Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

THE CAM$RTAN INSTITUTION FOR…

News
Cite
Share

THE CAM$RTAN INSTITUTION FOR THE DEAF AND DUMB. Established at Aberystwyth, Feb. 1, 1849. Y MUD A'R BYDDAR. Pa glon na thcimla dros fyddar a mud, Sy'n ngbanol perseiniau heb glywed dim byd ? Yn ofor y sua'r afonydd i'r rhai'n; Y dyfnder, er rbuo, ni chlywant ei sain. Y daran a rwyga yn erchyll uwch ben, Pan wisgir a ptiruddTder wynebpryd y nen, All drystio neø taro'r greadigaeth a braw, Y byddar ni wybytid- maen dawel geruaw. Peroriaeth yr adar a leisiant or llwyn, Wrth oglais y dymer, sy'n meddu'r fath swyn, Mae ef yn ei chanol, heb gael rhan o'r wledd, Yn byw mewn dystawrwydd mor ddystaw a'r bedd. Y d«>lyn a'r dympan-ni wyr beth yw'r rhai'n, Yn mro'i amgytrredion-ni fu math o sain; Ynfydrwydd i Handel, pencerddor y byd, Oedd meddwl effeithio ar fyddar a mud. Ni chlywodd lais tyner ei fam wrth ei drin, • Xa'i chanau diniwaid pan oedd ar ei glin; Y lullaby swynol, ni wyddai am hvn Pan fo pawb yn siriol edrycha fe'n syn. Llais trist a swn llawen sy'r un iddo ef; Ni wyr fod llew 'n rhuo, na'r oen yn rhoi bref; Llais ceiliog ben bore, Hef gwyliwr yr hwyr, A rhybydd yr awrlais o'i gyraedd sy'n llwyr. Cael clywed hyawdledd pen campwyr yr oes, I'r mud ac i'r byddar, un gobaith nid oes. O'rtraethrhagyllanwnidallllaiseidroi, Na ehyd-lloedd miliynau ei ddychryn i ffoi. Ni chafodd y fantais o glywed gair Duw, Na sain y lleferydd sy'n dwyn meirw'n fyw; Ni chlywodd am Nefoedd, nac am wlady gwae Yn ymyl digonedd mewn eisiau y mae. Mae'r enaid yn berifaith, a'r teimlad yn fyw, Ond ar y galluoedd ni weithir drwy'r clyw; Am ddefnydd y tafod a'r clustiau nis gwyr, Rhaid agor y meddwl drwy'r llygaid yn llwyr. Aeth miloedd o'r Cymry oedd fyddar a mud, Heb weled un cynyg at addysg, o'r byd; Darpariaeth sy'n ymyl ein gwladwyr, yn awr, Pwy bcidiai roi cymorth mewn gorchwyl mor fawr Jvlundain, Mai, 1849. CALEDFRYN.

itoiitgs. .

(taral Jtai. ——

MIII lignru.I .

AMERICAN STATISTICS.

(Eiirignmt/ nlnmn.