Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Gosen Eisteddfod, Blaenclydach.

News
Cite
Share

Gosen Eisteddfod, Blaenclydach. List of Adjudications. PRYDDEST, a Y TAD, DAETH YR AWR." Derbyniwyd 14 o bryddestau i'r gystad- leuaeth hon. Marc."—Pryddest fer heb lawer o 61 y Haw gelfydd ami. Newidir y mesur yn fynych, and nid yw yn gallu symud yn rhwydd bob amser. Cana mewn dull gwasgarog; nid yw yn llwyddo i ganol- bwyntio ei feddwl ar y testyn yn union- gyrchol, gyda'r canlyniad fod y bryddest yn d'od i ben heb roi avgraff arnom fod y bardd wedi treiddio i galon ei destyn. Mae cryn lawer o arwyddion brys ar y gwaith yma. "Traeth y Tonnau."—Cawn dwyll odl yn y ddwy linell gyntaf yn y bryddest hon, ac yn fuan deuwn ar draws amryw o linellau cloff, gyda chorfanau trwsgl, a thormesurau rhy ami i'w nodi. Ail- adroddir yr un gwallau drosodd a throsodd yn nghorft _y bryddest. Yn ycliwaoegol at hyn, ceir yma nifer fawr o linellau yn amhendant eu hystyr, naill am fod eu ffurf yn ddiffygiol; neu eu hystyr yn dywyll. Heblaw fod diwyg y bryddest yn garpiog, y mae'r cynllun yn aneglur, a'r gweithiad allan heb fod yn ol egwyddor neillduol. Treuliodd yr awdwr y deugain llinell gyntaf mewn ymdrin- iaetli amherthynasol. Rhaid iddo ddis- gyblu ei feddwl i gadw yn ffyddlon i'r testyn a chanu yn fwy coeth. "Garmon Bach. "-Prycldest o nodwedd gyffredin yw hon eto o ran iaith, cynllun ac awen. Hawdd canfod nad y,Ir awdwr yn gynefin a gwisgo ei feddwl mewn diwyg farddonol. Ceir nifer o odlau gwallus yn gynar yn ei waith, ao yn ycliwanegol lawer o linellau gwan, a symudiadau afrosgo. Nid yw yn rhoi un ystyr arbenig i'r awr," ond rhydd ffordd i ymdrin- iaeth gyffredinol heb fawr o drefn na dosbarth. Cynghorwn yr awdwr i ymroi ati i feistroli rheolau mesur ac odl. Mimosa."—Cana'r awdwr yma helynt bywyd Crist ar ei hyd nes d'od at yr adgyfodiad a'r bedd gwag. Gwelir fod yn amhosibl iddo o fewn cwmpas y bryddest hon i fod yn alluog i daro i ddyfnder ei destyn. Cerdda dros y tir yn arwynebol gan gyffwrdd megys yn ddam- weiniol hwnt ac yma ao ambell ffrydlif sydd yn tarddu o'r testyn. Ond yr oedd N, v cynllun a ddewisodd yn ei amddifadu o bob gobaith i wneyd cyfiawnder a'i destyn. Buasai yn ddoeth yn yr awdwr i geisio penderfynu canu ar egwyddor .gano log a chadw yn ngoleu hono trwy gydol ei bryddest. "loan AnwyL"—Pryddest ar fesur penillion a llawer o swyn ynddynt. Cana'r awdwr yn gwbl ddiymdrech. Nid yw wedi dewis iddo'i hun un cynllun cynwysfawr. Cana yn fwyaf arbenig i'r aingylchiadau sydcl o gylch y testyn. Cawn gipolwg yn y rhanaui olaf ar amcan ac effaith yr '• Awr," ond nid oes yma ymgais i farddoni'r "Awr ei hunan. Ceir hwnt ac yma ambell linell aneglur, megys yn y pedwerydd penill, a cheir yma ym- adroddion henafol fel "cloc y nefoedd," Hong yr lawn," &c. Naturioldeb y penillioll hyn yw'r elfen wertlifawrocaf ynddynt. Jeremiah.—Declireua'r bryddest hon mewn dull rhyddiaethol mae cyffyrdd- iadau ac eneiniad barddonol yn absenol, yn wir, ar wahan i fesur ac odl, nid oes ddim o nod angen barddoniaeth. Cana'r testyn i ddechreu fel esiampl i'r dis- gyblion i weddio ar Dduw. Prin yr oedd gofod y bryddest yn cyfiawnliau darl leniad fel liwn o'r geiriau. Mae rhan olaf y bryddest yn ymdreeh ganmoladwy i esbonio'r "Awr," ond esbonio ydyw ac Did canu. Cerdda'r awen yn rhy unffurf dros lwybr yr awen, heb alw sylw at wirioneddau ar ochr y ffordd i'n isynu a/n cyffroi. Gwr Ydwyf i'r Gwaredwr."—Nid ydym wedi llwyddo i wel'd fod A, bryddest Iron yn meddu egwyddor o ganolbwynt oddi- wrth yr hon y mae'r awen yn gweithio allan. Hyn sydd yn cyfrif yn ddiau fod cynwys ac arddull y cyfansoddiad mor wasgarog. Edrycha ar y testyn oddiar safbwynt rhy amhendant i allu cynyrchu eyfanwaith. Mae'r bryddest yn anghyfartal yn ei gwerth llenyddol. Ceir yma amryw o wallau mewn geiriadaeth, mesurau a chyflead syniadau. Weithiau y mae hyd yn nod amseriad y ferf yn brofedigaeth iddo. Ar destyn fel hwn, ac o fewn cylch cyfyiigedi^ fel hwn, bendith fawr i fardd yw pwysleisio'r pethau cyntaf yn gyntaf. Nid yw'r bardd hwn wedi llwyddo yn hyny. Murmur Cedron." Cyfansoddiad braidd yn unffurfiol yw hwn. Ychydig sydd yma o amrywiaeth yn yr arddull. Mae ffurf y llinellau yn rhy undoniog i gadw'r dyddordeb i fyny yn llwyddianus hyd y diwedd. Ceir yma lawer o linellau rhagorol, ac ami ddarn yn meddu awen rymus. Gwendid arall yn y bryddest hon yw, fod llinellau ac adranau yn rhy anghysylltiol. Nid gwaith hawdd yw canfod y dolenau sydd yn rhwymo y gwaith wrth ei gilydd. Eifeithia hyn ar y bryddest fel cyfanwaith. Mwy 0 hamdden a wnai y bryddest hon yn un ganmoladwy iawn. "Zebedeus .Pryddest a llawer o nod- weddion myfyrdraeth neu ymson ynddi. Tarawodd y bardd ar gynllun allasai gydag yehyclig o ddeheurwydd fod yn fantais nodedig iddo. Ond daliodd drwy y gwaith 1 gadw yn yr un arddull, Pe wedi amrywio ychydig hwnt aci yma, buasai wedi cadw ei gyfansoddiad allan o ddosbarth ymson, ond fel y mae ni ellid ei gyfrif yn ddim arall, er nad yw yn hollol felly chwaith. Teimlwn hefyd ei fod yn dal gormod o'r awen yn y cywair lleddf. Buasai canu mwy yn y cywair lion—canu tymer obeithiol, liydoi'us y Gwaredwr yn rhwym o gyfoethogi ei ymson. Pryddest wir ganmoladwy ydyw hon. Gwyliwr y Goleu."—Dyma bryddest wedi ei chanu yn nodedig; o lan. Fel# gwaith llenyddol nid oes ei rhagorach yn y gystadleuaeth. Ond rh^id cydnabod fod y diyyg yn rhagori ar y cynwys. Ill oes yr awdwr ddegau o linellau o'i law nad allai bardd cynil, gofalus am ei gyfle i gauu'r testyn yn llwyr ddim fforddio gwneyd. Nid yw'r rhanaui cyntaf yn han- fodol i ddehonglu'r testyn. Pe wedi disgyn ar yr argyfwng yn mywyd y Gwaredwr—y ffiniau yn ei brofiad, ac aros yn yr awyrgch hyny, gallasai gyda'i ddawn llenyddol ae awenyddol ganu yn llawer gwell i'r pwrpas. Casgla at eu gilydd ddehongliadau o'r testyn yn y penillion sydd yn rhan olaf y bryddest, a gwna hyny yn rhagorol. Ond y mae erbyn hyny wedi colli ei gyflle i wneyd cvfiawn- deir a'i destyn. "Iago Leiaf."—Mae sillebu yn brofed- igaeth i'r bardd yma, yn arbenig- mewn geiriau lie y mae h i fod a 119 na ddylai. Prin y mae rhan gyntaf y bryddest yn ymwneyd yn ddigon union- gyrcliol a'r testyn. Yr oedd y bardd wrth ymdrin a'r testyn yn yr ail tndalen yn v ffurf o ymgom rhwng Crist a'i Dad ar y llu-yhr i allu rhoi dehongliad pwrpasol o gynwys y testyn. Ond ychydig o ddefnydcl a wnaeth o'i gyfle. Yr hyn a dyn yn fwyaf oddiyrth werth v bryddest hon yw ansawdd gyffredin ei barddon- iaeth. Nid yw'r bardd wedi ei ddal gan wynt nerthol yr awen. Mae gormod o arddull ryddiaethol i'w feddyliau i enill calon y darllenydd. Dywed feddyliau yn dda, ond nid yn canu ei feddyliau. Angen yr eneiniad yw angen mawr y bryddest hon fel llawer un arall yn y gystadleuaeth hon. "Yn y Storm."—Pryddest wedi ei rhoi yn y type." Nis gwn pwy sydd yn gyfrifol, pa un ai'r bardd neu'r type- writer," y mae yma amryw o wallau mewn sillebu ac atalnodi. Nid yw'r defnydd a wnai'r awdwr o Olew am Olewydd yn gyfreithlon. Dechreua'r bryddest yn syml a naturiol, yna cawn ddarnau dipyn yn gyffredin o ran cynwys ac awen. Cyfyd am fynyd ar aden ei ddychymyg i awyr- gylch mwy barddonol, ond nid erys yno yn hir. Coir yma amryw o ffigyrau anffodus, megys 'mynyddoedd angherddol,' &c. Dioddefa'r gwaith oddiwrth anghyf- artaledd mewn awen. Yn ymyl darnau barddonol uchel eu ton, ceir darnau cyff- redin. C'eir ganddo ddarn pwrpasol a grymus ar y gogoneddu, ond yn unig ei fod yn dueddol ei ail-adrodd. Min y Mor."—Pryddest a chryn lawer o ymdrech ynddi i fod yn farddonol, ond prin y gellir cydnabod fod y bardd yn llwyddo bob amser. Teimlir nad yw ei eiriadaeth y fa-tn ag sicrhau awenydd- iaeth gref. Mae ar y tudalen gyntaf nifer o eiriau y byddai yn hawdd iddo gael eu gwell a mwy cymwys. Er enghraitrt, gair anffodus ac amhersain yw ymlidio yn y llinell "Pan ymlidio tlysni Bywyd Gan ruadau'r dymhestl gref." Cana yn gryno ar le yr awr mewn hanes a phroffwydoliaeth. Rhydd gymaint o sylw i'r ochr arweiniol yma i'w destyn fel mai prin yw'r gofod at ei law i ganu'n helaeth ar gynwys uniongyrchol y testyn. Dywed ragor nao unwaith fod yr awr yn bwynt uchaf, ond nid yw wedi gweithio y pwynt .allan i orphenedd. Rhoes ar y mwyaf o bwys ar liwia-u tywyll yr Awr a, dim digon ar Jiwiau gWYll buddugol- iaeth a gogoneddiad. Mantais fawr i bwynt uchaf y bryddest hon fuasai gweithio i fyny i ysblander y gogon- eddiad. Gorphena mewn cyweirnod hapus. Ar ol n,odi'r diffygion hyn, dylem ddweyd fod llawer o nodweddion bardd o awen gref yn y cyfansoddiad yma. "Yn Llwybrau'r Athraw." Dyma bryddest y gellid ei barnu yn Uym ar gyfrif dibrisdod yr awdwr o'i fesur. Pe bai'r bardd yn darllen rhai o'i linellau gwallus eu corfan, cawsai ddioddef yn dost oddiwrth glefyd y clyw. Y mae ganddo fwy o gyfoeth o eiriau ac o fedd- yliau newydd na neb yn y gystadleuaeth. Yn bytrach na. chanui yn amgyichiadol a hanesyddol, fel y mae y rhan fwyaf o'r cystadleuwyr yn gwneyd, tarawodd ar egwyddor ganolbwyntiol y geiriau, gan weithio allan y syniad 0 hunan-aberth yn unol a bwriad Duw yn myn'd trwy ei argyfwng, ac yn meddu ymwybyddiaeth ddios o'i fuddugoliaeth a'i ogoneddiad. Gallasai yn hawdd berffeithio ei gynllun i osod allai-i ei feddyliau yn fwy rheolaidd, ond credwn o fewn gofod prin y gystad- leuaeth ei fod wedi rhagori yn ei ddoeth- ineb gyda goJwg ar gynllun, ac ar pa both i'w adael allan. Fel cyfansoddiad meddyl- gar ac awenyddol, teimlwn, er nad yw yr hyn a ddymunem iddo fod o bellder ffordd, ei fod yn rhagori ar ei gyd- ymgeiswyr. Iddo ef. Yn Llwybrau'r Athraw," felly, y rhoddir v gadair a'r anrhydedd.

---_---------........_:L...-----_..-Winding…

Advertising

--_-----Labour Topics.

------------.-....--.---Refuge…

Britannic Assurance Co., Ltd.

Advertising