Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

-----------__-----------------Presoqtation…

- Barddoniaeth. ♦

UNDEB GLOWYR DEHEUDIR CYMRU.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

UNDEB GLOWYR DEHEUDIR CYMRU. « — Rheolau Cyffredinol Dosbarthol a Chyfrinfaol. ♦— (Parhad o'r Rhifyn Diwexldaf). DYLEDSWYDDAU YR YSGRIFENYDD CYFFREDINOL. 13.-Bydd i'r Ysgrifenydd Cyffredinol fyn. ychu holl gyfarfodydd y Cynghor a'r Cynhadl- eddau, a chadw cofnodion eywir o'r holl weith- rediadau. Bydd iddo barctoi Adroddiad Haner-blynyddol, yn gosod allan sefyilfa ar- iano' yr Undeb, yn cynwys y derbyniadau a'r tieuliau. yn nghyda sefyllfix Trysorfeydd Cyff- redinol a Dosbarthol. Bydd iddo hefyd baro- toi y Dychwcliadau Blynyddol a'u trosglwydùo « Gofrestrydd y Cymdeithasau Cyfeillgar fel y gofynir gan Ddeddfau 3 a 35, Vict., pen. 31, adran 16. Bydd i'r gyflog gael ei phenodi gan y Gynhadledd Flynyddol a'i thalu gan y Trvsorydd Cyffredinol yn wythnosoI. Bydd iddo barhau yn aelod o'r Undeb. Bydd o dan reckxeth y Cynghor Gweithredol, ond ni cha y Cynghor allu i'w ddiswyddo 11a chyfnewid ty- mhor na thelerau ei wasanaeth ond ar awdur- dod Oynhadledd Flyiiyddol neu Nedllduol o Gynyrchiolwyr" o'r Cyfrinfaoedd, ac mewn un- rhyw achos bydd iddo roddi neu dderbyn tri mis o rybudd, pryd y bydd iddo roddi i fyny i'r Cynghor Gweithredol bob llyfrau, ysgrifau, papymu, eiddo, &c., perthynol i'r Undeb. Bydd idd- barotoi pob rhaglenau, ysgrifau, cylch. lythyrau, &c., a crchymynir gan y Cynghor, a'u trosglwyddo i'r gwalianol Ddosbarthiadau Cys. sylltiedig a'r Undeb. Bydd iddo roddi copi o'r Rheolau i bob aelod ar eu cyfarwyddid yn Nghyfarfodydd y Gynhadledd, a chadw cyfrif cywir o bob arian a dderbynir ac a dreulir gan y TrysoryJd: Bydd iddo hefyd dalu sylw i bob gohebiaethau ar ran y Cynghor. Bydd iddo roddi y cyfryw sicrwydd ag a cfynir gan y Cynghor Gweithredol. Bydd iddo gyflenwi yr holl Gyfrinfaoedd a seliau am brisoedd un- ffurf. Bydd i bob ysgrifau swyddogol, trwydd- edau cynrychiolwyr i'r Cynhadleddau, dychwel- iadau misol y Cyfrinfaoedd,, &c., gael eu nodi a Sel y Gyfrinfa. ARCHWILWYR. 14.-Bydd i ddau archwiliwr gael eu penod, y:t mhob Cynhadledd Flynyddol, pa rai a was- anaethant am ddeuddcg mis. Bydd iddvnt ar-el-wilio yr holl lyfrau, cytundebau, llyiral yt ariandy, ysgrifau a chyfrifon ereill a adefnyddir gan Drysorfa Ganolog yr Undeb hwn, unwaith bob chwech mis, ac yn amlach 08 gofynir iddynt,y cyfryw archwiliad i ddang- 03 rhif yr aelodau yn mbcb Dcsbarth, yn nghyda derbyniadau a threuliau yr Undeb, ac hefyd fantol-len flynyddol yn dangos sefyilfa yr Undeb am bob bhvyddvn yn torfynu yr 31ain o Ragfyr. GOSODIAD Y TRYSORFEYDD. 15—Bydd i bob arian gael eu wneyd yn daledig i Drygorydd yr Undeb, ond i'w hanfon drwy yr Ysgrifenydd Cyffredinol. Bydd i'r boll arian uwch!aw yr haner can' punt a nodir yn Rheol y 12fed gael eu gosod ar log yn unol a'r Rheol yn enw yr Undcb gan dri Ymddir- iecolwyr,, fel y cytunir o bryd i bryd gan y Cyngbor Gweithredol. Y GYNHADLEDD FLYNYDDOL. 16.-Bydd i Gynhadledd Flynyddol gael 4"1 chynal cyfansoddedig o aelodau o'r Cyfrinfa- oedd cyssylttiedig a'r Undeb, yn yr hon y dadl- euir yr holl achosion yn unol a'r trefniadau a osodir allan ar y rhaglen y cytunwyd arni gan y Cynghor. Bydd i'r Llywydd gael llywodr aethiad y cyfarfod yn hollol, a chaiff bleidlais derfynol mewn achosicn pan fydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal. Bydd i'r cynyrehiol- wyr gael eu dewis gan y Cyfrinfaoedd. Ni chaniatteir i unrhyw Gyfrinfa i anfon mwy nag un Cynrychiolydd i'r Gynhadledd; a bydd i'r cyfryw gynrychiolyad bleidleisio fel y can- lyn:- 0 20 aelod hyd 50 1 bleidlais. 0 50 aelod hyd 100 2 bleidlais. 0 100 aelod hyd 150 3 blc-idiais. 0 150 aelod hyd 200 4 bleidlais. 0 200 aelod hyd 250 5 pleidlais. 0 250 aelod hyd 300 6 pleidlais. Ychwanegir un bleidlais am bob ychwanegiad o haner cant yn nifer yr aelodau. I gymeryd rhif y pleidleisiau yn y Gynhadledd rhoddir tocynau fel y canlyn: -Cyfrinfa 3 Pleid- lais. GOSODIAD Y TRYSORFEYDD. 17.-Bydd i drysorfeydd yr Undeb gael eu gosod allan ar log yn y modd canlynol:-Sier- wydd y Llywodraeth, Trysorfeydd, Cyhoeddus, Sicrwydd Sylweddol, yn Ariandy Cenedlaethol a'r Talaethau, ac Ariandai ereill.mewn Sawdd- a 1 RheiHfyrdd, mewn prynu neu adeiladu eiddo, mewn pryniad neu weithiad, yn rhanol n u yn hollol, law-weithfeydd neu lofeydd, ac ar weithredoedd. Bydd yn rhaid i'r moddau a'r ffyrdd yn mha rai y gosodir y trysorfeydd allan gael eu penderfynu gan Gynhadledd, o'r hon y bydd yn rhaid rhoddi saith niwrnod cyfan o rybudd i bob Cyfrinfa yn yr Undeb. YMDDIRIEDOLWYR. 18.—Bydd tri Ymddiriedolwr i gael eu dewis pi rai a Sarhant yn eu swyddi cyhyd ag yr ewyllysia yr Undeb; ac mewn acbos o wagle neu wagleoedd, dewisir arall neu ereill gan fwyafrif y Cynrychiolwyr mewn Cynhadledd. Cyv. y cymudir Ymddiriedolwrs oddicithr mewn camymcbiygiad o'i eiddo ei hun, pryd y symud- ir ef ar unwaith, bydd rhaid gosod achos ei svmudiad o flaen y Cyfrinfaoedd, a'i bender- fynu yn olynol gan fwyafrif o r Cynrychiolwyr mewn Cynhadledd. OL-DITYLEDION CYFRINFAOEDD. 19.-Unrhyw Gyfrinfa yn esgeuluso talu dau gvfrandaliad misol i'r Dosbarth o fewn 14 o ddyddian wedi rhybudd rheolaidd o eiddo yr Ysgrifenydd, a fforltctia. eu budd yu yr Undeb.

---------------.----------u,,---Colofii…

--.0— A Cure for Stubborq…

Advertising