Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

BRWYDRAU BYTHCOFIADWY

News
Cite
Share

BRWYDRAU BYTHCOFIADWY II.—WATERLOO. Adroddiad gan un o awdwyr mwyaf gwlad- gar Ffrainc yw yr un a ganlyn — Un boreu braf yn Mai, rai blynyddau yn ol, aethum ar daith drwy ranau o Belgium gyda'r bwriad, yn benaf, o weled maes byth- gofiadwv Waterloo, lie gorchfygwyd blaen- ffrwyth a goreuon fy nghenedl, nid gan y Saeson ac nid gan y Prwsiaid, ond gan Rhaglunia,eth, neu gydgrynhoad damweiniol o'r anfanteisiol a'r anffodus. Yr oedd y Prwsiaid wedi hyrddio eu llengoedd yn erbyn fy ngwlad cyti Waterloo, ac wedi cael eu curo yn ol yn ganddryll bob tro; buasai y Saeson yn cael yr un driniaeth yn Waterloo onibai i Ragluniaetli yn y modd mwyaf eglur ymyryd a rhoddi yr oruchafiaeth i'r ymladd- wyr salaf. Ond pan edrychwyf yn ol ar gan- lyniadau y frwydr echrydus hono ymladdwyd ddydd Sul, Mehefin 18fed, 1815, rhwng gor- euon Prydain a Prwsia ar y naill law, a Ffrainc ar y Hall, yr wyf yn gallu ymdawelu with gofio am orchfygiad y cawr Napoleon Fawr, oblegid ar ol Waterloo caed heddweh fel yr afon gan nad beth am gyfiawnder fel tonau'r mor. Wedi'r terfysg bu tawelwch trwy'r byd. Brenhin Brenhinoedd fu yn ymladd o blaid heddwcli yn y frwydr hono, a Napoleon, cigyddiwr Ewrop, gollodd y dvdd-ewympodd fel Goliath i'r llawr. Pan gyrhaeddais y maes nid oeddwn yn gwybod fy mod. yno, onide buaswn wedi tynu fy het o. barch *i goffadwriaeth y dewrion y bu eu gwaed yn rhuddo'r gweryd ddeng mlynedd a thriugain cyn hyny. Nis gallwn weled dim olion y frwydr, wrth gwrs. Safais ar fryncyn ac edrychais o'm blaen, gan ofyn toe i lafurwr amaethyddol oedd yn trin y tir gerllaw pa mor bell eto oedd maes Waterloo. "Dyna fe o'ch blaen," ebai hwnw, "yr yd- ych yn awr yn sefyll ar y bryn oddiar pa un r, I y canfu Wellington fod Blucher a'i Brwsiaid yn dynesu fin y nos i'w waredu rhag colledig- aetli." Felly hwnw oedd maes Waterloo! Yr oedd yn filldiroedd o led, ac nis gwn pa faint o hyd, ond gwn mai maes digon anwastad ydoedd—yr oedd yno nmryw fan drumau yn ymgodi, yn union fel pe buasai Mor y Wer- ydd a'r ystorm fawr, wedi cael ei droi yn sydvn yn dir sych. Sylwais ar ffelrmdy lied fawr, yr hwn, yn wir, nad oedd lawer gwell na murddyn, yn gorwedd dipyn o bellder o'm blaen. At hwnw y cyfeiriais; a phan gyrhaeddais yno, daeth rhyw ddyn allan i'm cyfarfod--gwr y ty fel y tybiwn i. "Beth yw enw'r ffermdy yma?" gofynais, id do. "Dyma Hougomont,syr," oedd ei ateb, "dvma y Hecyn fu yn angeuol i obeithion Napoleon, dyma lie bu dechreuad y diwedd yn y frwydr, yiija y cafodd efe megis y gainc galed yn gyntaf dan ei fwyell." Wedi cryti vniddyddan, "Dewclu meddai, gan fv arwain i ardd wrth ochr y ty, "a welwch chwi y pwmp yma 1 Mae'r pydew yn anarferol o ddyfn, ac nid yw'r bwced a'r olwyn gydq,'r gorchudd uwchben ond wedi eu dodi yna. rhag i ddyn neu anifail syrthio i fewn, oblegid y tro diweddiaf i Idyferyn o ddwfr o'r ffynnon yna gael ei yfed oedd boreu y frwydr 70 mlynedd yn ol." "Sut hyny?" gofynais. y "Am fod y twll yn llawn o esgyrn dynol. Ar ol y frwydr fe daflwyd tri chant o gyrph gwroniaid y gad i lawr i'r pydew. Yr cedd brys i'w cael oddiar wyneb y ddaear. Ond a oeddynt oil wedi meil'w ? Nag oeddynt, medd traddodiad, a dywedir y bu clwyfedigion yn ymwingo mewn poenau echrydus i lawr yn y twll yna yn nghanol cyrph lladdedigion hyd neis y bnont hwythau feirw hefyd. Dyna i chwi ogoniant rhyfel!" Arweiniodd fi at ei dad, hen wr oedd dros ei ddeg a phedwar ugain oed, J r hwn oedd yn aelod o'r gatrawd oreu o feirchfilwyr oedd gan Napoleon yn y frwydr-y gatrawd ragor- af, ddewraf, a mwyaf dysgybledig a welodd y byd erioed, medd haneswyr diduedd o bob cenedl, a'r hon gatmwd-goreuon Ffrainc— a gadwycl o'r neilldu hyd lies daeth y foment beryglus ar y frwydr. Ebai yr hen wrthyf, mewn atebiad i'm cwestiynau-ac yr oedd ei lygaid suddedig yn ma-chio gan weddillion tanbeidrwydd ei ieuenctyd fel yr adroddai yr hanes—"Wydd- och chwi," meddai, "onibai fod Rhagluniaeth wedi pendeifynu rhoddi terfyn ar yrfa fy Ymherawdwr yn Waterloo, buasai y Saeson yn sarnau dan ein traed "Hwyrach hyny, ond (sglurwch sutl y gweithiodd Rhagluniaeth yn eich herbyn." "Wel, fel hyn Pe na buasai y ddaear a'r ffyrdd wedi eu mwydo gan y gwlaw didor cldisgynodd y noson cyn y frwydr, buasai dvfodol Ewrop wedi ei newid. Yr oedd fy Ymherawdwr wedi concro y byd"-a dis- gleiriai llygaid pwl yr hen wr wrth gofio am ei frwydrau. "ond fe anfonwyd y gwlaw gan Awdwr natur i goncro Napoleon. Drwy fod y gwlaw wedi meddalu y maes ar pa un yr ydych yn sefyll, nis gallai y cyflegrwyr ruthro yma a thraw mor chwim ag y dylasent gyda'u gynau mawrion ferymion; suddai olwynion y cyflegrau yn y ddaear feddal fel nas gellid eu symud, a saethid yn gelaneddau meirw y mihvyr ofalent am danynt cyn llwvddo i'w cael yn rhydd." "Ond yr oedd meddalwch y ddaear lawn cymaint o anfantais i'r Saeson ag ydoedd i chwithau," meddwn, gan ddymuno eglurhad. "Dim o'r fath beth," ebai'r hen filwr. "Rhaid i chwi gofio mai nyni, y Ffrancod, oedd yr ymosodwyr boreu y diwrnod ofoadwy Iiwnw, ac felly ein byddin ni oedd i redeg o gwmpas mown ymchwil aim y safleoedd goreu allem gael, oblegid yr oedd y Saeson yno o'n blaen, ac wedi pigo y manau goreu o'r oil. Ein busnes ni oedd eu gyru ar ffo o'r manau hyny; eu busnes hwythau oedd glynu wrth- ynt cyhyd ag y gallent. Felly nid oedd raid iddynt hwy wrth hanner cymaint o symud- iadau sydyn a ni. Oh ebai yr hen wr, gan ymsythu i'w lawn daldra, ac edrych o'i gwmpas, "yr oedd genym bengapten i'n har- p wain yr hwn nas.gallai yr un gallu dynol ei goncro, ond fe'i concrwyd ef gan ychydig wlaw a chan un celwydd!" "Un celwydd," meddwn mewn syndod. "Ie," ebai'r hen farchfilwr, "un celAvydd. Ond dyma yn fyr holl hanes y frwydr. Cyr- haeddasom ni i faes Waterloo nid rhyw lawer o oriau cyn y bu raid i ni ddadAveinio y cledd ar alwad yr udgorn. Yr oeddym wedi blino gan ymdaith gyflym a maith, wedi ein gAvlychu at y croen gan y gwlaw, heb gysgu dim y nosen cyn y frwydr drwy fod y ddaear yn rhy wlyb, ond pan wawriodd y boreu gwlyb, dwl,-boreu mawr oedd hwnw yn hanes y byd—yr oedd ein byddin ar ei thraed, wedi ei threfnu ar ffurf lleuad hanner llawn, a chatrawd fawr meirchfilwyr personol yr Ymherawdwr ei hun yn y canol, i'r hon y perthynwn i. Dyma olygfa nad ait-W yn ang- hof genyf oesoedd tragwyddoldeb ei hun! Gwelem wr bychan, cadarn, penderfynol, yn marchogaeth yn chwim heibio ifrynt ein byddin, gan daflu ei olygon eryraidd; dros bob cwmni, a phob cwmni yn rhoddi y cyf- archiad milwrol iddo—efe oedd ein Hymer- awdwr, gorchfygwr y byd. Nid oedd neb ohonom a floeddient "Hwre" wrth iddo ein pasio yn meddwl mor fuan yr oedd efe ei hun i gael ei orchfygu, nag yn meddwl ych- waith mor fuan y byddai ugain mil ohonom ninnau yn y tragwyddolfyd! O'r diwedd dyma ddau gant o udgyrn yn seinio 'Yn nilaen a ni' ar hyd ein llinell, yr hon oedd yn dair i bedair milldir o hyd; dyma y fyddin ardderchog yn symud yn mlaen fel un gwr gyda bloedd fawr dyma bwff o fwg gWYll i'w weled yn y pellder draw o rengau y Saeson, yn cael ei ddilyn gan gannoedd cyfFelyb a rhuad dychrynllyd cannoedd o fagnelau; dyma filwr ar fy neheulaw yn cwympo oddiar ei farch, gan ddodi ei law ar ei fvnwes fcl pe i geisio attal ffrwd gwaed ei galon a lifeiriai i lawr ei Avisg a thros ei gyfrwy. GalAAryd fy nghatrawd i o'r neilldu gyda'r bwriad i ni gadw ein nerth hyd y foment hono ar y frwydr fyddai i benderfynu y dydd. Ond o'r lie y safem gwelwn ein byddin yn ymdaith yn mlaen yn ddigryn ac i ganol y cwmwl dudew o fwg, a chlyAvais i'r ymladclfa ganolbwyntio oddeutu hanner dydd ar v ffermdy yma-Hougomont--yr liAvn a feddiannwyd, a goIlwyd, a feddiannwyd ac a gOilAvyd drachefn gan fy nghydfilAvyr, ac o'r diwedd dodasant vr ysgubor ar dan gan rostio yn fvAAr ugeiniau o'r Saeson. Rhuodd y frwydr am oriau i'r dde a'r asAvy, yn ol a blaen. Erbyn pedwar o'r gloch yr oedd sefvllfa y Saeson yn beryglus—yr oedd Hill wediei orfodi. i syrthio yn ol ar gatrodau olaf Wellington, Picton wedi ei ladd gan fwlfd drwy ei ben, Iluaws o'r catrodau goreu wedi eu lladd bob dyn ohonynt, Ponsonbyar y maes yn glwyfedig, Gordon ar y maes yn farw, dwy adran gyfan o'r fyddin Seisnig- Germanaidd wedi eu malurio yn chwilfriw, a holl fyddin Wellington yn dechreu crynu ac encilio. Safai Wellington fel delw oeraidd o haiarn ar ei geffyl, OJ a'r bwledi yn disgyn iiiegiri cenllysg o'i gAvmpas. '0 na ddeuai'r nos" neu Bleucher' meddai, yn ei gyfyngder. Yn y cyfwng yma gwelais yr YmlieraAvdwr yn gofyn i AArladAvr cydnabyddus a'r cwr yma o'r wlad, yr hwn; oeddym wedi ei gymeryd yn garcharor a'i gadw yn erbyn ei ewyllys, a oedd y ifordd yn glir i feirchfihvyr ruthro ar brif ganolbwynt y Saeson, ar dop bryncyn o'n blaenau. 'Ydyw,' ebai'r carcharor, 'nid oes vna ddim rliAvyatr.' Dyna'r cehvydd a orphenodd ddinystr Napoleon. Pan glywodd yr YmlieraAvdwr hyny coeliodd air y carchar- or, a chan fod moment faAVT—trobwynt y frwydr—gsrllaAV, gorchymynodd i fy nghat- rawd i o feirchfUwyr ruthro ar y gelyn. Y nmhen a ni yn llinell hanner milldir o