Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

EBBHIIMiwiIIiifli:nrafinfiiii9i———…

News
Cite
Share

EBBHIIMiwi II iifli: nrafinfiiii 9 ——— Barddoniaetl]. Bydded i'r Beirdd a'r Llenorion cyfeirio ea £ SSSioNWY ISAAC, Y FANTOL. "Noswyl .penillion desgrifiadol, yn cynwys llawer o syniadau tlysion a barddonol. "Er cof.Cyhoe(ldir y penillion hyn er mwyn teulu yr ymadawedig. Nid oes gan yr awdwr y ddirnadaeth leiaf am gyfiead y llafar- iaid i, u, ac y. Y sgrifena "fian" am fuan, "symid,"yn nghyda gwallau ereill o'r un natur. y gramadeg, gyfaill. "4os y byd."—Dyma bemllion tlysion a llawn ° Drwg genym ddarfod i'r eysodydd adael allan enw y Parch Symlog Morgan ar ol y penillion coffarJvriaetliol i'r diweddar Bareh Samson Jones yn ein rhifyn cyn y diweddaf. Maddeued yr awdwr a'r teulu parchus yr anffawd. NOSWYL. Mewn urddas a mawredd dros aeliau y gorwel A'r huan i'w wely, gwiw frenin y dydd, Goreura'i baradwydd yn arwydd o ffarwel A gwen ymadawol a ddengys ei rudd; Y noson ddaw nesaf gan agor ei mantell, A /»v,„rirl v rMaeaxen fel baban i'w chol, CoSeidiant eu gilydd, noswyliant beb ddichell Br enog cwrs natur i'w wneyd ar eu hoi. y gwartheg i'r weirglodd, a'r defaid i'r bryniau A'r pysg i'r ceulanydd, eu cartref mwyn, clyd, Disdewa myrddiynau y goedwig delynau, Wrth gan ymadawol o ffarwel i'r byd; TreLIr gweithiwr lluddedig mewn llwyd fwtb mynyddig, Sy'n teimlo paradwys yn llenwi ei fron, Wrth glywed yr awel a'i halaw doddedig, A gruddiau'i fan blantos o'i gwmpas mor lion. Ca'r gwridgoch fachgenyn dan gysgod tew fri- gyn Gofleidio i gariadferch, 'rhon ddygodd ei fryd, Tra'n arllwys eu cwynion i'w gilydd wna'r ddeu- ddyn Mae anian o'u deutu yn gwrandaw yn fud; Daw'r gwlithyn o Wynfa heb dwrf ar ei yrfa I iro'r glaswelltyn sy'n gywo gan wres, Ac yntau mewn gwylder ei ben a ogwydda Fel diolch i'r Rhoddwr am rodd gymaint lies. Tra'r byd mewn tawelwch, yr awel gan eto A murmur yr afon, arwrgerdd y mor, Wrth ddeddf yn cyduno mewn cyngherdd i suo Cri anian i gysgu wrth archeb yr lor; Y bydoedd aneirif drwy'r gwagle diderfyn A'u dawns fel gwyryfon er Iwyfan rhyw wledd, A'r cymyl fel llongau sy'n hwylio mor ddillyn Ar ddisglaer eang-for am Ian i wneyd sedd. Mae'1' boll greadigaeth yn 11 awn o farddoniaeth, Y "Bydded" fry welir mewn mawredd uwch- ben, Drychfeddwl i'r meidrol ddaw drwy'r weledig- eeth, Am haal odidawgrwydd y "Wlad hwnt i'r lIenj" Fob rhwysgedd daearol sydd wedi dystewi, A'u swyngyfareddwyr ni chlywir eu lief, Ond dwyfol ddystawrwydd drwy'r lie sydd yn rhoddi Aruchel ogoniant i "Frenin y Nef." O! noswyl nefolaidd! Beth ydwyt ond cysgod 0 dawel noswyliad y Oistion rhyw ddydd, PaD bydd wedi cyrhaedd o gorsydd dwfn pechod A'r Ilethrog anialdir i'w gartref yn rhydd; Hhuadau'r Iorddooen, cwyn gwlad y cystuddiau Dry'n ganig felusber i'w glustiau pryd hyn, Wrth glywed per leisiau y nefol ganiadau Mor llawen o'i dderbyn i wledd "Sion fryn." Perndale. David Evans (Glan Cletwr). NOS Y BYD. Sylwais ar y wawr yn tori, Ac wrth dori'n deffro tlysni Gwyneb anian dlos; Cyn anghofio swyn y wawrddydd Clywais brudd gysgodau'r hwyrddydd, Wrthi'n sibrwd-Nos. Adgof sydd yn dangos beunydd Llawer einioes fel y wawrddydd Fu yn swyn i gyd: Daeth yr hwyrddydd, a diflanodd Tlysni einioes pan ymdaenodd Caddug-Noo y byd. Nos y byd! Cymylau adfyd Wedi cuddio heulwen bywyd, A phob seren wen 0 ddiddanwch wedi cilio,— Nos o bryder du yn cuddio,— Cuddio "gloewach nen." Syllais ar y tanllyd huan Wrth ffarwelio'n planu cusan Ar y bryniau pell; Gwelais fywyd gwyn wrth gefnu Ar y byd yn siriol wenu Uwchben bydoedd gwell. Nos y byd! Ystormydd amser Leinw ysbryd llesg a phryder, Nos heb gwmwl gwyn; Bywyd unig mewn tymestloedd, Enaid gwyn yn nghanol ingoedd Dychrynfeydd y glyn. Gwelais hardd flodeuyn unig Ar y beddrod neillduedig, 7 Fel rhyw obailh gwell, Syllais arno yn blodeuo, Ac yn araf, araf, wywo, Yn y dyffryn pell. Gwektis ddyn yn nyffryn tristwch, Fel blodeuyn mewn anialwch, Yno wrtho'i hun; Duw yn cuddio'i wyneb rhagddo, Yntafl heb dosturi'n gwywo Mewn unigrwydd blin. Nos v byd! Swn ocheneidiau Sydd yn rhwygo'r awyr denau, Nos custuddiau blin; Nid oes neb yn gwrando cwynion, Nac yn tywallt balm i galon, Neb—ond Duw ei Ifun. Ar flodeuyn y glaswelltyn Gwelais berlyn gwlith-fel deigryn Ar ei liwgar rudd; Syllais ar ei ddail yn crino, Ar Blodeuyn tlws yn gwywo— Gwywo ganol dydd. Gwelais fywyd yn dadblygu Mewn dynoliaeth gwelais deithi Llawer blodjm cu; Ond ar ganol dydd ymdaenodd Prudd-der nos y byd. a gwywodd Yn y caddug du. Nos y byd! Rhyw nos gynhyrfioI Sy'n cyffroi y teimlad lleddfol- Nos sy'n ddu i gyd; Dim ond swn terfysglyd donau 0 ddyfnderoedd—mor gofidiatj Ar draethellau'r byd. Ond yn 'nghol y 'storom ola' Fe ddaw nawfed don y Wynfa Heibio niwl y gIyn; Ar ei brig fel cwmwl gole' Fe ddaw "angel Gethsemane" I droi'r du yn wyn. Cilia niwl y nos ddaearol Yn ngoleuni gwawr ysbrydol A dwyfolach nen; Ni fydd oystudd a gofidiau Yn pruddhau y wawrddydd olau— Y tu hwnt i'r lien. Treorci. Briallydd, | ER COF AM EDWARD RICHARDS, Yr hwn a gyfarfyddodd a'i angau mewn modd disymwth iawn yn nglofa y Ton, Gorphenaf 26ain, 1898, yn 25 mlwydd oed. Dyrus droion rhagluniaethau 'Ngoddiweddyd yn y byd, Chwerwon droioii a gofidiau, Angau'n tori lawr o hyd; Dyma eto gyfaill siriol, Dan y ddaear ga'dd ei saeth, Do, rhodd angau ynddo'i golyn, Ac yn fuan marw wnaeth. Trwm yw'r newydd gan yr ardal, Am farwolaeth Edward bach; Ca'dd ei symud ar amrantiad 'Nawr mae'n canu'n berffaith iach; Yn y nef yn nghwmni'r Iesu, Mae ein cyfaill hoff mewn hedd, A chaiff gydag Ef deyrnasu, Er i angau'i roi mewn bedd. Derfydd trallod a chystuddiau, Dyfnion droion chwerwon iawn, Dyfroedd Marah'n llawn gofidiau, Ar ein gyrfa'i yfed gawn; Ond po chwerwaf fo ein bywyd, Os i'r Iesu byddwn blant; Mil melusach fydd ein gwynfyd, A chawn gwrddyd gyda'r saint. Taliesin John Breeze. EIDDIGEDD. Ystyfnig yw Eiddigedd-a llidiog I holl hadau rhinwedd; Llygru'r adyn fyn i'w fedc? A'i dalu mewn dialedd. Ferndale. D. Evans (Glan Cletwr). Y DDRAIG GOCH. Y Ddraig Goch, arweinydd i'r gad—o'i hoi Hwyliai llu ein mamwlad; Dewr chwifiai mewn dyrchafiad I ddwyn gwledd i iau'n gwlad. Ferndale. D. Evans (Glan Cletwr). ARWYDDLUNIAU Y CHWAREUDY. Nod i enyn nwyd anianol—luniwytl Ar ieni'r archddiafol; Dyna'i gamp ein dwyn i'w gol I'r ffwrnes fawr uffernol. Ferndale. D. Evans (Glan Cletwr). Y CYBYDD. I gybydd nid oes gobaith—er chwenych Aur 'chwaneg nag unwaith; Wedi'r bedd diwedd ei daith Ei olud ni cha eilwaith. YR EILLIWR. Gwr yw'r eilliwr diguro—i weini Ar wyneb a'i drwsio; Un lIaw ysgafn eill lusgo Arf i dori'r farf yw fo.

Colofn y Cyrriry. ■**

BRIWSION AMSER.

Should Horses be Muzzled ?

Advertising