Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
Why go out of the District to buy MIL 0 FURNITURE When you can get all you require at J AT'S The People's Furnishers, At prices to suit all. Cheapest for Cash & most convenient for hire. WE have the Largest and Finest Stock in the Valley to select from. Send for our Illustrated 1 Catalogue, or better still, give us a call and we will be only too pleased to show you round. TERMS AS FOLLOWS CS worth of Goods 1/6 weekly. A30 worth of Goods 4/6 weekly. 912 ii It 2/- II icso of ii 6/- It jE20 It „ 3/- „ NO DEPOSIT REQUIRED. We employ no canvassers, so by dealing direct with us you save the Agents' costs, &c. Catalogues Free. JAY & Co., 8 Commercial St., Aberdare
Y "TEEN SAITH " YN TROI'N…
Y "TEEN SAITH YN TROI'N SIOM. Disgwyliai yr awdwr i Dren Saith Porth- cawl i ollwng allan Super C, Lewis (Cynffig) a'i deulu, ond cafwyd mai gyda'r tren dilynol y golygair bardd i'r amod ei rwymo. Wedi amodi, siomedig-yw tren Nas try'r disgwyliedig; Ofnais fod rhyw ddyfais ddig Neu anffawd yn dal Cynffig. Ond. cyn hir, trwyn liir tren arall—welwn A golwg mwy diwall; Maddeuer i'm gamddeall Iaith y gwr, fi wnaeth y gwall. Cwmparc. W. E. JENKINS.
ER GALARUS GOF i
ER GALARUS GOF Am y diweddar frawd Thomas Jones, Talwrn, Llanwrthwl, Sir Frycheiniog, yr hwn a ymadawodd a'r fucbedd bon yn 59 mlwydd oed. Wele un o'n brodyr ffyddlon Wedi cefnu arnom ni; Mae ei deulu'n gwybod heddyw Bwysau dyrnod angau du; 'Hedeg wnaeth ei ran anfarwol Gartref at ei Arglwydd cu, Os na chafodd wir dderbyniad, Gobaith gwael am danom ni. Thomas "Jones, y brawd £u'n ffyddlon Dros ei ATglwydd yn mhob lie Cyrddau Gweddi, Cyfeillachau, A'r Y sgol Sul fynycbai e', Nes i'w iechyd gwan ei rwystro Ef i deithio ddim yn hwy, Dan gystuddiau bu yn dioddef Am ryw amser boen a chlwy'. Ond fe liunodd yn yr Iesu, Fe aeth adref at ei Dad, Mae ei wraig a'i bump anwyliaid Ar ei ol mewn anial wlad; Rho dy help, O! Dduw, yw'm gweddi, Trwy ein nerthu dan bob loes, Cadw'n golwg, cadw'n meddwl AT y Gwr fu ar y groes. Arglwydd, cofia am y weddw, Hefyd yr amddifaid mad, Dysg hwy rodio llwybrau uniawn Nes ant adref at eu Tad; 0! fy Nuw, cwyd eu meddyliau Mewn ymddiried ynot ti, Yn holl droion croes Rhagiuuiaeth Dal eu meddwl u weh y lIiY. Hwy ant drwy y byd yn ddiogel Os rhont ymddiriedaeth lawn Yn y Gwr iu dan yr hoelion Dros drueiniaid yn gwneyd iawn; Nertha hwy a ninau hefyd, Tra yn teithio ar y 11awr, Fel y gallwn Dy glodfori Yn y tragwyddoldeb mawr. LIJNOS GLYN ELAN. 10, Clifton-crescent, Aberaman.
GWNEYD YN DWT: CAN DDIGRIF.j
GWNEYD YN DWT: CAN DDIGRIF. (Yn Nhafodiaith Canolbarth Ceredigion.) Bu lode.3 or Bording Sewl yn ein ty ni Yn aros pwy ddwarnod am ddou-ddydd neu dri: Mor lion oedd ei llygad, a'i Haw oedd mor wen, Ar unwaith fe gwnipes mewn serch dros y mhen: Dyferai ei geire bach Sysneg fel mel, Nes teimlwn y mynwn hi-deued a ddel. 0 achos fod tipyn' gan deulu y ferch 'Nabyddes fod mam yn llawn bolon i'm serch A thranoeth fe ffeiniodd 'rhen wraig le fynd 0 gatre yn fore i weld rhyw hen ffrynd, Gan weyd yn lied lawen wrth bino ei sho1,- Fe newch chi'ch dou'n brion nes dwa i nol." Fe neithon ni'n brion, nes aeth hi yn bryd I hela rhyw dipyn o gino ynghyd; Ac yna, wrth weled y lodes yn blet Yn darllen yn ddyfal ryw hen novelette, Yn ddistaw sisiales:—frO dyna fawr lwc I mi eich bod ym&, gan nad wy ddim c We. "0 dear," atebai, a'I'wy'n ignorant iawn o bopeth mewn cooking 'ond gneyd fte prynawn'" Fe deimlwn fod aros i hwnW'll go faith, A solves fy hunan i fwrw at waith, Gan weyd dan fy anal: —" Er gwaethaf ei chegs, Fe fyna i eto gael good ham and eggs." Y cig rowd i rosto yn awr ar y tan, A holes yr wyau, gael mynd yn y blan: Fe dores ffreimpaned; ond wfft i fy lwc, Yr olaf o honynt i gyd oedd yn glwc. Fe gododd "My Lady" 0'1 heistedd ar hyn, Gan ddala ei thrwyn rhwng ei bysedd yn dyn. Heb wybod be wnawn, pun ai chwerthij neu lefen, Fe redes a'r ffreimpan i gegin y cefen, I fochyn 'ty nesa danfonwyd y ffest; A dranoeth rodd hwnw yn achwyn ei frest: Heb gig ag heb wyau, rhyw lipin o de I gino a gawsom ein dou yn eu lie. Cyn haner prynawn, nid oedd llestr yn lan Yn unman drwy'r ty,-a diffoddodd y *tan; Ac yna ar unwaith diffoddodd y serch A gynwyd mor sydyn wrth weled y ferch: Fe weles mewn pryd mai dyfodol rhy slwt A gawn gyda lodes nad all wneud yn dwt. Yn awr, bob hen lanciau o ddeunaw i gant, Os byth i briodi y teimlwch un whant, A ga i'n garedig weyd gair cyn y gnewch, Cyn eto am byth rhy ddiweddar gwran- dewch: Na chymerwch, os mynoch,—gadewch ar y clwt Y lodes falchderog nad all wneyd yn dwt. CLEDLYN. (O'r Geninen Eisteddfodol/')
LLINELLAU EE COF
LLINELLAU EE COF Am David Davies, anwyl briod Mrs. Martha Davies, 36, Windsor Street, Trecynon, yr hwn a fu farw Mehefin y 27ain, yn 54 mlwydd oed. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn, Bran ei oes a byr ei hyd; Yn y boreu'n hardd a dillyn, Yn yr hwyr yn wael ei bryd. Nid yw'm hoes ond megis cysgod, Ebrwydd iawn y cilia draw, Tebyg yw i darth yn darfod, Pan ymedy 'nol ni ddaw. Nid oes dinas gyfaneddol Ini ar y ddaear hon, Teithwyr ydym ar ein gyrfa, Gyda chan rhwng lleddf a lion; Nid oes ini un arosfa Yn y babell briddlyd hyn, Rhaid ymddatod o bob rhwymau Sydd yn dal ein serch yn dyn. David Davies o Drecynon Aeth i huno yn y glyn, Persawr flod'yn fu'n ei deulu, A'i wastadawl fywyd gwyn; Mae ei ymadawiad sydyn Yn ein gwneud yn brudd ein bron, Ehan o'n hunain aeth i'r gladdfa Gydag ef yr adeg hon. Er mor anhawdd yw dweyd ffarwel Wrth gyfeillion hoff a mad Fu'n cyd-deithio tiroedd Babel, Pan wynebant arall wlad, Ehaid boddloni, er trwy ddagrau, Am anwyliaid goreu'i rhyw FuJn ein Iioffi a/n hyfforddi, Ac yn gymorth ini fyw. Dafydd Dafis, gwr o gariad, Heb eiddigedd yn ei fron, Gwr ffioiddiai bob rhyw ddichell, A'i gariadus wen yn Hon: Gwr dirwgnach a gofalus, Tad a phriod hardd ei ffyrdd, Ymcdawodd, gwagle mwyach DeimJir ar ei oi gan fyrdd. Cafodd gystudd maith a chwerw, Ffyadiog daliodd dan ei faich, Ehodd ei bwys ar ei Waredwr Er ei dclal a'i Ddwyfawl Fraich; Ni siaradodd eiriau rhyfyg Mewn un storom ddaeth i'w gwrdd, Porthodd ef ar fara'r nefoedd Yn nhawelwch ffydd ddi-dwrdd. Er pob ymdrech wnawd i'w gadw Gan ei hoff berth'nasau cu, Gan feddygon a chyfeillion, A chyffeiriau yn ddiri', U Daeth yr awr i ddiangc adre" 0'1' hen babell brudd a chaeth I ororau tragywyddolfyd Na ddarlunia unrhyw iaith. Huned marwol ran ein cyfaill Hyd y dydd bydd udgorn Barn Yn cyhoeddi Adgyfodiad, A gwneud gorsedd angeu'n sarn; A boed iddo anllygredig Gorff, na wywa byth mo'i wedd, Byth i ganu am Galfaria Yn y wlad nad oes un bedd. Trecynon. B. CYNON EVANS.
Nodion.
Nodion. Golygydd Welsh Gossip" y "South Wales Daily News a. ddyfyna a ganlyn fel engraifft o un o 'englynion y beddau': Ni ddaeth y teg flodeuyn hyn Ddiflanodd mor ddisyfyd Ond i ddangos pa mor hardd Yw blodau gardd y bywyd." Mae hwn yn feddargraff prydferth, ond nid englyn ddim o hono. Nid yw hyd y nod yn englyn talcen slip. Amheuwn a oes un Cymro o'i oedran wedi pregcthu, barddoni, llenora a theithio cymaint ag Elfed. Mae yn awr ar y Werydd ar ei daith i Wlad y Gor- llewin. Wedi glanio yn Efrog Newydd 3, dan aden Cynonfardd ar daith ddarlithic trwy fro y doleri a'r teitlau. Mae y Parch. Enoch Hughes, Cwmtwrch, pre- gethwr poblogaidd arall, yn ngwlad y Ser a'r Brith-resi ar hyn o bryd. Yn dilyn y pregethwyr cawn y cantor- ion. Ar y 24ain o'r mis hwn bydd Cor Glyndwr o Aberpennar yn gadael am wib- daith arall yn yr Amerig. Rhwydd hynt iddynt eto. Mae ffurfiau allanol crefydd yn graddol fyned o-r ffasiwn Erbyn hyn y mae H cadw dyledswydd" yn derm dieithr i lawer o deuluoedd, ac y mae gras o ilaen bwyd yn beth lied brin—mwy prin nag ydyw diod ar ol bwyd. Dro yn ol yr oeddym yn gwrando ar Eglwyswr yn rhoddi pwys neillduol aT agweddau allanol crefydd. Gofidiai fod gras o flaen bwyd yn myned o'r ffasiwn. ac fod yr allor deuluaidd a'i marwor yn oeri. Arwydd o ddirywiad crefyddol, meddai, ydoedd gweled pobl yn peid'o penlinio mewn lie o addoliad pan offrymid gweddi. Diau fod yr arferion hyn lawer yn llai cvffreiin nag yr arferent fod. Mwyach ni ystyrir cadw dyledswydd yn ddyled- swydd o gwbl yn y rhan fwyaf o deulu- oedd. Ac nid edrychir ar 'ofyn bendith yn ffurfiol yn beth anhebgorol er cael y fendith. A ydym yn myned yn llai cref- yddol? Neu ynte myned yn fwy ymar- ferol yr ydym? Os ydym yn esgeuluso yr allanol ar draul dadblygu y mewnol gallwn fod yn dawel ein bod yn gwyro ar y dde, oblegyd nid yw y broffes a'r defosiwn wedi'r cwbl ond cysgod o'r sylwedd mewnol. 0 berthynas i'r penlinio nid yw Ym- neillduwyr yn rhoi cymaint o bwys ar yr arferiad hwn ag a wna Eglwyswyr. Yn mha le bynag y byddo el yr Eglwyswr defosiynol ar ei ddeulin pan fo gweddi yn cael ei hoffrymu, a dibwys ganddo os .bydd i'r weithred anurddo ei wisg. Ond nid yw yr Ymneillduwr mor fanwl yn nghylch ei ystum pan weddiir yn gy- hoeddus. Ofer dadl wedi barn. Gwir, ac nid diogel darogan cyn barn. Er byny y mae Afanydd wedi mentro rhagddywedyd tynged Dr. Crippen fel hyn: — Cropiwyd y Doctor Crippen-yn y ilong, Fel llo hurt yn llibin; Yn ei brawf hwn geir yn brin, E fygir gwynt ei fegin. Ar y dydd cyntaf o Awst dodwyd y Dr. Zimmer i huno yn y gladdfa. Yr oedd yn ysgolor rhagorol, ac eisteddai yn nghadair Geltig Athrofa Berlin. Yr oedd yn edmygydd mawr o Geiriog, ac yr oedd wedi meistroli y Gymraeg yn ddigon da i ddarllen holl nofelau Daniel Owen yn hwylus. Beth yw y rheswm fod rhai pregethwyr Cymreig mor hoff o ddyfynu Saesneg pan yn pregethu yn Gymraeg ? Yn ddiweddar yr oeddym yn gwrando ar bregethwr o Gymro mewn pulpud Cymreig yn dyfynu Aristotle. Adroddodd y frawddeg Aris- totlaidd yn Seisnig ac yna cyfieithodd hi i'r Gymraeg? Fel pe buasai Aristotle y Groegwr yn gallu eisial iaith y Saeson ganrifoedd cyn geni acen o honi! Pregethwr arall dro yn ol a ddyfynai Luth r, ac yn syn ddigon adroddodd eir- iau Luther yn Worms yn yr iaith fain! Haws genym gredu fod Martin Luther yn siarad Cymraeg yn hytrach na Saesneg pan yn dweyd yr elai i Worms pe buasai yn y lie gynifer o gythreuliaid ag oedd o lechau ar benau y tai. Haner awr i'r pregethwr a dwy awr i'r a pierrot" yw hi yn awr. U Let the prophet go and let the fiddler in.Y Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc. Mawr yw yr ymdrech ar hyn o bryd er cael Tywysog Cymru yn Dywysog yn Nghymru. Gwych ydyw Tel o Gwmaman am wneyd englynion heb anystwythder yn eu j cymalau. Dyma ei gyfansoddiad rr Gweddiwr: Ar ei ddeulin gwir addolwr-ei Dad Yw'r didwyll Weddiwr; Ehwydd j'w law ca'r eiddil wr Agoriadau'i Greawdwr. Y pethau difyr sydd yn nglyn a'r gyf- raith! Byddai dyn ion yn chwerthin llawer mwy o herwydd ynfydrwydd y gyfraith onibae am effeithiau y Cwymp! Y dydd or blaen caed dYll yn un o Dalaethau y De yn euog o ddwywreic- iaeth, a thraddodwyd ef i bedair mlynedd a. chwe mis o garchar. Yn ddiweddarach dygwyd cyhuddiad yn ei erbyn o lofrudd- io ei wraig, ond penderfynodd y llvs nas gellid ei brofi am hyny, am ei fod yn farw yn ngolwg y gyfraith i bob cyhudd- iad arall!—Y "Drych," Pwy a all egluro ystyr a Rhigos" yn Morganwg? Y mae gan Faldwyn hefyd ei Ffynon Eigos. Yn mhellach medd Morganwg ei Threcynon a Maldwyn ei Thregynon. Eto mae Penarth yn ngwlad Morgan a Penarth yn swydd Baldwyn. Yr unig wahaniaeth ydyw fod yr acen ar yr "arth." yn y blaenaf ae ar y a pen" yn y diweddaf. Dywedir mai hoff emyn Willows, y gwr hedegog o Gaerdydd, ydyw: U Dwy aden eolomen pe cawn, Mi hedwn a chrwydrwn yn mhell.' Y syniad cyffredin am y crogwr a'r crwner ydyw mai dynion calongaled a dideimlad ydynt. Dichon fod rhyw- beth yn y syniad yna, ac mai eithriad i'r rheol ydoedd Berry y dienyddiwr, yn mynwes yr hwn yr oedd peth teimlad, er gwaethaf y ffaith ei fod yn cael bywiol- iaeth ar gefn marwolaeth, a, marwolaeth yn ei ffurf hagraf. Eithriad yn myd y trengholwyr dra- chefn, efallai, ydoedd Mr. Danford Thomas, y crwner Llundeinig a fu farw y dydd o'r blaen wedi cynal cwest uwch- ben meirwon dros ddeugain mil o weith- iau. Yr oedd efe yn ddyn tynergalon a charedig, ac yn wir gyfaill i'r tylawd. Cymro o Gaerfyrddin, tref y diweddar Syr Alfred Jones, oedd efe. Englynwr tirion a naturiol ydyw Elfed. Yn sicr ddigon mae rhywbeth yn hynod o dlws a thyner yn yr englyn hwn, ac y mae mor llyfn a'r afon Doed pob tad yn fwy tadol,-yn mhob Y bo mwy o'r mamol; (mam Nes i Hunan yn swynol—ar bob tu O'i ddolur dyfu i ddelw'r Dwyfol. Achwyna y siopwyr fod pawb wedi myned ar eu gwyliau, ac achwyna y rhai sydd ar eu gwyliau fod Haul y dydd ar holiday. Beth bynag nid yw Caw, o Ystafeli y Gwlaw, wedi cael gwyl am amser. Mae efe yn brysur ac egniol iawn, a chawsom yn ddiweddar yn lied helaeth o gynyrch ei law a'i lafur.
——— I DATGANIAD COFFA WDWRIAETHOL…
——— DATGANIAD COFFA WDWRIAETHOL Am y brawd Dafydd Beynon, Cwmdar. 'Roedd Dafydd Beynon yn wr da, Yn wrol, ac yn bur, Ei enw'n barchus, cofiaf ef Tra'n trigo yn y tir; Ond trwy afiechyd blin a thrwm Ei fywyd ddaeth i ben, A'i enaid hedodd fry at Dduw I I'r gwynfyd uwch y nen. Os 'madael wnaeth ein cyfaill mwyn 0 gylch pleserau'i byd, Mae heddyw yn nhragwyddol swyn Nefolaidd gor o hyd. Boed hyn yn nod i ninau oil Fel nad el enaid neb ar goll; Ac 0 mor hyfryd yw cael un I'n harwain trwy'r Iorddonen flin. MYFYR BETHEL.
MARW NI WNA'R OMERIAITH.
MARW NI WNA'R OMERIAITH. Mae'r hen Gymraeg yn myn'd i fyn'd." Dyna haeriad Dici Sioni Dafi. yn nghlyw Prydydd Paradwys. Bu daroganiad drygionus Dici yn foddion yebrydoliaeth i'r Prydydd ,oblegyd mal hyn y canws dan gynbyrfiad yr awen a'r foment mown atebiad i'r gan brophwyd:- Fe neidia Bannau Brychan Fel wyn ar gwr y ddol, Fe reda afon Hafren Filldiroedd yn ei hol, Bydd sprag yn rhod y cread, Bydd scotch ar lwybr y ser Cyn byth dystewif llafar Yr hen Gymreigiaith ber. Bydd nadrodd yn y Werddon, Bydd salmon yn y Taf, Bydd picnics ganol gaiiaf Ac eira ganol haf, Anghofia gwr ei gariad, Anghofia mam ei phlant, Cyn yr angbofia'r Cymro'r aeg Sy'n nwsig yn ei fant Stol odro fydd sedd Idris Mewn beudy yn Sir Fflint, A'r Wyddfa fydd yn dawnsio Drwy Fon yn mraich y gwynt; Bydd Eheswm ar ei helor, Bydd Rhinwedd yn ei harch Pan beidia iaith y Cymro A bod yn nod i barch. Bydd glo yn hen Gors Fachno, Bydd mawn ar frig Pen Pych, Fe groesir o Sir Benfro I'r Werddon ar dir sych; Olwyna hearse yr huan Hyd heol las y nen Cyn gwelir elorgerbyd Iaith anwyl Gwalia wen. Gwneir bara heb ddim burym, Gwneir teisen heb ddim toes, Bydd heddwch rhwng cantorion, Heb neb yn tynu'n groes n j Fe lyncir simnai'r Bwllfa Gan dwnel Abernant Cyn llynca iaith yr estron Aeg swynol Dewi Sant.
Adolygiad.
Adolygiad. Y GENINEN EISTEDDFODOL. Fel arfer y mae y Geninen Eisteddfod- 01 yn llawn o bethau da a buddiol. Yn hon y cawn arme! cynyrch eisteddfodau Cymru, ac y mae clod yn ddyledus i olygydd y Geninen am arbed cymaint o ber la u' cystadleuaeth rhag myned ar ddifancoll. Yn y rhifyn hwn cawn gan Ab Hevin, Aberdar, i "Henaint." Gwneyd yn dwt" ydyw testyn can dwt o eiddo Cledlyn. Mae yn ddifyr ac yn bert, wedi ei chyfansoddi yn nhafodiaith canolbarth Sir AberteifL Theodore Roosevelt" ydyw testyn un awdl gadeiriol a gy- hoeddir yn y Geninen hon. Wrth gwrs un o feirdd yr Amerig ydyw yr awdwr, ac yn Eisteddfod Plymouth, Pa., yr enill- odd hon gadair. Hoffwn yr englyn hwn i'r H Pregethwr" gan y bardd Ingram o Fedlinog: Dros Waredwr siarada—disorod Seraph yr areithfa; Aur enau'i ddydd, y rhan dda I euogion gynygia. Cawn yma hefyd ddau englyn arobryn Brynach i Syr S. T. Evans yn Eisteddfod Pontneddfechan ddwy flynedd yn ol. Wele y blaenaf o honynt; Iraidd frawd, pen Rhyddfrydwr,-sy'n Senedd, yw'r Cyfreithiwr (swyn Cyffredinol, hudol wr Hyawdl yw fel dadleuwr. Dyma englyn cryf Ap Valant, Penrhiiv- ceiber, i Gywilydd Dewr genad gwyd i'r gwyneb — yw Ac hawliwr eywirdeb, (C'wilydd, Synwyr o ymgasineb A'n gwahardd ni i gwrdd neb. Gallem feddwl fod. yr awyr long yn ffafr-destyn gyda'r beirdd. Yn y Gen- inen hon mae o leiaf bedwar o seiri llongau yr wybren, un o ba rai yw Ab Hevin. Ar ddalen olaf y Geninen ym- ddengys pum englyn, ffrwyth ysgrifell ein cymydog Tel o Gwmaman. Wele ei englyn i a vVg" Cwmwl o gread camwedd—ydyw Gwg Ar deg ael yn gorwedd; Nod anhygar wisga'r wedd Adeg llanw Digllonedd.
[No title]
From a country newspaper: Wanted a young man, able to cook, scrub, paint, drive, look after a pair of horses, clean a carriage, feed cattle, clean boots, win- dows, etc., and make himself generally useful,"
Ychydig o Hanes Eglwys I Annibynol…
Ychydig o Hanes Eglwys I Annibynol Bethlehem, Abercwmboi, CO Adroddiad Blynyddol yr Eglwys.) Y mae llawer o wragedd wedi bod yn mhob oes yn enwog mewn crefydd, ac wedi eu coflyfru gan Dduw yn ei Air, megys yn tra rhagori mewn amryw rin- woddau, fel Sarah, gwraig Abraham; gwraig Manoah, mam Samson; Ruth a Naomi; Hannah, mam Samuel; Eliza- beth, mam loan Fedyddiwr; Mair, jnam ein Harglwydd, etc. Felly am achos Annibynol Abercwmboi, y gwragedd sydd yn dod i'r golwg yn gyntaf yma. Yn mhersonoliaeth Mrs. Ann Davles (saddler) y gosododd Annibyniaeth Abercwmboi ei throed i lawr gyntaf yn y lie. Un o ragorolion y ddaear oedd hi yn mhob ystyr i'r achos, trwy ei haelioni, ei char- edigrwydd, a'i llettygarwch i bawb ag a fuasai yn dod heibio i Bethlehem. Hi oedd yn arwain cyfarfod gweddi y merched a'r gwragedd, yr hwn oedd yn llewyrchue ac mewn bri dan ei gofal. Pan dorodd diwygiad 1859 allan, aeth Mrs. Davies i gymhell rhai o wragedd y lie i ddod i gwrdd gweddi y gwragedd, yr hwn a gynelid yn rheolaidd bob wythnos. Bu yn cymhell un Sarah Beddoe. "Na," meddai Sarah, yr wyf cystal, os nad yn well na neb o honoch." Aeth Mrs. Davies i'r cwrdd, ond tua haner yr oedfa, dyma ddrws y cape] bach yn cael ei agor yn ddystaw bach, ac er syndod a pheth dychryn, pwy ddelai i fewn ond Sarah Beddoe, a'i breichiau yn llawn toes (oblegyd wrth y gwaith o wneyd bara yr oedd hi). "Dyma fi yn dod," ebai hi. Bu Mrs Davies (y saddler) yn fy nghym- hell, ond dywedais wrthi yn ddigon gwawdlyd, fy mod i cystal a neb o hon- och. Ond daeth Gwr yn gryfach heibio i mi, ac yr wyf wedi gorfod dod fel yr wyf, yn llawn toes i gyd, yn newynllyd am y bara hwnw a ddaeth i waered o'r nef. Diolch iddo Ef byth. Ac ar Ei ben bo'r goron am achub un mor wael ei lun." Dywedir ei bod yn byw heddyw yn Llansamlet, yn wresog iawn ei hys- bryd, ac yn tyuu y nefoedd i'r oedfaon. Bu Mrs. Ann Davies farw Chwefror 7fed, yn 1871, yn 58 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Mountain Ash. Priodol y gellir dweyd am nerth gweddi ei bod yn anorch- fygol. H Mae gweddiau hen weddiwyr fel angylion yn y gwynt. Pwy a wyr sawl bendith heddyw sydd yn dod o'r amser gynt?" Yn nghanol y diwygiad yma aeth rhai o Saron, Aberaman, i lawr i Mountain Ash, i gydaddoli a seintiau oedd yno, ag wrth ddod adref yr oeddynt yn canu. Pan glywyd y canu, aeth rhai o'r lie hwn i gyfarfod a hwynt. Awd tua'r lie yr oedd y capel yn cael ei adeiladu. Buwyd yno yn canu ac yn gweddio hyd un o'r gloch y boreu am lwyddiant Sion. Cysegrwyd y lie ag emynau Edmwnd Prys ag ereill. Wele rai o honynt: — "Pan adeiladir Sion wych, A hon yn ddrych i'r gwledydd, Pan welir gwaith yr Arglwydd ne', Fe'i molir E'n dragvwydd." Eto, r « Fe welir Sion fel y wawr, Er tloted y'w ei gwedd," etc. Eto, "Dymunwn heddwch honj Boed Sion yn ben moliant, Cydseinied yr Eglwysi glan, I'w Brenin gan gogoniant." Y nesaf yw Mari John, neu fel y gelwir hi gan bawb Mari Wil Shon. Fe ddy- wedir mai yn ei thy hi y cynaliwyd y cwrdd achlysurol cyntaf yn y lie. Yn y ty hwn mae Mr. George Evans yn cadw ei shop greengrocery yn awr; y ty hynaf yn y lie. Cyhyd ag y bu ei hamgylch- iadau yn caniatau, hi fu yn dda i'r achos. Bu farw Mrs. Mari John, Mehefin 18fed, 1897, yn 76 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Mountain Ash. Wedi hyn daeth un Mari Morris yma, ac yn mhen rhai blynyddau aeth i America. Dyma y tair ag a fu yn golofnau i'r achos. Yr oedd- ynt yn aelodau yn Saron, Aberaman, cyn cychwyn yr achos yma. Yn y flwyddyn 1858 y dechreuwyd moddion crefyddol sefydlog yma, a hyny yn benaf trwy ym- drech didor y diweddar Barch. J. Davies, tra yn weinidog yn Saron, Aberaman. Yn Hydref, 1858, y corffolwyd yr eglwys, ac yn fuan ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. Win. Williams, o Brynmawr, i fod yn weinidog. Gyda'r Methodistiaid oedd efe cyn hyn, ac yn Jenkin Street yr addolid y pryd hyn, drws nesaf i'r pobty (bakehouse). Cynyddodd yr eglwys yn fawr, fel y bu gorfod edrych am le i adeiladu capel. Ar y 23ain o Fai, 1859, gosododd Mr. D. Davies, Maosyffynon, i lawr gareg sylfaen Bu efe yn noddv/r i'r achos drwy ei oes. Bu Mr. Williams yn llafurio yma am ddeng mlynedd wedi iddo roi yr eglwys i fyny. Aeth i fyw gweddill ei oes i Lanwrtvd. Ile y bLi efe farw. Rhif yr aelodau pan ddaeth Mr. Williams yma oedd 22ain, ond erbyn heddyw mae yr eglwys yn rhifo dros 300 o aelodau. Diaconiaid cyntaf yr eglwys oeddynt John Everett, yn byw wrth y Gwaith, Aberaman; David Morgans, yn byw yn ymyl Saron; a Thomas Davies, yn byw yn Aberaman—yr oil o honynt yn aelodau .yn Saron. Dyma brophwydoi. iaeth Esaiah yn cael ei gwireddu yn hanes Eglwys Bethlehem, "Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref; Myfi, yr Arglwydd, a brysuraf hyny yn ei amser." I Eglwys Bethlehem y perthyn y clod o godi un o'r cenhadon goreu anfonwyd allan i'r byd paganaidd, i Vizagappatam, India, -sef y Parch. Morris Thomas. Y mae yma gapel tlws ac eang at, wasanaeth y gynulleidfa fawr sydd yn dod i wrando yr Efengyl bob Sabboth. Yn mhen dwy flynedd wedi i Mr. Williams ymadael, rhoddwyd galwad i'r Parch. D. R. Davies, Waenfawr, Sir Caernarfon. Genedigol o Lanllwni, Sir Gaerfyrddin, yw Mr. Davies. Symudodd ei dad i Dowlais i weithio. Ymaelododd yn Eglwys Bethania, dan weinidogaeth y Parch. John Hughes. Drwy fod tad Mr." Davies yn dra hoff o ddarllen. yn afaelgar mewn gweddi, yn siaradwr ffraeth, ac yn ffyddlon yn yr holl wasan- aeth, meddyliodd Eglwys Bethania fod defnyddiau pregethwr ynddo, a chafodd gymhelliad i ddechreu pregetiiu, ond yn lie hyny cyfarfyddodd ag angeu disvfyd drwy i gareg syrthio arno yn y gwaith glo a'i ladd yn y fan, Mai 6fed, 1844, pan yn 28ain oed, gan adael gweddw a thri o blaat bychain i alaiu eu colled. Yr ieuangaf o'r tri oedd Mr. Davies, blwyHJ ac un mis ar ddeg ydoedd efe y diwrnod du hwnw. Yr oedd yn Hanc bywiog, gweithgar, a ffraeth. Anturiodd un tro i ddadleu a ffermwraig, yr hon a ystyrid yn allaog ar gwestiwn bedydd trochiad. Wedi ei chornelu ganddo, dywedodd yn lied swrth. Fachgen, pe tae ti yn cael gras, gallet wneud pregethwr." "Nid gyda'r Baptists" oedd yr ateb parod. Cafodd gymhelliad i ddechreu pregethu yn Brynmenyn, ond symudodd i Dowlais, a chymerodd ei lythyr i Bethania. Natnriol meddwl fod Be+bania yn gysegredig yn ei deimlad, a bu iddo ef yn Bethel mewn gwirionedd. Yn myn- went Bethania claddwyd ei dad. Nid hir y bu yn yr eglwys cyn tynu sylw fel dyn ieuanc gyda'r achos. Yr oedd yn ffydd- Ion yn yr Ysgol Sul a chyfarfod gweddi y bobl ieuaiiie-n-iagwrfa dynion cy- hoeddus gyda chrefydd. Cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Effeithiol iawn iddo ef oedd dywediad un o'r hen swydd- ogion. "Dyma ni 'nawr yn mhen 19 mlynedd yn cael cyfle i wneud i'r mab yr hyn yr atalwyd ni wneud i'r tad." Yn mis Awst, 1863, y dechreuodd ef bregethu, pan oedd yn 21ain oed. Ei destyn ydoedd 1 loan iv., 9. Efe oedd yr olaf a godwyd i bregethu dan weinidogaeth Mr Hughes, a chafodd y drydedd ran o'i lyfrgell wedi ei farwolaeth. Wedi bod yn yr ysgol yn Llanybyther, Caerfyrddin, yn parotoi, derbyniwyd ef i'r Coleg yn 1866. Wedi bod yno dair blynedd, urddwyd ef yn Waenfawr, Caernarfon, Pasg, 1869. Teimlodd yn fuan fod gwlad y llechi yn rhy oer iddo, ac yn Hydref, 1870, symud- odd i Abercwmboi, gwlad y glo. Gwelodd yma lawer o helbulon yn nglyn a'r gweithfeydd, ond daliodd i weithio yn ddiwyd i dalu dyled yr hen addoldy, ac i adeiladu yma gapel newydd hardd yn 1878. Wedi bod yma wyth mlynedd, symudodd i Rydyceisiad a Gibeon, Sir Gaerfyrddin, lie y mae yn parhau yn weithgar a dedwydd. Cynaliwyd Cyrdd- au Sefydliad Mr. Davies yn Abercwmboi, Chwefror laf a'r 2il, 1871. Y rhai a gymerasant rhan yn y cyfarfodydd oedd- ynt y Parchn. Wm. Morgans, Myddfai; W. J. Richards, Penywern, Dowlais; J. T. Evans, Dowlais; J. Evans, Cwmaman, Aberdar; Wm. Williams, Hirwaun; W. Edwards, Ebenezer, Trecynon; J. Thomas, Salem; D. Jones, B.A., Mer- thyr; Dd. Price, Siloa; Jonah Morgans, Cwmbach; Jenkin Rees (B.), Abercwm- boi. (I'w Barhau.)
Advertising
FOSTER CLARK'S CREAM CUSTARD Is as superior to ordinary Custard as Rich Cream is to ordinary Milk. Try it to-day. 6ad. tin makes 12 quarts. Id. pkt. makes 1 qt. J. BOSHER, House and Estate Agent. Rents Collected, Monthly or Quarterly settlements. 25 years experience in col- lecting. ADDRESS Over 38 Victoria Square, and 8 Brondeg Terrace, Aberdare. London. London. A Board Residence. HOMELANDS," 44 & 79 Guilford St., Russell Sq., Recommended by Welsh Visitors. Central, home-comforts, liberal table, bath (h. and c.), Bed and Breakfast, from 3s, Od. Reduction for friends sharing room. W. O. DAVIES, Watchmaker, Jeweller and Engraver, 43 Oxford St., MOUNTAIN ASH. Best House in Town for all Watch, Clock and Jewellery Repairs. No job too difficult. No job too small- All work done on the premises, and Guaranteed 12 Months. B Summer Tours Y To Glasgow. Firth of Clyde, Scottish Highlands, Belfast, Portrush, North of Ireland, Isle of Man. S From Bristol, Cardiff, Swansea and Newport. E CIRCULAR TOUR to Glasgow, Edinburgh, London, &c. Guide Book and all particulars A free from ALEXANDER GREGOR, 13, Bute Crescent, Cardiff. ¡ JONES' SEWING MACHINES. Also Agents for Bradbury ami UI Makers of Sewing Machine., J. BUGLER & SON, 42OCardiff Road, Aberdave-