Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU GARDD Y BWTHYN. Er mai misoedd y. gwalnwyn a'r haf ydyw y misoedd mwyaf pwysig ar y cyfan i'r garddwr, eto y mae gan fisoedd y gauaf eu gwaith. Mis Tach- wedd, fel rheol, yw yr adeg fwyaf cyfaddas i blanu a thrawsblanu coed ffrwythydd, pa un bynag ai bychain ai mawrion, llwyni ai prenau, dylai y gwaith hwn gael ei ddwyn yn mlaen bob adeg gyfleus, pan fo'r tywydd yn dymherus hyd i ganol Rhagfyr. Dylai gwraidd pob pren a phrysgwydden newydd eu planu gael eu hamddiffyn yn ystod yr hanner cyntaf c.'r gauaf rhag i rew ac oerfel dreiddio i mewn atynt. Pwnc pwysig wedi hyny, yn enwedig os bydd y plan- higion o faintioli mawr, ydyw rhwymo y topiau wrth bawl cadarn, neu ryw foddion arall, i'w cadw yn sefydlog ac ansigledig. Y PRIDDOF.DD GOREU.—Wrth baratoi safleoedd priodol, dylid darpar y pridd mwyaf cymhwys, yn ol fel y bo natur y planhigyn yn galw. I goed afalau, pridd ifrwythlawn, cryf a lleithiog, rhydd a thy- wodlyd yw y goreu. I apricots, tir cleiog, rhvdd a chalchog, heb fod yn ddwfn. I bren ceirios (cherry), tir ysgafn a marldir tywodlyd, ar le sych. I'r gelleigen (pear), clai dwfn, yn cynnwys flints, oeraidd, ond heb fod yn rhy laith. I eirin, tir cleilyd, calchog ac agored, heb fod yn rhy ddwfn. SAFLEOEDD.—Wedi cael y llecynau lie byddo y gweryd mwyaf eymhwys, paratoir y safteoedd drwy geibio allan dwll tua thair troedfedd ysgwar, a thua'r un dyfnder, mewn tir fyddo wedi ei draenio yn dda. Yn ngwaelod hwn, doder deg neu ddeuddeg modfedd o ysbwriel calch a phriddfeini, y sylwedd brasaf a garwaf yn y gwaelod, wedi eu pwyo yn gadarn fel na threithir y gwr- aidd drwyddo; yna, llanwer y gweddill o'r gwagle i fyny a'r pridd mwyaf cymhwys i'r pren. Os bydd y pridd oddiamgylch yn glai gwydn, dylid lledu gwraidd y planhigyn ychydig islaw y wyneb, a phridd da dros- tynt, fel twmpath bychan o gylch y bonyn, ond na ddoder gormod o bridd arno, y mae planu yn ddwfn yn andwyo coed ffrwythydd. Wedi paratoi y sefyllfa, dylid tocio ymaith yr holl fan wreiddiau, a blaendori y rhai hwyaf i tua chwe' modfedd o hyd; ac os bydd i unrhyw ran o'r gwreiddiau fod wedi eu tori, eu hysigo, neu eu cleisio cyn iddynt "0 gyrhaedd. dylid tori y rhan hwnw o'r gwr- aidd ymaith" yn llwyr gyda chyllell finiog. Y mae dau spur neu dri yn ddigon, ond os bydd rhagor o rai iach, gellir eu gadael, wedi eu tocio yn ofalus. Wrth blanu peach, yr hwn sydd yn dueddol i daflu i fyny o'i wraidd fan geinciau, dylid troi y gwreiddiau ar i lawr, a'i ddodi yn syth ar ganol y safle, lledu y gwreiddiau yn orweddol, a'u gor- chuddio a phridd wedi ei ddarparu i'r uwch- der gofynol. ac attegu y planhigyn ieuanc a phawl cryf wedi ei guro yn gadarn i'r ddaear, a'i gylymu wrtho, wedi amgylchu y bonyn ag ychydig wair neu wellt, neu rywbeth esmwyth cyffelyb, fel na byddo i'r llinyn ysigo neu gleisio y planhigyn ieuanc, na thori drwy y rhisgl, a gwasgu y pridd yn ofalus dros y gwreiddiau ymledol. Pan y byddo y gorchwyl o blanu drosodd, gorchaddiwch y llawr 0 gwmpas y pren gyda haen o ddail wedi hanner bydru, i'r trwch o bum' neu chwe' modfedd, a'i wasgu i lawr a chefn y rhaw neu y bal. Os i dyfu yn erbyn y inur, planer y gwraidd cyn belled yn ol ag y byddo cyfleus i'w fonyn ogwyddo i bwyso ar y wal, er mwyn i'r gwraidd gael digon o le i ymledu. LLYSIAU.—Y nfae Tachwedd, hefyd, yn adeg gytleus i drefnu planhigfeydd o globe artichokes dros y gauaf, ac i gyfodi gwreiddiau Jerusalem artichokes o'r tir i'w hystorio, i drwsio gwelyau asparagus, a phlanu gwroiddiau i'w fforsio, a chymeryd gofal o'r gwreiddiau sydd eisoes wedi eu fforsio. Gellir yn awr, hefyd, blanu ffa am grop cynnar. Cyfodi beetroot at cu hys- torio; os na fydd hyn eisoes wedi ei wneyd, a gadael ychydig blanhigion i redeg yn hadyd. Gellir plain a, cabboge" hefyd, a cauliflowers ^tiewn gwelyau paratoedig1, a gofalu am y rhai fydd yn tyfu dan wydrau, priddo celery, edrych ar ol cucumerau fydd- ont yn cael eu fforsio mewn fframiau, traws- blanu lettuces mewn fframiau, ac edrych ar ol rhai pellach yn mlaen, gan symud ymaith yn wastadol bob deileri grin neu wywedig. Planu gwreiddiau mint, hefyd, mewn gwcly brwd i'w fforsio, planu gwreiddiau wynwyn i redeg yn hadyd, a theneuo cropiau y gauaf. Hau pys mewn borderi cysgodol am gropiau cynnar. Codi moron gwynion (llysiau Gwyddelig) i'w hystorio, a gadael rhai gwr- eiddiau redeg yn hadyd. Hau hadau rad- ishes mewn fframiau, neu welyau brwd. Planu shalot|s Anewnl conglau cysgod'o^. Gellir hau cropiau o bys neu ffa unrhyw amser gyda gofal bob mis o Hydref hyd fis Mai. Dylai y naill a'r Hall gael eu cysgodi yn dda yn ystod y tywydd oer. Ni ddylid hau French neu kidney beans hyd ganol Ebrill neu ddechreu Mai, a gellir par- hau i hau cropiau dilynol ohonynt bob pythefnos o'r bron hyd ddiwedd Gorphenaf. Tua'r un amser o'r flwyddyn, hefyd, y plenir scarlet runners, mewn tir bras a rhydd, a sefyllfa heulog ac agored. PRESEIRFIO EIRIN MAIR (Goose- berries).—I'w pick), fel y gellir eu defnyddio gyda ohtig: -Gasgller pan yn hollol wyrdd dloder mewn laeId cryf am ddau neu dri diwr- liod; yna, tywallter trwy ogr, a g,adlawer i ddyferu am ddeg neu ddeuddeg awr. Yn ol y cyfartaledd o owns o pickle spice ar gyfer pum' pwys o'r ffrwyth, a digoii 0 vinegar da i'w gorchuddio, berwer y spdce mewn swm gweddlol fyahan o'r finegr, ac, os am i'r eirin fod yn fedidalion, tyWallter amyiit yn ferw- edig, wedi, yn gyntaf, hidio ymaith y spice; ond os dewfetr eu cael yn crisp, gadawer i'r nnegr oeri cyn eii dywallt amynt; coroier y potelau yn dyn, a bydd yn gymhwys i'w didefnydclio yn mhea rhai wythn»jsau. 03 defnydJir finegr gwin gwyn, nid oes angen spice o gwbl. Yn lbersonol, gwell genym gymysgu ychydig ddwfr gyda'r finegr at bob nuath o bicl. Gellir gwneyd piol rhagorol yn ol y cyfarwyddyd uchod o ffrwyth yr ysgaw (elderberry) ond gofalu nad yw wedi addfedu cyn ei dynii.-Eto i'w potelu yn gyfa,in:- Piger y ffrwyth yn hollol lan oddiiwrth y coesau a brychau, a doder mewn potelau a gyddlau gweddol lydain iddynt; doder y cor cyn ynddlynt yn llac (loose);, doder mewn llestr a dwfr oer i fyddo yn oyrhaedd hyd at enau y potelau yn mron, a doder ar y tan, a gadawer i'r dwfr boethi nes yn mron yn ferwedig; yna, coder y potelau ymaith, tyner y coroyn, a gadawer iddynt sefyll am tua chwaiter awr; yna, tywallter arnynt ddwfr berwedig, a lljmwer y potelau, hyd o fewn modfedd i gyrhaedd y oorcyn; oorcier yn dyn ar unwiai^h, a. gadawer iddynt oeri; oadwer ar eu hoshrau mewn lie sych, a phar- liant am fiynyddoedd. r

[No title]