Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
GWASANAETH YR HET
News
Cite
Share
GWASANAETH YR HET Yn swyd'd Graerefrog, pan ddigwyddo dyn ieuanc syrthio mewn oait.ad a, meroh ieUanc, efe a a, i'w ohartref, ao a rydd ei helt ar yr hoel, a dywed ei fod weci. gwneyd hyny, a'i fod yn bwriadu ei gadael yno hyd nes y tynid hi i lawr gan wrtliddrych: ei serch, ac os bydd i hono wneyd hyny, dyna arwydd iddo ar unwaith fod y fenyw yn ei withud ond os gadewl'.r hi ar yr hoel, bydd hyny yn ddigon o arwydd iddo fod y fenyw yn fodd- lawn idldo ei charu faint fyd a fyno ac wrth ei hebrwng at y llidiart, hi rydd edrycliiad arno a'i gyra yn glaf o gariad, ac yn y diwedd prf.odi a fynant. Da! Ond nid yw gwaisianaetih yr het wedi darfod eto. Yn mhen yspai'.d ar ol pniodi, fe dfciigwydda y gwr gymeryd diiferyn yn ortood rhywbryd, yn y dref neu y pentref, a dychwelyd adref, a chyn myned dros y goirddrws i'w dy, efe a deifl ei het i mewn yn gyntaf, ac os teflir hi allan yn ei hoi, bydd hyny cyst a 1 a dyweyd wrtho, "cadw draw," a ohadw draw a wna am yspaid hanner awr neu awr, pryd y tafia ei het i mewn dmchefn i dreio tempar ei wraig, ac os gadewir yr het i M'IOS ar y llawr fe a'r gwr i mewn mewn yspryd addfwyn a gostynge.dt'.g.
[No title]
News
Cite
Share
"A fedii. di wneyd dau beth ar Unwaith gofynai un i Wyddel. "Medraf," ineddai yntau—cysgu a bre-uddwydi-o." Y mae lla,wer buwch yn sefyll ar y weir- glodd ac yn edrych yn liiraotihlawn ar y comdn. "Mi fyddaf adref y Sul nesaf," ebai cariad- feTeh wrth ei chaiiV.adfab. "Felly finnan," meddai yntau yn ol. Nid y gweithredoedd mwyaf ttiiwng a gyi- lawnir gan ddynion 11)ale hanesydaiaeth yu fwyaf gofalus am eu cromclo, ond y pethau mWlyaf llwyddiannus. Mae i bob effa-itli ei hachos, a rhaid i bawb feci o'r hyn fyddont yn ei hau. Mae llwydd- iant neu aflwyddiant yn wobr uniongyrchol ein hyuiddygiadau yn y bvr preseiinol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
PUBLISHER'S NOTICE "PAPUR PAWB"—an Illustrated Welsh Weekly Paper, devoted to Novels, Short Stories, Brief Biographies of the Celebrities of the Day, Wit and Humour, Puzzles, Poetry, and Light Literature for Family Reading-is published at the Herald Office j Carnarvon. "PAPUR PAWB" is an excellent medium for advertisements, there being no other paper of the same kind published in the Principality. Single copies per post for one quarter Is. 8d. (prepaid). P.O.O's and Cheques should be made payable to the Publisher, DANIEL REEs, at Carnarvon. CONaL Y CYHOEDDWR Cyhoeddir "PAPUR PAWB" yn swyddfa't Herald, Caernarfon, yn gynnar bob wythnos ar gyfer dydd Sadwrn. Pob wythnos, ceir Arlwy o Arabedd, Blodau Barddas, Cystadleuon i'r Cywrain, Darluniau Difyr, Nofel Nodadwy. Mewn gair, bydd "PAPUR PAWB" yn Llawn Lien a Lluniau o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yn Eisieu, Dosparthwyr egniol yn mhob ardal lie nad oes dosparthwyr wedi eu penodi eisoes.-Ymofyner am y telerau â r Cy. hoeddwr, PAPUB PAWB," Caernarfon. Anfonir "PAPUR PAWB" yn rhad diwy post am chwarter am Is. 8c. (blaendal). Nid oes yn Nghymru well cyfrwn^ i Hysbysebu ynddo na PAPUR PAWB." Pob P. O. Order, Cheque, &c., i'w gwneyd In yn daladwy i DANIEL REES, yn Nghaer. narfon. CELL Y COLYCYDD NOFELAU, CHWEDLAU BYRION, &c.-Mae r Golygydd yn barod i dderbyn cynnygion am yr uchod ar delerau rhesymol. GWOBRWYON.—Gweler rhestr mewn colofn arall. A WGRYMIADAU .-Teimlir yn wir ddiolcbga am bob awgrym at wneyd PAPUR PAWB yn fwy defnyddiol a dyddorol. DARLUNIAU DIFYR.—Am ddarluniau dif gwreiddiol, o waith arlunwyr Cymreig, tebyg i'r rhai ar tudalen 1, telir yn ol teilyngdod y rhai fyddont yn gymeradwy. DALIER SYLW. Nid yw'r Golyg) dd y addaw dychwelyd ysgrifau na darluniau pwy bynag ar unrhyw delerau. Cyfeirier pob gohebion llenyddol ac ar aethol at Y Golygydd, PAruia PAWB," narfouj
ANTURtAETHAU Y DYN CLAF
News
Cite
Share
o arwyddion nidi fanwl ac anhawdd eu dar- lIen, fel, hyd yn nod pan nodai hwynt allan, prin yr oeddym yn gallu ei ddilyn. Pry- surodd yr Inspector i ffwrdd mewn mynyd i wneyd ymohwiliadau am y gwastrawd, tra yr aeth Arthur Owen a minnau adref i frecwesta. Wedi i ni orphen ein boreufwyd, dywed- odd y dychwelai erbyn ti-i o'r gloch. "Mi fydd yr Inspector a'r Doctor yma yn fy nghyfarfod y pryd liwnw, ac erbyn hyny, yr wyf yn hyderu y byddaf yn alluog 1 egluro unrhyw bethau dibwys allai fod yn aneglur hyd yn hyn." Gyrhaeddodd ein hymwolwyr ar yr awr benodol, ond yr oedd yn chwarter i bedwar cyn i'm cyfaill wneyd ei ymddangosiad.' Oddiwrth ei ymddangosiad ar ei ddyfodiad i mewn, pa fodd bynag, gallwn we] ed fod pobpeth yn iawn. "Dim newydd, Inspector?" •"Ryda ni wedi dal y bachgen, syr." "Bhagorol, ac yr wyf finnau wedi dal y dynion." "Wedi dal y dynion ebai pawb ohonom yn synedig. "W l'l, o'r hyn Jleiaf, y maent wedi eu sicrhau. Y mae yr hwn a elwid yn Trefor, fel yr oeddwn yn tybied, yh ddigon adna- byddus yn y brif-swyddfft," ac felly y mae ei lofrudlwyt. Eu henwau ydynt Hopkins, Palmer, a Heber." "Yspeilwyr Baiie yr Oxford," ebai yr Inspector. "Yn holloj. felly," ebai Arthur Owen. "Yna, rhaid niai Brierley oedd y Trefor yma V' "Dyna fo," ebai Arthur Oweii. "Mae hyr:a'n gwneyd pobpeth mor glir a dwfr glan," meddai'r Inspector. Ond yr oedd Dr Llewelyn a minnau yn edrych ar ein gilydd mewn dyryswch. "Mae'n siwr eich bod, bob un ohonoch, yn cofio am yspeiliad ariandy yr Oxford," ebai Arthur Owen. "Yr oedd pump o ddynion yn gysylltiedig a'r helynt, y pedwar hyn, ac enw y pummed oedd Davies. Llof- ruddiwyd Careswell, y swyddog, a diangodd y llofruddion, gyda phum' mil o bunnau o arian y swyddfa. Daliwyd y pump, ond yr oedd rhyw ddolen yn ngholl yn y dyst- iolaeth yn eu herbyn. Trodd y Trefor hwn yn fradwr iddynt, efe oedd y gwaethaf o'r holl haid. Ar ei dystiolaeth ef y crogwyd Davies, a chafodd y tri arall bymtheng mlynedd o benyd-wasanaeth bob un. Pan ddaethant yn rhydd y dydd o'r blaen, yr hyn oedd rai blynyddoedd cyn yr amser, ymgynghreiriasant, fel yr ydych yn gweled, i chwilio am eu bradwr, ac i ddial Jfcrirwol- aeth eu cymrawd arno. "Yr oeddynt wedi gwneyd dwy ymgais i gael gafael arno, ac wedi ffaelu; y drydedd waith, 'rydych yn gweled, cawsant eu dy- muniad. Oes rhy'wbeth yn ychwaneg a allaf fi egluro, Dr Llewelyn?" "Yr wyf fi yn meddwl eich bod wedi gwneyd pobpeth yn nodedig o eglur," ebai y Doctor. "Mae'n ddiamheu mai y diwrnod yr oedd ef mor anesmwyth oedd y diwrnod yr oedd wedi darllen yn y papyr newydd am eu rhyddhad." "Ie'n ddiamheu. Nid oedd ei siarad am dy-dorwyr ond gorchudd." "Ond paham nas gallasai ddyweyd hyny wrthych chwi?" ebai Dr Llewelyn. "Wel, fy anwyl syr, am y gwyddai duedd- iadau dialeddgar ei hen gymdeithion, a.'i fod yn ceisio cuddio ei enw ei hunan oddi- wrth bawb cyn hired ag y gallai. Yr oedd ei gyfrinach yn un gywilyddus, ac ni allai ddwyn ei hun i'w dadgelu. Pa mor ddihir bynag ydoedd, yr oedd eto yn byw dan am- ddiffyniad y gyfraith Brydeinig, mae'n ddiamheu, swyddog, eich bod chwi yn gweled hyny, er y gall y darian hono fethu amddi- ffyn, y mae cleddyf cyfiawnder yno yn barhaus i ildial." Dyna oedd yr amgylchiadau hynod mewn cysylltiad a'r dyn claf a meddyg Craigydon. O'r noswaith hono allan, ni welwyd un olwg ar y tri llofrudd gan yr heddgeidwaid. Ond tybir eu bod yn mhlith mordeithwyr yr agerlong anffodus y "Rose of Allandale," yr hon a gollwyd ilynyddoedd yn ol, gyda'r holl ddwylaw oedd ar ei bwrdd, ar dueddau Portugal, yn agos i Coruna. Torodd y cynghaws yn erbyn y bachgen i lawr o ddi- ffyg tystiolaeth, dyna yr achos na chafwyd erioed ymdiafodaeth newyddiadurol yn y dydditiU hyny ar yr hyn a elwid yn "Ddir- gelwch Craigydon." .¿.