Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
BUGAIL Y GARNEDD.
News
Cite
Share
BUGAIL Y GARNEDD. Mae'r huan deg yn trengu Wrth orsedd gain y nos, Tra'r ydym yn ymgomio, Fy anwyl feinwen dlos Mae'r awel fwyn yn rhoddi Ei gwefus ar y dail, A ninnau yn ei dilyn Mown cusan bob yn ail. 0 danom mae yr afon Yn treiglo tuar mor Mewn brys i gael ymfFurfio A'i fawr ddihysbydd stor; Ond gwell f'ai genyf glywed Ffrwd cariad o dy fron Yn troi ei dyfroedd peraidd I for y galon hon. Oae'm yna roddi ffarwel I'n llwybr ar "nos Lun," A d'weyd na oliaiff y lleuad Byth mwyach dynu llun; Ond gwelir mab y Garnedd Yn nghyda'i anwyl Wen Yn byw yn Ngwastad Annas, Yn mro'r Eryri Wen. Sawl gwaith yr addunedaist, Fy anwyl eneth ddel, Wrth gamfa'i' hen Gymwynas Cyn dyweyd y gair ffarwel, N es gwneyd elfonau natur I drydar yn gytun O'th ol y geiriau hyfryd, "Y chwi a. fydd y dyn." Mor ddifyr y cae'm dreulio Ein bywyd bob yr awr, Ar lethrau gwastad Annas Wrtli droed y Wyddfa fawr Cael gweithio ar y tyddyn, Bob diwrnod, 0 mor glyd, Ac ymgom wedi noswyl At droi a thrin y byd. Mae arian tymhor gauaf Mewn Haw heb un ar goll; Ar wyllt fe wnaf ei gwerthu, Oaf dipyn rhwng yr oil; Paid, paid ag ofni'r ymgyrch, Fy anwyl eneth wiw, Mae genyf eisoes ddigon I ni at ddechreu byw Yn awr, yn ngwyddfod anian, 0 dywed heb nacad, Gaf fyned 'fory i 'mofyn Am dan at i dy dad ? Os tynu'n ol wnei eto, Y ereigiau hyn, a'r dwfr, Furmurent yn dy glustiau Am byth, yr "eneth lwfr." Fel yna wrth y gamfa, Fe gauwyd clawr y drefn, Dyfodol seliwyd cyn ei ddod A chvsan ar ei gefn; Aeth adref dan chwibanu, Heb arno, glais na chlwy', Ond blin yw d'weyd na chlywais ef Bvth yn chwibanu mwy BRYFDIB.
HEN HOGYN O'R WLAD.
News
Cite
Share
HEN HOGYN O'R WLAD. Bu'm gynt yn hiraethu cael bwthyn bach clyd, Yn Heol y Felin, yn moreu fy myd; Yn lIe gada,el amser i'r byd ddod i'w Ie, Mi gododd ihyw hiraeth am fyw yn y dre', Am fyw yn y dre' a, byw yn y dre', 'N He byw yn y wlad, lie 'roedd digon o Ie. 'Roedd genyf ardd fechan yn ymyl y nant, A merlyn bach melyn yn pori'n y pant; Cv rneiian o datws, a buwch a llo bach, Er hyny ni fedrwn i byth fod yn ia,ch, Eisie' byw yn y dre', a byw yn y dre', 'N lie byw yn y wlad, lie 'roedd digon o Ie. Mi gefais ryw fwthyn yn Heol y Llyn, 'Rwyf wedi cael digon ar hwnw cyn hyn A'r wraig yn fy mlino'n aunedwydd ei nad, 0 eisieu cael bwthyn yn nghanol y wlad. Yn nghanol y wlad, yn nghanol y wlad, Gwell byw yn y bwthyn yn nghanol y wlad. Mae'r bwth yn yr heol mor gul yn ei gefn, Mor gyfyng i droi, a chael fawr byd o direfn; Heblaw fod cwn blinion yn udo'n y nos, A'r cathod yn mewian fel rhewynti y rhos. Yn nghanol y dre', yn nghanol y dre', Faint gwell yw tawelwch, a digon o le 1 Mae'r dref yn llawn trafael tra heulwen tra liaf, Ei Germans a'i mulod yn brefu mor braf, Ond gwell genyf ga-nwaith na S'wndwr ei phlant, Gael bwthyn bach tawel yn awel y nant, Yn awel y nant, yn awel y nant, Gael bwthyn bach tawel yn awel y nant. Yn lie hogiau myglyd a rheglyd eu rhoch, Y gwg a,'r ymgegu sy'n marohnad y moch Cawn yno'n fwy doniol fyw'n siriol fel sant, Mewn bwthyn bach tawel yn awel y nant, Yn awel y nant, yn awel y nant, Mewn bwthyn bach tawel yn awel y nant. Mae Sion Gul ei Feddwl, o Heol y Llyn, Wrth drin ei faterion yn siarad fel hyn Mai ef ddylai wybod pa beth sy'n ei Ie, A'i fod wedi ei fagu yn "Hogyn o'r Dre' Yn "Hogyn o'r Dre' yn "Hogyn o'r I:ly Dre' Mae Sion wedi ei fagu yn "Hogyn o'r Dre' Ond nid am nad oes yn y wlad lawer Sion, Nad yw fel dyn da fawr o beth yn y bon Mae yn y wlad lydan le haws ei osgoi, Tra yma 'rwy'n myn'd ar ei draws heb le i droi. Wrth fyw yn y dre', wrth fyw yn y dire', Gwell byw yn v wlad He mae digon o Ie. Mae'r ardd, a'r hen gamfa, y llidiard a'r llwyn, Lie cynnar swn can, lie daw'r defaid a'r wyn A swyn Hirnos Gauaf yr Hen Simneu fawr, Y Faine a'r hen Gongol yn eisieu yn awr, Wrth fyw yn y dre', wrth fyw yn y dre', Mae bwth yn y cwmwdJ yn llawer gwell lie. Daw'r gog' yno i ganu mor gynnar, mor gu, A'r fwyalch i'r ganghen yn nhalcen fy nhy Ac arogl haf hyfryd o lechwedd a phant, I'r bwthyn bach tawel yn awel y nant, A digon o lei, a digon o le; Mae rhyddid yn galw'm gael digon o Ie. 11 EOS B BAD WEN,
BOB WYTHNOS.
News
Cite
Share
BOB WYTHNOS. CirSTADLHUAETH Y POST CARD.—Popur Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am y pennill penenwol (acrostic) goreu. Testyn:— Ebrill 20.-Dicky Sam. YSGRIFBNU.— Gwobr gyffelyb i blant dan 14 mlwydd oed am ysgrifenu adnod neu bennill, yn addurniadol, mewn inc o wa- hanol liwiau, gydag ymylwaith cywrain. TYNU LLUN.—Hanner Coron yn wyth- nosol am dynu lluniau o anifeiliaid cyffredin— agored i blant dan 18 oed. Ebriil 20.—Iar. Pos RHIFYDDOL.—Hanner coron yn wyth- nosol (i rai dan 18) am yr atebiad goreu a chynaraf. Ebrill 20.-Aeth malwoden un droed- fedd yr awr gyntaf, hanner troedfedd yr ail awr, chwarter troedfedd y drydedd awr ac felly yn y blaen. I ba bellder yr aeth hi mewn deg awr ?
ARBENIG.
News
Cite
Share
ARBENIG. Cynnygir llyfr newydd, o nodwedd hanes- yddol, gwerth 5s., am y ddadl oreu, cyf- addas i'w hadrodd mewn cyfarfodydd ad- loniadol, ar gyfer y nifer a fyner o ber- fformwyr. Dim mwy na chwe' cholofn o Bapur Pawb.
TELERAU.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eidde Papur Pawb. 2. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd. ugol; a bydd hawl gan Papur Pawb i'w cyhocddi trwy dalu swm a benodir gan y Golygydd. 3. Y cyfansoddiadau i gael eu hanfou i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr. haedd ar y dydd a grybwyllir uchod gyferbyn a phob testyn 4. Ysgrifener mewn inc du, ar bapyr gwyn ar un ochr i'r ddalen yn unig. 5. Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen pythefnos ar olderbyny cyfansoddiadau. 6. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol a'i drigfod ar y ddalen gyntaf hefyd i ddatgan ei fod yn cydsynio a'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu yn efelychiad o ryw waith, mewn i-ith arfl.ll. heb fod yn ddarostvngedig i Mdyddfou ysgrif.