Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GWION AC OLWEN .op'-Ih-

News
Cite
Share

GWION AC OLWEN .op'- h- BHAMANT OLANTEIFI. [Gan "LLEUFER TYSSUL.] PENNOD IX.—ANGLADD MAM A SIBRYDIAD. EAN fyddai Gwion yn cael ei arwain i B brofedigaeth, fel y cafodd. yn helynt y BBS9 ddau oen, byddai Olwen yn cyfrylig-u rhyngddo a'i thad. Cynghorodd lawer arno i beidio myn'd i gwmni Jack. Teimlai Gwion fod swyn yn ei geiriau nas gallai ei gwrthsefyll, ac addunedai i'w gyfoed ieuanc i focF yn well. Treuliodd y flwyddyn gyntaf o'i wasanaeth yn lied gysurus; a chyflogwyd ef am yr ail flwyddyn am yr un gyflog gydag ychwanegiad o bwys o edafedd er gwau hosanau iddo, a llwyth o fawn i'w fam. Erbyn hyn, yr oedd Olwen wedi gorphen ei haddysg yn Llandyssul; ac yn myn'd i Gaerfyrddin i'r ysgol am dymhor er rhoddi y "finishing touch" i'w chwrs addysgol. Teimlai Gwion rhyw wagder yn y teulu yn absennoldeb Olwen. Pan ddeuai'r o'r "banc," wedi bod yno drwy y dydd yn bugeilio y praidd, nid oeddl hi yno i'w groesawu gyda'i gwen a'i sirioldeb. Hefyd, yr oedd Jack, ei' gyfoed, wedi symud ac wedi ei gyflogi yn y Ferdol. Yr oedd hyny yn fwy o fenaith i Gwion, gan y byddai yn sicr o gael ei lithio i fwy o ddrwg, pe yn nghym- deithas Jack, gan nad oedd Olwen yno a'i chyng- horion i wrthweithio y dylanwad niweidiiol a drygionus. Byddid yn afon sypyn o rywbeth bob wyth- nos i Olwen, tra bu yn Nghaerfyrddin; naill a'i fan ryw un o'r teulu a fyddai yn myn'd ag yd er ei werthu yn y farchnad, neu gyda wagen Shop y Jones, yr hon oedd yn myn'd drosodd bob wyth- nos yn rheolaidd i nol nwyddau a ddeuai i fewll gyda llongau. Byddai Olwen bob amser yn holi helynt Gwion, ac yn teimlo dyddordeb yn ei holl symud- iadau. i Er symud Jack Priscilla o un fferm i'r Hall, ac o un ardal i ardal arall, gellid dyweyd am dano "Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr- hon." Wedi myned ohono i'r Ferdol yr oedd ei ddireidi yn ei ganlyn. Yr oedd Jacki'r Ferdol yn wr hynaws iawn,-yn un o "guardians" y plwyf, ac fel y cyfryw cadwai hen wr o'r enw f-hon Rhys, yn y Ferdol, yr hwn oedd yn ddyn o ddeall, ond yn awr yn dechreu penwanu. Yr oedd yn gwybod llawer o'r JBeibl ar ei gof, a byddai weithiau yn adrodd adnod ac yn ymgolli mewn mvfyrdod uwch ei phen. Cafwyd ef felly un tro yn adrodd ac yn ail adrodd yr adnod) hono, 'Yr hwn sydd yn cynnal y bydoedd megis ar gledr ei law." Estynai allan ei law, gan edrych arni, a clian droi ei law wyneb i waered, dywedai—"Gwarchod pawb, beth pe bai yn myn'd fel hyn"-ac arswydai yn y drychfeddwl fod y bydoedd yn myn'd yn deilchion mewn gv. rthdarawiad yn yr eangderau Bvddai Shon Rhys yn gweithio ychydig wrth ei bleser, fel y gallai, rhywbeth ysgafn. Yr oedd yn Ngallt Coedfoel gerllaw, lawer o foch daear. Clywid eu hudiadau yn y nos, ond byddent yn cadw yn eu llochesau y dydd, fel mae anaml y gwelid un ohonynt,. Ni fyddai neb yn teimlo yn ddyogel pan yn yr allt yn agos i ffau y creadur- iaid hyn. Yr oedd gwiail yn tyfu yn yr Allt ag oeddynt yn bwrpasol i wneyd "whinteHi, a byddai Shon Rhys yn myn'd yno pan fyddai eisieu defnyddiau at ei waith. Gwyddai Jack y gwas fod arswyd y moch daear ar Shon; a plienderfynodd wneyd trie ag ef, pan gai gyfle. Pan aeth Shon i hel baich o wiail, dilynwyd ef gan Jack. Wedi tori y gwiail a'u casglu. at eu gilydd, clywodd rywbeth yn symud rhwng. y piy sglwym. Edrychai oamgylch. yn wyHtag of nus; a chododd y baich ar ei gefnar hyn cil- iodd Jack i gysgod ceulan, lie yr oedd llawer o dyllau, a rhoes ysgrech oernadus i ddynwarel mochyn daear, ag oedd yn ddigon i yru arswyd ar unrhyw un yn unigedd yr Allt. Ar hyn, taflodd Shon ei faich oddiar ei gefn, a, rhedodd allan o'r Allt, mor fuan ag y gallai ei heglau ei gario, gan dybied fod y mochyn daear ar ei w&rtha.f. Teimlai Jack nad gormod iddo' oedd cario y baich gwiail, am y tro a'r difyrwch gaf- odd am ben Shon yn ceisio rhedeg yn yr Allt. Yn ol traddodiad', bu hen fonachdy ar dir Fairdrefawr. Beth byna.g am, hyny, nid nes amheuaeth na fu yno hen balasdy, yr nohr dde- heuol i'r afon fechan a red drwy cornel y Gale Gwair. Y mae rhyw gymaint o'r olion yn aros hyd heddyw; a..gelwir y cae sydd rhwng hyny a Teifi yn Ddol fries. Yn unol a'r traddodiad, byddai Shon Rhys yn galw gwr y Ferdre yn "Rhen fonach." Yr oedd dydd y rhent yn a^oshau. a Jacki'r Ferdre, wedi ivedi bod wrthi yn ddiwydl yn casglu y swm gofynol i gyfarfod a galwadau y meistr tri. Gwyddai Shon Rhys fod swm) go dda i'w chael yn -rr ty, a gofynai "Rhen fonach, a ga, i ffafar da ti?" "Beth yw hyny?" ebe Jacki. "Cael gwel'd arisin y rhent a'u trafod a'm llaw." "O'r jgoreu," ebe Jacki, a dygodd lonaid phiol fawr o aur yno. Edrychodd Shon vn syn arno, a rhoddodd dro i'r aur a'i law. "Dyna," ebe, "rwy cystal ag un gwr 'bonheddig' yn y wlad; diois neb all neyd imwy na hyna, a nhw. Da,].l, neb ohoni nhw a byta dim ohonynt." Gwnaeth Jack Priscilla boeni llawer ar yr hen Shon Rhys drwy ei gastiau a'i ddireidi yn ystod y flwyddyn y bu yn gwasa-naethu yn y Ferdre" fel pan ddaeth dyddiau glangauaf, yr oedd Shon yn falch i wel'd Jack vn cefnit ar y lie. Cyflogwyd Gwion i lanw ei Ie, goan ei fod yn yina-dia,el o Gwmolwen 'am y gwnai i'm jeuengacli y tro, yno, ac vntau yn teimlo y carai gael newid. T'aimlai Olwen yn dra chwithigi am na fuasai ei thad yn cyflogi Gwion y drydedd flwyddyn, eithr ni fynegodd ei theimladau i neb. Yr oedd hi wedi cyfnewid llawer yn ystod yr amser y bu yn yr ysgol yn Nghaerfyrddin ac yr oedd yn cyflym ddadblygu yn ferch ieuanc brydweddol, ac yn tynu sylw cyffrediinol, gan ei bod yn meddu ar gorph lliiniaidd a, Irardd, ac yn lodes synwyrol a phwyllog. Ceid llawer llano ieuanc yn edrych ami gydag hoffder ae edmygedd, ond yn teimlo ei bod mown saie ag oedd vn nihell uwchlaw iddynt. Felly y teimlai Gwion., pan y byddai yn oofio am dani; ac nid anfynvich v deuai- i'w gof am ei chairediigrwydd, fel y byddai yn ymgolli; yn Uwyr wrth feddwl am clani. Er pan gtollasai Gwion ei dad1, ni cliawsai ei faimi ddydd iach. Eiddilaidd oedd cyn hyny, ao erbyn hyn yr oedd yn graddol wanychu, ac vn prysur dynu at derfyn ei gyrfa ddaearol. Yr oedd Olwen yn hynod o diriiom a charedig iddi, a llawer eardod o flawd ceirch, a llaeth ffres a gafodd o Cwmolwen. Yn ystod wythnos- au olaf ei hafiechyd, ni chymerai fawr o lun- iaeth,—ond ychydig or laeth a, byddai Olwen yn ofalus, na. fyddai mewn eisieu o ddim. Yn ys- tod dyddiau olaf ei fam. byddai Gwion bob nos ny myn'd adref i edrych am. dani. Gwyddai gyda, sicrwydd, erbyn hyn, nad oedd end amser byr iddi ar v ddaear. B,.yldldla,i wlaiitlhiau yn troi i fewn i Cwmolwen wrth fyn'd heibio, gan y gwyddai eu bod yno yn cydymdeimlo ag ef yn ei adfyd, ac yn y teimlad yma, byddai Gwion yn colli dagrau yn hidl, tra Olwen a'i chalon yn liifo allan mewn cydymdeimlad a thynerwch tuagato yn ceisio ei gysuro. Yn fuan, fuan, daeth y diwedd. Bu farw ei anwyl fam, a gosodwyd ei chorph i orwedd wrth ochr bedd ei dad yn mynwent werdd y Llan. Uyna, Gwion ieuflne a dibrofiad1 yn amddifad, heb dad na maJlIll Yr oedd dydd angladd ei fam Tn un o'r dydd- iau tywyllaf yn ei fywyd. Pan aeth i'r ty ar 01 y gladde,digae,th, cafodd ei daro megis a dyrnod wrth weVcl lie ei fam anwyl yn wag, ac heb obait-h atm ei dychweliad byth mwy. Er mor anhawdd-rlitid oedd tori y cartref i fynv, ond nis. gallai goleddu y syniad am fom- ent i werthu yr ychydig ddodrefn oedd yn y ty, ,gan ihyny, jrhioddodd hwy i'w cadw- yn ngofal ei fodryb, gan y teimlai fod pobpeth perthynol i'w fam yn rhy gysegredig i fyned1 i law dyeitliriaid. Galwodd ar ei flfordd y nos' hono yn Owmlol- -wen,-yn llwfr a digalon. Dywedodd Thomas, y gwr, air wrtho er ei galonogi, a chodi ei ys- bryd: "Y byddai iddo groesaw bob amser i ddod yno, ao y gallai deimlo ei hun gartref yn eu plith." Yr oedd yn rhy Ijvythiog ei deiimladau i allu dyweyd fawr; a chan fod yr amser wedi rhedeg yn mhelli cododd er cychwyn i'r Ferdre He y gwasanaethai. Aeth Olwen i'w hebrwng i waelod y cae; a sibrydod'd air yn ei glust, a fu yn destyn myfyr- dod: am amser maith iddo. jf

EISEU GWR ----------------

[No title]