mudiad ar ran dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion dvddiol, a phender- fynwyd fod pob ysgol i gael athrawon addas at y gwaith. Yr oedd hwn yn gam priodol i'w gymeryd hefyd. Y canlyniad fu i nifer o Saeson cul gredu fod eu hiaith hwy i gael ei hesgeuluso, a chodasant gri yn erbyn y bwriad o gael y Gymraeg yn orfodol i'r ysgolion. Ceisiodd y Western Mail gan y ddinas i ddangos ci barn ar y pwnc drwy bleidlais, a danfonwyd papurau etlioliadol i tua 26,572 o drethdalwyr, ac yn ol y papurau a gaed yn ol yr oedd 7187 yn erbyn gwneud y Gymraeg yn bwnc gorfodol yn yr ysgolion tra yr oedd 3778 yn bleidiol i hynny. Wrth hyn gwelir mai prin hanner y trethdalwyr sydd wedi rhoddi eu barn, ac fod dau o bob tri o'r rhai hynny yn erbyn y mudiad. Ar 01 hyn ofnwn fod yn rhaid i'r hen iaith fod yn estrones yn Nghaerdydd, ac yn sicr ni fydd gan y ddinas hawl o hyn allan i alw ei hun yn brif dref Cymru oni ddaw a rhyw brofion ereill ei bod yn fwy teyrngar i fudiadau cenedlaethol nag ydyw yn ol y bleidlais hon i bwnc yr iaith Gymraeg.
Advertising
Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- lated into Welsh free of charge.