Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
CYCHWYNIAD EISTEDDFOD "BOXlNG…
CYCHWYNIAD EISTEDDFOD "BOXlNG NIGHT." At Olygydd y CYMRO A'R KELT." SYR,—Dywedai Mr. Woodward Owen, wrth gadeirio yn Eisteddfod Boxing Night," fod yr Eisteddfod uchod yn gynyrch un o awgrymiadau Mynorydd." Nid oes a'r Mynorydd eisiau plu benthyg, yr oedd digon o rinweddau da a chyhoedd- usrwydd yn perthyn iddo, fel nad oes eisiau ei bluo ar yr anrhydedd o awgrymu Eisteddfod. Pe bai byw yn bresennol, diau mai efe fyddai y cyntaf i wrthod yr anrhydedd, gan ei fod ar y pryd yn wrth- wynebydd eiddgar i gystadlaethau, ond mewn amser diweddarach daeth yn gefnogydd selog i'r Eisteddfod dan sylw. Tybiaf i Undeb Ysgolion Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd Llundain gael ei sefydlu yn 1871, a'r Eisteddfod gyntaf perthynol i'r undeb hwn ei chynnal "Boxing Night" 1872, yr hon sydd wedi parhau yn ddifwlch hyd yn hyn. Daeth y drycbfeddwl am Eisteddfod i feddwl un o aelodau lleiaf yr undeb, yr hwn a'i hysbysodd i'r diweddar Moses Roberts, Holloway; gwnaeth y ddau osod y peth o flaen yr undeb, a chaed yr unfrydedd mwyaf, fel mewn gwirionedd, aed i drefnu a chynllunio Eisteddfod ar unwaith. Credaf yn sicr nad oedd Mynorydd yno, onid e ni chaedjy fath gydweithrediad. Nid wyf yn ystyried fod enw yr aelod bychan a ddaeth i'w feddwl y syniad am Eisteddfod yn werth papur ac inc i'w ysgrifenu yma. Nid yw yn rhyfedd o gwbl i'r drychfeddwl am Eisteddfod ddeilliaw o feddwl y cyfryw un, oherwydd y bychaniaid fel rheol sydd yn syrthio yn nherth i'r ysfa gystadleuol, am y rheswm da, feddyliwn, eu bod yn rhy fychain i weled, a theimlo eu hanallu a'u hanwybodaeth. lORWERTH CEITHO. Rhagfyr 31ain, 1906.
Advertising
CHANCERY LANE SAFE DEPOSIT AND OFFICES COMPANY, LIMITED. @ e 0 0 0.0. 10 00 C3 0 -0 00" 00 7D0 oio STRONGHOLD AND STRONG ROOMS. ROOMS FOR ARBITRATIONS, MEETINGS OF SHAREHOLDERS, CREDITORS AND COMPANIES' MEETINGS. Descriptive Prospectus and full particulars may be obtained from E. VINCENT EVANS, Manager and Secretary = = 63, CHANCERY LANE, LONDON W.C
EISTEDDFOD SHOREDITCH TOWN…
EISTEDDFOD SHOREDITCH TOWN HALL (BOXING NIGHT 1906). Y BEIRNIADAETHAU. Rhoddwn ddyfyniadau o feirniadaethau y Parch. William Glynne yr wythnos hon, ond gall y gwa- hanol gystadleuwyr gael manylion pellach ond goliebu &'r ysgrifenydd cyffredinol, Mr. J. O. Davies. TRAETHAWD CADWRAETH Y SABOTH." Saith o draethodau ddaeth i law ar y testyn priodol ac amserol hwn Cgmro Llundcvn a ysgrifenna yn Saesneg mewn iaith barchus a dull synwyrol, mewn modd ymar- ferol, ac ysbryd canmoladwy. Er hynny, nid traeth. awd mo hono yn gymaint ag anerchiad byr ond pwrpasol i'w darllen mewn cyfarfod cyhoeddus. Y Seithfed o Adda.-Ysgrifenna yn frysiog. Anghof- iodd eistedd i lawr am bum' mynud i ystyried pa fodd i ddyweyd ei farn. Cardi Avfedrus.—Gwna hwn well cyfiawnder a hanes y Saboth yn rhan gyntaf ei draethawd, ond Saboth yr Hen Destament sydd ganddo, ac yna sylwadau esboniadol a chynghorion seiliedig ar eiriau yr Hen Destament a ddyry i ni. Cludydd Arfau.-Hoffwn ei ffordd o drin y pwnc, <ond gofidus nodi nad yw ei ysgrifen na'i ramadeg yn tystio ei fod yn meddu ar addysg uwchraddol. Deudraeth.-Gwr anibynol ei feddwl ac eang ei sylwadaeth, penderfynol ei farn, yw hwn. Eto cyfres o sylwadau mwy neu lai perthynasol i ryw agwedd ar y mater dan ei sylw ar y pryd yw yr oil o'i draethawd. Multum in Parvo.-Dengys llawer o'i frawddegau ei fod yn abl i ddyweyd llawer mewn ychydig. Rhanna ei draethawd i bump o bennau, ond wrth fyned ymlaen prin y mae'n cofio'r rhai hynny. Oherwydd y mae wedi ei adael yn amherffaith. Aidon.-Yn hwn yr ydym wedi cael traethawd wrth ein bodd. Ysgrifenna mewn Cymraeg cywir. Gwr ieuanc dysgedig, darllengar, a meddylgar ydyw. Heb os nac onebae, traethawd Aidon yw y goreu o lawer ac iddo ef y tro hwn dyfarner y wobr. Aidon oedd Mr. J. R. Owen, Battersea. TRAETHAWD AR PEDR." Daeth chwech i law. Cephas, Eluned, Ortho, Anwybodus, Un Gwael, ac Olwen. Gwaith an- hawdd fu dyfarnu y goreu yn y gystadleuaeth hon. Y ddau oreu yw eiddo II Olwen ac Anwybodus," ac ar ol dwys ystyriaeth methais a phenderfynu pu'n ddylid osod yn gyntaf. Am hynny yr nnig Iwybr posibl yw gofyn i'r Pwyllgor am rannu y wobr cyd- rhyngddvnt. Ond dylid talu teyrnged gyhoeddus i Eluned" am draethawd rhagorol hefyd. TRAETHAWD I FERCHED. Gofidus na ddaeth ond un traethawd i'r gystadleu- aeth hon, ond heb os nac onibae, y mae y traethawd yn gwbl deilwng o'r wobr. Y goreu oedd, Miss Williams, Holloway. CYFIEITHIAD O'R SAESNEG I'R GYMRAEG. Daeth 14 i law, a'r oil o ran teilyngdod yn dra uchel. Yn yr ail ddosbarth rhoddaf y deg hyn :— Moelwyn, Mab y Mynydd, Marion, Arfonferch, Aylwin, Ap Caer, Chalice, Glyndwr, Lavengro. Yn y dosbarth laf saif y pedwar hyn loan Lleyn, Celt, Die Sion Dafydd, Taliesin. Eiddo Celt yw y cyfieithiad goreu, ac iddo ef rhoddir y wobr. Goreu, Mr. O. M. Jones, Willesden. CYFIEITHIAD O'R GYMRAEG I'R SAESNEG. Dernyn o waith y Bardd Cwsg oedd ganddynt i'w gyfieithu, a daeth 13 o ymgeiswyr arno. Yr ail ddosbarth: Kelt, Ess Jay, Morpheus, Marion, Gwynfryn, Raymond, Marcus, Llew o Penbow, Nil Desperandum, Mab Dyrysin. Yn y dosbarth laf saif: Pluto, Celt, a Father Christmas, ac o'r tri eiddo Pluto yw y goreu. Goreu-Mr. J. R. Owen, Battersea. BARDDONIAETH PRYDDEST "DYDD Y PENTECOST." Daeth tri cyfansoddiad i law yn dwyn yr enwau :— Nid diobaith, Dim ond treio, a Alltud Fardd-tair pryddest nid anheilwng, a dyweyd y lleiaf, o ysbryd gras ac awen fin y Cymry Llundain. Eiddo Alltud Fardd yw'r oreu o ddigon yn y gystadleuaeth, ac iddo ef y rhodder y wobr. Alltud Fardd oedd Mr. J. R. Evans, Seven Kings, Essex. HIR A THODDAID. Daeth pump o gyfansoddiadau i law: Dynawd, Cromwell, Wyn Eifion, Y Disgybl Anwyl, Paton. Ni raid on darllen eiddo Dynawd unwaith i weled cyfoeth ei feddylgarwch, rheoleidd-dra ei weithiad allan a gemau ei farddoniaeth. Ei eiddo ef yw y goreu, sef Parch. Llew Bowyer, East Ham. BEIRNIADAETH AR ATEB GOFYNIADAU AR EPISTOL I. PEDR. Atebodd tri y gofyniadau, sef Marcus, Disgybl, a John Jones of London. Dylasai rhagor fod wedi ateb ar bob cyfrif. Mae ol llafur a meddylgarwch clodfawr yng ngwaith y tri. Marciau llawn yn yr arholiad oed 160. Tra y mae Marcus a Disgybl yn gydradd, a John Jones mewn meddylgarwch-#-yn wir ymddengys Disgybl yn gryfach nag ef ar brydiau, eto ar bwys ei gydnabyddiaeth a'r Epistol yn ei gyfanrwydd, ac ar hyn y mae ysgolheigion wedi ei daflu yn oleuni ar ei gynnwys, ei drefnusrwydd yn gosod ei olygiadau ar bapur, yn ogystal a'i iaith a'i arddull, barnwn John Jones yn oreu yn y gystadleu- aeth ragorol hon. Fel hyn y mae'r marciau:- Marciau Hawn, 100; John Jones, 141; Disgybl, 124; Marcus, 119.—Gwilym H. Havard, Arholwr. John Jones oedd Mr. Enoch Morgan, Waltham- stow.