Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BRWYDRAU BYTHGOFIADWY

News
Cite
Share

BRWYDRAU BYTHGOFIADWY IV.— GWAHEDIAD LUCKNOW (1857). Yr oedd Havelock wedi peuderfynu, pan gychwvnodd yn y boreu, y mynai waredu y rhai gwarchauedig yn Lucknow y noson hono, neu farw yn yr anturiaetli; ac yr oedd ei fil- wyr hefyd, y rhai ar y cyntaf oeddynt yn falch o gael ychydig seibiant, wedi dyfod yn frwdfiydig dros beidio oedi dim yn hwy. Yr oeddynt wedi ymladd eu ffordd am yn agos i gan' milldir er mwyn gwaredu eu cymdeithion gwarchauedig, yn nghyda'u gwragedd a'u plant, ac ni fynent orphwys yn mhellach nes cael y pleser o ystormio pyrth eu carchar. Yr oedd y gwarchaedigion ar yr un pryd yn hiraethus wrandaw SWIl eu dynesiad. Yr oeddynt wedi clywed trwst, ergydion o bell yn y boreu, ac wedi sylwi fod yno gyn- hwrf mawr yn y dref. Tua'r prydnawn yr oeddynt yn gallu gweled mwg y frwydr dros y tai pellaf; ac ychydig yn mhellach yn y prydnawn bobl yn prysuro allan o'r ddinas, a bwndeli o wisgoedd ar eu penau, yn cael eu dilyn gan gorphluoedd o wyr meirch a gwyr traed, y rhai, er fod y gelynion yn parhaus danio arnynt, yr oeddynt yn rhy gyffrous i dalu neniawr isylw o hyny, gan fel yr oedd eu calonau yn dychlamu gan lawenydd wrth glywed y magnelau taranfawr yn agos hau. Am bedwar o'r glocli, yr oedd rliai o'r swydd- ogion oedd ar eu gwvliadwriaeth yn hvsbysu eu bod yn gweled, draw yn mhell, gerllaw i balas, fyddin o Ewropeaid o'u niagnelfa, Yn fuan wedi hyny, yr oedd swii ergydion yn yr heolydd. Tra yr oeddynt yn sefyll i w ran do, yr oedd Deleii o wn yn cliwibianu dros eu penau, ac ni fu swn pelen erioed mor felus i'r glust. Cenadwri oddiwrth eu eyfeillionl ydoedd, yii sibrwd gw are digaeth. Yn mhen PUlll' mynycl wedi hyny yr oedd yr ucheldirwyr yn y golwg, ar eu rliuthr- gyrch drwy un o'r prif heolydd ac er eu bod yn colli llawer o'u gwyr, dan ergydion o benau y tai, ffenestri, a drysau, yn mlaen yr oeddynt yn myned. Yna, wedi hir ymattal, torodd y cyffro mwyaf allan yn llawenydd llongyfarchiadol, fel swn y mor ar (irueth-i-, bob amddiffynfa, eaer, a m:t.gnelfa-o'r tu ol i amgloddiau o sachau tywod oedd wedi eu pentyru ar furiau dryllie,clig-o bob dyogelfa oedd yn cael ei pharhaus amddiffyn gan ychydig o galonau dewrion, y cyfodai banllefau o lawenydd. Yr oedd y floedd fawr gyfFredinol wedi treiddio cyn belled. a'r hospital, a'r elwyfedig- ion yn ymlusgo allan i oleuni haul, a golwg eciirydus arnynt, and yn awyddus. gymysgu eu lleLsiau egwan i chwvddo yr un floedd uchel o groesaw Yr oedd yr ymgom rhwng Outram a Have- lock yn faith a difrifol. Yr oedd y cyntaf o'r dechreu yn gadarn o ran ei fam dros iddynt aros yn nghyntedd mawr y palas a manau dvogel ereill hyd y boreu, a, Havelock mor benderfynol a hyny am ymwthio yn mlaen. Dywedai ef y gallai y rhai gwarchauedig hyd yn nod y fvnvd hono fod yn agored i'r yni- osodiad terfynol; ac os nad oedd, y gallai y gelyn gasglu yn nghyd y fath nerth o'u ham- gvlch CTl y borou nes y byddai bron yn an- mhosibi iddynt symucl yn mlaen, O'r diwedd cytunwyd i adael y clwyfedig- ion, y gynau mawr trymion, a rhan o'r fyddin o'u liol, a chymeryd gyda h^y ddwy gatrawd yn unig, sef y 78th Highlanders a'r Sikhs gyda hwy i'r ymdrin. Dylid crybwvll, cyn myned yn mhellach, mai brodorion o'r Punjab, yr India Og- leddol, wedi eu gorchfygu gan y Prydeiniaid yn 1849 oedd y Sikhs. Yn ystod gwrthryfel 1857, buont yn ffyddlon i'r Prydeiniaid a buont o gynnorthwy sylweddol i ostegu y gwrthryfel. Yr oedd Outram wedi derbyn archoll yn ei fraich gan belen o wn yn gynnar yn y boreu ond er ei fod yn wan gan boon a, cholii gwaed, gomeddai adael y cyfrwy, ac ni ellid ei ber- swadio i ddisgyn oddiar ei farch. Yr oedd efb, fel hen filwr dewr a phrofiadol, wedi pen- derfynu dilyn Havelock, a chydgyfranogi o'r peryglon, ac os byddai raid, marw hefyd, yn cn yr vmyrch peryglus a diweddaf hwn i waredu y gwarchauedigion. Yr oedd gan Outram, fel swyddog uwch na Havelock, liawl i fod yn arweinydd y gad waredigol ond, yn ol bonedd, urddas, a haelfrydedd ei gymeriad, gwrthodai ei hawl, yn ffafr Havelock, ar gyfrif ymdr'echion di- droi'n-ol v dyn dewr hwnw i weithio ei ffordd i ryddhau y gwarchauedigicn. Gan hyny, dilynodd Havelock a'i fyddin fel swyddog 11 ai, a,c yinladdodd gyda Havelock fel gwirfoddol- wr. Hyd yn hyn yr oeddynt yn trefnu eu bydd- inocrld mewn lie o ddyogehvch o fewn ychydig i fod yn ngolwg y Residency, lie yr oedd Syr Henry Lawrence a'i lu, a'r oil o'r rhai oedd amql ganddo wedi vmgilio er y dvdd cyntaf o Orphenaf, ac wedi cael eu gwarchau yno hyd i derfynau eithaf amynedd a liiiymaros. Yr oedd Lawrence ei hun wedi cael ei daro i lawr gan ffrwdriad damweiniol cyn i'r war- edigaeth ddyfod yn agos. Ei eiriau olaf wrth ei gyd-warchauedigion oeddynt, "Peidiwch bytli a rhoddi fyny, gwneled pob dyn ei ddy- ledswvdd, ond dim telerau. Duw a drugarliao wrth y gwragedd a'r plant Erbyn hyn yr oedd pobpeth yn barod, a'r ddau gadarweinydd calonog yn cychwyn allan o'u dyogelfa i arwain eu milwyr awyddus i wynebu y pervgl. Cyn gynted ag yr oeddynt wedi! cyrhaedd yr heol, yr oedd y tai o bob ochr yn tywallt eu hergydioni arnynt; tra., ar attal eu sYllludiacCcyflym yn inlaen, a'u caclw yn hwy o dan gawndydd o belenau, yr oedd y gelynion wedi tori ffosydd dyfnion ar draws yr heol, ac wedi codi aingaerau ac attalfeydd yn mhob cyfeiriacl. Wrth fyned o dan bont fwaog, drwy ystorm o dan y gelyn, syrthiodd y Cadfridog Xeiil— arwr llawer cad—oddiar ei farch Y11 farw. Snfodd ei ddilynwyr am envd, wedi eu cyn- ddeiriogi gan ddialedd, i ddial am ei farwol- aeth ond "Yn mlaen, yn mlaen," oedd gor- chymyn Havelock, er attal eu hymgais ofer, ac yn mlaen yr aethant. Yr oedd pob heol, ar eu mynediad iddi, yn dan byw, drwy yr hwn, yn ol pob ym- ddangosiad, yr oedd yn anmhosibl i unrhyw filwr ddianc a'i fywyd ganddo. Yr oedd pob dnvs a ffenestr o bob ochr yr heol yn rhai- adru ergydion arnynt, tra ar ymylon y nenau fflat ar bob llaw, y rhai oedd yn ddu o ddynion, y tywelltid ystormydd o dan. Yr oedd niagnelfa wedi ei gosod i fyny yn mhob congl a heol, a cliyn gynted ag yr ym- ddangosai blaen y gad, torai allan lyferthwy o fwledi, nes pentyru yr heolydd a lladdedigion. Yr oedd twrst y giapesliots a'r gwnbelenau yn erbyn y muriau ac ar y palmant fel curiad cenllysg ar do ty Yr oedd y mwg o'r heolydd dyfnion tywyll hyny yn dyrchafu fel o agendor niynvdd tan- llyd, tra yr oedd yr oernadau a'r ysgreclifeydd ar bob llaw yn rhwygo yr awyr, nos gwneyd y nos oedd yn awr ar eu gwarthaf yn un o'r nosweithiau mwyaf arswydus. Yr oedd Havelock—er tlmng dau fur ar- swydus o dan felly—yn marchogaeth ei farch mor hamddenol a diymdro a phe buasai yn cymeryd ei seibiant hwyrol ar rodfa dawel ar fin y mor, a'i lais liynod i'w glywed yn awr ac eilwaith yn dyrohafu uwchlaw crochlais y frwydr. Y mae yn ymddangos fel gwyrili ei fod wedi dianc yn duianaf, olierwydd, yn ystod yr un awli ar ddeg oedd wedi myned heibio, yr oedd wedi colli J n agos i un ran o dair o'i fyddin, tra o'r ddau gadfridog arall, yr oedd un wedi ei ladd a'r llall wedi ei glwyfo. O'r diwedd cyrhaeddwyd porth y Resi- dency, lie yr oedd y gwarchauedigion. Treuliwyd peth amser i syinud yr attal- feydd, n stocl Jl' hwn amser y cymerai y fyddin luddeclig ychydig seibiant, tra yr oedd y lleuad yn edTych i lawr yn oeraidd ar yr ad- feilion oedd yn eu hamgylchyiiu. Cyn gynted ag y cafwvd y ffordd yn rhydd ae vn agored, rhoddodd y milwyr, gan ang- hofio eu lludded, dair banllef o lawenydd, gan rutlhro yn mlaen. Yr oedd y banllefau a'r llongj farchiadau oddiallan ac oddimewn yn dangos y cyit'ro a'r llawenydd mwyaf brwdfiydig a welwyd er- ioed, tra, yn uwch na'r ystorm j orfoledd y clywid pibgerdd filwraidd yr Highlanders. Rhutlirodd yr acliubwyr a'r gwavedigion i freichiau eu gilydd, ac yna aeth y swyddegion heibio o dy i dy i longyfarch y gwragedd a'r plant. Yr oedd yn oiygfa fythgofuidwy fel yr oedd yr Ucheldirwyr yn cyfodi'r plant i fyny i'w cusanu, a'r dagrau yn llifo dros eu gruddiau, gan ddiolch i Dduw am eu bod wedi dyfod mewn pryd i'w gwaredu.

AMRYFAL GREDOAU YN NCHYLCH…

[No title]