Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
--NODIONI NED LLWYD
News
Cite
Share
NODION I NED LLWYD TALYCAFN.. Deallaf fod Mr. Webb, y gorsaf-feistr, wedi cael ei ddyrchafu. Mae: wedi ei symud oddi yma i St. Asaph. Bu Mr. Webb yn Nhalycafn am gyfnod, lied faith, ac yr oeddl yn sinol a charedig bob amser. Hyderaf y bydd ei ar teulu yn hapus yn y He. newydd. Mae ei Ie yn Talycafn wedi, ei gymeryd gan Mr. JonelS: oedd yn Txefnamit. Yr wyf yn ei adnabod el's blyn- yddau, ac yr wyf yn gwybodi y bydd efe yn barodl ac ewyllysgar i roddi pob hwylusdod i bawb. 'Gwr yn dritigo i fyny ydyw Mr. Jones. Caffed iechyd a hwyl i gyflawni ei ddyledswyddau yn Talycafn. LLANRWST. Hen dro angharedig a wnaed gyda*, gwr gweddw 'o'r Bettws ddaeth yma i garu. Rhwymwyd y drws ar ol iddo fyned: i'r ty (ni ellir gwneyd ihyny gyda phobty). Nid oedd; gan y rhai fu yn rhwymo gadwen gref, ac oherwydd hyny llwyddodd y carwr i gael ei draed yn rhydd yn fuan, ac aeth gartref. Yr oedd yn dda i'1: rhai .a'i rhwymodd na ddaliodd ef mohonynt, onide ofnaf y buasai wedi pobi peth arnynt. Paham na roddir yr un rhyddid i weddwon i garu ac i eraill? Na ddigaloned y brawd er gwaethaf pob rhwystr. Rhoddwyd llawer careg ar y ffordd pan oedd Catrin a minau yn caru, ond' priodi fu raid i ni gael! Fe glywais fod pedwar o fechgyn o Gonwy ar noson y ffair fel yn dilyni o hirbell rhyw ferched o Llandudno, ac aeth dau i ddanifon dwy ohonynt i'r junction, ar nos Sadwrn wedyn mi aethant i'w cyfarfod i Mostyn Street, ac arhosasant yn rhy hwyr nes colli'r tren,. Bu raid .iddynt gerdded adref. Cyrhaedd- odd y ddan i Gonwy pan oedd yn agosi i haner nos! Nid rhyfedd oedd colli'r moddion bore Sul. Tro call wnaeth y ddau y Sadwrn dilynol, sef myned a'u bicycles gyda hwy. Mae y llythyr sydd' yn dweyd hanies y ddau genyf, ond ni chy- hoedidaf ef. Yr wyf yn ofni fy mod wedi tynu gormod o ferched Llandudno yn fy mhen. BETTWS-Y-COED. Yr oedd yn dda genyf weled mewn papyr Saesineg yn ddiweddar enw Mr. John Wynn, porter yn y station, wedi emll gwobr o dde-g Lilt am stori. Well done Wynn! Mi fynaf gael ysgwyd Haw ag ef pan fyddaf yn myned i Benmachoo. Rhaid imi fyned yno yn fuan, j fod Evan Rees yn deud ar e.i wir os nad at y bydd iddo anfon Davies, y plisman, i wneyd i mi ddwad. Mae yn addaw v bydd i'w feistres Toi croesaw mawr i mi. Nid oes arnaf fawr o ofn na chawn groes'aW. Mi welais Davies, y plisman, yn y 'Steddfod yn Nghaernarfon, ac yr oedd. yn dda genyf ei weled' yn edrych mor dda; mae yn amlwg fod preswylwyr y llan a r Cwm yn rhoddi ufudd-dod iddo, a phawb yn ym- ddwyn yn lied dda yno. Peidied ef ac Evan Rees a synu os gweliant fi yno ar nwn Sadwirn yn fuan cyn i'r tywydd oer ddyfod. Mi ofalaf am anfon at y ddau. FFEIRIAU. Drwg genyf na chefais fyned i ffair Llanfair- fechan na ffair Aber. Dwy ffair boblogaiddd, a dwy ffair lie bydd amryw o droion doniol yn cymeryd lie. Mi ddaru mi gadw 'mhre!sl i fyned Llanfair i'r cyngherdd sydd gan y Bed- ydd'wyr wythnos i nos Wener nesaf, er mwyn i mi cael clywed Miss Mary King Sarah a Will Roberts, a Chefni Jones, &c. Mae Ap Cenin wedi addaw go'falu am le i mi. Clywais ei fod ef a'i feistr, Mr. Hughes, wedi cael llawer o hwvl yr wythnos ddiweddaf, nid yn unig i in- siwrio pobl, ond i adrodd englymon. Pwy fuas. ai yn meddwl fod Hughes yn teimlo cymamt o ddyddoirdeb mewn beirdd a barddoni? BANGOR. Hysbysir fi fod Dr. Rogers wedi ei ddewis yn organydd i'r Eglwys Gadeiriol allan o dros ^°° o ymgeiswyr. Pwy allesid, gael yn well. Fel y gwyddis bu',r Dr. yma yno o'r blaen am flynydd- oedd. Mae y penodiad wedi rhoddi boddlon- rwydd mawr i breswylwyr y ddinas yn gyttrea- inol. Mi a wn fod genych adrodd.ad belaeth o'r cyfarfod, cyhoeddus a fu yn y Penrhyn Hall nos Lun, onide. buaswn inau yn, crybwyll am rai pethau vnglyn ag ef. Dyma un peth. Dywedir fod un pendlerfyniad, yn cael ei gynyg gan deil- iwr a'i gefnogi gan deiliwr arall. Rhyfedd na fuasai y pwyllgor wedi trefnu yn wahanol i hyn. Cofier, nid oe.s genyf ddim yn erbyn yr urdd hon, and yr oedd fod un yn cynyg a'r llall yn eilio yn rhoddi gwedd deilwraidd ar y mater, a chafodd y ddau gyfle da i bwytho tipyn ar y Cynghor Trefol, ac eraill hefyd. Dyma un sylw: "Da genyf fod yr un sydd wedi cymeryd y gwaith o adeiladu y Llyfrgell Gyhoeddus wedi addaw rhoddi gwaith i weithwyr y ddinas; byddai yn burion peth i'r rhai o honoch fydd yn prynu dillad gofio hefyd am y teilwriaid car- trefol Clywais mai gan y teilwriaid yn unig y mae undeb yn y ddinas. Yr oedd rhai yn oeisio dweyd mai amcan y cyfarfod oedd rhoddi cyfle i Mr. Phylip Snowden, A.S., i egluro hawl- iau llafur, er rhyddhau y ffordd i ddod allan yn erbyn Mr. Lloyd-George, A.S. Lol i gyd. Mae I etholiad Cynghorwyr Dinesig i, fod y mis1 nesal, a. thybiodd rhai ryddhau y ffordd ar gyfer hwnw, ond dyryswyd y cynlluniau i raddau, yn olaglywais. TELYN YR ORSEDD. Fe gofir i Ap Eos M6n a'i ferch gyflwyno telyn at wasanaeth yr Orsedd, yn Nghaerinairfon ar fore dydd: olaf yr Eisteddfod. Ar y pryd diolchwyd i'r ddau am eu rhodd deilwng, a deirbyniwyd hi gyda chymeradwyaeth gyffredinol. Yn awr mae gohebwyr dienw yn gwneyd ymosbdiad anghar- edig ar .roiddwyr y delyn. Yr unig ffordd i'r rhai hyn i wella pethau fyddai rhoddi telyn well. Hyd nes y byddant yn barod i wneyd hyny, credaf mae doeithach fyddai iddynt fod yn ddistaw. Tebyg ydyw mae cenfigen sydd yn cyfrif am y llythyrau brwnt. Mae enw Ap Eos Mon a'i glod fel dadganydd, yn hysbys trwy Gym'ru a Lloe.gr, ac mae ei ferch, Telynores Ar- fon, wedi cael yr anrhydedd o chwareu, cyn hyn, gerbron rhai o fawrion y tir'. Hydleraf na fydd i'r llythyrau cemfigenllyd oeri dim ar eu sel a u gwladgiarwch a'u hawydd i gadw yn fyw Delyn Cymru a'i chin. 'NED LLWYD," "Weekly News" Office, Conwy. Ned Llwyd." (Cyflwynedig i Staff y "Weekly News.") 0 holl lenyddiaeth hanes Col-ofnau 'ch, papur glAn, "Ned. Llwyd" a'i Nodion cynes, Yw arwr hyn'o gAn. Ystyrir ei ysgrnfau Yn addurn gan rhyw lu: Ei fedr yw ei ddoniau, Mae 'n llawn athrylith CUi. Amrywiaeth ydyw nodweddi Ei "Nodiion" difyr ef Eangder ei olygweddl Gylchyna wlad a thref. Ni cholla un digwyddiad. 0 bwysi, heb iddo gael Gan Edwardl ei bortread. Mae 'r gallu ynddo 'n hael. Gwr ieuanc, neu "young lady," Nld yw o bwys pa un, A rodia ffordd direidi, Mae 'n rhwym o'i dâl ci hun. Mae dawn "Ned Llwyd" at alwadi I gerydid, neu i glod;" Wrth geisio byw yn wastad Y cyrchir at y nod'. Mae gwersi byw ei "Nodion" Yn werth y deyrnged hon Ysgrifau llawn o swynion, I A gwledd i'r pitudd ed fron. Darlunio cymeriad-au,- Pwy 'n well i'r gwaith na'r "Llwyd"? His oes dymunwn yn.te, Mae 'i waith i lu yn fwyd. Roe Wen. IOAN AP IOAN.
Newyddion yr Wythnos.
News
Cite
Share
Newyddion yr Wythnos. Y mae yr aelodau o Orsedd Beirdd Ynys Prydain fu yn cynrychioli Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Llydaw yn ddiweddar wedi pender- fynu anrhegu Gorsedd Beirdd Llydaw a. baner yr Orsedd. Cyflwynir y faner i gynrychiolwyr Lly- daw yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf. Yn ei adroddiad cyntaf o'i ymweliad a thyloty y Valley, dywedai'r Arolygydd newydd, Mr. H. R. Williams, mai bara llaeth oedd y ciniaw y diwrnod hwnw. Yn Nghyfarfod y Gwarcheidwaid penderfynwyd gofyn i Mr. Williams roddi ei anerchiadau yn Gymraeg. I Mr. P. W. Dodd, disgybl yn Ysgol Sirol Grove Park, Gwrecsam, fu yn llwyddianus i enill bathod- yn aur y prif arholydd am y safle uchafyn arholiad Bwrdd Canolog Cymru. Dyma'r wythfed tro i'r bathodyn gael ei roddi, ac y mae wedi ei henill bedair gwaith gan ddisgyblion Grove Park. Yn llys ynadol Prestatyn yr wythnos ddiweddaf, gwysiwyd Syr Pyers Mostyn am wrthod talu treth y tlodion dros ysgoldy yn Llanasa, ond tyn- wyd y wýs yn ol, gan nad oedd yr ysgoldy, oblegid si fod yn sefydilad gwirfoddol, yn agored i'w threthu. Anfonwyd Robert Bert i garchar fis am fod yn feddw yn ngofal ceifyl a char, ac am gamdrin y :effyl yn greulawn, yn Ngholwyn Bay. Dr. R. H. Griffith, Abersoch, gafodd ei benodi yn fuch-frechydd dosbarth Nefyn, yn lie y diweddar Dr. Thomas. Dydd lau diweddaf, cynhaliwyd y trengholiad gohiriedigar gorph y baban gafwyd mewn cist ludw yn Ngholwyn Bay yn ddiweddar, pryd y dygwyd rheithfarn o lofruddiaeth wirfoddol yn 2rbyn geneth o forwyn o'r enw Ada Long. Y mae Awdurdod Addysg Sir Gaernarfon wedi tynu allan raddeg o gyflogau athrawon ac athraw- gsau. Yn ol y cynllun newydd bydd cynydd o E1764- yn ngyllogau y sir. Y mae yr Ysgoloriaeth Sirol yn Flint, yr hon sydd yn werth £30, wedi ei henill gan Evan Owen Parry, o Ysgol Sirol Treffynon. Mewn llythyr at Gymdeithas Rhyddfrydol Meirion, dywed Mr. Osmond Williams, A.S., fod y Llywodraeth wedi roddi gormod o ffordd i'r Wrth- blaid yn nglyn a. Mesur Addysg, ac fod Adran 4 yn tueddu i wneud ysgolion sectyddol yn fwy sectydd- ol nag erioeil. Hefyd dywed yr aelod anrhydeddus nad oedd yn gweled un esgusawd dros y Ddirprwyaeth yn nglyn a Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru onid 15 oedd Cymru, laweroedd o weithiau, wedi siarad yn ddifloesgni ar y mater hwn ? Y mae Awdurdod Addysg Sir Ddinbych, wedi penderfynu gwrthod cynal ysgol Babyddol Din- bych, oherwydd fod y Tad Francis Williams wedi troi ymaith un ysgolfeistres ac wedi penodi un arall yn ei lie ar ei gyfrifoldeb ei hun, ac yn groes i reolau yr Awdurdod Addysg. Wrth fyned trwy restr yr ymgeiswyr am y swyddi o feistr a meistress tlotty Bangor, pender- fynoddy Gwarcheidwaid wneud i ffwrdd ag ym- geisiaeth pob cwpl a phlant ganddynt. Cododd hyn wrthwynebiad oddiwrth un o'r boneddigesau sydd yn aelod o Fwrdd y Gwarch- eidwaid, yr hon a ddywedodd y gwrthdystiai trwy beidio pleidleisio. Y mae ymddygiad y Gwarcheidwaid yn y mater hwn yn agored i opiniwn, gan eu bod yn myned yn hollol groes i ddysgeidiaeth gymdeithasol oreu y dydd. Y mae boneddwr o'r enw Mr. Simmer, yr hwn a erys yn Fairbourne, Abermaw, wedi cyfranu £ "50 tuagat Goleg y Brifysgol ym Mangor. Y mae Mr. Webb, gorsaf-feistr Talycafn, wedi ei benodi i fod yn orsaf-feistr Llanelwy, yn lie Mr. Milford, yr hwn sydd wedi ei benodi i Amlwch yn lie tad Mr. Webb, yr hwn sydd yn ymddiswyddo. Am y tro cyntaf er's deng mlynedd nid oedd achos i'w dreio yn Mrawdlys Sir Drefalwyn. Bu farw Cadben John Lewis, meistr porthladd Abermaw, yr wythnos ddiweddaf, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd wedi dal y swydd am ugain mlynedd. Taflodd ynadon Porthmadog allan y cyhuddiad o ladratta pedair punt a ddygwyd yn erbyn Thomas Lloyd, un o glercod Cwmni Oakley, gan weithiwr arall perthynol i'r un cwmni. Boreu Sadwrn diweddaf cafodd morwyn yr Hy- barch Archddeacon Williams, Meirionydd, hyd i'w mheistr wedi ymgrogi yn yr ysgubor. Rhedodd am gynorthwy, ond pan ddaeth ei fab yno, canfu fod ei dad wedi marw. Yr oedd yr Archddeacon yn 55 mlwydd oed ac yn bur adnabyddus yn mhob cylch eglwysig a llenyddol yn Ngogledd Cymru. Iselder yn codi oddiar ddiffyg cwsg ydoedd y rhes- wm debygir. Y mae pwyllgor wedi ei benodi i gymeryd mewn llaw yr awgrym roddwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf o godi Cronfa i wneud tysteb genedlaethol i Mr. D. Emlyn Evans am ei lafur a'i wasanaeth i gerddoriaeth am y 35 mlynedd diweddaf. Cwynai Mary Williams, Abergele, wrth ynadon Colwyn Bay, ei bod wedi ei chadw yn y gell am bymtheg awr a hanner heb gwpanaid o de. Dy- wedai heddgeidwad Colwyn mai wedi meddwi yr ydoedd yn yr orsaf yn ddiweddar, ac er iddo gynyg rhywbeth iddi i fwyta, ei bod yn rhy sal i'w gymeryd. Dirwywyd hi i hanner coron. Y mae Wesleyaid Cymreig Llandudno yn myned i adeiladu capel newydd yn Lloyd Street, yr hwn a gostia £ 4,100. Nos Wener diweddaf, llywyddai Mr. William G. C. Gladstone, Penarlag, dros ddarlith gan Mr. J. R. Marriott, Rhydychen. Yn ei anerchiadcanmolai Mr. Gladstone y cynllun o roddi addysg Rhydychen i rai nas gallent fyned yno i fanteisio ar y cyfleus- derau, a dywedai fod y cynllun yn rhywbeth tebyg i'r hyn a wneid gan y lleiogion yn yr hen amser. Tra y byddai y mynachod yn cadw eu holl ddysg yn y mynachdai, elai y lleiogion i dai y bobl i'w dysgu, ac felly y mae'r cynllun daionus hwn yn Rhydychen yn gwneud. Dydd Gwener diweddaf, fel yr oedd amryw o blant ysgol Colwyn Bay yn chwareu gyda trolley oedd wedi ei gadael mewn cae cyfagos, hyrddiwyd plentyn bychan i Mr. William Hoskins, Bryn Cel- yn, Grove Park, yn erbyn coeden, ac anafodd ei ben mor dost fel y bu farw y noswaith hono. Mae cydymdeimlad y dref gyda'i rieniyn euprofedigaeth. Yn Ilys ynadol y Valley, dydd Llun, tynodd yr ynadon glwb ymyfed Rhydymwyn oddiar y rhestr o glybiau cofrestredig. Nis gellir ail-gofrestru y clwb am bum mlynedd. Mewn cyfarfod o oruchwylwyr ysgolion dyddiol Dosbarth Conwy, cwynai y swyddog gorfodol yn erwin yn erbyn yr arferiad o fyned a phlant capelau ar wib-deithiau yn ystod yr amser y byddai yr ysgolion yn agored. Penderfynwyd anfon llythyrau i'r gwahanol weinidogion yn tynu eu sylw at y mater. Y mae glowyr Mwnglawdd y Phoenix, gerllaw y Wyddgrug, wedi dod allan ar streic, am na chy- tunai y meistriaid i roddi codiad yn eu cyflogau. Effeithia hyn ar 300 o weithwyr. Gwrthodd ynadon Porthaethwy drosglwyddo trwydded i wraig oedd yn byw ar wahan i'w gwr. Cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig o Gangen Llafur Dinas Bangor yn y Penrhyn Hall, nos Lun, dan lywyddiaeth y Parch. T. Gascoigne. Y prif siaradwr ydoedd Mr. Philip Snowden, A.S., yr hwn a draddododd anerchiad rhagorol ar y sefyllfa y dylai gweithwyr gymeryd yn y byd politicaidd. Gyda golwg ar flwydd-daliadau i weithwyr oed- ranus dywedai Mr. Snowden mai mater o arian yn unig ydoedd, a phe buasai'r Llywodraeth yn I ail-afael ynnhiroedd y Goron, y buasai yn gallu ym gymeryd a rhoddi y jjblwydd-dal heb wasgu ar neb. COLWYN. CYMDEITHAS YMDRECH GRISTION- OGOL.—Y mae Annibynwyr, Wesleyaid, a Metho- distiaid Calfinaidd y lie uchod wedi uno â'u gilydd i gael Cymdeithas Ymdrech Gristionogol Undebol i'r bobl ieuainc, i'w chario yn mlaen ar yr un llin- ellau a'r Christian Endeavour Society," yn yr rhai y darllenir papyrau ar wahanol faterion, &c. Cynhelir cyfarfodydd gweddio bob yn ail wythnos. Y swyddogion am y tymhor hwn ydynt :—Lly- wydd, Parch. Lewis Williams (M.C.); is-lywydd, Mr. R. A. Jones (W.); trysorydd, Mr. D.E.Jones, Gwynfor; vsgrifenyddion, Miss Evans, Mohrcroft, a Mr. A. Williams, Henblas. Cynhelir y cyfarfod cyntaf yn Nghapel Ebenezer (A.), nos Wener nesaf, Hydref 5ed, am 8 o'r gloch Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynal yn y tri capel yn eu tro, a hyderir yn fawr y bydd i'r ieuenctyd gymeryd mantais arnynt, oblegid, a chymeryd y rhaglen fel arwein- ydd, bydd y cyfarfodydd yn sicr o fod o fudd a ben- dith iddynt.
Cyfarfod Ysgol Dosbarth Llanrwst.
News
Cite
Share
Cyfarfod Ysgol Dosbarth Llanrwst. Cynhaliwyd cyfarfod ysgol dau-fisol y dos- barth uchod yn Bethel, y Sabbath diweddaf, pryd yr oedd y cynrychiolwyr canlynol yn bresenol:— Mr Henry Davies a Mr Wm. Roberts, Talybont; Mr W. H. Williams a Mr J. R. Jones, Seion; Mr W. J. Williams, Y.H., Scotland Street; Mr David Evans a Mr Evan Parry, Salem; Mr John Williams, Carmel; Mr Thos. Jones, Bethel; Mr Edward Owen, Nant; Mr William Jones, Tanlan Mr Evan Jones, Tanycelyn Mr John Parry, Gosen Mr R. E. Thomas a Mr Pierce Evans, Trefriw Mr J. J. Morgan, Roe Wen Mr Wm. Evans, Ty'nygroes Mr Wm. Hughes, Llwynygwaew; Mr William Williams, Ysgrifenydd a'r Parch O. Gaianydd Williams, Arholydd. CYFARFOD Y BOREU. Dechreuwyd cyfarfod y boreu trwy i Miss Jane Jones, Hafod, roddi adroddiad nodedig o dda o'r drydedd bennod o'r Actau, ac i Mr John Williams, Carmel, arwain mewn gvveddi. Holwyd y plant oddiar y drydedd bennod o'r Rhodd Mam," gan Mr Evan Jones, Tan y Celyn, ac yr oedd yn amlwg fod y plant wedi meistroli eu gwaith- Rhoddwyd cynghorion gwir ragorol iddynt gan Mr. William Roberts, Talybont. Holwyd y dosbarth canol oddiar y drydedd bennod o'r Actau gan Mr John Parry, Gosen. Yr oedd cyfaill i Mr Parry wedi dweyd wrtho ei fod yn credu nad oedd ieuenctyd yr oes yma mor hyddysg yn yr Ysgrythyrau yn gyffredinol ac y disgwylid iddynt fod, a chymerodd Mr Parry fantais ar y cyfieusdra i holi yn bur gyffredinol yn hytrach nac ar gynwys y bennod oedd wedi ei pharatoi, fel na chafodd y dosbarth chwareu teg i ddangos faint oeddynt wedi ei lafurio yn y maes. Cafwyd anerchiad rhagorol gan y Parch. O. Gaianydd Williams" ar y pwys- igrwydd i ni fod yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau, a chyfeiriodd at y cyfrifoldeb oedd ar rieni ac athrawon yr Ysgol Sul ynglyn a hyn. Diweddwyd trwy weddi gan Mr Evan Parry, Salem. CYFARFOD ATHRAWON. Yn absenoldeb Mr W. Lloyd Roberts, Llanrwst, penodwyd Mr J. J. Morgan, Roe Wen, i edrych dros lyfrau cyfrifon yr ysgol gyda Mr D. Evans, Salem. Cafwyd hanes yr ysgol a phrofiad yr athrawon dan arweiniad Mr W. J. Williams, U.H., Llanrwst. Dywedai yr arolygwr nad oedd y presenoldeb lawn cymaint yn ystod y ddau fis diweddaf. Yr oedd nifer fawr o blant yn mynychu yr ysgol, ond yr oedd cryn lawer o'r bobl mewn oed yn esgeuluso. Rhoddid anogaethau ar nos Sabbathau ar iddynt diyfod, ond nid oeddynt wedi penodi neb i ymweled a hwynt. Canmolai yr athrawon am eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd, a haeddai y dysgu allan ganmoliaeth uchel. Rhif yr ysgol ar y llyfrau oedd 94, yr hyn ddangosai gynydd o unarddeg ar y flwyddyn ddiweddaf, ac yr oedd cynydd yn nghyfartaledd y presenoldeb o bedwar. Deg oedd nifer y dosbarthiadau, o ba rai yr oedd dau yn ddosbarthiadau dros 2iain oed. Mynychai oddeutu deg ar hugain y cyfarfodydd darllen. Terfynwyd trwy weddi gan Mr J. R. Jones, Seion. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Adroddodd Miss M. J. Williams, Plastirion, y bummed bennod o'r Rhufeiniaid. ac arweiniwyd mewn gweddi gan Mr W. Hughes, Llwynygwaew. Holwyd yr ysgol yn gyffredinol gan y Parch. O. Gaianydd Williams, oddiar y seithfed bennod o'r Hyfforddwr," ac yr oedd yr holwr a'r atebwyr yn eu hwyliau goreu. Gwnaed sylwadau ar y llyfrau gan Mr David Evans, Salem, a Mr J. J. Morgan, Roe Wen. Agorwyd y mater, Cristionogaeth Ymarferol," gan Mr W. Jones, Tanlan, ac ategwyd gan Mr R. E. Thomas, Trefriw. Terfynwyd gan Mr Edward Owen, Nant. Yn yr hwyr cafwyd pregeth gan y Parch. O. Gaianydd Williams. CYFARFOD Y CYNRYCHIOLWYR. Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. Derbyniwyd arian fel y canlyn :—Llwynygwaew, 4S.; Tanlan, 8s. Ty'nygroes, 5s.; Gosen, 5s. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. J. D. Owen, Ysgrifenvdd y Cyfarfod Misol, yn gofyn am i'r Cyfarfod Ysgol ddewis dau i'w cynrychioli ar bwyllgor yr Ysgol Sabbothol. Ail-ddewiswyd Mr. H. Davies, Talybont, a Mr W. Williams, Seion. Gohiriwyd rhoddi ystyriaeth i gylch-lythyr y Parch. D. J. Lewis mewn perthynas a'r arholiad sirol hyd nes y bydd pwyllgor yr Ysgol Sabbothol wedi ystyried y mater. Cadarnhawyd adroddiad y pwyllgor fu yn trefnu ar gyfer Cymanfa y Plant. Un Gymanfa gynhelir eleni yn Llanrwst, y dydd lau olaf yn Mai. Maes llafur ar gyfer cyfarfod y prydnawn Hanes Iesu Grist," tudalen 36 hyd ddiwedd 42, allan o Werslyfr Safon IV. Ar gyfer cyfarfod yr hwyr, Hanes Joseph fel y ceir yn Maes Llafur yr Arholiad Sirol. Penodwyd y Parch. O. Gaianydd Williams i holi yn y ddau gyfarfod. Llywydd cyfarfod y prydnawn, y Parch. Richard Rowlands, Llanrwst llywydd cyfarfod yr hwyr, y Parch. Wm. Thomas, Llanrwst arwein ydd y canu, Mr D. D. Parry, Llanrwst; cvfeilydd, Mr Roberts, Avondale. Yn nghyfarfod y pryd- nawn bydd y bechgyn yn cyd-adrodd Matt. iv., i-i i adnod, ac yn nghyfarfod yr hwyr bydd y genethod yn cyd-adrodd Genesis xxxvii. 1-14 adnod. Ar gyfer y canu, mabwysiadwyd Perlau Seion," llyfr newydd Mr D. D. Parry, Llanrwst. Anogir pob ysgol i ddewis rhyw frawd i ofalu fod y llafur ar gyfer y gymanfa i gael sylw priodol yn mhob ysgol. Cafwyd adroddiad o'r Cyfarfodydd Ysgolion arbenig gynhaliwyd yn y lleoedd can- lynol Tanlan, Tanycelyn, Nantbwlchyrheiyrn, Llwynygwaew, a Thafarnyfedw. Cafwyd trafodjj aeth ar awgrymiad Mr O. Evans Jones ynglyn a'r cwestiynau unffurf, a phasiwyd i adael pethau fel y maent ar hyn o bryd. Addawodd Mr W. J. Williams orphen ei waith gyda'r rheolau sefydlog erbyn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd gofyn i'r safonwyr fyned o gwmpas yr ysgolion cyn y cyfar- fod nesaf. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Nhalybont, Tachwedd y i8fed. Agorir y mater, "Grisiau dyrchafiad yn ngoleuni dysgeidiaeth Iesu Grist," gan Mr Pierce Evans, Trefriw, ac ategir gan Mr Evan Parry, Salem. Holir y dosbarth hynaf oddiar yr ail bennod o'r Hyfforddwr," gan y Parch. O. Gaianydd Williams. Holir y dosbarth canol oddiar Actau, Pen. i. a ii. 1-13, gan Mr R. E. Thomas, Trefriw. Holir y plant hynaf oddiar Hanes Joseph," fel ei ceir yn Maes Llafur yr Arholiad Sirol, a'r plant ieuengaf oddiar y pedair pennod cyntaf o'r Rhodd Mam," gan Mr W. Williams, County School. Penodwyd Mr John Parry, Gosen, i arwain gyda hanes yr ysgol a phrofiad yr athrawon. Caniatawyd i'r cyfeillion yn Roe Wen gael symud y cyfarfod ysgol sydd i'w gynal yno o'r Sabbath olaf yn Mawrth i'r Sabbath cyntaf.
Advertising
Advertising
Cite
Share
m. SHOPPING BY POST. DRAPERY GOODS DIRECT FROM MANCHESTER. KENDAL, MILNE & CO., MANCHESTER. DEPARTMENTS. LINENS. HOSIERY. WHITE CURTAINS. GLOVES. SILKS. FURNISHING. DRESSES. CARPETS. MANTLES. BOOTS. MODEL COSTUMES. GENTS' OUTFITTING. TAILOR-MADE LACE. COATS & SKIRTS. EMBROIDERY. EVENING AND RIBBONS. DINNER GOWNS. FLOWERS. MILLINERY. SUNSHADES. LADIES' OUTFITTING. UMBRELLAS. CHILDREN'S LADIES' BLOUSES. OUTFITTING. HANDKERCHIEFS. JUVENILE CLOTHING. TRUNKS. FURS. BUTTERICK'S FOREIGN & FANCY PATTERNS. HABERDASHERY. TRIMMINGS. FURS. BUTTERICK'S FOREIGN & FANCY PATTERNS. HABERDASHERY. TRIMMINGS. FRISTER & ROSSMAN'S SEWING MACHINES. LETTER\ HAVE PROMPT ORDERS/AND CAREFUL ATTENTION. CARRIAGE PAID ON ALL PURCHASES OVER 20s GOODS SENT ON APPROBATION FROM MANY DEPARTMENTS. CASH RETURNED IF NOT AP- PROVED, LESS COST OF CARRIAGE. SAMPLES OF DRESS MATERIAL. SILK, COT- TONS, LINEN, LACE, RIBBONS, TRIMMINGS, &c., POST FREE ON APPLICATION. ALSO CATA- LOGUES OR PARTICULARS OF GOODS REQUIRED. MONEY ORDERS TO BE MADE PAYABLE AT DEANSGATE POST-OFFICE. K ENDAL, MILNE & CO., MANCHESTER. 278 For best Household and Steam COALS, TRY W.I. HARRIS COAL MERCHANT, Conway. All Orders will receive prompt attention. FRESH ROASTED COFFEE Ground Specially for each ik order. Horis, Bermaline, Barley and Home-made Bread yjk Fresh Daily. Birthday, HIGH. Christening and CLASS Wedding Cakes GROCER & made to y PROVISION order. MERCHANT, BAKER AND rfv CONFECTIONER, /*> The Stores, Abtrctl* Road, Colwyn Bay. TMJWHOW* NO. JY. 530 M. & J. WILLIAMS 22, HIGH STREET, (Established 1850.) CONWAY. Cabinet Makers, U pholsterer, AND Complete House Furnishers. LINOLEUMS, CARPETS, &c. BLINDS OF EVERY DESCRIPTION. FUNERALS FURNISHED. Telegrams, Telephone, 3 x 3. Cabinet," Conway. 367 T. T. ROBERTS. PENMAENMAWR, Family Grocer & Provision Dealer. GENUINE HOME-MADE BREAD DAILY. Home-cured Hams, Bacon, and Wiltshire Smoked Sole Agent for Lord Vernon Butter. Horner's Devonshire Cream and Cream Cheeses. Sole Agent for W. & A. Gilbey's Wine and Spirits. Purity and Genuineness guaranteed on the labels. (Frice list of 320 varieties on Application to the Agent). Ale and Porter Stores. In Firkins, Pins, and Bottles. Telephone No. 8. 3II DR WJ T T MERCHANT TAILOR Vj. VV ILBOIN, And OUTFITTER, MALDWYN HOUSE, STATION ROAD, LLANRWST (Next Door to New Post Office). LEADING BREECHES MAKER & COSTUMIER. EVERY GARMENT Choice Selection of CUT & TAILORED IN CORRECT WEST-END STYLES. Materials always in Stock. 921a [. Roberts & SONS, paperhTNSERS, CONWAY TERRACE, LLANRWST. PAINTS, OILS, VARNISHES, ENAMELS, BRUSHES, CYCLES AND MOTORS. PICTURE FRAMING, &c. ACCESSORIES. 900 Vale of Conway Flannel Mills, Trefriw. Manufacturers of Tweeds, Serges, White and Coloured Flannels, Linseys, Shawls, Stockings, Yarns, Quilts, Table Covers, Rugs, &c., which are unrivalled for softness, lightness of texture, beauty and durability.—Prizes and Medals awarded for excellence at the Royal National Eisteddfodau and Art Exhibitions of Wales. Patterns supplied on application, and inspection is invited on the part of Visitors to Trefriw. Proprietors: THOMAS WILLIAMS & SON. 341 BEATY & WALKER, Peri Mineral Water Works, Established it893- Established 1893. COLWYN BAY. Telephone 79.. On receipt of a post-card a Representative of the firm will be pleased to call on customers. Orders by post receive prompt attention. 299 I ROBERT* WILLIAMS, PAWNBROKER, JEWELLER, &c., DOUGLAS HOUSE, ABERGELE ROAD (opposite Public Hall), ALL BUSINESS TRANSACTIONS fni WVM RAV STRICTLY PRIVATE. L.WJL W I i\ £ > i Special attention paid to the Watch and Jewellery Departments, where we have a large and varied stock of Wedding Rings, Dress Rings, Gold Alberts, Gold Chains, Clocks, Plated Goods, &c. Also at-303, High Street, Bangor Stanley House, Flint; and Liverpool House, Holyhead. ALL PLEDGES sent by Post or Rail will receive prompt attention, or R. W. will call personally at Private Residences, if desired. CHEAP SALE ALL THE YEAR ROUND. Best Prices given for old Gold and Silver. 883 TPoE D. ALLEN & SONS, NO. 0197- M. In FURNITURE REMOVERS AND STORERS, GLASS AND CHINA MERCHANTS, CABINET MAKERS, UPHOLSTERERS & UNDERTAKERS, 6 & 7> Station ROAD and A\7 Oxford Buildings, UOL W Y IN JDAY. 516 T. ROBERTS (Late WILLIAMS & Co.), FAMILY GROCER BAKER, Station Road, AND PROVISION MERCHANT, COLWYN BAY. Importer of Finest Kiel and Colonial Butter at strictly moderate prices' FBESH BREAD DAILY. 517 "Dlcken, Colwyn Bay." JOSEPH DIOKEN, COMPLETE HOUSE FURNISHER. TONS OF LINOLEUMS, CORK CARPETS and INLAID, to select from, at the lowest prices in the District. Largest Stock of FURNITURE, CARPETS of all makes, BEDSTEADS, BEDDING, etc., in North Wales. All Goods guaranteed best make and finish. FIRST-CLASS UPHOLSTERING OUR SPECIALITY. JOSEPH DICKEN, Station Road, COLWYN BAY. Furniture Remover. Frencn Polisher Undertaker. 527