Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PREGETHWR Y BOBL YN PREGETHU…

News
Cite
Share

PREGETHWR Y BOBL YN PREGETHU I'R HWYAID Rhag ofn fod llawer un yn yr oes ysgafn hon na, wyddont pwy oedd: Pregethwr y Bobl, poed hysbys i'r cyfryw rai, mai' John Jones, Taly- sarn, oedd y gwr parchedig. Un o'r pregeth- wyi1—na, y pregethwr mwyaf, ddylaswn ddy- weyd, o'r un gododd yn N ghymru erioed hefo'r un enwad. Yr oedd ef wedi ei dori allan i bregethu a dechreuodd ar y gwa-ith yn foreu, oddeutu deu- ddleng mlwydd oed, a, hyny i'r cyn-nulleidfaoedd rhyfeddaf a wrandawsant ar bregethwr mewn unrhyw oes na gwlad, sef meini a phrysglwyni. Bryd arall y defaid a'r wyn; a thrachefn, ceid ef yn cyfateb darluniad tarawiadol Glan Alun — "Mewn tawel feudy, anereb gyda bias, Y gwartheg blithion., a'r diniwed loi," &c. Ond at gynnulleidlfa, ychydig yn waihanol i bob 11 11 un arall yr wyf yn cyfeirio ati yn awr, sef cyn- lmlleidfa o hwyaid. Y beudy oedd y capel y trp hwn, ond hwyaid oedd ei wrandawyr. "Llefarai y bachgen bochgoch," medd yr hanes- ydd, "uwchben y llu asgellog gyrda brwdfrydedd mawr, ac wrth weled y pregetbwir yn taflu ei la,w yn ol a blaen cyfodai y "gwrandawyr" eu pigau i fyny, gan disgwyl tam aid o'r llaw ac yr oedd y fath sylw astud yn peri iddo yntau foddhad dirfawr. O'r diwedd, paJlodd' amynedd y gynnulleidfa, wrth weled nad oedd cymaint a briwsionyn yn disgyn o'r llaw, a thorasant allan i fynegi eu hanghymeardwyaeth drwy wa,eddi 'cwac, cwac, cwac!" nes boddai llais y pre- gethwr. Yntau a ddywedod dwrthynt '0 fy mhobl bach i, y mae hi yn rhy fuan i chwi ddechreu canu eto-iiid yw y bregeth ddim wedi darfod.'

TORON.

'RHEN FERCH A'R CAPTEN