Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BWRDD YSGOL TYDDEWI.

News
Cite
Share

BWRDD YSGOL TYDDEWI. At Olygydd y COUNTY ECHO. SYR,—Darllenais ysgryfau Non Con a Monpelier yn yr Echo, Gofyniad Non Con ydyw, 4 Ai teg yw priodoli yr holl gynwrf am ddarllen y Beibl i'r Eg-lwyswyr yn unig, tra y mae cynifer o flaenoriaid y symudiad yn Ymneillduwyr eg-wyddorol ?' (Nid boddlon ydych na fyddwch chwi yn cael ran o'r clod.) Fy ateb yw, le, gan maent hwynt hwy (am y rheswm a roddwyd) sydd flaenaf, ac yn cael cefnogaeth cynffonwyr o Ymneill- duwyr Toriaidd proffesedig. Ymneillduwr yn Dori! O'r fath anghysondeb.—Yr ail ofyniad Anghysondeb Non Con fel Ym- neillduwr i gefnogi y symudiad.' Ydyw, I y mae yn anghysondeb o'r mwyaf anesgusodol i unrhyw un sydd yn Nghymru, ac sydd yn proffesu ei fod yn debeu am Ddatgysylltiad, i waeddu am i'r Llywodraeth i ddysgu crefydd i'r oes sydd yn codi yn y bwrdd ysgol. neu arall le. Am y rhai sydd yn gweithredu felly, da genyf gredu mae eith- riadau anaml ydynt; a'r rhai hyny heb feddu ar deimlad rhienu tuag at blant, am na feddant blant eu hunain. Fel yr ysgrifen- ais mewn llythyr blaenorol, honir gan yr Eglwyswyr a'u cynffonw, r, mewn gwawd- iaeth am ereill, mai hvvynthwy sydd dros ddarllen y Beibl, a phawb a wahaniaetha a hwy, yn erbyn ei ddarllen ac er osgoi y wawdiaeth sarhaol, gwna ambell i Ymneill- duwr gwasaidd roi i fewn i'w Jesuitaidd ddylanwad. Gan na welodd Non Con na Monpelier yn dda roddi chapter and verse, dyma un iddynt a roddwyd i'r dysgyblion drwy'r holl fyd, yn mhob oes Ewch gan hyny a (dysgwch) gwnewch ddysgyblion or holl genhedloedd gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynais i chwi; ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.' Credaf mai cyflawniad o'r gorchymyn ydyw yr ymdrech a wneir gan y gwahanol enwadau crefyddol yn y pymtheg Ysgol Sul sydd yn plwyf Tyddewi. A ydyw yn iawn i wneud cydraddiad o'r Beibl a llyfrau cyffredin, drwy ei roddi yn nwylaw plant i'w anmharchu mewn Ilefydd amheus ? Dichon fod Non Con yn gwbl barod i'r yrgolfeistr i roddi eglurebau i'r plant ar gynwys y Beibl, am eu bod o'r un daliadau ond nid yw pob rhienu sydd o wahanol ddaliadau yn caniatau hyny. Derbynied Non Con hyn o lith yn garedig.—Ceisia MonpeHer esgysodi ei hun am y gwawd- lythyr asgriblodd. Gwelodd ef fryeheuyn yn ff Hygad, medd efe, a dyna paham y y daeth ef a trawst yn ei lygad ei hun i'w dynu allaii. Welodd Gohebydd ddim y pwynt.' Ydych chwi am gredu y byddaf yn ddigon gwiriou, ac y llwyddwch drwy eich 1 gwawdiaeth i'm tywys i weled i'r un pwynt a chwi ? Trof eich geiriau yn ol yn iaith fy iigwiad, I Pwy mor ddall a'r hwn ni fyn weled.' Er roddi fy rhesymau yn erbyn darllen y Beibl yn yr ysgol ddyddiol, ni wel Monpelier yn dda geisio fy ngoleuo, a'm hargyhoeddu a rhesymau. Os ydyw yn teimlo fy mod yn ddall dylai wneud hyny, pe medrai. A ydych chwi am i ni eich deall a chredu nad ydyw Eglwys Dduw yn gwneud ei dyledswydd, ac ei bod yn ofynol i'r Llywodraeth gymeryd at y gwaith, drwy dreth orfodol, i hyfforddu yr oes sydd yn codi mewn pethau crefyddol ? Ac fod trethu yn cael eu casglu yn amser Crist tuag at hyny. Ai hyriy i chwi am i ni gredu ? Yr ydych yn ceisio ymguddio; deuwch i'r amlwg, fel y eaffo y cyhoedd eich gweled a phwyso eich anffaeledig gred. Twyllon- honiad ydyw ceisio dweyd fod yr Eglwys- wyr 'ar dop y poll yr etholiad diweddaf,'ac fod angenrhaid am danynt i wasanaethu ar y bwrdd ysgol. er bod yn wylvryr dros gael darllen y Beibl yn yr ysgol. Yr ethol- iad yn cymeryd lie ychydig wythnosau cyn rhaniad elusen-rhodd Dr Jones a'r golyg- wyr plwyfol wedi eu hamddyfadu o'u hawl gyfreithlon i rhaau yr arian drwy'r blyn- yddau, a rbywrai yn manteisio yn annheg ar hyny i ddylanwadu ar yr etholwyr. Rhodd- ais I y gwir rheswm, ond nis gailai Monpel- ier ei lyneu.-Mae ymdriniad ar y pwnc sydd dan sylw yn un gwir amserol; mae eisieu ei wyntyllu, am ei fod yn un cym* deithasol, ac nid personol (megys yr oedd yn Abergwann). Os nad ydyw y rhesymau a roddais yn foddhaus, dros gadw urddas y Dwyfol Air uwchlaw level UyfraU Cyffredin, ac nad yw Cristionogaeth yn caniatau ymyr- iad llyfetheiriol y Llywodraeth i'w dysgu a'i ehynaj trwy dreth orfodol, deuer agwell rhesymau, cv ydynt ar gael, dros gyplysu dysgeidiaeth fydol a Beiblaidd, a hyny drwy v Cwnty$r:ho<~Yr eiddocb..

Advertising