Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

-----..J CORRESPONDENCE. .......................

itMODERN BURIALS!

THE RELIGIOUS AND MORAL STATE…

[No title]

..,1Ø;.".mw:- -.--__--------__-----.-"._-----------TRIBUTARY

Advertising

7 BWRDD YSGOL 7YDDEWL

At Olygydd y COUNTY ECHO.

News
Cite
Share

At Olygydd y COUNTY ECHO. SYR,-Gwingo yn enbyd yn erbyn y sym- bylau wna Monpelier. Cyn y daw i adnabod ei hun rhaid fydd iddo gael rhagor. Ai nid yw efe yn deall mai gan y Llywodraeth y telir am bob addysg yn bresenol yn y bwrdd ysgol, yn uniongyrchol neu yn an- uniongyrchol ? Nid wyf wedi gommedd, ond wedi ateb pob gofyniad a roddwyd i mi hyd yn hyn-enwed un heb ei ateb. Yr un a ysgrifenodd y frawddeg—" Mae ei farn ef a fi yn rhedeg yn parallel lines,' a ddewan nhw byth at y gili," hwnw sydd anffaeledig ei gred. Dywed fod pwyllgor o'r bwrdd wedi danfon am representatives o'r lan eglwys, ac fod y cyfryw ar dop y poll yn yr etholiad,' fel rheswin am eu. khoniad dros ddysgeidiaeth Fiblaidd, oedd y twyil-honiad. Da genyf (os gwnaeth unrhyw bwyllgor y fath beth) fod Mon- pelier yn eu condemnio. Yr oedd y gwir rheswm am haonid y cariadus frodyr dros ddysgeidiaeth grefyddol yn yr ysgol ddyddiol wedi ei roddi, ond nis gallai Mon- pelier ei lyncu. Y gwir am dani yw, nid oes gan yr Eglwyswyr hawl deg i fod ar y bwrdd ysgol o gwbl, tra yn cynal ysgol arall yn ymyl, er niwed i'r ysgol fyrddol; ond tebyg yw y byddant eto ar y bwrdd, tra mae cymaint nifer o etholwyr yn Ty- ddewi yn brynadwy ac addpwidion teg a ffafrau. Nid yw y golygwyr plwyfol yn gofyn am unrhyw hawl na gallu oud yr hyn sydd gyfiawn a theg yn ol ewyllys yr elusenroddwr, sef cael llais yn rhanu yr arian i'r rhai y bwriadwyd hwynt, ac nid i eu camddefnyddio er enill pleidleisiau a ¡ phroselytio. Hyderwn y cawn Gynghor Plwyfol cyn hir i edrych i fewn i faterion fel hyn. Gwna Monpelier barhau gyda ei wawdiaeth. Tueddir fi i feddwl ei fod ef o Eglwys Rhufain, gan ei fod am gyfyngu y Dwyfol Air oddiwrth bobl gjffrediu y prif ffyrdd a'r caeau.' Pa sail 3 dy-,h wedi gael i'r fath wawdiol eiriau? 'Dywed y Gair.' Wrth bwy, ai wrth llywodraethau gw ladol ? Nage, Monpelier. Dywed y Gair wrth y dysgyblion a'r eglwys am fyned allan i'r holl fyd, a chymhell pawb i fewn fel y llenwer ei dy, ac yno eu dysgu a'u hyfforddu yn nghylch y pethau a berthyn i'w deyrnas. Mae hyny i'w wneud o gariad ac ufudd-dod gwirfoddol, heb ymyriad llywodraeth wladol. A ydyw Monpelier aelod or Ysgol SUIt ac eta or wyneb ar digwy leidu -dra hae-! u, y.. maeddu dweyd nad oes yno ond daaleuoa ar gwestiynau anorphell. Cywylyddia am dy gabldraeth ar Ysgolion Sabbothol plwyf Tyddewi. Yn ol barn Monpelier nid oes gwahamaeet-h o ba gred fvdd yr ysgol- feistr gwna atbisfc neu undodwr y tro.— Bydded darllenwyr yr Echo yn faruwyr, a ydyw yn debyg y cyfrenid gwell dysgeid- iaethiblaid i'r plant yn yr ysgol ddydd- ioi nac'a wneir yn yr Ysgolion Sabbothol a chyfaifodydd hyfforddiadol a gynelir ar nosweithiau yr wythnos gan y gwahanol eglwysi Wrth ran ddiweddaf o ysgrif Monpelier ceisia ef ein darbwyllo i gredu ei fod ef wedi >p^el gweledigaeth eglur ar bethau, ac fod Ymneillduwyr gynt, a'r rhai sydd c^o^r mi gred a hwynt, yn gyfeiliornus. jfee y c5c"\vir a'r gwir Ym- neillduwyr oddiar dechreuad anghydffur- fiaeth hyd y dydd hwia; yn gweithredu yn gyson a'r hyn a broffesant; a goreu i gyd i Gristionogaeth bur pa gynted y ceir gwared o'r rhai a broffesant un peth a gweithredu yn gwbl groes. Sonia Mon- pelier am Ogledd Cymru, mor belled ag y cyrhaedda teirnwialen y Methodistiaid mewn undeb a'r cariadus frodyr. Pe cai Monpelier ei ddymuniad (os yw yn ei ddymuno hefyd), ai ni fyddai hyny yn agor y ddor i erledigaeth grefyddol. Da. genyf pe gallwn dderbwyllo Monpelier a phob Ymneillduwr caeorn a Rhyddfrydwr selo-a fel efe (?) i aros ac ystyried ei sefyllfa, o'r tir y maent yn sefyll arno. Tir gwrthgyliad cofiwch ydyw. Gwyliwn rhag tynu lawr urddas y Llyfr Ysprydol- edig i level Ilyfrau cyffredin a byddwn olynwyr teilwng- o'n biaenoriaid a'n henaf- iaid, pa rhai a ddioddefasant hyd at waed drosyr egwyddorion a broffesant er dwyn oddiamgylch i ni y rhyddid a fwynhawn. Cydraddoldeb crefyddol ydym yn ymofyn gael; ond os ceir y wlad i ddangos eu bod dros i'r Wladwriaefck i ddysgu crefydd yn yr ysgolion dyndiol, cystal rhoi heibio gwaeddu am Ddadgysylltiad.—Rhagor wedi gweled llit-h Non Con.—Yr eiddoch, GOHEBYDD.

'v PENILUON

Advertising