Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU HAM OER.—Gellir defnyddio'r gweddion yn y dull oanlynol Torwdh ymaith yr oil o'r ham oddiar yr asgwrn, ac wedi symud ymaith y rhan allanol, pasiwch yr ham drwy y peiriant i'w fan friwio. Os na bydd yn ddigon bras, oymysgwch ag ef ychydig ymenyn, neu y brasder oddiar wyneb y dwfr oedd yn ei berwi; blaswch ag ychydig mace a cayenne pepper; dodwch y cyfan mewn dysgl bastai, a chyda llwy, gwneweh ohwech neu wyth o rigolau ynddo. Torwch wy newydd ei ddodwy i bob un o'r rhigolau, a thaenwch ychydig grystiau bara dros y cyfan, dodwch y ddysgl yn y pobty, yr hwn ddylai fod yn boeth, a phan fo'r wyau wedi gwneyd yn dda, y mae yn barod i'w defnyddio. LLYSIAU.—Dylai pob math o lysiau gael eu golchi a'u trwsio cyn gynted ag sydd bosibl wedi eu tori neu eu casglu, oddigerth moron, maip, wynwyn, a phytatws—mewn gwirionedd, bob gwreiddiau. Gellir cadw beetroot hefyd, ond dylid ei ddefnyddio yn fuan wedi ei ferwi, pan wedi oeri. Gellir cadw asparagus am ddiwmod neu ddau drwy ddodi eu bonau mewn dwfr. Gellir cadw ireiddiwoh mewn cucumbers a llysiau ereill yr un modd. Dylai bresych, cauliflowers, a Bressels-sprouts gael eu dodi mewn halen a dwfr i'w glanhau oddiwrth bob math o drych- filod. Dylai lettuce ac endive, os gwlychir hwy, gael eu sychu yn dda cyn gwneyd y salad, pob deilen ar ei phen ei hun. Dewiser celery a chalon sylweddol ganddo. Dylid defnyddio pob tipyn o'r llysieuyn hwn. Y mae y gwyn i gyd i'w fwyta heb ei goginio, a'r deiliach allanol i flasu swps a sawsa-u. MELAERON LEMON (Lemon Marma- lade).—Cymerwch lemons ffres a gloew yr olwg arnynt. Berwch hwynt mewn cymaint o ddwfr ag a'u gorchuddiant am ddwy awr. Tywelltwch allan y dwfr unwaith neu ddwy yn ystod yr amser hwnw, a dodwch ddwfr berwedig ffres yn ei le. Drainiwch y lemons, a fchorwch hwy yn sgleisis. Tynwch y pips allan, a phwyswch y ffrwythau, a chaniatewch ddau bwys o siwgr lwmp a pheint o'r dwfr y berwyd y lemons ynddo ddiweddaf at bob pwys o'r ffrwythau. Berwch y siwgr a'r dwfr am ddeng mynyd. Dodwch y mwydion, &c., i mewn, a berwch yn nghyd am hanner awr. Tywelltweh y marmalade i gostrelau (jars); pan y byddo wedi oeri, gorchuddiwch a phapur, ac wedi hyny a ohwysigen neu tissue paper, wedi ei baentio drosto a gwyn wy neu gum toddedig. BERWI WYNWYN.—Yn gyntaf, dylent gael eu golchi a'u pilioni, a'u berwi am ddeng mynyd. Tywelltwch y dwfr cyntaf, ac ychwanegwch ddwfr berwedig arall gyda halen, a berwch yn araf am awr, neu ragor os na byddant yn ddigon meddal. Yna, dodwch y wynionyn ar yr hidlyr (colander) a throwch sauser a'i gwyneb i lawr arno, a gwasgwch y gwlybwr allan, a dodwch ef o'r neilldu am bum' mynyd mewn lie cynhes. Er mwyn i'r bias beidio bod yn gryf, y mae y dull hwn yn rhagorol. Y mae rhai wynwyn yn gryf iawn eu bias;, ac yn gofyn tn dwfr, ond yn y cyffredin y mae dau yn ddigon. TEISEN HEB FURYM, EPLES, N AU WYAU.—Y defnyddiau ydynt :-Pwys a. hanner o beilliad, chwe' owns o ymenyn, hanner pwys o siwgr, hanner pwys o currants, owns a hanner o candied peel, llonaid llwy de o carbonate soda, a, pheint o lefrith cynhes. Rhwbiwch yr ymenyn i mewn i'r peilliad, dodwch lwyad o halen, yna ychwanegwch siwgr a currants. Rhaid i'r tin pobi fod yn gynhes ac wedi ei iro oddimewn. Cy- mysgwch y soda i'r llaeth, yna y deisen, a chymysgwch yn N-fiym, tywelltwch i'r tin, a phobwch ar unwaith mewn pobty poeth. Yna yn fwy araf wedi yr hanner awr gyntaf, pan y dylai y deisen fod wedi codi yn dda. Cymer y swm hwn o ddefnyddiau yn agos i ddwy awr o amser i wneyd yn dda. DYSGL FLASUS.Berwch lonaid cwpan de o rice mewn dwfr, os na ellwch fforddio llaeth, nes y byddant wedi chwyddo; yna dihysbyddwch y gwlybwr. Torwch ddau wy, a chymysgwch a'r rice, gan ychwanegu pedair owns o currants, ychydig nutmeg siwgr i'w flasu. Yna, ychydig beilliad i'w dewychu. Taenwch ar ei wyneb wy wedi ei guro, a chrystiau bara. Torwch yn cutlets, a ffriwch mewn brasder berwedig. Yna dodwch ef o flaen y tan i sychu, a thaenwch ychydig jam ar bob cutlet.

^==^=ss—fisa YN CYNNYG El…

[No title]