Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

RHIANGERDt).

Cwenonwy o Lan Ogwy.

News
Cite
Share

Cwenonwy o Lan Ogwy. Gan T. TAWENOG YO-RAT-IEI, Hafod-y-Gan. Gadawn y dref, ac awn am dro I dawel fro y defaid; Lie mae traddodiad hen yn byw Yn nghwmni'r gwiw fugeiliaid; Cawn yno lawer chwedl gu, Am droion fu yn Nghymru, Am feib a theg wyryfon lion, Fn gynt yn ffyddlon garu. Rhed chwedl un i fin y nant Sy'n dawel bant y dyffryn; A'r llall rydd gam i flaen y Cwm, Rhwng muriau llwm hen fwthyn; Un arall fyn roi'i throed i lawr Lie pawr y gwartheg blitbion, Ar lan y gn afonig gain- Gwlad firain fwyn forwynion. Yn mhlith y Uu yn gu ar gan, Ceir enw glan Gwenonwy; Mor llawn o hedd a'r gwanwyn lion Sy'n harddu bron yr Ogwy; Ni fa erioed-ac ni fydd chwaith, Yn ngenau "Iaith y Brython," Un enw ddeil mor llawn o dan, A Rhian Morgan Mabon. Yn febyn cain o fewn y cryd, O! ffeled oedd y deg ei phryd; Ei thad a'i mam heb gam yn gu, Wirionent bron uwch ben ei bri; Anwylent foch ei henun fach Fel un o fil, o'u bil a'u hach; A'i nain, a'i phwy3 ar ben ei phon, Yn llawn o hwyl gyhoeddai'n lion, Fod gwenau ffri Gwenonwy ffraw Eu lili lon-fel Non Tydraw- Yn dal o hyd i daenu'n hael, Y gwenau cu fu gynt i'w cael, Ar ruddiau ffraw y mamau ffri; Fu gynt yn glod i Gymru gu, Tn glod ar gan yn Nghymru Fu. Nid hir bu'r Bitw berta'i phryd, Cyn gadael cylgh y gloew gryd, Ar ol i Nel-ei Doly Bren, I dreulio'i dydd yn rydd i ben; Fel hithau'n llwyr yn eithaf lion, Heb bigyn du o dan ei bron; Yn fuan iawn ni gawn ein Gwen, A phwys o flwyddi ar ei phen, Yn myn'd a dod-yn glod i'w gwlad, A'i henven fri i dy ei thad; A'r llanciau gwyllt fel mellt yn gwau, Am Kwyl a hedd y feinir fau; Triei thad o hyd al fryd ar gael I Gwen yn ddyn y eoegyn gwad Breswyliai'n "Mhorth y Perthi Brith." Gan selio'i Lw yn hyn o Lith, i rot yn ran holl dda fy nhy, A7- Rhian ddel i fiydderch Ddu." Hi ydoedd balchder pena'i dydd, Yn nghyffes ffydd y llanciau, A thestyn ymffrost yr holl fro, Am lendia tro a geiriau; A mel ar fin-a mawl ar fantl, Gan lawen blant Ceridwen, Oedd roi ei hanes gwyl heb gudd, Yn ngenau rhydd yr awen. Goroian deunaw Ehrill gwyrdd, Dvdanai'i ffyrdd drwy'r dyffryn, A myg orfoTedd deunaMai, Chwareuai ar ei choryn; Prydferthwcb deunaw Hefin brith, Yn dryfrith ar ei gruddiau, Yn llun a lliw y lili dlos A'r porphor ros flodeuai. Gogoniant. ac addfedrwydd braf, Llawn deunaw Ilaf ac Hydref; DdilynaPi throed, ei gair, a'i gwen, I'r tlawd a'r hen ddigartref; Ond oerfel deunaw gauaf du, Mewn geiriau cry' a gerwin, Dderbyniau'r meib ddymunai gael, Bi chenad bad i'w chanlyn. Fe glwyfwyd llawer dan ei fron, Gen wenau Hon y rhian, Heb iddo rodd na modd i gael, Telysu ei hael gusan; Na gwasgu llaw y glana'i llun, Na derbyn gair o gysur; Fod idde obaith am ryddhad I'w fynwes fad o'i dolur. Fe loewai y bardd ei awenau, A'r cerddor bereiddiai ei nod; A'r Pencerdd felusai ei danau, Gan amled y canent ei chlod; Cydredent y gan ar y delyn, Tra didwyll deimladu eu bron Yn gyru o'r golwg bob gelyn, Oedd rhyngddynt a'r lili fwyn Ion. Mae canu am rinwedd a glendid Yn codi o sorod a serch, A mynych troi'r stormydd o ofid Yn fendith o folawd glan ferch; Bryd arall "Y Gan" fynai alw Byddinoedd, custuddiau, a'r bedd, I'r fynwes i frwydro yn chwerw, Ag enaid pob hoender a hedd. Er treulio rhai gwyliau dan ganu, Yn Ilawen i'r "g'lomen" fwyn gu, Clan ruddiau gwyr hoetw'r Ewenni, A'r Ogwy-gaid wed'yn yn Hi; Wrth bwy-ac wrth beth ar y ddaear Dysgwylient yn effro ac hun, Tra gwelent fod Haw yr un hawddgar Yn eiddo un arall-Ei Dyn. Rhys Fychan yn unig a feddai Y rhyddid o rodio yn rhydd, I galon y "g'lomen" a garai, Heb deimlo ar brydiau yn brudd; Efe ydoedd ganwyU ei llygad, Ac hefyd prif falchder ei bron, Efe ydoedd eilnn ei henaid, Ac ymffrost ei ckalon fach Ion. Efe er yn mhell fyddai'n agos' At galon Gwenonwy fwyn, gu, Er pobpeth, efe fyddai'n aros, Y glanaf a'r Honaf o'r llu; A hithau heb eithrio i'r bachgen, Ei heulin o Felyn y Fro; Oedd ganmil brydferthach na'r glior. A fagwyd dan fargod ei do. Fel yna mewn cyni calonau Y teimlai'r ddau dirion am dro, Nes cwrddyd yn benrhydd un borau Dan gangau "Hen Geubren y Fro," Lie gwelwyd y ddau Yn cydlawenhau Heb edliw i'w gilydd un cerydd na bai. Mewn gwen, a chusan pur difrad, Yn nghwlwm mad calonau, Treuliasent hwy ber orig lawn, Yn nifyr ddawn cariadau; V Ar Ian y gloew, loew lyn, Heb neb i'w syn wahanu, Pryd d'wedai'r naill 'rnn fel a'r 11a11- "Fy eiddo bellach fyddi." "Gwenonwy anwyl, 'ebai Rhys, "Rhys anwyl,' ebai'r fanon; *Gad ini fyn'd drwy'r arian wlitb I chwilio'n mhlith y meillion; Am y cynifer ddail bach cun, Sy'n ddarlun o ddwy galon; 'Rwy'n credti fod perthynas wir Rhwng natur a chariadon." "Gwenonwy anwyl,' 'ebai Rbys, "Rhys anwyl," ebai hithau; "Ha, dyna un, O! derbyn hi, A dyro im' d'un dithau; "Mi wela'n eglur," ebai Rhys, Heb unrhyw ftys i chwilio, "Ddigonedd o gynyfrau man," "Ha, ditto," ebai Gweno. "Gwenonwy anwyl," ebai Rhys, "Rhys anwyl," ebai Gweno, "Mi glywais gynt fod dail yr Ynn, Yn ddail sy'n werth eu coelio; Am hyny awn i chwilio am, Y ddinam ddeilen garu, it Sydd yn cynifro heddyw'n der, Pa nifer fydd ein teulu. Gafaelodd Rhys mewn brigyn hir, "Yn wir, yn wir," medd Gweno, "Wel, dyma "ddau gynifer' mawr, Gad ini 'nawr eu rhifo;" Eu rhifo wnawd, ac uno wnawd, I wel'd pa ffawd wnai ganlyn, 0 roi y ddau yn ol y drefn, Ar fonwes lefn y Glaslyn. Tra nofiai'r "ddau g'nifer" Hon Ar dawel fron y Glaslyn, Cyfrifai Rhys a Gwen yn nghyd Fod gwenau'r byd i'w canlyn. "Un peth sydd eto," ebai Rhys, Un peth sydd Rhys," bai Gweno, "Sef taflu bobo gareg gron, Er gwneyd i'r don fodrwyo;" Ond ni chawd hwyl, na fawr 0 flae, Ar ddyfroedd bas y Glaslyn, I roddi arwydd mewn un wedd, Fod 'storm cyn bedd i'w canlyn. 'Roedd anian fel yn Uawenhau Wrth wel'd y ddan mor ddifai, Pob bryn a phant—yn taro tant, Pob cwm a nant grechwenai; A'r gwynt a gariai ar ei fraich Hyfrydol faich o fiwsig, Tra hedd ac hwyl yn llithro'n shydd Trwy gangau gwyrdd y goedwig. Fe dreuliwyd llawer d'wrnod Yn llawen wedi hyn, Gan Rhys a'i anwyl Weno, Ar lan y gloew lyn; A llawer hwyr aeth heibio, Heb eu dolurio hwy, Fel arian wlith ar wenith gwyn, Mewn gwen a chan ddiglwy'. O! wynfydedig adeg, 0 felus oriau mwyn; 'Roedd glan y llyn i'r ddau yn fwy 0 werth na'r byd a'i swyn. Tra ymddkldanai'r ddau mewn cariad pur, Mewn Hid, a brad aeth Rhydderch Ddu ap Llyr, Sef dewis "lane" yr Yswain, Castell Gwyn, I dd'wedid wrtho ef y geiriau hyn: — 'M'ae'n arw genyf dd'wedyd hyn i chwi, I Fod Gwen eich merch yn caru'r llanc difri; 'Rhv,'Il sydd o linach wael ddinod, a thlawd, 'Shwn sydd gan feib y fro yn destyn gwawd." Y geiriau hyn a wnaeth i'r Yswain ffromi, Fe deimlai'i galon dan ei fron yn llosgi 0 lid diail at unig fardd y dyffryn Am iddo ddal yn nghyffion serch ei blentyn. Dywedai Rhydderch Ddu, y bradwr aflan, "Os careoh chwi gael golwg ar Rhys Fychan, Dewch gyda mi at Geubren Ogwy heno, Lie gellweh yn ei geudod byll ymguddio. Yn ol ewyllys Rhyrldercb Yr Yswain Morgan aeth; I wrando'u haddunedau pur, A'u hymadroddion ffraeth. Yn vstod y garwriaeth Gofynai Rhys i'r ferch, "Myfi neu olud mawr dy dad Yw gwrthddrych mawr dy serch?" "Tydi, tydi, Rhys Fychan," Atebai Gwen yn fwyn, "Tydi wyf yn ei garu, Fy nghalon fynaist ddwyn." Ar hyn fe glywyd cyffro Yn ngheudod hyU y pren, "Pwy all fod yn y ceubren?" Yn syn gofynai Gwen. "Dy dad," atebai'r yswain, "Dy dad, dy dad wyf fi; "Yr hwn ni chredodd 'rioed ei fod Yn wrthddrych gwawd i ti. Mewn Uais brawychus rhoddai Res o fygythion erch; I Rhys am iddo hudo Serchiadau'i anwyl ferch. Ond Gwen a blethai'i breicbiau Am wddf y llanc yn dyn, Gan dd'wedyd wrth ei thad heb fraw, "Wrth Rhys fy nghalon lyn." "O'r anwyl, os rhaid i mi oddef Dy weled yn caru y tlawd? Na, rhoddaf di'n gaeth am dy fywyd, Cyn byddaf gan fonedd yn wawd. Dy weled yn disgyn i linach: Del ir myg us, dinod, y Ty-du, A bair i mi ddisgyn i'r beddrod Mewn lamarch o ganol fy mri." Mewn Uais awdurdodol gorch'mynodd "I'r castell 'nawr dychwel fy merch; Mae genyf fi gydmar mwy cymwys, I'th fywyd, na gwrthddrych dy serck." "Mwy cymwys," atebai Rhys Fychan, Gan watwar yr yswain yn fawr; "Mwy cymwys nag un sydd a'i gariad, Yn oliwyddo'n ei fynwes bob awr." Ond ah, y Du a redai Fel ffwl i'r Castell Gwyn, Gan dd'wedyd fod yr Yswain Yn fetrw ger y Llyn. A'r gweision oil redasant Mewn ofn a dychryn mawr. Ac er eu braw canfyddent Yr Yswain ar y llawr. A Gweno gywir galon, Gyfvmyl iddo'n brudd; Mewn llewyg trwm o gariad, A'r dagrau ar ei grudd. Ond Rhys oedd wedi dianc Am fywyd dros y bryn; Tra'i galon friw yn gaeth ar ol Gan ferch y Castell Gwyn. Ymson Rhys Fychan. "0! Gwenonwy, gywir galon, Lanaf feinir-ti wyt Fanon; Ti cnynodd serch fy nghalon, Ti a'm rhwymodd yn dy gyffion. O! mae'n galed arnaf weithian Feddwl am fy anwyl rian; Byw heb Gwen fydd byw heb gysur, Byth tra byddwyf yn ffoadur. Ond mae'n well i'm farw'n gelain Na meddwl byw dan lid yr Yswain, O! na allwn gael un fynyd, I ddal cyfrinach a'm anwylyd. Gwell i mi yn ddiau heno Ydyw myned i ymguddio; I hyll geudod Ceubren Ogwy Lie caf fory wel'd Gwenonwy." Yn forau iawn tranoeth fe roddwyd Gorchymyn penodol i dri O'r gweision i dori y ceubren Er cymain ei urddas a'i fri; Pan roddwyd y trawslif a'r fwyell I weithio ymgomient yn nghyd, Rhyfeddent fod Yswain y Castell Yn t^ygwth ar draws ac ar hyd. Yn ystod yr ymgom dywedent, Mae'n arw i feddwl yn wir, Os delir Rhys Fychan fe'i rhoddir Yn ngharchar am dymor hir, hir; A Rhys yn y ceubren wrandawai Yn glust ac yn lygaid i gyd, Gan dynu cynlluniau er dianc 0 afael yr Yswain a'i lid. Rhy anhawdd yw darlunio teimlad Rhys, Tra torent hwy y ceubren gyda brys, Pan gredodd fod y llif yn dyfod trwy Y pren, par'toa'i 'mosod arnynt hwy; Ond er ei hedd, fe glywai'r corn yn seiniaw Yn uebel glir a chroew, "Dewch i giniaw." Ba Rhys yn ffoadur digysur Am lawer o flwyddi o'i wlad, Yn crwydro drwy randir Ac yno ymunodd a'r gad. Nid to bu ei enw cyn dyfod I sylw. i urddas, a bri, A buan cyrhaeddodd y titl 0 fod yn "Gadfridog y Llu." Er brwydro yn galed yn fynych Ac enill i'w enw fawrhad, Er pobpeth ei feddwl ddychwclai I gwnmi ei rian tra mad. Danfonai lythyrau yn fynych y Er cadw cyfrihach a'r ferch, Fe deimlai ei enaid yn eiddo Gwenonwy, gwir wrthddrych ei serch. Ar ddechreu pob "llythyr" dywedai "Fy nghalon sydd eiddo i ti," A thebyg i hyn y dibenai, "D'wed Gweno, pwy bia d'un di." Mewn hyder disgwyliai yn fynych Atebiad o'r hen Ynys Wen; Ond gan nad oedd arwydd, gofynai, "Áj tybed ai marw fy Ngwen?" "O! na b'ai y gwyntoedd yn oludo Fy ngeiriau arllwysiad fy serch, I Gymru, fy mamwlad anwylaf, A'i sibrwd yn nghlustiau y ferch. Ei feddwl gyfeiriai'n feunyddiol, Fel nodwydd y cwmpawd o hyd, At wrthddrych diail ei serchiadau, Gwenonwy hawddgarol ei phryd. Yn ngwres ei deimladau dywedai, "Gadawaf America Fawr, Dychwelaf i Gymrs, fy mamwlad, Er pob peth cychwynaf yn awr." Trwy ganol ystormytld cynddeiriog Y daith a ddirwynwyd i ben A throediodd Rhys Fychan dir Cymru Yn iach, gan ymholi am Gwen. Mewn pryder cyfeiriodd ei gamrau I fynwent henafol y Llan, Lie hunai holl achau y CasteU, Da gwyddai Rhys Fychan y fan. Darllenai eu henwai yn fanwl Ond safai, edrychai yn syn, Pan welai ef enw Gwenonwy, Sibrwdai ryw eiriau fel hyn: "Ai tybed ai Gweno fy nghariad Sydd yma yn welw ei gwedd? "Os felly, dymunaf gael gorwedd Mewn cyfran o'i beddrod dihedd." Mewn 'storom o liiraeth a galar Y teimlai ei galon ddihedd, A d'wedai fel hyn heb yn wybod, "Eneiniaf a'm dagrau dy fedd." O! Gwenonwy, chwith dy gofio, Fwyn enethig lana 'rioed, Gyda'th dad a'th fam yn rhodio Ar dy nwyfus ysgafn droed; Chwithach, chwerwach g wel'd dy enw, A dy oed ar gauad derw, A'i gofrestru gyda'r meirw, V. dy un-ar-ugain oed. Bellach cwsg hyd ddydd yr orig Olaf yn d'orweddfa lom; Cof am danat fwyn forwynig A gaiff fyw mewn "calon drom;" Er it' farw yn y gwanwyn, Gwanwyn Bywyd—gwanwyn blwyddyn, Ti g'e'st arall wanwyn wed'yn, Dwyfol wanwyn—nef ddisiom. Disgyn wlithyn, loew wjithyn, Taen dy edyn dros y gwys, Lie mae'r blod'yn iach yn chwerthin, Fyth ar fron y llecyn dwys; Lie gwnaf inau hwyr a borau, Dywallt dagrau yn ddidrai, Yn fy arwyl ar bob egwyl, Uwch yr anwyl Un ddifai. Gadawodd Rhys y bedd yn brudd, A dagrau hiraeth ar ei rudd; A throdd i Westdy Bach y Llan, Mewn hiraeth dwys, yn flin a gwan; A phan eisteddocld-aeth yn syn, Dywedai gwr y ty fel hyn, "Ceir gweled foiw Rhydderch Ddu Mewn dirfawr rwysg, a pharch, a bri- Gan Yswain Morgan, Castell Gwyn, Ond garw yw, medd ef, fel hyn, Fod Gwen yn caru llanc o hyd, 'Rhwn sy'n ffoadur rhag erch fid Ei thad-yn mhell o'i wlad ei hun, Ond ryd y bedd car Gwen ei dyn." Deallodd Rhys trwy hyn mai'r fam Oedd yn y bedd yn huno; Gofynai iddo'i hun "Paoom Camsyniais o'r ddwy Weno." Ao yna fe dorodd i wylo yn chwerw, Ac allan i'r heol fel ewig yr aeth; Tra cariad yn brathu ei galon yn erchyll, A'o enaid dihalog gan draserch yn gaeth; A thua preswylfod ei rian gariadlon, Cyfeiriodd ei gamrau yn frysiog a rhydd, Tra hyder ac ofnau fel mellt yn ymsaethu, Trwy eigion ei enaid nes teimlai yn brudd. Tra'r ydoedd gwyllt feddyliau Yn gwneyd ei fron yn llym, Fe ysgyfnhaodd ei galon friw. Pan dd'wedai'r geiriau hyn "Os ydyw Gwen yn para' I'm caru fel y bu; 'Does arnaf ofal," meddai ef, "Yr huna a Rhydderch Du." Tra ymddiddarai ef fel hyn, Dan ffenesti fach y Castell Gwyn; Canfyddai ei gariadlawn ferch Yn wylo dan ddylanwad serch; A llu o ddagrau gloewon mawr Yn treiglo dros ei grudd i lawr; Ac ar ei glust disgynai'n lion Y frawddeg fer gnywysfawr hon- "Rhys Fychan yw fy nghariad gwiw, Fy enaid ynddo sydd yn byw." Bu n agos a thori i chwerthin, Pan glywodd ef frawddeg fel hon; Ymchwyddai ei serch yn ei fynwes, A thorai yn don ar ol ton; Bi Lofnai gyd-gilient i'r cysgod, Darfyddent fel breuddwyd yn ddim, Llawenydd ymgronai'n ei fynwes. A tbarddai fel ffrwd yn ei grym. Mewn hyder a gobaith gadawai y fan, Fod drws yn agored yn Ngwesty y Llan, I'w dderbyn yn siriol dros oriau y nos, Tra teimlai ei enaid yn eiddo'i fun dlos. rw wely aeth, ond nid oedd cwsg, Yn beiddio cau ei lygad; Ei galon oedd yn gaeth trwy'r nos, Gan ddeddf atdyniad cariad; MYfYrisXll ddwys ar bob rhyw air, A glywai am y "Fory," Sef dydd y wledd a dydd y gan, Ac 0! y dydd priodi. Mewn llwyr fyfyrdodau bu Rhys drwy y nos, Gan ddisgwyl yn ddyfal i'r dwyrain gain dlos Am doriad y wawrddydd,sef dydd can a gwledd, Dydd gwisgo llawenydd yn lion ar bob gwledd. Fe gododd yr huan, gan wenu yn ffraw, A chodwyd banerau trwy'r LIan ar bob Maw, A'r frawddeg hon arnynt, "Hawddamor pur, pur, Fo byth i Gwenonwy a Rhydderch ap Llyr; Ac oes o lawenydd i'r ddeuddyn yn nghyd," Oedd iaith trigolion ar draws ac ar hyd. Gwrandawai Rhys Fychan yn astud o hyd, Gan sefyll fel delw yn welw a mud; 'Doedd neb yn adnabod Rhys Fychan yn awr, 'Roedd wedi dieithrio, ei farf ydoedd fawr. Ond pan y cyrhaeddodd y cerbyd, Rhys Fychan A waeddodd, "Gwenoawy, Gwenonwy, tyr'd allan; A hithau a neidiodd mewn eiliad o'r cerbyd, Gan Waeddi, "Rhys Fychan yn wir yw 'fan- wylyd. A Rhys a arweiniodd yn lion ei Wenonwy, Y borau canlynol at allor Llanogwy; A'r Person a'u hunodd rhy gadam i'w hysgar, Ga,n elll na chyfaill, na neb ar y ddaear.

A Pontypridd Quarryman at…

YSTRADYFODWG SCHOOL BOARD.

Terqple Eqglislj Baptist,…

.-__----_-----Wards of the…

-_---__--Tragic Death at Cowbridge.

Advertising

Occidents at Collieries.

MIRACLES.

EXCITING SCENE AT PONTYPRIDD.

Re-opening of the Wesleyan…

CAERPHILLY BREWSTER SESSIONS.

A GOOD DIVIDEND.

WEDDINGS.

------..------DON'T BREAK…

Advertising