Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…

PELYDRAU'R BOREU.

Rhannu'r GweddiU.

News
Cite
Share

Rhannu'r GweddiU. Yr wythnos hon buwyd yn rhannu'r enilliom a wnaed oddiwrth Eisteddfod Caernarfon. Nid yn ami y cymer hyn o waith le ynglyit a'n gwyl flynyddol, ond trodd anturiaeth. Caernarfon allan yn eithriad anrhydeddus. Mae hyn i'w briodoli yn hollol i'r ffaith syml fod neuadd gyfleus yn y dref er cynnal y fath gynulliad. Nid oedd pwyllgor Caer- narfon un gronyn yn well nac ami i bwyllgor arall gaed ynglyn a'r Eisteddfod yn wir, mewn amryw gyfeiriadau, yr oedd yn egwan a llipa, a ffolineb o'r mwyaf yw priodoli'r llwyddiant iddynt hwy. Pan mae pwyll- gorau ereill yn gorfod gwynebu'r gost enfawr ynglyn a phabelloedd cyfleus, yr oedd gwaith pobl Caernarfon yn un digon hawdd, ac ant ychydig gannoedd cawsant fenthyg un o'r adeiladau goreu yn Nghymru er cadw'r fath. wyl. Yn ol y cyfrifiad cyntaf llwyddwyd i gael dros £ 1,500 o ehv. Ynglyn a hyn yr oeddent wedi gwneud addewid pendant y buasent yn rhoddi lianner yr enillion at wasanaeth Cymdeithas yr Eisteddfod. Ond gwelwyd un o brofion gwaeledd y pwyllgor yn y modd yr ymddygasant gyda'r rhannu. Wedi cael swrn anrhydeddus yng ngweddill, troisant yn anonest i'w haddewid cyntaf. Ychwanegasant at y costau anrhegion arbenig i'w hysgrifenydd, ac ereill-aurhegion, mae111. ddiauoeddent yngyflawnhaeddianolo honynfc. Ond nid dyna'r pwnc. Mynasant ysbeilio Cymdeithas yr Eisteddfod o hanner y symiau. a roddid fel cydnabyddiaeth arbenig, yr hyn. ni faasai son am danynt pe bae'r anturiaefch. wedi troi yn fethianfc. Yn y cyfarfod olaf aethant gam ymhellach. Tynasant £ 25 arall o'r gronfa er mwyn chwyddo tysteb i Mr. Emlyn Evans. Gwnaent hyn er mwyn. hawlio'r holl glod iddynt eu hunain yn hytrach na rhannu pob o £12 10s. cydrhwng y pwyllgor a Chymdeithas yr Eisteddfod fel cyfraniad i'r dysteb. Ar 01 y gwahanol ysbeiliadau hyn cytunasant yn hwyrfrydig i gyflwyno hanner y gweddill i Cymdeithas yr Eisteddfod, a hynny gyda chais pellach ar i'r G-ymdeithas ddychwelyd peth o'r pres Cyfran Cymdeithas yr Eisteddfod yw t676, a gwaith y pwyllgor diweddaf oedd rhannu swm gyffelyb at achosion cenedlaethol fel y gweddai i bob elw o'r fath. Ond wele'r gwaddoliadau cenedlaethol ".a wnaed, £40() tuag at y Llyfrgell leol, £ 200 tuag at y Gronfa Geltaidd ynglyn a dysgu'r plant yn. ysgolion ardal Caernarfon a £ 76 tuag at yr Ysbytty Cynygiodd rhywun osod £50() tuag at ysgoloriaeth barhaol yn un o'r colegau, ond wfftiwyd y peth allan o fodol- aeth Yr ydym yn hyderu y gwna Cym- deithas yr Eisteddfod well defnydd cenedl- aethol o'u cyfran hwy na pbobl grebachlyd Caernarfon.

Advertising

Dosbarthiadau Cymraeg.