Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
MAYPOLE" TEAS, THE PERFECTION OF QUALITY "MAYPOLE" TEAS, REPRESENT THE BEST VALUE!! "MAYPOLE" TEAS, GIVE GREATEST SATISFACTION THE VERY BEST, ONLY 1/6 PER LB. WHY PAY MONIE: ? Also ti 14 :.1d.. 1/2 I b. MAYPOLE DAIRY COMPANY LIMITED, Manchester House. Station Road, COLWYN BAY. 627-13 BRANCHES EVERYWHERE. PENMAENMAWR HOUSE AGENT. T. T. ROBERTS, GROCER All required information about Houses and Apartments given free of charge, apply as above. 625-52 PENMAENMAWR, N, WALES. House of Rest and Holiday Home. Detached House close to Church, few minutes from Shore and Station. Terms very Moderate. Special quotation for lengthened stay. Invalid care when needed.—For reply, Stamped envelope, LADY SUPERINTENDENT. Penmsenmawr People's Cafe and Temperance Hotel. HOME RESIDE NC E. -Cyclists, Tourists and others, will find suitable arrangements at very moderate cost. Refreshments always ready. 625-52. W. PARRY JONES, M.P.S., Dispensing Chemist and Wine & Spirit Merchant, MEDICAL HALL, PENMAENMAWR. Special Care and Attention is paid to the Dispensing Department. Best Quality at Moderate Prices in all Departments. 625-52. W. EVANS & Co., FAMILY GROCERS, FRENCH & ITALIAN WAREHOUSEMEN, BAKERS, PROVISION DEALERS, CAER GRON HIGH STREET, SUPPLY STORES, CONWAY. ROSE KIEL BUTTER A SPECIALITY. All Orders attended to with punctuality. Town Deliveries DAILY. Your Patronage respectfully solicited. 625-52 MORFA BOARDING RESIDENCE CONWAY. Premises Considerably Enlarged. PLEASANTLY situated on the bolders of the Golf Links, close to Deganwy Ferry. Very central for excursions to the mosi noted scenery in North Wales. Highest References. Medically recommended as Winter Resort. Apply, MISS HAWORTH WALKER. 625-52 Agricultural, Garden and Flower Seeds QUALITY EQUAL TO THE BEST ON THE MARKET. LOWEST POSSIBLE PRICES. SPECIAL QUTOATIONS TO LARGE BUYERS. JOSEPH HOOSON, Grocer and Italian Warehouseman. Seed Merchant, 61-52 CASTLE STREET, CONWAY JONES & SON, R.P., PLUMBERS, IRONMONGERS, AND DECORATORS. NEW SEASON'S STOCK OF PAPERHARG1NGS. MELBOURNE WORKS CONWAY. 625—52
Y Marchnadoedd.
Y Marchnadoedd. YD. C \ERLLEON, dydd Sadwrn.—Nid oedd ond ychydig o fasnach mewn gwenith, y cyflenwad i'r melinau lleol yn ystod yr wythnos yn ychydig. Yr oedd y fasnach yn ddistaw gyda'r graddau eraill, y prisoedd yn dal yn sefydlog. Maize Americanaidd a gwenith tramor yn ffafrio y prynwyr ar quotations yr wythnos. Gwenith gwyn, 4s lc eto coch, 4s i 4s Ie y 75 pwys haidd, 3s y 64 pwys ceirch, 2a 10c i 3d y 46 pwys ffa newydd, 5s 3c; eto hen, 6s y 80 pwys ffa Aipht- aidd, 16,1 6c y 240 pwys; ingrawn, 13s 3c eto hen, 13s 9c y 240 pwys. CORK, dydd Llun.—Haidd, 7s 7c; ceirch du, 5s 5J 2 i 5s 6c; eto gwyn, 6s 6c y 100 pwys. ANIFEILIAID. MANCEINION, dydd Llun.-Masnach yn fwy bywiog, cyflenwad da, a'r prisoedd yn ffafr y gwerthwyr. Treisiaid ae eidionau Gwyddelig goreu o 14p i 17p ail radd, lip i 13p 10s; ac anifeiliaid dosbarthiadol, 13p i 16p 5s y pen. LERPWL, dydd Llun.-Nifer lluosocaoh o anifeil- iaid yn y farchi ad heddyw na'r dyddiau blaenorol. Yr oedd yr alwad yn dda a'r prisoedd yn well gyda golwg ar bob mathau o anifeiliaid. Eidionau, 65c i 2 5c; myllt, 8c i 5c ac wyn, 7c i 6c y pwys. Yn y farchnad gwartheg, 1,418 defaid, 12,641. LLUNDAIN, dydd Llun.—Yr oedd yna gynydd o 370 o anifeiliaid yn y farchnad yn ddyledus yn benaf i'r cynydd yn y trosglwyddiad o'r siroedd canolog. Defaid yn gwerthu'n araf yn ol prisoedd yr wythnos cynt. Prisiau anifeiliaid, 2s 4c i 4s 8e; defaid, 3s 2c i 5s 8c moch, 2s 10o i 4s 6c wyn, 5s 4c i 6s yr 8 pwys. Cyfauswm y cyflenwad anifeiliaid, 1,590 defaid ac wyn, 6,280; lloiau, 5 moch, 100. GWRICSAM, dydd Mawrth, Medi 3ydd.- Oberwydd prysurdeb y ffermwyr gyda'r cynhauaf yd, yr oedd y eyflenwad yn y farehnad yn llai nag arfer. Yr oedd yna nifer o wyn cruesryw o'r Ysgotland, wedi eu cor- lanu, pa rai a werthasant yn dda. Yr oedd y farchnad mewn biff yn well, a chyrhaeddodd o 6te i 61 y pwys 4 4 myllt, o 6c i 721c wyn. 7c i 8c; a llogig. o 6^o i 7ic. SALFORD, dydd Mawrth, Medi 3ydd.-Yr oedd yna gyflenwad mwy nag arfer o anifeiliaid, ond llai o ddefaid ac wyn. Yn y farchnad Anifeiliaid, 2,293 (cynydd o 262) defaid ac wyn, 13,530 (lleihad o 849) lloiau, 100; moch, 157. Prisiau: am y mathau goreu, 7c rhai defnyddiol, 6fc treisiaid cryfion, ail radd, 6tc; wyn a defaid, o 6c i 8c lloiau, 5c i Sc y pwys moch, 10s i 10s 4c yr 20 pwys. GWAIR A GWELLT. MANCEINION, dydd Llun.—Gwair hen, 7c i 7tc; eto newydd, 7ic i Se clofer hen, 8ic i 81; eto new- ydd, 7tc i 8ic; gwellt gwenith, 5c gwellt ceirch, 4ic i 5ic y 14 pwys. PYTATWS. LLUNDAIN, dydd Llun.—Cyflenwad da, ond y fas- nach yn araf, am brisoedd isel Puritans, 70s i 80s Beauty of Hebrons, 70s; blacklands, 65s i 70s; euly rose, 65s i 70s snowdrops, 70s y dunell. Dutch (crynion) 2s y ewd. CIG. LLUNDAIN, dydd Llan --Cyfleiiwad teg, a'r fasnach yn araf. Prisiau Cig Eidion Seisnig, 3s 10c i 4s ochrau Ysgotaidd, 4s i 4s 2c byrion, 4s 4c i 4s 10c Americanaidd, 3s 80 i 3s 10c; israddol, 2s 6c i 3" myllt Prydeiaig (British mutton), 4s 4c i 5s tramor, 3s Se i 4s 4c wyn, 4s 8c i 5s 4c llo-gig 3s 8c i 4s 4e pore 3s 4c i 4s 4c yr 8 pwys. YMENYN. CORK, dydd Llun.—Cyntaf, 85s ail, 79s trydydd, 76s; pedwerydd, 70s; goraf, 93; blydd pur (fine mild), 85s; detholedig mawn booses, 57s; eto dewisol, 86s cynyrch y ffactri (trydydd), 73s. Ymenyn ffres: A, 89s i 88s; B, 80s. BANGOR, dydd Gwener.—Ymenyn ffres Is 3c i Is 4c y pwys wyau, 12 i 13 am Is; dofednod, 3s i 5s y cwpl; hwyaid, 2b 6c i 3s yr un cig eidion, 7c i 9c y pwys molltgig, 8e i 9c; pore, 6c i 8e; Ilogig, 5c i 9c; pytatws newydd, te y pwys. 2 CAERNARFON, dydd Sadwrn.—Ymenyn ffres, Is 3c i Is 4c y pwys wyau, 12 i 14 am Is; dofednod, 3s i 4s y cwpwl hwyaid, 2s 6c i 3s 6c yr un gwyddau, 5s 6c i 6s yr un biff, 2e i 9o y pwys molltgig, 7c i 9c 2 llogig, 5d i 9c; pore, 5c i 9o pytatws newydd, íe y pwys.
Y Golofn Farddol. !
Y Golofn Farddol. "I GOLWYN BAY." (Mesur "Ymdaith Gwyr Harlech." o bob llan a thre' yn N ghymru, Dyma'r fan rvvyf yn ei ganI, Ar ei glan rwy'n awr am ganu Clod i Golwyn Bay. Dyma le dymunol, Lie bach glan, cysgodol, Daw ymwelwyr o bob man 1'1' fan sydd mor ddeniadol; Lie cawn ganll, lie cawn ddawnsfa Gyda merched glandeg Gwalia, Os ewch ryw dro i rodiana Dowch i Golwyn Bay! Hardd yw'r bryniau yn Ilawn blodau, Hardd yw'r "Coed," ac hardd yw'r llwybrau, Hardd i'w gweled goleuadau Hyd glan Colwyn Bay. Awn i'r bad i rwyfo, Trown helbulon heibio; Gadael blinder cas a phoen, A gofal byd yn atigo'. Awel iach gawn gyda'r glenydd, A chawn ganu gyda'n gilydd, Pwy na ddylai fod yn ddedwydd Ddaw i Golwyn Bay? Dyma'r fan lie bu y Brython Yn amddiffyn Cymru dirion, Edmygu hwy a wna y Saeson Ddaw i Golwyn Bay, Lie y cawn ymdrochfa, Lie y cawn orphwysfa, Lie mae'r nigger, du ei liw, Yn gwneyd bob ryw ystimia', Lie mae'r delyn i fy nenu, Braidd i ddyweud nad wyf yn credu, Na darlun o prydferthwch Gymru Ydyw Colwyn Bay. Hen Golwyn. GWILYM TRYGAN.
Digwyddiadau Yr Wythnos.
Digwyddiadau Yr Wythnos. HELYNT Y PENRH YN.—Cynbaliwyd y cyfarfod wytbnosol arferol prydnawn y Sadwrn diweddaf. Llywyddwyd y cyfarfod g-an Mr Owen Griffith, a thraddodwyd areithiau gan nifer o chwarelwyr ac eraill. Ymddengys oddiwrth adroddiad a wnawd fod yr Undeb can belled wedi bod yn alluog i dalu yn gyflawn y swm a ganiateid i'r cyfryw oeddynt allan ar streic. Yr oeddynt wedi bod yn abl i wneud hyn yn benat trwy gyf- raniadau y dynion hyny oeddynt wedi sicrhau gwaith mewn manau eraill, a'r cymhorth oeddynt wedi dderbyn oddiwrth undebau llafur yn y wlad. MR S. MOSS, A.S., AR Y WEINYDDIATH DORIAIDD.—Nos Sadwrn diweddaf, ar yr achlysur o giniaw blynyddol Cymdeithas Rhydd- frydig Chirk, traddodwyd araeth alluog gan Mr Moss, yn nghwrs yr hon y dywedodd, mai y Llywodraeth presenol oedd y mwyaf gormesol a thrahaus a fu mewn bod oddiar ddyddiau y Stuardiaid. Nid oeddynt wedi gwneyd dim yn ffafr y gweithiwr, gyda'r eithriad o Ddeddf y Gweithdai. Yr unig ddiwygiad cymdeithasol wedi ei ddwyn oddiamgylch ganddynt oedd er budd un gyfran o'r boblogaeth-y landlordiaid a'r personiaid. Heldweh, cynildeb, a diwyg- iad" oeddynt yr arwyddeiriau dorodd gadwynau caethwasiaeth gwleidyddol haner-can mlynedd yn ol, a hwynt hwy ydynt yr unig arwyddeiriau a'n cynorthwya yn y dyddiau hyn i wneud y wlad yn hapus, yn foddlon, ac yn rhydd. YCHWANEG 0 DDWFR I GOLWYN BAY A LLYSFAEN.—Mewn cyfarfod neillduol o Fwrdd Dwfr Cowlyd, a gynhaliwyd yn Ngholwyn Bay. dydd Gwener diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr J. W. Raynes, U.H., bu cryn ddadleu pathed y cynlluniau a gyflwynwyd gan Mr T. B. Farrington, y periannydd, er cael gwell cyflenwad o ddwfr i Golwyn Bay a Llysfaen. Y cynllun yw gosod pibell dwfr arall o Ddolgarrog, a thros Bont Talycafn, ac i lawr trwy Lansantffraid i Sarn Mynach. Dadleuai aelodau Conwy am fwy o amser i ystyried y peth, ond yr oedd aelodau Colwyn Bay yn ystyfnig o blaid y mudiad, a llwyddasant trwy bleidlais derfynol y Cadeirydd i gael eu dymuniad. COFIO AM "YR HEN WLAD."—Dywedir fod yn mwriad Mr Pritchard Jones, o gyd- fasnacbdy y Meistriaid Dickens a Jones, Regent Street, Llundain, i adeiladu chwech o elusendai, a'u gwaddoli, yn nghyd a Neuadd a Llyfrgell Cyhoeddus, yn Newborough, Mon, ei le genedigol. Y Pensaer yw Mr R. L. Jones, Caernarfon. URDDASOLION BREINIOL YN NGHAER- NARFON. Dydd Llun diweddaf, talodd y Dywysoges Louise o Schleswig Holstein a'i chyfeillion ymweliad a Chaernarton. Yr oeddynt yn lletya am y diwrnod gyda'r Anrhydeddus F. G. Wynn, o Glynllifon Pare. Cafwyd tywydd rhagoro), ac ymwelodd y parti a nifer o fanau dyddorol yn y dref a'r ardal, ac yn eu plith y Castell henafol. Wrth ymadael ysgrifenodd y Dywysoges ei henw ar lyfr yr ymwelwyr, tudalenau yr hwn sydd yn cynwys nifer luosog o enwau urddasolion breiniol, pa rai ydynt o bryd i bryd wedi ymweled a'r lie. LLYSOEDD TRWYDDEDOL. — Cynhaliwyd yr uchod mewn cysylltiad a Chonwy, Ruthin, a Llanelwy, y Llun diweddaf, Medi 2il. Darfu ynadon trwyddedol Conwy a Llandudno ganiatau trwydded gyflawn i'r Gogarth Abbey Hotel, Llandudno. Y mae y drwydded wedi ei chaniatau ar dri o achlysuron blaenorol, tra y mae'r Pwyll- gor Trwyddedol yn Nghaernarfon ar bob un o'r cyfryw achlysuron wedi gwrthod attegu y llys. Gwrthodwyd yr holl geisiadau eraill am drwy- ddedau newyddion, a chatodd yr oil o'r hen drwyddedau eu hadnewyddu. Yr oedd ynadon Llanelwy o'r farn, a gwnaethant hyny yn hysbys, fod yna nifer gormodol o dai trwyddedol ar gyfartaledd y boblogaeth, ac y buasai unrhyw drosedd yn peryglu y drwydded. LLEIHAU Y TRWYDDEDAU.—Mewn hys- byseb Llywodraethol ar drwyddedau i werthu gwirodydd meddwoi, dengys i'r ynadon trwy- ddedol yn y siroedd Cymreig wrthod adnewyddu y flwyddyn ddiweddaf 14 trwydded, a dwy drwy- dded chwegiadurol (grocers' license). Dygwyd naw o achwyniadau yn erbyn yr un nifer o ddy- farniadau, cyfreithlonwyd tri o honynt, gwrthod- wyd dau. ac ni aethpwyd yn mlaen a'r ddau eraill. Yn y bwrdeisdrefi Cymreig, gwrthodwyd adnew- yddu tair trwydded, ac un drwydded chwegiad- urol. Gwnawd achwyniad yn mhob achos, cyfreithlonwyd un a gwrthodwyd y tri eraill. MR HERBERT GLADSTONE, A.S.—Cymer priodas Mr Herbert Gladstone (mab yr hen wron anfarwol o Penarlag) a Miss Dorothy Paget, le mis Tachwedd nesaf. LLADRAD.—Dydd Gwener, mewn Ynadlys arbenig yn Nghonwy, cyhuddwyd dau ddyn ieuainc o Penmaenmawr, yn dwyn yr enwau John Kavanagh a Robert Williams, o ladrata naw punt mewn aur, oriawr aur, a nifer o emau gwerthfawr o dy Mrs Mary Jones, Penmaenmawr, yn ngwas- anaeth yr hon oeddent. Anfonwyd Kavanagh i garchar, a rhwymwyd Williams mewn swm o arian i ddod i fyny i dderbyn ei ddedfryd pan elwid arno. Addawodd Mrs Jones gymeryd Williams yn ol i'w gwasanaeth. ADRODDIAD HEDDGEIDWADOL DOS- PARTH CONWY.—Y Llun diweddaf, yn y Llys Trwyddedol yn Nghonwy, dywedodd yr Arolygydd Rees fod yna 102 o dai trwyddedig yn y dosparth (yn cynwys Llystaen), a bod y boblog- aeth, yn ol y cyfrif diweddaf, yn 29,154. Felly, yr oedd un drwydded ar gyfer pob 342 o'r bobl, yn annibynol o'r trwyddedau chwegiadurol. Yn mwrdeisdref Conwy yr oedd un drwydded ar gyfer pob 186 o'r bobl yn Llandudno un ar gyfer pob 227; ac yn Mhenmaenmawr un ar gyfer pob 347. Gweithredwyd yn erbyn wyth o dafarnwyr yn ystod y flwyddyn, dirwywyd pump a gollyng- wyd tri yn rhydd. Gwysiwyd 182(149 o ddynion, a 33 o ferched) am feddwdod yr hyn oedd yn 24 llai na llynedd. Nifer y tai clymedig yn y dosparth oedd 39; 11 yn Nghonwy, 12 yn Llandudno, 2 yn y Tywyn, 2 yn Llandudno Junction, i yn Gyffin, 2 yn Dwygyfylchi, 5 yn Mhenmaenmawr, 2 yn Penrhynside, i yn y Windmill, ac i yn Mhen- maenbach. ENW Y CYFUNDEB NEWYDD.—Dywedir mai yr enwau ydynt wedi eu hawgrymu gan y Pwyllgor fel y mwyaf cymhwys i ddewis o honynt, fel enw priodol i osod ar ddiadelloedd y Parch. W. O. Jones, Lerpwl; ydynt a ganlyn i, Trefnyddion Calfinaidd Diwygiadol 2, Trefn- yddion Diwygiadol; 3, Trefnyddion Efengylaidd Cymreig 4, Eglwys Rydd y Cymry 5, Eglwys Rydd Efengylaidd Cymru 6, Y Cyfundeb New- ydd Methodistaidd. Dywedir hefyd mai y pedwerydd enw sydd fwyaf poblogaidd, ac mai'r enw hwnw yn ddiau ga ei ddewis.
Achos Seisnig y Methodistiaid,…
Achos Seisnig y Methodistiaid, Llandudno Junction. AT OLYGYDD Y Weekly Neivs. Syr.-Yn y Genedl Gymreig'' ymddengys a ganlyn dan y penawd "0 ddydd i ddydd Ar waethaf pawb, myn yr achos Seisnig yn Mhensarn, ger Cyffordd Llandudno, hepian, os nad trengu dros dymhor. Ymadawodd Mr Hum- phreys, y gweinidog." Yn awr, Mr Gol., pwy a olyga yr ysgrifenydd wrth y gair pawb," tybed ? Ac hefyd, paham y dywed mai yn Mhensarn y mae yr Eglwys y ceisia ei darostwng, trwy ddyweyd mai hepian y mae, os na threnga dros amser ? Gall ysgrifen- ydd hyn o linellau ddyweyd fod golwg pur lewyrchus ar yr achos o'i ddechreu hyd nes y rhowd gormod o faich ar gefn y fechan i'w gario. Ai y genadwri y maent wedi ei gael o'r areithfa sydd wedi gwneyd iddynt hepian a bron trengu, a thrwy hyny myn'd i gysgu dan weinidogaeth y bugail, yr hwn sydd, fel y dywed eich gohebyd wedi ymadael ? Paham y gwnaeth hyny, tybed, ar ol canmol cymaint ar weithgarwch ei Eglwys er's pan y mae ef yn eu plith ? Ac hefyd, paham yr ysgrifenodd gohebydd y cyfryw hanes yn Gymraeg? Ac er Imwyn yr Eglwys, a fyddwch chwi mor hynaws a chyfieithu yr hyn a ym- ddangosodd yn y "Genedl" i'r Saesneg, er mwyn y rhai hyny sydd yn analluog i ddarllen y Gymraeg ? Yr wyf yn gobeithio y bydd i'r ddeadell Seisnig yn y Junction, pan y cant athrawiaeth iachus eto, ddangos yr adfvwiad, yr yni, a'r gweithgarwch a ddangoswyd ganddynt yn y dechreu, ac y byddo yr achos yn llwyddo yn y lie, a hyny dan ddylanwad y Diddanydd a'r Cysurydd Mawr. Os ydyw y bugail wedi eich gadael, dywed Ef (sef y Biugail Mawr). Myfi a fyddaf gyda chwi bob amser." Bydded i'r Eglwys ddisgwyl am ei bresenoldeb Ef. METHODIST.
Lloffion o'r Llysfaen, Colwyn,…
Lloffion o'r Llysfaen, Colwyn, a'r Cylch. Y mae yna ddyddordeb neillduol yn cael ei, gymeryd yn llitbiau ardderchog Pryderus ar gyflwr ein Canu Cynulleidfaol." Teimlad pawb yn gyffredinol, gyda'r eitbriad feallai o "Garwr Tegwc[i a'i epil hunan-gyfiawn, yw eu bod yn addysgiadol ac yn amserol. Y mae yn ffaith an- wadadwy fod yr oil o ganghenau y gwasanaeth crefyddol cyhoeddus, heblaw y canu mewn cyflwr sydd yn galw yn uchel am ddiwygiad. Gwelsom lith ychydig fisoedd yn ol yn y Weekly News ar y Pwipud Cymreig," a baich yr erthygl i gyd oedd y dirywiad sydd wedi cymeiyd lie yn y Pwlpud fel gallu yn ffurfiad y cymeriad cenedl- aethol. Nid oes neb yn ammheu hyny ond rhyw anwybodosion ffroenuchel na fedrant weled yn mhellach na blaenau eu trwynau meinion. A dyma Pryderus yn awr wedi dod yn mlaen i wrthdystio yn erbyn y dirywiad sydd yn bygwth parlysu y rhan odidog hono o wasanaeth y cysegr, a elwir y Canu Cynulleidfaol." Hei lwc iddo Old Customs and habits die hard. Cyn fod Pryderus wedt cael amser i osod ei ysgrif-bin o'r neilldu, wele Carwr Tegwch," un o'r drindod llenyddol anffaeledig hyny, tu ychydig wythnosau yn ol yn taflu eu hen esgidiau budron ar ol y Crwydryn ac eraill yn Llystaen, yn dyfod yn mlaen i amddiffyn y "canu" (?) fel y mae, a chwythu ei fygythion yn erbyn boneddwr sydd yn gweled arwyddion yr amserau, ac yn ceisio cyd- gyfarfod a'u hawliau er mwyn anrhydedd y gerdd a'r gan fel Ilawforwyn deilvvng i'r Efengyl. Dyw'r enw Carwr Tegwch ddim yn gweddu i'r gwr ysgrifenodd y pwtyn rhyfyg hwnw, a elwir yn llythyr yn erbyn Pryderus." Dyma i chwi specimen o efengyl Carwr Tegwch "-dylasai Cynghor Dinesig Colwyn Bay a Cholwyn wneyd Marine Road lie y mae Llwybr y Mul. Paham? 0, meddai "Carwr Tegwch," am fod merched ieuainc yn gorfod croesi'r gamfa yn ymyl y gledr- ffordd, ac y mae hyny yn groes i reolau gwedd- eidd-dra. Tybed, my truth-loving friend nad oes yna reswm arall ? Ac oes yna ddim ryw reswm arall dros amddiffyn y gan yn nghapel ————— heblaw dy degwch i weled fair-play yn cael ei ddangos i'r arweinyddion sydd yn cael eu cysgodi dan dy esgyll ymgeleddawl? Boneddiges yn meddu ar ysbryd hael a llaw agored yw Mrs Bagnall, yr hon, gyda'i theulu parchus sydd yn gwneyd ei chartref am dymhor yr haf yn Ngholwyn Ho, Colwyn. Eleni fel y llynedd cafodd y plant, ddydd Mercher diweddaf, wledd o de a moethau ganddi, a chafwyd hwyl i'w ryfeddu yn y cae efo'r sports. Yr oedd y Parch Jno. Griffiths, Ficer parchus a phoblogaidd Colwyn yno, yn nghyd a Mr Finch, y Masters Bagnall, a Miss Nora Bagnall, yn gweini i anghenrheidiau y plant, pa rai oeddynt oddeutu 200 mewn nifer. Gresyn na fuasai ein hawdur- dodau yn cymeryd gwers oddiwrth ymddygiad y foneddiges garedig hon, a cheisio enill calon y plentyn, ac nid ei drin a'i erlid a'i yru fel y mae arfer rhai ysgolfeistriaid ac awdurdodau addysgol y dyddiau hyn. Yr wyf fi fy hun yn gwbl ar- gyhoeddedig o'r anghen am gyfnewidiad buan yn null dewisiad yr ysgolfeistr. Gadawer dewisiad yr ysgolfeistr yn nwylaw y rhieni eu hunain, ac etholer ef yn uniongyrchol gan y trethdalwyr. Nid wyf yn credu ychwaith y dylesid gosod cymmaint o bwys ar gyrhaeddiadau addysgol yr athrawon. Uchlaw pob peth myner dynion yn gwybod pa fodd i drin plant, ac nid i hel ysgyfar- nogod. Cynygier gwobrau, a gwyliau, a gwledd- oedd i'r plant byddai y fath bethau yn symbyliad iddynt i wneyd eu goreu. Y mae hon—yr un wobrwyol-yn elfen bwysig yn y byd crefyddol, a phaham nas gall fod yn y byd addysgol. Nid rhyfygu hefyd wyf pan y dywedaf fod yr eifen hon yn elfen amlwg yn mywyd sylfaenydd y gyfundrefn sydd wrth wraidd addysg a diwylliant cenhedloedd y byd. Am dano ef y dywedwyd, geiriau tebyg i hyn, os nad wyf yn camsynied Yr hwn am y gogoniant a osodwyd o'i flaen, a ddyoddefodd y groes, gan ddiystyru y gwar- adwydd. I g- Clywais fod Arglwydd Dundonald, un o arwyr meusydd gwaedlyd Deheudir yr Affrig, wedi rhoddi gwledd ardderchog, nos Fercher diweddaf. yn y Railway Hotel, i aelodau crenu Bywyd Fad, Llanddulas. Buasai yn dda genyf fod yno, pe ond i arogli y pethau blasus oeddynt wedi eu hulio ar y byrddau oblegid y mae porthi ffroenau Crwydryn yn ddigon yn ol tyb rhai, a son dim am ei gylla. Wel, at y pwynt, fedrai ei arglwydd- iaeth byth wneyd gwell peth yn ei fywyd, na chydnabod mewn modd cymdeithasol o'r fath lafur ac hunan-aberth y dynion hyny ydynt- yn wirfoddol yn ngwyneb stormydd a rhyferthwyon yn dibrisio eu hunain er diogelu eraill mewn cyf- yngder. Wel gobeithio y gwna trigolion Colwyn Bay yr un fath a'r crews ydynt erbyn hyn, meddir, wedi eu rhestru i fyrddio y Bywyd-Fad newydd sydd yn fuan i gael ei launchio yn y Bay. Cad- wasom lawer o stwr a dwndwr pan aeth ein gwirfoddolwyr Ileol i faes y gild ond dyma ym- gymeriad o du Life-boat crews Colwyn Bay, sydd yn taflu pob aberth milwrol a phob ysbryd cenedlgarol honedig o'r fath i'r cysgodion. Y mae fy musnes crwydriadol wedi eangu yn ddirfawr iawn yn ddiweddar, ac yr wyf dan or- fodaeth yn fynych i dalu ymweliadau mynych a Chonwy, Llandudno Junction, Penmaenmawr, a Ileoedd eraill. Felly, os oes yna busybodies yn yr ardaloedd yma ag eisio cael gwared o'u clecs byddaf yn ddiolchgar am air oddiwrthynt gan fy mod wedi helaethu fy Marijie Stores, ac y mae genyf ddigonedd o le, er mwyn cadw stock fawr i'w yru i'r Shoddy Mills. Yr oedd yn hwyr arnaf un noson yn ddiweddar yn marchogaeth shanks yr hen bony trwy bentref y Gyffin, ac ar hyd y ffordd yn arwain i dref Conwy. Daeth dameg y deg morwyn yn fyw i'm cof, a daethum i'r pender- fyniad yn ddiddadl mai hiliogaeth y pum' morwyn ffol sydd yn Ilywodraethu yr ardal hono oblegid y mae ganddynt lampau yno, ond nid oes olew yn eu lampau. Os yw pobl yr ardal hono yn talti trethi, a sicr yw eu bod hefyd, paham na chant fwynhau yr un moethau dinasyddol a phreswyl- wyr y caerau. Yr oeddwn wastad yn credu nad oedd un lie dan haul mor ymarhous i gario allan welliantau, na Cholwyn Bay yn ei hymddygiad at Llysfaen. Y mae Colwyn Bay, chwareu teg iddi, yn gofalu am No. i, ond nid yw Conwy yn gotalu fel y dylsai am yr hunan bach diniwed hwnw. Medd- yliwch am funyd am y Quay yma. Pan y bo f tide i fewn does yna fan ar y goror yma, an gystadlu a Chonwy mewn tlysni tyner. Ond 1 r Ilu edmygwyr sydd yn rhodio ar hyd ymylon y dwr yn ystod misoedd yr haf, nid yw y Dinesig" yn medru fforddio dangos y grada Ileiaf o municipal courtesy, ac estyn cadair neu fainc iddynt osod pwys eu cyrph lluddedig arm- Caffaeliad mawr tyddai cael ychydig o feinciau yn nghymydogaeth y Quay. CRWYDRYN DIGARTREF