Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

AWQRYMIADAU MEDDYQOL

News
Cite
Share

AWQRYMIADAU MEDDYQOL NEURALGIA.—Poen dirdynol yn dy- chwelyd yn fynych gyda mwy o ffyrnigrwydd nag ar y oyntaf. Os yn y gwynob y bydd y boen, galwir ef yn Tic Douloureux. Y mae yn y cyffredin yn ymosod ar un, weithiau ddwy, ond anaml ar y tair canghen o'r gieu teimladwy yn y gwyneb. Y mae'r boen yn y talcen, yr aeliau, a'r am rant uwchaf, ac ambell dro yn y Uygaid, pan ymosodir ar y ganghen gyntaf; yn mhen ychydig, cnofeydd ffyrnig o boen yn parhau am o ychydig eil- iadau i fynyd o amser, ac yn dychwelyd ar yspeidiau yn annisgwyliadwyr. Pan ym- osodir ar yr ail ganghen, teimlir poen yn yr amrant isaf, ochr y trwyn, y wefus uwchaf, a dannedd yr en uwchaf. Os yn y drydedd hefyd, bydd poen yn y dannedd isaf, a'r wefus isaf. Y mae y boen yn dyfod1 yn ddisymwth ao ohono ei hun weithiau, dro arall yn cael ei gyffroi gan siarad, tisian, chwythu y ffroenau, onoi ymborth oer neu dwymn, ac hyd yn nod cyffro meddyliol. Triniaeth Y melreüher symud yr achos os bydd bosibl. Ambell dro, dant adfeiliedig neu ddarn o asgwrn, dro arall drwy archolli y gieu gyda rhyw erfyn miniog. Yn ystod y loes, cs bydd y boen yn arfer a dychwelyd bob rhyw hyn a hyn o amser, chwe' gronyn (grain) o quinine mewn gwydriad o win neu gwpanaid o de poeth. Y mae hylif chwys- igenol (blistering fluid) wedi ei baentio dros y man poenus a theimladwy o'r croen bob amser yn dda, neu oa na fydd hwnw wrth law, plaster o fwstard. Y mae dal y pen uwch dwfr yn ageru yn dda ar lawer adeg. Cyffur carthedigol hefyd (y swm yn dibynu ar arferion y dioddefydd), megis compound colocynth pill. Os bydd y boen yn ffyrnig iawn, cymerer tri gronyn ( 3 grains) o croton chloral bob tair awr. Y mae dognau saith gronyn o antipyrin yn foddion rhagorol i symud ymaith boenau y neuralgia yn y gwyneb a'r talcen pan fydd cyffuriau ereill wedi profi yn aneffeithiol. Pan fyddo neu- ralgia yn dal yn gyndyn, y mae trydaniaeth yn ffrwd redegol, megis o battery, yn ddefn- yddiol yn ami. Yn y cyfryngau rhwng ym- osodiadau y neuralgia, dylid gwneyd ym- drech i wella, yr iechyd cyffredinol. I ber- sonau gwael a gwelw a diwaed, y mae llonaid lhvy de o codliver oil yn ddyddiol, gyda carbonate of iron, tri gronyn, dair gwaith yn y dydd ar ol bwyd yn llesol. YR INFLUENZA.—Nid yw'r ymdeithydd gwibiog hwn yn arbed y cyfoethog mwy na'r tlawd. Pa Ie, pahaim, neu pa fodd y mae'n tarddu, mae'n ymddangos nad oes ond ychydig yn gwybod; y mae ei wibdeithiau mor ansicr, yn aros yn ein plith am yehydig wytihnosau gan ymosod ar lawer, yna yn ym- symud i fanau ereill i gyflawni ei ysgeler- derau. Nis gallwn ei osgoi, gan hyny dylem gymeryd y rihagocheliadau sydd bosdbl i rwystro i'r ymosodiad fod yn un ffyrnig. Un peth ydyw, peidio gadael i'r cyfansoddiad fvn'd i lawr i un math o wendidl tra byddo'r gelyn yn tramwy o gwmpas, bwyta un wy yn ychwanegol yn y boreu, gwydriad da o laeth yn awr ac yn y man, sleis dda o ryw ddernyn o gig wedi ei goginio' yn dda i luncheon lie gellir ei gael, a swp cryfach nag arferol, ond! nid yn frasderog, amser ciniaw. Gochehvch ddysgieidiau o ymborth rhy gelfyddydol, er iddynt fod yn flasus, os na byddant yn faethlon gwell ydyw byw ar ymborth plaen ac iachus, fel y cadwer yr ermigau treuliol mewn trefn dda. Dylid gochelyd lleithder ac oerfel, yn enwedig esgidiau gwlybion. Pan fyddis yn teimlo cryndod oer yn dyfod dros y cefn a'r ys- gwyddau dylid cymeryd gofal ar unwaith, peidio oedi, gan feddwl yr el heibio, oher- wydd yr amser hwnw, efallai, y cymer y gelyn fantais i enill tir, a'n gorehfygu cyn i ni gael amser i ddeall yn iawn ein bod yn wael. Yr ydym yn arfor galw yr influenza yn glefyd heintus, øta yn fynych y mae am- ryw aelodiu o'r un teulu yn ei osgoi. Yr eiddil a gwan sydd yn dioddef twyaf; er iddynt wella, y mae'r gwendid yn aros yn hir, ac y mae yn gofyn wytlmosau o nursio gofalus cyn yr adferir nerth. Y mae quinine, port wine, beef tea, a llaeth newydd ei odro yn cael eu cymera- dwyo o dan amgylchiadau o wendid, ac y mae curo melyn wy nes y byddi yn rhedeg fel llaeth, ac ychwanegu ato ychydig siwgr a llaeth nes y bydd y tymbler yn hanner llawn, a thair llonaid llwy de o frandi yn rhagorol. Os bydd y bronchitis yn un o arwyddion amlwg yr anhwyldeb, y mae poultis o had llin ar y frest a'r cefn, a'u newid bob pedair Mvr, yn foddion effeithiol i gyfarfod a'r gelyn yn yr agwedd hwnw. Arwyddion —Yr arwydd cyntaf o'i ymosod- iad ydyw y teimlad o flinder a lludded—• pob peth yn faioh; ambell dro ychydig boen yn y pen. Ychydig oriau yn mhellach, pan fydd yr ymosodiad yn dyfod yn ei lawn nerth, gloesau o gryndod, teimlad o oerfel rhewllyd dros yr holl gorph, er eistedd ar gyfer y tan bydd y boen yn y pen mor ddirdynol fel y teimlir fodi y talcen a choiyn y pen yn dyfod yn rhydd, y cymalau yn poeni fel p& wedi cael eu cystwyo, y croen yn dyner a dolurus, a'r cefn, yn enwedig ar draws y lwynau, yn boenus iawn ar adegau. Teimlir trymder mawr ac iselder yspryd, ac mewn rhai achlysuron, rhyw ymollyngdod llwyr; y dioddefydd yn teimlo'n wan ac yn methu cerdded, yr anadl yn gaeth a byr gan guriad y galon. Ar ambell amigylchiad, y mae'r dioddefydd yn cael ei da.ro yn sydyn gan boen mawr yn ei gefn, a hwnw yn rhedeg i lawr i benau y gliniau, nes y teimla ei hun yn hollol analluog, er efallai, ychydig fynydau cyn hyny wrth ei orchwyl, ac yn ol pob golwg yn ei lawn iecliyd, Nid ydyw yn ymosod yn ffyrnig ar blant bychain, ac os cyffyrddir a hwy o gwbl, ni fydd ond cyffyrddiad ysgafn—rhyw dwymyn ysgafn, a chwys yn ei ddilyn. I bobl ieuainc a rhai mewn oed o dan bump a deugain, anaml y bydd yr anhwyldeb ynddo ei linn yn terfynu yn farwol; ond yn ami y mae yn gymhlethol ag anhwylderau ereill, a phan y byddn felly, y mae yn afiechyd peryglus iawn; a'r an- hwylderau mwyaf cyffredin yn gysylltiedig ag ef ydynt afiechyd yr ysgyfaint, sef y broncliitis a'r pneumonia. Os byddis yn ofni fod yr ymosodiad yn un difrifol, dylai y dioddefydd fyned i'r gwely ar unwaith, ac yn hytrach nag yanddiried yn y lluaws cyffuriau a enwir gan hwn a'r Hall, dylai eu dewis gael ei ymddiried i feddyg profiadol, yr liwn y dylid anfon am dano os bydd yr ymosodiad yn drwm. Y mae hetiau'r gwanwyn i fod o wellt melyn, mauve, a gwrydd o bob arlliw goleu. Yiiia ceir het gydag ymyl fylchog, wedi ei gwneyd o wellt tywyll-wyrdd, tra mae'r bluen a'r osprey o liw gwanach. O'r tu ol ceir adlen- n ydd o fclfet violet, wedi ei gweithio gyda gwifren a spangles gloyw. cl Yma. ceir gwisg gyfaddas o frethyn i'w wisgo fis Ebrill, gyda'r rhan uchaf yn rhydd ac agored yn lie yr ysgwyddau pletiedig. Y m,w'r cyfryw wedi ei vmylu a felfet du, yr hyn a edrycha yn dda a, rhanau pine o'r wisg. Y mae' l' llewis main 110 hirion, gycla, fl'ril wrth y penelin, yn gweddu i'r dilledyn hwn.