Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

.J.¡....,1". O FLWYDD I FLWYDD.

News
Cite
Share

.J .¡ O FLWYDD I FLWYDD. [GAN Y PARCH. PETER HUGHES GRIFFITHS.] Yr wyf yn ysgrifennu at y Cymry-y rhai sydd o ffydd. Cymru—mae yr allwedd yn y galon, ac felly ni bydd arall yn fy neall. Dyma'r drws wedi ei gauad, a ninnau wrthym ein hunain, felly awn rhagom. Mae yn nos Sadwrn blwyddyn, yn hwyr iawn hefyd, a'r tan fu yn oddaeth ardderchog .ar yr aelwyd yn ddim ond lludw llwyd a golosg marw. Da gennyf gael cwmni heno, i eistedd yr oriau hyn allan, ac i gamu i diriogaethau dieithr 1907. Rhaid i ni beidio bod yn drist nac yn oer, loud siomedig iawn fu y flwyddyn aeth lieibio-du ei gwedd ac mewn cyfunedd a hanes oesol y Celtiaid yn y byd. Da y .gwnaeth y cymylau yn arllwys eira ar ei diwedd, gan wynnu llanerch ei bedd. Dewch yn nes, mae yn oer iawn-cauwch y drws—buom yn disgwyl cynorthwy o'r tu ..allan yn rhy hir. Mae ein gobaith ynom ein hunain, ac yn ein Duw. Do, bu yma dan ardderchog yn y bore- ie, deuddeng mis yn ol erbyn hyn—Tan y y Diwygiad a Than yr Etholiad, a ninnau yn cynhesu ac yn ymlonni ac yn darllen pro- phwydoliaethau yn y marwor. Pwy all beidio cofio y gobaith ddaeth i'n ,calon o gydgyfarfyddiad gogoneddus pethau ? Codwyd i weinyddiaeth y Brenin un o fechgyn Cymru, a pha Gymro na ddiolcha i DJuw ar ei liniau am hyn ? Dyma un o Weinidogion ei Fawrhydi yn siarad Cymraeg, ac yn para i siarad Cymraeg Hwn gyrhaeddodd y pinacl allan o ddeg- -ar-hugain-un yr oedd anadl ei wladgarwch yn chwythu fel awelon Eden dros bob peth a ddywedodd erioed. Ac y mae gwerth Lloyd-George i Gymru tu hwnt i ddirnad- ..aeth y rhan fwyaf o honom. Oblegyd y mae yn bryd i'r wlad ddeall fod gwerth aelod, nid yn ol y cardod a ga yn awr ac eilwaith i Gymru yn y Senedd, ond yn ol ei ddylanwad moesol ar fechgyn ysgol- ion a cholegau y wlad. Ond dyna—yn y bore, pan oedd y tan ar yr aelwyd ac addewidion y wawr yn ysgrif- ennu adnodau ar ymyl pob cwmwl—clywsom son am Gyngor Cenhedlaethol. Wel, yn wir, prin yr oeddem yn gallu credu ein ■clustiau. Dyna awr na welodd Cymru ei goleued o'r diwrnod yr oedd stormydd Duw a byddinoedd Owain Glyndwr yn gyrru Iluoedd Harri IV. yn ol yn yfflon i'w gwlad. Ond fe drodd y bore braf yn llwynog i Gymru, ac i Gymru yn unig. Cyngor Cymru oedd y plentyn cyntaf i gyllell Herod ei waedu-gall pawb fentro damsang Gymru, ac efallai nad oedd yn syndod i'r Arglwyddi penuchel gynnal dawns ar fedd breuddwyd calon Geltaidd. Ond Gymru mae yn syndod dy fod di yn .goddef y cwbl mor dawel. Mae gennyt fwy .o ras nag sydd gennyf fi neu buasai rhyw- 'beth wedi digwydd. Glywaist ti hanes Hungary, Bohemia, Ff inland, a Poland ? Gwledydd fel tithau dan draed gormes, ond nid gwledydd ry .ddiog neu ddigalon i godi, serch hynny. Ond bron gwaeth na haerllugrwydd yr Arglwyddi oedd y clwyf a gefaist yn nhy dy garedigion. Ie, dyna wyf yn feddwl-pan -i)eddet ti yn disgwyl Dadgysylltiad yr Eglwys, gan feddwl felly, efallai, y gwneid ID .Eglwys Loegr yn rhyw dipyn o Eglwys Dduw—dyma'r son, a thithau yn disgwyl am Ddadgysylltiad, a in ryw ddirprwyaeth eglwysig. -Carreg yn lie bara, ond yn dy ddiniweid- nvydd llyncaist hi gan feddwl na wnai ofid i ti. Ie, Dirprwyaeth Eglwysig i agor led-led y wlad, hen bwnc sydd wedi ei benderfynu am byth gan feddwl a chalon cenedl gyfan, a chenedl oedd yma yn Gristionogion ar yr ynys hon cyn i fynachod Awstin groesi'r mor, a chyn fod Sais wedi cyrraedcl yma i fod ag -eistau ei Efengyleiddio-ac o ran hynny fe all gwaith Awstin fyn'd rhagddo—mae cymaint o'i angen heddyw ag erioed. Do, fe drodd y bore yn ei wrthol a'r gobeithion yn angladdau gyda'r Ddirprwy- aeth, ac y mae gweled y dynion urddasol hyn yn trin y pwnc yn ddigon i godi cyfog ar geffyl-mor bwysig yr edrychant, ac mor ofalus y mae y Barnwr am natur y Tystiol- aethau Tystiolaethau, yn wir Glywodd ef fnwch Peggi Lewis yn brefu ? Os na, dyna brawf ddigon nad yw yn deilwng o'i le. Rhaid cael y fyswynog ger bron y ddirprwyaeth. Ie, dyna John Parry, y merthyr o Lanar- mon-yn-Ial. Beth, Gymru ieuanc, wyt ti wedi anghofio John Parry ? Mae yspryd John Parry heddyw yn y tir, ac yspryd John Penry; ac yspryd Owain Glyndwr yn eu harwain. Ond ysprydion ydynt yn chwilio am gyrph—yn teithio i Fethlehem eu hym- gwnawdoliad. Mae pwnc y tir, a thynged yr iaith, heb son am y pethau a enwyd eisoes, yn galw am danynt. Ie, mi a wn beth sydd ar eich meddwl— yr aelodau Seneddol. Wel, chwi welwch But mae gobeithion Cymru yn duo, a phob peth cenedlaethol yn marw, ac a glyw- soch chwi fod yr aelodau Cymreig wedi eistedd erioed mewn angerdd Celtaidd i ystyried beth allant wneyd dros yr hen wlad ? Baont yn eistedd dro yn ol, yr wyf yn credu, i ystyried a allent eistedd gyda'u gilydd A phenderfynasant nad allent! Y maent y peth tebycaf erioed i haid o gathod Ac yn ofni yn eu calon weled eu gilydd yn dal llygoden. A wadodd rywun athrawiaeth Darwin, gwylied yr aelodau Cymreig. Oes oes, wrth gwrs y mae eithriad neu ddau, ac os clywant y pethau hyn, gobeithio y cyfrifa pob un ei hun fel yr eithriad gogoneddus hwnnw. Ond wrth gwrs mae y drws wedi ei gauad neu ni buaswn yn meddwl am ei ddweyd. Mae gennyf ragor etto. Ond wele wawr 1907 yn torri yn oleuni trwy'r dellt. Ydyw. Mae y bore yn oer. Ond ar wastadedd yr Affrig bell, pan oedd cysgodion hwyr yn disgyn, a'r oerni yn dy- feisio llofruddiaeth, achubwyd bywyd llawer milwr egwan drwy i ryw gyfaill ffyddlon orwedd drwy y nos a chysgu yn ei ymyl. Methai y rhew a chyrraedd ei galon, a throai yn gyfrwys i chwareu yn arian byw ar ei ddillad. A fedr y Cymry nesu at eu gilydd; a fedr y Celtiaid-yng ngair hyfryd Goronwy Owain-fod yn dylwythgar, ac yn dragwydd- ol ffyddlon y naill i'r Ilall ? Byddaf yn meddwl weithiau na fedrant, ac yr wyf am gael meddwl hynny yn uchel— bydd y gwaethaf am danat ti fy nghenedl fy hun ar fy nhafod, ac nid yn fy nghalon. Ystyria hyn, a yw pob gwen ar dy wyneb yn golygu caredigrwydd yn dy galon ? A elli di fwynhau clywed Cymro arall yn cael ei ganmol ? Wel, a wnei di, ar ddechreu 1907, benderfynu y gwnei oddef hynny nes dysgu ei fwynhau ? Os yw y tan wedi diffodd o'r tu allan, mae y tan yn cynneu o'r tu fewn y funud y ceir didwylledd a gonestrwydd, ac y mae per- thynas hanfodol rhwng hynny a Gwlad- garwch. Os gwelir dyn yn gwerthu ei Grefydd a'i Iaith, fe wertha hwnnw ei fam os caiff bris go lew am dani. Os try dyn yn anffyddlon i'w gylchoedd agosaf ac anwylaf nis gall hwnnw fod o werth i un wlad na chylch arall. Wyt ti yn teimlo y tan yn cynneu o'r tu fewn ? Os wyt, mae John Parry a John Penry, a Tom Ellis ac Owen Glyndwr, yn dod yn ol, yn dod yn ol dros Iwybrau dy galon di. Mae gobaith Cymru o'r tu fewn ynddi ei hun, ac yn ei Duw. Yn awr fe allwn godi ac agor y drws a mynd allan i waitli a dweyd BLWYDDYN NEWYDD DDA."

Am Gymry Llundain.