Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Barddoniaeth. 41-

News
Cite
Share

Barddoniaeth. 41- Bydded i'r Beirdd a'r Llenorion cyfeirio en aynyrchion fel hyia:- T. DARONWY ISAAC, Treorky. RHIAN DDEL GLANRHONDDA. Sef Chwe' Telyneg Serch. Un « destynau Eisteddwod Genedlaethol Ffestiniog, 1898. Gan TUDWR TWYN, Sef T. Tawenog Yorth. I.-Bydd dawel, deg Dywi. 2.—Mae rhywbeth o hyd yn fy nghalon. 11 3.-Dyro wen a chusan, Gwen. 4.—Tros y Gamfa. S.-Hae fy nghalon fel y ddeilen. 6.—Dwy galon mewn un fodrwy. BYDD DAWEL, DEG DYWI. Alaw, "Acen y 'Glomen/' Bydd dawelj deg Dywi, ar wely dy ro, Mae'r hwyr yn cysgodi glan lenydd y fro,; A'r nos yn dynesu i daenu yn rhydd, Ei chwrlid dros wely llaith hunawl y dydd; Bydd dawel-su-gana, ar delyn dy grych, Ber fiwsig murmurol o gordiad aur glych; I'r fun sydd ar fyned i orphwys ei phen, Bydd dawel, deg Dywi—paid deffro fy Ngwen. Bydd dawel, deg Dywi-lan lonydd dy li'. Tra calon ac enaid fy Ngweno fwyn gu, Yn hyfryd ymloni rhwng Hedrith a hud, Lie tyf serch-feddyliau gwynfaol eu pryd; Bydd daweI-gad iddi freuddwydio yn lion, Am ganwyfl ei llygad, a balchder ei bron! Am un sy'n ei charu, yn bur a dilen— Bydd dawel, deg Dywi, paid deffro fy Ngwen! Bydd dawel, deg Dywi] nid hir bydd y nos, A'i phen ar obenydd o friall a rhos; Cei weled yn fuan y gwlith flodau per, A'u gruddiau yn sychion yn angladd y ser; A thithau rhwng breichiau dy lenydd gwyrdd, glan, Yn chwareu, yn dawnsio, a chwyddo y gan; Ond aros, bydd dawel, nes gloewa y nen, Bydd dawel, deg Dywi—paid deffro fy Ngwen. 01 Dywi deg dawel! ar loewder dy don Mae'r haul er ysmeityn yn chwerthin yn lion; Gyr, bellach, heb orpliwys dy donau gwyn, glan, o geulan i geulan i chwyddo dy gan; o chwydda fel-fiwsig dy furmur diail. Yn ghleth a chathlau swynhudol y dail; Mae'nth lanau'n ymloni fel Eden ddilen,— O! Dywi deg dawel-Deffroa fy Ngwen! MAE RHYWBETH 0 BBTD YN FY NGHALON. Alaw, "Y Fwyalchen." Mae rhywbeth o hyd yn fy nghalon, Yn gwneuthur fy meddwl yn brudd; Fe'm IIethrir gan echrys freuddwydion, Bob nos er pan welais dy rudd; Beth ydyw? Pwy ydyw yr achosydd o laono! sy'n hysbys i mi! Betih ydyw? Pwy yw ei ddehonglydd Sydd gwestiwn, fy Ngweno, i tiJ Mae rhywbeth o hyd yn fy nghalon, Tn difa'm hoenusrwydd a'm nerth, A'm gwneyd yr un ddelw yn union, A'r ddeilen wywedig ar berth! Beth ydyw? Pwy feiddia, ro'i hanes Y gelyn a laddodd ei Iii? Pwy wnaiff ei alltudio o'm myn.wes? Sydd gwestiwn, fy Ngweno, i ti! 11 Mae rhywbeth o hyd yn fy nghadon, Yn toni fel llanw didrai; Ei hebgor nis gallaf yr awrhon, Beth bynag gyfrifir yn fai; Mae'n tori ar raws fy nheimladau, Fe'u gyra i anrhefn na bu Ei debyg—a'r holl ganlyniadau Sydd gwestiwn, fy Ngweno, iti. Mae rbywbeth o hyd yn fy nghalon, Ymhola mewn pryder yn ddwys,— Beth ydyw prif hoffder fy manon, A phwy sydd yn denu'r un lwys? 0 dyro atebiad, Gwen dirion, Rho falm ar fy mynwes fach, friw, Tl wyddost pwy bia fy nghalon, Ti wyddost n*ai d'elddo di yw! DYRO WEN A CHTXSAN, GWENO. Alaw, "Wyt £ I'n cofio'r lloer yn codi." Dyro wen a chusan, Gweno, Aeddfed ffrwyth dy galon fach; A gad imi brofi elo, Fod dy gaiittd cynta'n iach; Mae dy hudol wenau, Gweno, A dy fel-gusanau gwiw, Wedi mynych, mynych glwvfo, A gwellhau fy mynwes friw. Dod dy law a'th gusan, Gweno, Yn fy llaw a'm calon i; Mae fy enaid iti'n eiddo, Er pan gyntaf gwelais di! Nid oes dim yn mro marwolion, A foddlona'm serch a'm bryd, Ond meddianu'th law a'th galon, Gweno d'wed, "0 gwyn dy fyd!" Dyro'th air a'th amod Gweno, Lladd y gwrthddadleuon erch; Sydd bob dydd a nos yn brwydro, A gobeithion goreu serch! Gwel'd dy wedd sydd yn trydanu Fy holl eRaid a'i wellhau, Gan nereiddio'r awyr imi, Megys mwyth arogledd Mai. Dyro'th wen a'th gusan, Gweno, Dod dy law a'th galon bur; Dyna waddol gwerth ei cheisio, A'i nachau chwanegai'm our; Dyro air, a dyro amod, Fel gorphwysaf mwy yn iach, Nefoedd imi yn mhob trallod Fyddai'th gwmni, Gweno Fach! TROS Y GAMFA. Alaw, "Gyda'r Wawr." O! tyr'd dros gamfa'r bwthyn, Gweno fwyn, Gweno fwyn; I gynhes sol dy folwyn, Gweno fwyn; 1 A brysia i'm cySUro, A gad i'm brofi eto, Fod yr adduned hono Yn dal yn fyw ac effro, Gweno fwyn, Gweno fwyn; O! tyr'd dros gamfa'r Faenol, Gweno fwyn, Gweno fwyn; I wel d "Y Swp Blodeuol," Gweno fwyn; A roddaisTweithivvr imi, Sydd heddyw ar ddiflanu, Fel darlun didosturi Fod serch dy fron yn oeri! Gweno fwyn, Gweno fwyIl;1 O! tyr'd dros Gemfa'r Dyffryfif Gweno fwyn, Gweno fwyn;i A gair i ladd y gelyn, Gweno fwyn; Sydd beunydd dan fy nwyfron, Yn chwerwi fy nghyguron, ] O! dyro im\ un dirion, j'" IDy wen, a'th air, a'th galon. Gweno fwyn, Gweno fwyn; O! tyr'd dros Gamfa Gwyno, Gweno fwyn, Gweno fwyn; LI" cawn a Itw ein huno. Gweno fwyn; 0 flaen hen allor Hymen, Er gwell a gwaeth—i'r dyben 0 dreulio'r tymor addien, Dan bob rhyw groes yn Hawen, Gweno fwyn, Gweno fwyn. Cawn wed'yn Ion ddychwelyd, Gweno fwyn, Gweno fwyn; Yn un yn rhwymyn bywyd, Gweno fwyn; A 1 afaidd iach gyd-droulio, Ein hoes i ben, fy Ngweno, Cyn myn'd i'r bedd i huno, Tu draw i Gamfa Gwyno! Gweno fwyn, Gweno fwyn. MAE FYNGHALON FEL Y DDEILEN. Alaw, "Peidiwch goTyn imi ganu." Bu fy nghalon fel y ddeilen, Ieuanc, iraidd, ar y brig; Yn ymloni yn ei Iielfei*, TJwch gofidiau'r byd a'i ddig; Trsulio'r dydd a'r hwyr yn gyfan, Gyda'm Gwen ar Iwybrau'r wig, Gynt fu'n gwneyd fy nghalon fechan, Fel y ddeilen ar y brig. Mae fy nghalon fel y ddeilen, Yn y cof am danat, Gwen! Ddydd a nos yn iach a Ilawen, Sydd yn siglo uwch fy mhen, Cofio dy amodau'n gryno, A dy wenau pur, dilen; Sydd yn gwneyd i'm calon ddawnsio, Fel y ddeilen uwch fy mhen! Mae fy nghalon fel y ddeilen, Sydd yn gwywo ar y pren; Yn d("ifudd i bob rhyw ddyben. Oddigerth l'th garu, Gwen! Methu'th gwrdd a chael dy gwmni, Dyna p'am f'anwylaf un,- Mae fy nghalon fach yn gwelwi, Fel y ddeilen welw g-rin. Mae fy nghalon fel y ddeilen Sydd yn dilyn cwrs y gwynt; Gan chwyrnellu ar ei haden, Dros yr hudol iwybrau gynt; Gofli'rti gwmni,m hanwyl rian— Balchder fy ngobeithion gynt; Dyna'r p'am mae'm calon fechan Fel y ddeilen yn y gwynt. 0 1 fy Ngwen, na ad i'm calon, Fel y ddeilen welw grin; Fyn'd i'r llwch neu'r ffos yr awr hen, Idd ei s?thru yn ddilun; Caniata i'm olwg ete Ar dy wedd heb eilw dig, Dyna wna i'm calon ddawnsio Fel y ddeilen ar y brig! DWY GALON MEWN UN FODRWY. Alaw, "Y Gwenith Gwyn." Dwy galon mewn un fodrwy gron, Fy ngeneth Ion yn gwenu; Yn lhm a lliw y rhosyn cain, A'r hudol firain lili, Sydd yn prydferthu bywyd cu, Peb dau fu yn cydsiarad, Eu holl gyfrinion yn ddilen I ben yn neusill cariad. Dwy galon mewn un fodrwy, Gwen, Yw bendith fawr ein talar; Am hyny awn ein dau yn nghyd, I wynfyd penaf daear; Cawn wed'yn fyw i dreufio'n byd, Yn Hawen fryd y galon, A chanu'n iach—heb ddim yn oJ, Yn nghanol pob trallodion. Dwy galon mewn un fodrwy fach, Yn glaf ac iach mewn bywyd; I gydymdeimlo yn ddiball, Heb unrhyw wall sy'n hyfryd; A didwyll gydfefysu'r fin, Serch profi blin ofidiau; A sugno bedd i'r fron yn llwyr,— O'u Ilafur hwyr a borau. Dwy galon mewn un fodrwy wiw, Fy Ngwen yw'r fendith fwyaf, A roddwyd gan y nef ei hun, I fab a'i fun anwylaf; Am hyny gwisg, O! gwisg, fy merch, Yn arwydd serch ymlyniad, Y Fodrwy heddyw, doed a ddel, Yn nod digel o'n cariad!

Colofn y Gyirjry. +

Fatalities of the Bathing…

Advertising

SAVED FROM THE SEA.

A Drunken Publican.

Advertising