Hide Articles List

8 articles on this Page

Rhyl County Court.

- ■ - o§o Welsh News in Brief.

WHAT IS THE VALUE OF THEr…

--Y Golofn Gymraeg.

News
Cite
Share

Y Golofn Gymraeg. Yn Mysg y Gweithwyr. ('AMONGST THE WORKING MEN.') THOMAS POOL, XEC TWM PWL. Yn ein hysgrif ddiweddaf dywedasom nad 0 oedd Thomas yn hoffi. gweled hedd- id-wad dyeithr, ac fel esboniad dros hyny, efallai y bydd yr hanesyn hwn o'i hanes yn taflu ychyd- ig oleuni ar y pwnc. Un tro cafodd Thomas Pool ei hunan eto wedi crwydro yn rhy bell o'i rownds, a syrthiodd i afael dau beddgeid- waid o Saeson, v rhai nas gwyddant fwy am Twm mwy nas gwyddai yntau am danynt hwy- thau. Cymerwvd ef i fyny ganddynt am fegia, a chan mai clyeithriaid oedd ar y fainc, psn- tierfynodd yr hen frawd ar gynllun newydd i ymrvddhau o 'afaelion v gyfraith, a chael trip rhad ar gost y sir bono i'w hen baradwys., Dyffryn Clwyd. Pa-n roddwyd Thomas yn y bocs. dechreuodd ganu nerth ei geg hen benill- ion Cymraeg, er mawr synded- a dychryn i bawb yn y llys. Edrychai pav/b ar eu gilydd fel pe buasai diwedd y byd wedi d'od. Daeth yr ustusiaid i'r penderfyniad fed Thomas, druan, wedi colli ei fentol, ac mai y lie imvyaf cyfaddasol iddo ydoedd Gwallgofdy Dinbych. Felly penderfynasant i'w anion yno, o dan ofal y ddau heddgeidwaid a'i cymerasant i'r ddalfa. Cyflogwyd cerbyd i'w gyrchu i'r orsaf sta- tion'). Wedi hyny trosglwvddwyd ef i g rbyd1 v fiordd haiarn, a'r ddau blismon yn ei wylio yn ofalus, fel 11a chaff0 fantais wneuthur un- rhyw niwaid nes cyraedd Dinbych. Wrth gwrs, j>leserai Thomas ei hunan wrth ganu ar hyd y daith. Wedi cyraedd at fynedfa y Gwall. gofdy, cyfarchcdd Thomas y ddau heddgeidwad yn Seisonaeg mewn geiriau tebyg i hyn Eon- eddigion, meddai, rhag gwneyd ein hunain yn ffvliaid ein tri yn ngwydd dynion callach na ni, byddai yn well i ni geisio d.eall ein gilydd. i'a un ai chwi sydd yn d'yfod a mi yrna, ai mi sydd yn dyfod, a chwi yma ? Credaf, ebai yr hen lwynog, eich bod1 chwi y tro hwn yn 1-1 a we 1 gwirionach na mi. Ond tybiai y ddau blismon fel arali, a gyrwyd Thomas yn mlaen. Gwyddv ai yr hen frawd yn well am y diweddar feistr y (wallgofdy, Mr. Robinson, na'i ddau gydym aith, a phan y daeth Mr. Robinson i'r golwg dywedodd, EIolo,- Thomas Pool, beth a'ch dyg- odd chwi yrna ? Wei, s-r, ebai Thomas, y ehwi sydd i benderfynu. hynv. Yr wyf fi wsdi ceisio gan y ddau vma, welwch, i ddyfod i ddealltwriaeth pa un ai mi sydd yn dyfod a hwv o dan eich gofal, ai vntau ai hwy sydd yn dyfod a mi o dan eich gofal. Felly, Mr. Ro- binson bach, y chwi sydd i dori y ddadl. Gwenodd y boneddwr hwnw, a dywedodd, gwn hyn beth bynag am. danoch chwi, Thomas, nad oes ganyf eich eisiau chwi o elml fy ngofal ar hyn o bryd o leiaf. Felly, yr wyf yn e-ich hanfon chwi ymaith ar hyny. Diolchoddi yn gynes i Mr. Robinson, ac vchwanegodd wrth fyned vmaith Gobeithiaf y bydd y ddau loerig yma yn gallach pobl 051 byth y gwelwn ein gil- ydd etc. Mewn blynyddoedd lawer ar ol hnlI byddai y diweddar -fr. Robinson yn cael llaw- er o foddhad wrth son am. gyfrwvsdra Thomas yn nglyn a'r d'igwyddiad hwn. Y mae llawer o fiynyeldoeckl wedi dirwyn i fyey er'.s pan welsom Thomas Pool ddiweddaf, I L ac ychydig o'i hanes a glywsomi byth wed'yn. Digon tebyg ei fod yntau wedi -ei gludo at ei dadau er's hiramser bellach. Druan o Tho- mas, cafodd weled a theimlo llawer yn ystod ei holl grwydriadan. C'afodd. yrfa ddaearol ddi- gon ystorrnus, a havvdd y gallasai dyvveydi yn ngeiriau y gwr doeth, Gwagcdd o wagedd gwagedd yw pobp-eth yn y byd presenol.' Ym- falchiai yn wastad ei fod wedi cynilo cymaint o chwarter mil o bunau, neu ddau cant a haner hyd yr amser olaf y gwelsom ef. Gallai nodi yn fanwl v svmau a'r p-ersonau y rhoddodd ei arian o dan eu gofal i'w cadw hyd nes v byddai arno eu hsisian. Ond fel yr awgrymasom- ar y cychwyn, but Thomas fel llawer yn rhy lac yn ei adnabyddiaeth o ddynion-; allan o'i chwarter mil punau crsdai ef ei hunan nad oedd g ami do sicrwydd ond yn unig am rhyvv swin bychan a adawodd o dan ofal un dyn gon-est, yr hwn oedd yn eu cadw yn cfalus hyd yr adeg v byddai yn galw am danynt. Ond am y ll-eill, y mae lie i o-fni eu, bod wedi niyned yn ysglyfaeth rhwng y cigfranod a'r cwn. Gresyn na buasai yr hen bererin wedi bod yn ddigon llygadog i ro- dai. ei holl -arian mewn lie dyogsl, fel y cawysat fyw arnynt yn ei hen ddvddiau. Ond fel arall v mvrrp pothau fod. ('-allasid' vn havvdu <Jd\ weyd am dano, Cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn focl, Fel crwydryn y d-'ichr-suoda1 Tho- mas Pool ei yrfa yn y byd, ac fel crwydryn di- gartref, yn ddiau, yr aeth ymaith o hono. Yr oedd yn gybydrl gwirior.edd.ol buasai yn well gand-do oddef tori un o'i fyse-dd na gwario ceiniog allan oï bwrs. l,'el Ila-,N-er cyoydd o'i flaen ac ar ei ol, yr oedd' yn well ganddo iddynt gael eu gwasgaru yn mysg dyeithriaid iddo, pa rai na wnaethant un drugaredd erioed iddo yn ystod ei holl fywyd. Rhyfedd mor dorcalonus y daw diwedd cribddeiliaeth cybyddion i ben Buasem yn gallu manylu llawer mwy ar hanes Thomas Pool, ond rhag y dichon y bycid mai vn dechr-eu blino ar yr un hanes, diweddwn ei helyntion yn yr ysgri-f hon. Ond wrth wneyd' hyny, fe wel pob dyn a meddylddrych nddo mai nid dyn cyffredin ydoedd Thomas Pool. Er mai crwydryn digartref ydoedd, yr oedd yn feddianol ar lawer o gyfrwysdra. Yn ychwan- egol at hyny, yr oedd yn feddianol ar farn dda, cof rhagorol, a gonestrwydd canmoladwy a rhwng pob peth mentrwn ddyweyd nad' oedd neb yn ei ddydd yn Nghymru yn mysg y werin bobl. yn ogystal ag-yn mysg yr uchel-radd, mor boblogaidd a pharchus ag ef. Er mai hen drampiwr y galwai ei hunan, ac yn hyny yn unig yr ymorchestai, ychydig a dybiasai yr hen gyfaill y buasai ei hanes yn cael ymddangos yn yr 'Advertiser.' Ond. efallai fod llawer o bethau mwy annyddorol wedi ymddangos mewn papurau newyddion na hyn. Chwith genyf feddwl na chawn byth ymgom mwy ar y ddaear a'r hen bererin, Thomas. I'a fodd bynag, gosodwyd arnom y gorc'hwyl anmhleserus1 o gyfansoddi beddargraff iddo pan oeddym yn ei gwmni yn Nyffryn Clwyd a chan ei fod yn elyn annghymodlawn i bob rhagrith a rhodres, yr oedd hyny yn gwneyd v gorchwyl o'i fodd- hau yn fwy anhawdd. Ond tarawsom ar ei chwaeth wedi cyfansoddi y rhigwrn dylynol i'n tyb ni i'r dyben o'i yru allan o'i d.emper, ond fe gawsom ein siomi yn hyny. Hoffodd Thomas y meddylddrych yn gampus, ac ni fuasai waeth i chwi geisio ei berswadio i 11 geisio- eu gwella na cheisio perswadio Rwssia 1 roddi fyny i Japan. Trefnodd Thomas i adael pum swllt yn ei ewyllys i dalu am eu tori ar garreg ei fedd. Ond erbyn hyn, digon tebyg fod y pum swllt wedi eu hysgubo i dir ebargofiant. Rhag y dichon na bydd ysprvd yr hen dramipiwr mewn tawelwch, gosodwn hwy i lawr yma fel y cyfan- soddwyd hwy iddo— Yma mae'n gorwedd gorph Thomas Pool. Pan oedd ar y ddaear, bu'n dd!igon o ttwl Hen gybudd oedd Thomas, a d'weyd yn ddilol, Bu farw mewn carpiau, a gwag fu ei fol. Ow druan o hono, er gwaetha'r hen granc, Fe gollodd ei arian er cymaint ei wane; Mae vntau fel llawer hen gvbudd yn llwm, Xac undyn yn wylo wrth fedd' yr hen Dwm. Ond a gadael cellwair heibio. eidunwn' orphwys. fa dawel i'r hen drampiwr, Thomas Pool, gan derfynu ei hanes ar hyn. (I'w barhaud HENRY HUGHES. Gwaer.ysgor, I O.Y.—Newydd drwg o Gariaaa.Achydig am- ser yn ol aeth Thomas, mab i Mr. a Mr- Birkenshaw, Eagle and C'hitd, of Ile hiwil 1 (;anada. Ond drwg genym ddeall iddo gael ei daraw a chlefyd wedi cyraedd yno erbyrt hyn cyraeddodd y newydd trallodus ei fod wedi marw a'i gladdu: yn y wlad estronbl hono. Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu yn ngwyn-eb y brofedigaeth lem a'u cyfarfyddodo. Cafodd ei ddwvn i fvny fel garddwr yn Talacre, pres- wdfod Syr Pyers Mostyn. Wedi bwrkv ei bren- tisiaeth bu am ychydig gyda .1r. Kelly, Presta- tyn, ac yn ddylynol aeth i wasanaeth -Nir. btor- ey, Mostyn, ac oddivno y symudodd i Ganada. Cafodd gymeradwyaeth uchel gan y boneddig ion uchod, ac edrychid arno fel dyn ieu.anc bucheddol ei fywyd, a rhagolygon dysglaer o i flaen. Ond torwyd ef i lawr yn vroedran- cvn- arol o 25 mlwydd oed. Mor wir v saif vr adnod adnabyddus hono, Yn nghanol ein by- wyd yr vdym mewn angau.' mae Mr. Birken- shaw yn deilliaw o deulu uchel a henafol, a byd'd yn ddrwg gan ei hen gvfeillion yn ardnl- oedd Elanrwst ddeall am y digwyddiad galarus hwn a ddaeth i'w than. Mor gymwys y gellir dyweyd rriddyn wyf o'r pruddaf, Pryf a phryfed yw'r nesaf, Prudd i mi feddwl mai pridd fyddaf, O'r pridd yr wyf, i'r pridd1 yr af.' Heddwch i'w lwch hyd nes y gelwir ef i fyny .1 o dd-a-ear Canada i 'Ardal lonydd yr aur d-elyn- a'.l.H.H.

OWEN GLYNDWR.

YANKEE HUMOUR.

Advertising

Connah's Quay.