Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PROFIADAU MRS PRYDDERCH

News
Cite
Share

PROFIADAU MRS PRYDDERCH YN Y PIC-NIC. Nid oes arnaf fi didim eisieu pic-nic, Mr Prydderch,-dim o gwbl. Mae rhyw amser lolian felly wedi darfod hefo mi, a dylai fod wedi darfod hefo chwitha hefyd. Nid ydach yn hidio ? Waeth gynooh ohi p'run ? iPeidiwch chi a cheisib rhedeg hefo'r ysgy- farnog a hela hefo'r cwn fel yna, syr. Gwelais chi yn codi'cli lla;w-a.lla,w fudir iawn oedd hi—'roedd arna'i g'wilydd 'i gweld hi- gwelais chi'n codi eich. hen ilaw fudr o oehr cael pic-nic yn y capel ddoe. 0, mae'ch llaw yn ddigon glan yrwan. Tebyg ydi, y byddwch chi a Mrs Jones, Mrs Griffith, Mrs Roberts, Mrs Hughes, Miss Brufus, Miss Jackson, Miss Stephan, a'r holl hogia gwirion yna, yn dechra polishio eich, hun ar gyfer y pic-nic. Clywais eisoes fod rhai o'r merched yna wedi ordero blouses. Gwell fuasai i chwitha ordero clos pen glin newyddl, neu lifo yr hen rai. Edrychwch, yn dda gynddeiriog wedi eich riggio i fyny. B'asa pobol ddyeithr yn meddwl mai gwrboneddig f'asech chi, ondt i chi gau yr hopran yna,. Gwaith anhawdd ydi gwneyd hyny. Cyf- addefwch hyny yn rhwydd. Eich hopran chi wyf yn feddwl. Meindiwch 'ch busnes eich hun. Gofala i am fy hopran i yn iawn. 'Dydw i ddim yn bradychu fy hun drwy siarad! lol. Dilynwch chi fy s' ampl i, ac ni fydd i chi fyn'd yn ffwl. Wel, gall dyn fod yn ffw[' a dynes yn ffolog wedi cau eu cegau neu wrth eu hagor. Ond osi byddwch chi yn ddistaw yn y pic-nic bydd pob peth yn iawn. Mi gychwynwn ni yn gynar. Rhaid i ni beidio bod fel yr oedldan ni llynedd,— ar ol pawb yn cyrhaedd y cae. RhaidJ i ni gael sicrwydd gynoch chi yrwan, John, na wnewch chi ddim cambihafio fel y darfuch chi yr ha' diwedda'. A ydych chi'n cofio? Ydach, mi rydach. Does Jim posi'b eich bod wedi anghofio. Er'ch bod chi yn gwadu yn bendlant na ddarfuch cni ro'i gin r^u rum yn eich.te, eto, cofiwch, gallai dyn dall wel'd eich bod mewn diod yn mhell. O'r c'wilydd oedd arna i wrth eich gwel'd yn gwneyd eich hun yn lolyn i oawb. Er nad oeddach chi yn perthyn i'r seiat, yr oeddwn i, ac ofnwn yn ofnatsan gael fy nhroi ohoni oherwydd fy mod yn bnod a dyn o'r byd,- dyn meddw, a meddw yn pic-nic yr Ysgol Sul! Ar o!l te mor wahanol yr oeddach chi i'r hyn oeddach cyn hyny. Ae'ch o gwmpas yn liamddenol heb dynu sylw neb yn neill- duol. Ond ar ol y te, dyma chi fel injan wedi cael stem i fyny; 'roeddach am fyn'd i rywle, gwneyd rhywbeth, canu, dawnsio, cerdJded a rhedeg am y goreu. A chitha yn labwst tew, boliog, heb lais, heb wynt, ac heb ystwythder. Gwiiaethocln i'r merched a rhai o'r llanciau chware kiss-in-the-rrng, a chym'r'soch fi yn erbyn fy 'wyllys hefo chi i'r ring. Fu 'rioed fath g'wilydd ar fy ngwynab Winciodd un o'r bechgyn direidus a'r Miss Jones, a chyda hyny dyma yr hancas bocadJ yn cael ei thaflu wrth, eich sodla chi, a dyma pawb yn gwaeddi, "Mr Prydderch Mr Prydderch Dyma chwitha—y creadur tew-yn gwyro yn sydyn i godfi'r liancas bocad, yn rhwygo 'ch trowsus, yn syrthio ac yn rowiio i I lawr yr allt fecliaii oedd yn digwyddl bod yn y fan hono. Brensiach anwyl, y gwrid ddaeth i fy ngwyneb! B'aswn yn eich taflu i byll ebargofiant pe gallaswn y foment hono. Yn lie eista ar lawr a gadael ll'onydd i betha, dyma chi yn codi ar eich traed ac yn rhedeg ar ol Miss Jones, a phawb yn eu dybiau yn chwerthin am eich pen. Wrth gwrs, ddalsioch chi mo Miss Jones, a, gorfu i chi fyn'd i'ch lie yn ol. Fedra Miss Jones ddim myn'd rownd yr ail dro—yr oedd wedi ymladd wrth chwerthin am eich pen chi. Oymerodd Ben Rhys yr hancas bocad, a gwelwn ar ei lygad o ei fod am wneydJ sport am ben rhywun. Gollyng- odd yr hancas y tu ol i mi, a dyma pawb yn gwaedidi, "Mrs Pryddierch Mrs Pry- dderch." Darfu i chitha feddwl mai arnoch chi yr oeddan nhw yn gwaeddi, a rhed'soch at yr hancas pan oeddwn inna yn gwyro i'w chodi hi. T'rawsoch fi reitfyn fy mhen nes sbolio fy monat, ac nes y syrthiais inna a chitha fel ffyliaid reit i lawr. Bu raid i ni ail ddechre. ollerwydid eich diyini chi. Fedra Ben Rhys ddim myn'd hefo'r hancas wed'yn aeth yn sial wrth chwerthin. Am spel aeth y chware yn mla,en yn o lew. Ond dropiodct Miss Edwards yr hancas wrthoch clii, gwel- soch chitha hi, a ffwrdd a chi fel gwlaw t'rana, ac ar ol Miss Edwards. Er na ddal- 'sooh, chi mo'ni, aethooh ati a bu scuffle fawr rhyngoch chi 'eh dau. Y dwlyn i chi, mynsoch gusan ganddi, a thrwy fod eich barf chi yn wythnos oed, tyn'soch waed o foch Miss Edwards. Cafodd hono ddigon ar gusanu eiddo pobol ereill. Serfio hi yn iawn. Ond, chwara teg iddi, arnoch chi 'roedd y bai. 0, diar mi, angliofia'i byth mo hyny. Ond coron fy ngh'wilydd i a'ch gwarth chi oedd y peth a ddigwyddodd hefo'r botel. 'Roedd'an nhw yn deyd o hyd fod yno rhyw ogla rum. Wydda neb ddim lie yr oedd o. Ond, o'ch fi Dyma rhywbeth fe'l dwr coch yn rhedeg o bocad eich cot chi, a beth oedd o ond rum. Roeddech wedi rhedeg yn erbyn Pirs Puw, ac wedi malurio y botel rum oedd yn eich pocad Torodd y chwara i fyny mewn chwerthin di-ddiwedd bron. Ai chwerthin ydach ciiitha am ben peth o'r fath ? C'wilydd, c'wilydd, John Prydderch! Siampl (Ida i blant yr Ysgol Sul Nis gallaf byth ollwng y peth a gof, ac mae'n gas gin i feddwl am bic-nic arall. Ac nid hvna yn unig. Ni welais i 'rioed y fath gladdu bara brith, jam, teisenau, &c, 'Roedd stumoga rhai o'r bobol yno yn weigion er's dyddia- A welsoch chi mor grand oedd teulu Penstwr, ac mor fawr- eddog oedd Miss Styles, Miss Prim, Miss Jehu, a Miss Falkin ? 'Roedd rhai o'r merched yn ormod o swells i helpu i wneyd y bwyd ac i ymgymysgu hefo'r gweddill o ferched oedd yn bresennol. Y Lusifars diog, di-ddim mama balclidar a hunanoldeb! Ymgorphoriad o yspryd ffroeiiuchel, diJes, anfoneddigaidd a Twt, twt a nlwr, dydyn' nhw ddim yn werth cael eu golchi mewn dwr golchi llestri budron! Oiwaid d'ifaol, digynnyrch ydyn nhw, pwy a all eu goddef. Gobeithio na welaf mohonynt yno eleni. My ladies yn wir! Merchedi clws ydach chi'n ddeyd? Rhai iawn i chwara kiss-im-ths-ring hefo nhw ? Whiw! Ma'n ba^rorl iawn i ddynion ieuainc spnilio eu biwti nhw wrth afael ynyn nhw! Persona, wedi eu startsio ydyn nhw; hawdd y gellir eu difetlia wrth gyffwrdd a nhw! Ddalia nhw ddim tywydd na chawod o wlaw pro- fedigaeth. Ac wedi i bawb ddod adra, dyna lie 'roedd siaxad, a siarad, a. deyd y drefn am y peth yma a'r peth acw. 'Roedd bai ar bob peth ac ar bawb ond ar y bobol na wnaethant ddim byd ond binyta ac yfed. Os oes arnoch chi eisio myn'd yn ddiboen eich meddwl d'rwy y byd, Mr Prydderch, peidiwch a chymeryd rhan mewn cyfarfod- ydd te, pic-nics, a phetha o'r fath. Gobeithio, pa fodd bynag, y bydd petha yn well eleni.

Advertising