Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

----""V Oeninen" yn 25ain…

News
Cite
Share

"V Oeninen" yn 25ain Oed. RHIFYN da dros ben ydyw "Geninen" Ionawr. Nid llawer o gylchgronau Gymreig all honi eu haniad mor bell yn ol a'r flwyddyn 1883 er, yn ol erthygl ddyddorol Anthropos, i lawer ohonynt gael eu geni tua'r flwyddyn hono, ond daeth dydd eu harwyl yn fuan iawn. Gwelir hefyd fod y clod am hyn yn disgyn i'r golygydd a'r sylfaenydd yn unig, ac y saif y Geninen i gario enw Eifionydd i'r oesau a ddaw fel gwr lien- gar, anturiaethus a llwyddianus. Ceir cipdrem lawn yn yr erthygl gyntaf ar hanes y cyfnodclion Cymreig yn ystod y chwarter canrif diweddaf gan Anthropos Erthygl fywiog a graenus, teilwng o'r lienor campus hwn. Pan yn ymwneyd a'r flwyddyn 1890, yn mhlith pethau eraill, gwelir y geiriau canlynol :—" Un arall o'r llu ydoedd Yr Athronydd Cymreig," dan olygiaeth y diweddar Monwyson. Credir iddo yntau ym- ddangos braidd yn anhymig, cyn i athroniaeth gael ei gwarthfawrogi yn briodol yn ein gwlad ond y mae yn dra sicr ei fod yn gyhoeddiad gwych, yn meddu ar safon uchel, ac yn rhagredeg- ydd i gyfnod gwell." Ofnwn ninau i Monwyson a'i fawredd ymddangos a diflanu cyn i'w wlad na'i enwad weled ei ogoniant. Eryr o feddyliwr oedd y diweddar Barch William Evans on- wyson), a ninau megis adar y to yn hel ein tameidiau yn rhy isel i lawr. Dyma ddywed am 1894, daeth y di- weddar Barch John Evans (Eglwysbach), jtfl "Fwyell" i goedwig llenyddlaeth. Yr oedd yr enw yn awgrymiadol; a gellir dweyd am y Golygydd, ddarfod iddo gyfodi ei "fwyell mewn dyrysgoed." Yr oedd min ac awch ar Y Fvvysll," er nas gellid dweyd mai" tori i lawr," neu ddinystrio, oedd ei phrif amcan. Ond purion peth fyddai cofio fod yna ddwy Fwyell" yn perthyn i lenyddiaeth Cymru-" Bwyall Llawdden" a "Bwyell Eglwysbach." I'r sawl a ddarllenodd y "FwyeIl" nid oes eisiau son am ei rhagoriaeth llenyddol. Beirniadaeth ar Chwarter Canrif o Lenyddiaeth Cymru yw'r erthygl nesaf gan wr o farn a Chymro pur, neb llai na'r cadeirfardd T Gwynn Jones. Nid yw pobpeth y Lenyddiaeth yn dda ganddo, a dengys y rhagoriaethau a'r gwendidau yn glir a theg. Doniol iawn yw ei ymdriniaeth a'r nofelau a nofelwyr: dyry yntau Daniel Owen ar y blaen hyd yn hyn ond gesyd obaith am ei hafal eto'n fuan iawn. Yn mysg ei sylwad- aeth ceir Yn y cyfnod hwn hefyd y tyfodd yr ystori fer a chawsom samplau rhagorol o honi gan Mrs Saunders, Miss Winnie Parry, a Mr R H Williams. Nid yw'r ystori fer yn nwylaw yr ysgrifenwyr hyn yn ddim tebyg i'r ystori fer Saesneg. Danghosodd Mrs Saunders allu mawr i ddisgrifio hen gymeriadau a rhoddi lleferydd i deimladau crefyddol. Y mae dawn Winnie Parry yn ddawn brinnach, y ddawn i weled a deall bywyd plant a hen bobl yn enwedig. Tebycach i'r chwedl fer Ffrengig yw eiddo Mr R H Williams, a medr olrhain teimladau nes cynyrchu'r un effaith ag a gyfyd rhai 0 ystraeon byrion Guy de Maupassant. Gair mawr onite, cydmaru Cymro ieuanc i un o'r gwyr blaenaf ynnglyn a'r math yma o waith; ond nid gortnod, gan fod dyfodol disglaer i'r Nofelwr hwn; ac nid rhyfedd ei fod mor naturiol a theimladwy, gan ei fod yn "fab y mynydd," wedi ei dynu drwy ddyfroedd chwerwon profedigaeth ac yn gallu bwrw ei galon ar bapwr yn rhwydd mewn Cymraeg glan ac ystwyth. Mae y Parch D Stanley Jones, er yn fyr, yn ysgrifenu'n dda ar "Oriel Goheb wyr y Geninen." Cwestiwn berwol y dydd, sef Sosialaeth," sydd gan Mr Edward Foulkes, Llanberis. Dwy dudalen gymer Elfed ar Y Pulpud a'r Iaith," ond y maent fel Elfed, yn llawn trysorau. Er engraifft, Y mae, eto, ryw goegni ysgoeheigaidd yn gyfrifol am lawer o eiriau estronol. Bu raid i bawb ohonom wrth amser i ddysgu nad oedd raid codi'r termau diweddaraf o'r llyfr newydd tanlli, er mwyn argyhoeddi gwrandawyr meddyldrwm ein bod yn ddarllenwyr, ac ar flaen yr oes. Ond wedi cael rhyw gymaint o brofiad mewn dwy iaith, anturiaf ddweyd nad oes dim yn werth ei gyhoeddi o'r pulpud nas gellir ei osod mewn iaith ddealladwy. Dichon y bydd raid gadael y term gwy- ddonol heb ei arfer, ond hawdd gusod ei gynwys mewn gair neu eiriau gyficant ei ystyr i'r gwrandawyr. Pan demtir ni i arfer termau o'r fath, doeth yw gofyn yn ddystaw-A ydynt yn anhcbgorol er mwyn goleuo, neu arfgyhoeddi, neu gadarhau enaid anfarwol ? Nid oes dim eiddilach na choegni, o flaen awel o ddi- frifwch." Dyma un arall, Nid oes yn holl gylch gwirionedd Crist ddim nas gellir ei draethu mewn Cymraeg glan- gan ddeall, wrth hyny, Gymraeg sydd yn byw heddyw, ac nid wedi gorphen byw ddoe. Os bydd arni eisiau gair o iaith arall, gwyr pa fodd i'w Gymreigio, a rhoi iddo, o leiaf, le gyda'r gweision cySog, os na fynn ei alw'n fab." Da iawn Elfed. Aed y genadwii adref. Tir newydd, fel arfer, sydd gan y Parch Rhys J Huws. Ei destyn ydyw "Ieuengrwydd a Henamt." Gwna waith da. Gorphena gyda'r brawddegau hyn _u Beth a gasglwn oddiwrth hanes cy- fundebau ac enwadau am Ie yr ieuanc a'r hen yn yr eglwys ? Cymerer y cy. fundebau Cymreig, er engraipht. Nod- weddir yr Annibynwyr gan ryw ieuen- grwydd rhyfedd codant angor yn ami, ami, a rhoddant le eithriadol i wyr ieuainc yn eu huchelwyliau a'u bywyd eglwysig; Perthyn iddynt hanes gogoneddus. Rhoddodd yr enwad ei waed a" arian yn ddiwarafun ar allorau rhyddid ond tybed fod pob j achos a, achleswyd ganddo yn deilwng o waed mor ddrud ac o olud mor brin ? Rhai o gyffelyb aidd yw y Bedyddwyr ond o orfod jw fwy cynullgar na'r adran arall o'r Cynull- eidfaolwyr. Rhydd y Wesleyaid le parchus iawn i'r hen a'r aeddfed ac y mae athrylith drefniadol fel yr eiddo Dr Rigg yn cael awyrgylch gydnaws a hi ei hun i dyfu yn nhrefniant y cyfundeb. Rhydd y Methodistiaid Calfinaidd le arbenig i'r ddawn drefn- iadol a medd y Corph athrylith i bwyllgora'n gall a threfnu'n ddoeth Mae llwyddiant yr enwad hwn i lyw odraethu anian wyllt y Celt, ac i reoli camrau beiddgar y Cymro, yn dystiol- aeth gref i werth amynedd, profiad, a phwyll. Gall y cfedwr cryf redeg pan fo enaid mewn pergl, a gall eistedd yn amyneddgar i drin y galon glwyfus- calon y byddai colli dyferyn o'i gwaed yn peri iddi beidio a churo, ac oeri am byth. Mor wasanaethgar ac mor dlws yw trigo o ieuengrwydd a henaint yn nghyd Pawb ei farn, ynte. Nid fel yna yr edrych pawb ar y cwestiwn Y mae yn y rhifyn dwysged o erthyg- lau penigamp ereill ar wahanol bynciau teilwng o sylw ond ni chaniata gofod i fanylu, ac yn eu mysg ceir un o waith y lienor Wesleyaidd gwych, Mr Edward Rees, Y.H., Machynlleth, ar 11 Lyfrydd- iaeth Machynlleth." Cawn y geiriau i'w barhau ar y terfyn yn dynodi fod ychwaneg i dd'od. Diolch am hyny. Telir gwarogaeth ynddo hefyd i'r Hy- barch Owen Williams, gyda'r Wylwn am Owen William,—ein gwrol Ddyngarwr diadlam,— Gwr uniawn, gw&r, na wnai gam, A'r dawnus wladwr dinam. Yn y Demi yn Hawn o deimlad,—dedwydd Y didwyll gymeriad Trwy ganmol y Dwyfol Dad, Codi a wnaeth y Ceidwad. Yn llawn, A'í ddagrau yn lli'—hyawdledd— Mawl-odlau addoli A'i holl nerth cymellai ni Am Ryddid i ymroddi. T. JONES-HUMPHREYS. Dolefus yw dy lwyfan,-O! Walia!- Owen Williams ddyddan Wedi 'i gloi o'th bwlpud glAn j- Greddfol i ti yw gruddfan. Collodd ein brodir dirion-dduwinydd Enwog,-collcdd Arfon Athronydd aeth ar union Yn wyn sant i fynwes Ion. GWESPYR. Yn ddios, y mae rhifyn Ionawr o'r Geninen yn un a'r, rhai goreu ac yn haeddol o sylw gan bob Cymro llengair. LEO. 0§0

O'r Wyddgrug.

Football.

WELSH CUP.

THE POWER OF INFLUENCE.

TACKING VELVET.

HOT MILK AS A STIMULANT.

SOMETHING FOR YOUNG FOLKS.

,1 ! WISE AND OTHERWISE.

! Bhuddlan Fire Brigade Ball.…

THE POOR RELIEF FUND.J

PROPOSED NEW PAVILION.

HINTS FOR TIl, HOME,j

- i'ilOUGIITFUL. .