Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU BERWI RICE.—Rhoddwch dri-ehwarter Ilonaid sospan fawr o ddwfr. Wedi iddo ddachreu berwi, dodwch ynddo lonaid cwpan coffi o rice neu ychwane-g, yn 01 rhifedi y teulu os na bydd y teulu dros bedwar, bydd cwpanaid yn ddigon. Gadawer iddo ferwi yn gyHym gyda'r cauad arno am chwarter awr; yna gloewer yr holl ddwfr oddiar y rice, a doder y rice yn ei ol yn y sospan, a llenwch y sospan gyda dwfr oer. Golchwch y rice yn lan yn hwn, a gwnewch hyny daiir gwaith. Yna dodwch ef wrth ochr y tan, wedi ei or- chuddio a darn o lian glan neu bapur meddal, nes elo'n dwymn. Bydd pob gronyn o'r rice ar wahan ac yn hollol sych. POTELU PYS GLEISION.—Dyrisgler v pys, a berwer hwynt mewn dwfr ffynnon doder hwy ar ogr i sychu, malwch y rhisgl yn nghydag yehydig o'r dwfr yn mha un y bu'r pys yn berwi, a rhidyllweh y nodd allan ohonynt. Wedi hyny, berwch y nodd am tua deng mynyd, gydag ychydig halen, a chy- maint o ddwfr ag a orchuddio y pys. Dodweh y pys mewn poteli, a thywelltwch v dwfr gwyrdd hwn drostynt. Wedi iddynt oeri, potelwch yn y dull arferol. MiJSHROOMSi.—Ffoirdd ragorol i ariin mushroom ydyw fel crempogen. Wedi ei philio, ei glanhau, a'i sleisio, ffriwch yn araf mewn ychydig ymenyn, gan eu tosio o gwm- pas yn y badell ffrio ar hyd yr amser, a chy- meiyd gofal rhag i'r ymenyn ofer gochi. Oymysgwch dri neu bedwar o wyau gyda dwy neu dair llwyaid1 o laeth, gan eu curo yn dda, nes eu tywallt i'r badall, a'u gaelael yno nes iddynt orphen coginio. Y mae y gymysgedd hon wedi ei choginio yr un modd ag y gwneir crempogau yn ddvsgliad flasus. STIWIO AFALAU.—Piliwch wyith neu naw o afalau, dodwch ddwy lonaid; llwy fwrdd o ddwfr yn y sospan, a darn bychan o cina- mon, neu risgl lemon, a dwy lwyaicl o siwgr. gwyn neu goch. Sleisiwch yr afalau, ac wedi eu gorchueldio, dodwch hwy ar y stove i ferwi, am deleg neu bymtheng mynyd. Gwna race wedi eu coginio fel y crybwyllwyd o'r blaen gyda'r afalau hyn ddlysgliacl gymerad- wy. MARMALADE LEMON. Cymerweh bedwar neu bump o lemons clir. Berwch hwynt mewn cymaint 01 ddwfr ag a'u gor- chuddia am ddwy awr. Tywelltwch ymaith y dwfr unwaith neu ddwy yn ystod yr amser, a dodweh ddwfr .ffres yn ei Ie, a hwnw yn ferwedig. Hidlwch y iemons, a thorweh hwynt yn sgleisus teneu. Tynwch ymaith yr hadau, a phwyswch y ffrwythau, a dodwch ddau bwys o siwgr led a pheint o'r dwfr y berwyd y lemons ynddynt i bob pwys o'r ffrwyth. 13Cirweih y siwgr a'r dwfr hwnw am Jdeng mynyd. Dodwch y mwydionyn i mewn, a berwch yn nghyd am hanner awr. Tywelltwch y marmalade i gostrelau, a phan fyddu wedi oeri, dodwch bapur wedi el wlychu a brandi drosto, ac wedi hyny ddarn o chwysigen neu tissue paper, a brwsiwch dipyn o wyn wy neu gum drosto. OERI SELERYDD.— Gwneir eamgymer- iadau pwysig ambell dro drwy awyru selarydd a llaethdai. A mean yr awyro ydyw cadw y selerydd yn oer ac yn sych, ond ni ohyr- haeddir yr amcan hwnw oni bydd yr awyr a ollyngir i mewn yn oeraeh. na'r awyr fydd oddimewn eisoes, yn y gwrthwyneb, goll- yngir i mewn awyr dwymnach a mwy iiaith. Po gynhesaf y bo'r awyr, lleichaf y bydd yr ystafell a'i cynnwysa. Yn ystod oriau y nos y dylid agor ffenestxa llaethdai, ac yn ddi- weldar—y peth diweddaf cyn myned i or- phwys. Ni raid ofni fod awyr y nos yn af- iachusi—y mae mor bur ag awyr y dydd, ac yn sychach fel rheol. Dylid cau y ffenestn hyn cyn codiad yr haul, a'u cadw felly drwy'r dydd. GWAITH Y TY—Y mae gwaith y ty yn iechyd, ac y mae prif feddygon y byd yn ei gymeradwyo i ferched sydd yn awyddus am ymarferiad iaelius. Nid ydyw cerdded yn ddigon, gan nad oes on;d y coesau yn cael lles oddiwrth yr ymarferiiadí hwnw tra y mae ysgubo Ilwch a glanhau yn galw holl gyhyrau y eyfansoddiad i weithrediad. Ffaith gwerth ei ehrybwyll ydyw fod y merched a gymhellir i gymeryd rhan yn ngwaith y ty yn cymeryd dyddordeb yneu cartref. TE A BIWGR.—Os rhaid cael siwgr gyda the, cymerer ef yn gym.edrol. Y mae y raedd- ygon mwvaf profiadol yn dyweyd fod hufen yn dygvrtiod yn well na llaeth gyda the, oa mynir v naill neu y llall. Cynghorant hefyd beidio darllaw te mor gryf fel y hyct."li raid cael llaeth neu hufen gydag ef i ladd ei effaith. Gelwalr hono yn arferiad wirionifol. Os oes angen am ddiluw o laeth, cymerer ef heby te, ac heb ond ychydig halen neu siwgr ynddo. CNOI TE.—Gwaith andwyol i iechyd ydyw cnoi a sipian te, megis ag y mae arfer rhai gwragedd. Y mae yn y ddeilen de gryn lawer o'r elfen gymhelliadol a chynliyrfiol, a dy- wedir fod ilawer o wragedd yn arfer cnoi y ddeilen sych ar y cyfrif hwnw. Dylai yr arferiad hon, yn gystal a isilpian eau-de- cologne, a llawer o bethau ereill gael ei chon- demnio.

TALFYRIAD 0 HANES CARWRIAETH

[No title]