Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

POBLOEDD Y BYD

News
Cite
Share

POBLOEDD Y BYD X.-Y PERSIAID. Gwlad fawr yn Asia ydyw Persia, yn cyn- nwys amryw daleithau, y rhai, ar wahanol amseroedd, sydd wedi bod yr. frenhiniaethau annibynol. Y mae y rhan ogleddol o'r wlad yn fynyddig ac yn oer; yn y canolbartliau "a'r rhanau de-ddwyreiniol, y mae yn anial- wch tywodlyd; ond yn y parthau de-or- llewincl, y mae yn wlad doreithiog dros ben, er ei bod yn boeth iawn am rai mis- oedd. I for-gainc Persia y mae yr Eu- phrates a'r Tigris yn ymarllwys. Y mae ystadegau mewn perthynas i bobl- ogaeth gwlad fel Persia yn anmhosibl. Y mae gwahanol awduron yn gwahaniaethu cymaint ag o chwech i ddeugain miliwn yn rhifedi ei thrigolion. Y mae poblogaeth gwlad ag y mae y naill banner ohoni o r bron yn wibiaid, a rhifedi mawr o'r rhan arall bron byth i'w gweled o'r tuallan i ddrysau eu tai, yn anmhosbil eu rhifo yn gywir, gan na thrafaeliwr na thrigiannydd yn y wlad. Nid yw yr awdurdoclau Per- siaidd yn cadw yr un rhestr o enedigaethau na marwolaethau, nac unrhyw gofrestr gy- hoeddus. "Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun," yn ei ystyr lythyrenol, ydyw ei har- wyddair hwy. Pa beth bynag sydd wedi digAvydd iddvnt hwy neu i'w hynafiaid, per- thyn i'r gorphenol y mae, ac felly, i'w ang- hofio, ac nid yw yr hvn a ddigwydd iddynt hwy na'u holafiaid yn beth i feddwl am dano. Unbenaethol a thra-arghvyddiaethol yw y Llywodraeth yno. Y Shah yw y Llywodr- aeth. Ei ewyliys ef sydd uwchaf, ac yn erbyn ei waharddiad nid ues apel. Efe ydyw anffaeledig frenhin y bivnhinoedd; nid yw ei ddeiliaid ond llwch i gael eu hys- gubo ymaith wrth ei ewyllys. Ganddo ef y mae y prif awdurdod, ac felly y mae yn gorthrymu ei ddeiliaid. Y canlyniad o hyny ydyw fod pawb drwy'r wlad, y gwas fel ei feistr, yn gorthrymu ei .s-radd\v;\ hyny yw, yn meddu llai o awdurdod. Y bobl sydd yn diodJef mwyaf y.lvw y rhai sydd yn meddu lleiaf o awdurdod, sef y gweith- wyr, y masnachwyr, a'r amaethwyr. Oherwydd gormes y Llywodraeth, y mae y gweithiwr yn cael ei ddiystyru, a'r gwaith yn dyfod yn beryglus ac anmhroflidiol; se- gurd til a diofalwch yn cymeryd ei le. a dull rhwyddach o enill bywoliaeth, drwy gardota a lladrata gan hyny, nid oes ond dirywiad i'w ddisgwyl. Y mae pawb yn Persia yn gwneyd ei fusnes gyda'r amcan o dwyllo ei gymydog, neu bawb arall. Mae swyddog y tolldy yn cael gorchymyn i godi cliwe'cheiniog am bob llwyth o nwyddau a ddaw i'w randir y mae yn cymeryd eaith geiniog, ceiniog iddo ef ei hunan, a chwech i'w uwchradd. Yna, y mae yr uwchradd yn rhoddi pum' ceiniog i reolydd y dref, ac yntau yn rhoddi pedair ceiniog i reolydd y taleithau. Tair ceiniog oedd y swm cyfreithlon. Y mae, gan hyny, rot wedi ei gymeryd yn anghyf- ly reithlon oddiar y gweithiwr Y mae llyw- ydd y taleithau yn talu swm neillduol yn flynyddol i'r Shah o elw ffermio'r taleithau. Pa faint bynag a wna uwchlaw hyny, ei eiddo ei hun ydyw, yn ol y cytundeb; ond os bydd i'r Shah glywed am elw mawr, y C, mae yn hawlio ychwaneg fel ei eiddo cyf. iawn ei hun. Y mae yn talu i'w filwyr ei h,unan, ac ychydig weiinidogiou; a chyda'r gwcddill y i-nae yn mwynhau ei hunan, yn cadw ei balasau, ei helfaoedd, ei osgordd- ion, amryw gannoedd o ferched, tua mil o feirch, cerbydau, &)c. Khyw ganghen o'r grefydd Fahometan- aidd ydyw y Shiek, crefydd y Persiaid. Y iiiae Persia amryw ganrifoedd ar ol i ni mewn gwareiddiad. Yr achos fod y wlad yn parhau mor bell ar ol ydyw ei chrefydd. Y mae miloedd o ysgrifenwyr wedi dyweyd hyny o'r blaen, a daw miloedd eto i ddy- wevd yr un peth, tra y parha Mahometan- iaetli. Y mae gan y Persiad lawer o allu, ond cyn hired ag y "parhac yn Fahoinetan- iad, hyny yw, yn wir gredadyn, ni ddichon iddo byth ddyfod yn vsgolaig. Cyn gynted ag y cyrhaeddo ddysgeidiaeth, a gwybodaeth wirioneddol o'r celfyddydau, y mae yn peidio a bod yn Fahometaniad, oherwydd y. mae pobpeth a ddysgo yn rhwym o fod yn wrthwynebol i ddysgeidiaeth ei broph- wyd. Y mae y Mahametaniad yn dyweyd fod pob peth a ddywedir wrtho yn anwir- edd, os nad ydyw yn unol a'r Koran, y Sunna, neu yr Hadis (traddodiadau). Y mae disgynyddion y prophwyd a'r offeiriaid I Y Mahometanaidd mewn awdurdod inawr yn y wlad. Ffolineb peryglus fyddai dadleu a hwy. Dynion anwybodus a rhagfarnliyd ydyw yr offeiriaid; ond cnafon twyllodrus ydyw lluaws ohonynt. Gall dyn ddyfod yn offeiriad drwy briodi chwaer gwr i ferch offeiriad, ac y mae yn disgwyl cael ei gyn- nal gan ereill. Y mae yr offeiriad, oher- wydd ei fod yn gallu darllen ac egluro rhan o'r Koran, yn ystyried ei hun uwchlaw gweithio a'i uawylaw, ac ystyried fod dull medrus o dwyllo'r cyhoedd, neu ei gyfaill penaf, yn ddull anrhydeddus o enill bywol- iaeth. Dymia'r dlynion ag sydd ganddynt fwyaf o ddylanwad yn mhlith y bobl. Y mae masnach a thrafnidiaeth yn isel iawn yn y wlad. Y mae'r ffyrdd yn ddrwg, y wlad yn orlawn o ladron, a throsglwydd- iad trafnidaeth yn gostus iawn. P^if gynnjlrchion Persia yldynt cotwm, sidan, opium, reis, gwenith, haidd, tybaco, a dates. Mewn rhai parthau o'r wlad, y mae ffcr- estydd mawrion, ac y mae taleithau ereill yh brin o goed, ac yn edrych yn wyllt, gar-- egog, prudd, ac anghyfannedd- N'id oes goed i'w gweled ond yn y gerddi yn ymyl y trefydd a'r pentrefydd, a dim ond ych- ydig yn v manau hyny. Y mae y sycamor- wydden,' yr aethnen, y llwyfan, a'r helyg- en, i'w gweled yn y gerddi hyny, a'r gyp- reswyddau, hefyd, yn mliarthau delieuol y wlad. Y mae coed cnau ffrengig, y pren afalau, coed eirin o bob math, ffigys, per- afalau, a'r ceirios, yn gyffredin yno. Ar y ffyrdd uchel, yn dechreu o ogledd- baxth Shiraz cyn belled a Teheran, dros bum' cant o filldiroedd, byddai yn ddigon hawdd rhifo y coed. Y mae Persia yn gyfoethog mewn mwnau a meteloedd, ond, fel arfer, y Llywodr- aeth ydyw yr achos eu bod yn gorwedd yn ddifudd o dan y ddaear. Gallai dyn dalu yn ddrud am ganiatad i godi copr neu haiarn, plwm, neu unrhyw fetel, a gwario swm helaeth yn y gwaith, ond cyn gynted ag y dechreuai y gwaith dalu i'w berchenog, C, cymerai y Llywodraeth feddiant o bobpeth, a chaffai yntau weled ei fod wedi gwario ei arian yn ofer. Dvwedir nad oes wlad o'i bath am am rywiaeth ei blodau na phereiddiweh ei ffrwythau. Y mae, hefyd, yn wlad enwog 5 D am ei chamelod, ceftylau, muloa, asyiiod, ychain, a bualod, ac y. mae gan y llwythau gwibiol ddeadelloedd mawrion o ddefaid a geifr. Y mae'r Persiaid yn bobl dewion yn v cvffredin, gyda gwalit du, talcen uch:, trwyn crwm, gruddiau llawnian, a gen fawr. Y mae'r dynion yn gryfion a grymus, ac yn hoff o ymarferiadau milwrol. Y maent yn eillio y pen, ond yn ystyried y farf yn gy- segredig, ac y maent yn arfer ei lliwio yn ddu. Y mae y merched yn gorchuddio eu penau a math o turban fawr, a shol o cash- mere dros hwnw. Y mae eu gwnau ychydig Vn gwtogacli na gwisgoedd y dynion, ac yn cael eu sicrhau o'r tu blaen gan fotymau euraidd. Y maent yn bobl lawen, ioesgar, a lletygaroT, fel rheol. Y maent yn hoff iawn o dybaco ac yn ysmygu bron yn ddi- derfyn. Nid ydynt byth yn yfed gwin yn ngwydd cwmpeini, ond o'lr neilldu yfant yn helaeth ohono. Y mae iaith y Persiaid yn nodedig am ei nerth, ei thlysni, a'i pheror- iaeth, ac y maent yn ei hysgrifenu o'r dde i'r aswy gyda rhwvddineb.

PRYD 0 WYNT I SIOR IV.

BWYTA PECHOD