Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

p•:—■ Barddoniaeth.

The Danger after Influenza.…

I UNDEB CLOWYR DEHEUDIR CYMRU.…

Coiof n y Cyrnry. ---------------

News
Cite
Share

Coiof n y Cyrnry. [OAN OLYCHAKTU T. D. ISAAC. ROGER WILLIAMS, APOSTOL RHYDDID. Y mae eisiau i'r oes hon wybod hancs Apos- tol R hyd did: y mae yn doreitliiog o addysg a cliymhellion, yn enwedig yn y dyddiau hyn, pan y mae dadleuon yn nghylch rhyddid cyd- wybod yn aflonyddu a chythryblu holl wled- ydd y byd. Y dydd heddyw, y cwestiwn mawr sydd yn trochioni cymdeithas, yn lIeol, yn genedlaethol, ac yn gyfandirol, ydyw cwestiwn ma-wr rhyddid cydwybod. Ar wynebedd y gwledydd, y mae y ddwy fyddin fawr-cyfeill. ion gormes a chyfeillion rhyddid, cyfeillion gorthrech a chyfeillion cyfiawnder, glcdd yn nghlcdd; ae nid oes un amheuaeth nad ydyw y rhuthrgyrch olaf ar wersyllfan caethiwed cyd- wybod yn un o ddigwyddiadau y dyfodol agos. Y mae Cymru heddyw mewn gwewyr ar y pwnc. Ai nid ysbrydoliaeth i bob milwr cyff- I rcdin yn yr ymornest agoshool fydd edrych ar y prif gadfridog, amser maith yn ol, yn Ofll Duw ac o dan ddylanwad ffydd gref yn nyfodol dynoliaeth, yn aberthu manteision, esmwyth- yd, ac anrhydedd, gan arwain ei hunan, yn hollol wirfoddol, 1 gyfyngaerau, i dlodi, ac i alltudiaeth, heb fod ganddo ddim mewn golwg ond Ileshad y Ilaweroedd? Ar unrhyw adeg pan y mae ysbryd cyfaddawd yn gryf a dis- gybion y torthau yn Iluosog, nis gellir gwneyd dim yn well na chodi Roger Williams o'i fedd,, a gofyn ganddo draddodi dmchefn ei gcrydd tragwyddol i hunangarwch ac anghysondeb, a thrwy hyny ddwyn rhagor i gredu fod yn well dyodùef dros egwyddor na'i gwadu, ac mai dyoddefwyr mwyaf y presenol fyddant fudd- ugoliaethwyr dysglaeriaf y dyfodol. Yn anisgwyliadwy iawn, yr ydjTrn yn cael fod liane'i horeu oes cin harwr yn brin, a'r ychydig grybwyllion a geir am y cyfnod hwnw yn lied wrthdarawol. Nid ydyw yn anhawdd cyfrif am hyny. Pan gofir ei fod yn ddyn rhy hunanymwadol i yagrifenu ei hanes ei liunan, fod ei gydlafurwyr yn gyd-ddyoddefwyr, ac fed ei elyriion yn gwyõod fod rhoddi cyhoedd- usrwydd iddo ef yn golygu dinodedd iddynt hwy, nid yw yn gymaint syndod, am y tri rheswm yna, fod llawer o fanylion yn nghylch dechreuad ei yrfa yn ansicr. Y mae dipyn yn ddyeithr, er y cwbl, nad oes sicrwydd profedig pa bryd y ganwyd, yn mha le y ganwyd, un o brif gymeriadau yr oesau, a hyny yn mhen tua dwy ganrif ar ol i hyny gymeryd lie. Nid oes unrhyw ddadl wedi bod. yn bod, nac i fod byth, parth pa un a fu y fath berson. Y mae cenedlaethau wedi tcimlo ei fodolaeth. Daeth i'r byd, bu yn y byd, ac aeth allan o'r byd,gan ei adael yn well nag y cafodd cf. Ac o ran hyny, nid yw o gymaint gwahaniaeth pa un a ellir rhoddi y dydd o'r mis, etc., y ganwyd dyn; yr hyn sydd yn bwysig i'r dyn ei hunan ac i'r byd. ydyw, pa beth a wnaeth ar ol cael ci cni. Nid mewn dyddiadau y gorwedd gwerth bywgraffiad. Dadleua rhai mai yn Nghernyw y ganwyd Roger Williams, mai William Williams ydoedd ei dad, a'i fod yn Gymro o waedoliaeth a thu. eddfryd. Y mae enw Cymro arno—William Williams, ond gall hyny fod yn gamarwein- iol. Dadleua ereill mai yn Nghwm Nedd, yn Swydd Forganwg, y ganwyd yr apostol, a'i fod yn berthynas agos i Williamsiaid henafol Aber- pergwm. Ond y mae yna drydedd blaid sydd yn dadleu mai nid yn Nghernyw, ac mai nid yn Nghlyn Nedd, y cafodd ei cni, ond yn r,r,.Ilollwil Gaio, yn Swydd Gaerfyrddin; a chyfeirir at yr amaethdy, Maesytreuddyn, fel y lie y gwelodd gjmtaf oleuni dydd. Heb ar- gymeryd a'r cvfrifoldeb o ddyfarnu rhwng y pleidiau, yr ydym yn sicr bod yn Nghonwil, yn y bymthegfed ganrif, dculuoedd uchclwaod a phendefigaidd, ac fod y teuluoedd hyny yn berthynasau i deulu anrhydeddus Aberpergwm. a'u bod hefyd fel Roger Williams yn berthjTi- asau i Oliver Cromwell. Ac yr ydym yn ddy- gwydd gwybod yn mhellacli, fod disgynyddion ein harwr, sydd yn byw yn bresenol yn Ameri- ca, yn hollol unfarn mai Maesytreuddyn yd- oedd cartref cyntaf eu perthynas enwog. Mor awgrymiadol y ffaith fod tri lie yn cystadlu am gael eu hystyried yn fangre ei eni! Ni ddigwydd y fath gweryl ond yn achos y fath anfarwolion a Homer, Stanley, a Roger Wil- liams. Ond os oes rhai pethau—ac y mae-yn lied ansicr parth bywyd boreuol y gwr anrhydeddus hwn, y mae un peth nad oes sail i'r amheuaeth leiaf yn ei gylch—ei genedlaetholdeb. Cymro ¡ ydoedd; a Chymro a urddasola y genedl Gy- mreig yn dnigyfyth. Ac yr oedd yn Gymro Cymreig—yn klwjn holl nodweddion gwahan- iaethol ei bobl ei hun. Fel y sylwa Benedict, yr hanesydd clodfawr,, pan yn cyfeirio at ei haniad Cymreig: "Yr oedd yn angherddol, yn danbaid, yn gyffrous, yn haelfrydig, yn gared- I ig, yn wrol, yn ddiysgog, ac mor ddiysgog fel yr ymddangosai yn ystyfnig." Ac y mae ir-eddiant o'r elfenau hyn yn hanfodol i bob diwygiwr. Ni ellir byth frwydr fawr yn myd cgwyddorion. ond gan y rhai ydynt yn hollol ai-alluog i blygu a rhoddi i fyny. Nid dynion vsLwngaidd, gwlanenaidd, a rhathellol ydynt greadwyr cyfnodau a chwyldroadau daionus yr oesau a fu, ond dynion yn meddu ar golofnau ysbinaidd hollol anmhlj-gadwy. Y mae yna anhawsder arall yn nghyfnod dL weddarach bywyd ein gwron y byddai yn ddy- munol, pe yn ddichonadwy, ei ddatrys; a hyny ydyw, pa beth a'i tueddodd, neu ynte a'i gor- fododd, i ymadael a'i gartref ac ymadael a'i rieni, yn ddyn ieuanc iawn, gan ymsefydlu yn Llundain? Yr ydym yn ei gael yno yn ei dymhor bachgenaidd, yn fabwysiedig gan Syr Edward Coke, prif gyfreTaiiwr ei oes,-yno yn yr ysgol ar gost Syr Edward, ao, o dan nawdd yr un bonwr,, yn myned dros gyfnod i'r Brif- ysgol, lIe yr enillodd y gradd anrhydeddus o Vlyryf yn y Celfyddydau. Y mae genym hys- bysiaeth am yr hyn barodd i Syr Edward ei wahodd i'w dy ac i'w wasanaeth, ac a arwein- iodd felly i'w fabwysiad. Rywfodd cydaddolai y pen rheithiwr a'r Cymro bachgenaidd yn yr un eglwys ar foreu Sabboth ;ac wrth weled y dyn ieuanc yn ysgrifenu yr holl bregeth a dra- ddcdwyd ar y pryd, mewn math o law fer, tmnynywyd cywreinrwydd ac edmygedd Syr Edward, fel y eymerwyd y gwr ieuanc ganddo y borcu hwnw i'w gartref, ac yn ddilynol i'w swyddfa. Ac yr ydym yn gallu dyfalu, hefyd. paham y darfu i'r rhagwelediad dwyfol osod y bach gen, ar ol gadael cartref, mewn cyfleus- dcrau i astudio deldfan gwladol: yr oedd, ryw ddiwrnod, i fod yn sefydlydd un o wladwriaeth- au eangaf y byd oll, ac felly yr ocdd yn rheid- iol iddo r;lcalI cyfreithiau sylfaenol llywodr- aeth. Ond y cwestiwn ydyw, paham, ac efe eto yn ddyn mor ieuanc, y gadawodd ei gar- trcf o gwb? Y peth tp-bycaf i eglurhad ar y symudiad dyeithr hwn y gwyddom Rm dano ydyw bmwddeg a ymddengys mewn llythyr o'i eiddo at ei gyfaill Winthrop yn y flwyddyn 1632. Yn hwnw dywcd, "Yr wyf wedi cael fy erlid yn, ac allan, o dy fy nhad, dros yr ugain mlynedd diweddaf," etc. Yn absenoldeb prawfion i'r gwrthwyneb. nid oes dim yn afro, symol mewn credu iddo, tra yn ieuanc, fwrw ei goelbren gyda y rhai a leddid ac a losgid am eu Puritaniaeth; a chan fod y dewisiad hwnw yn gwneyd cartref yn annyoddefol iddo, iddo benderfynu aberthu tad, ipertbu' mam, aberthu cartref, ac aberthu rhagolygon, troi ei gefn yn wirfoddol ar y cwbl. gan ymddiried y-i Arcrlwydd Dduw Elias. Y Parch O. Wtado James yn "Ngheninen Gwyl Dewi."

Ynysybwl.

Advertising

i Pontypridd Chainmakers Meeting.

Advertising