Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

- Gormes Gwareiddiad:

News
Cite
Share

Gormes Gwareiddiad: neu "CALED YW FFORDD TROSEDD- WYR." I PENNOD VI.—.JOHNSON A'R MAER. U Mr Gregory yn neill- duol o garedig wrth ei chwaer. Ni raid dy- weyd hyny. Dyn o'r anian fwyaf caredig oedd efe; buasai yn sicv o fod yn garedig at y ddynes dlawd hon pe heb ei gweled erioed o'r blaen ond dyma ef wedi ei hadwaen fel ei chwaer! Y boreu dilynol cafodd yr oil o'i liaiies gancldi, o'r adeg y cymervvyd ef ymaith o'i hen gartref, yn anghyfiawn fel y dywedai hi ac y credai yntau deallodd iddi ddod drwy lawer o gyfyngderau air ol colli ei gwr cyntaf a cholli ei brawd. Ond yn mhen peth amser wedi i'r olaf gael ei anfon i'r transport fe briododd hi eilwaith. Byr iawn fu ei hail dymhor briodasol, a gadawyd hi gyda phump o blant ei gwr cyntaf ac un i'r ail- geneth feclian, yr hon y bu raid iddi ei I rhoddi i'w magu, fel yr ydys eisoes wedi dy" weyd, gyda theulu oedd yn cadw tafarn yn Beaumaris, Mon. Yiia aetli ar grwydr mown ymchwil am rywbeth i'w wneyd er enill ei bara beunyddiol. Gan mai Sais o gymydogaeth Centrewich oedd ei hail wr, yr hwn oedd wedi dod i Foil, i ddechreu, fel gweithiwr yn ngwaith copr Mynydd Parys, yr cedd hi wedi dysgu Saesneg yn weddol, ac yn ei chyfyngder presennol daeth i ardal enedigol ei gwr, gan feddwl myn'd at ei deulu, gan dybio y buasent hwy yn gallu gwneyd rliywbeth er ei chynnorthwyo i gael gwaith. Nid cynti y, daetli i Centre- I wich nag y clywodd am weithdy mawr y maer, drysau yr hwn oeddynt bob amser yn agored i dderbyn, hyd y gellid, bawb mewn gwir angen angen diwrnod o waith. Da iddi oedd hyny, oblegid pan ddaeth i Centre- wich a ehwilio am deulu ei diweddar wr, cafodd eu bod un ai wedi marw oil neu symud oddiyno i fyw, ac fel yr ydys. eisoes wedi dangos nid oedd yno neb yn gwybod dim am dani hi na'i helyntion, Yr oedd ei phlant o'r gwr cyntaf oil erbyn hyn yn enill eu tamaid fel gweision a, morwynion fIermydd yn Mon. Hyn oil, ac ychwaneg, a ddyweclodd Betsy wrth ei brawd y boreu dilynol i'r adeg y darganfyddasantl eu bod yn frawd a chwaer. Pan ddaeth meddyg yr yspytty, i'r hwn le yr oedd hi wedi cael ei chymeryd drwy ei bod yn eglur iawn yn mhell yn nghrafangau darfodedigaeth, lieibio ei gleifion y boreu dilynol cafoddl fod maer y dref yn eistedd yn hainddenol wrth ochr gwely y ddynes ddyeithr, ac i bob ymddangosiad yn cy- lneryd dyddordeb mwy na'r oyffredin ynddi. 0 ganlyniad cymerodd y meddyg fwy o ddy- ddordeb ynddi nag a fuasai yn gwneyd, ef- allai, onibai ei fod yn gweled ei feistr yn gwneyd yr un peth-o blegid ei feistr, neu ei gyflogydd, oedd MT Gregory, drwy mai y gwr da hwnw oedd wedi codi yr yspytty, yn ei gario yn mlaen ao yn talu i'r meddyg a'r gweinyddesau. Ar ol oliwilio i fewn yn fanwl i gyflwr iechyd Betsy trodd y meddyg at y maer gan ysgwyd ei ben. Aeth y maer allan o'r jlstafell rar ei 01 a chafodd ar ddeall fod ei chwaer mewn cyflwr anobeithiol, ei bod wedi myn'd eisoes yn rhy bell o lawer i afaelion darfodedigaeth i'r un gallu dynol fedru ei chipio yn ol. Buasai y maer yn cynieryd ei chwaer o'r yspytty i'w dy ei hun onibai nad oedd gan- ddo dy. Nid oedd efe yn briod, ac yr oedd, er ei holl gyfoeth aruthrol, yn byw mewn llety digon cyffredin; ac yr oedd ei chwaer mewn llawer gwell lie yn yr yspytty nag a fuasai yro ei lety ef. Heblaw hyny yr oedd Yllêl. ystyriaeth arall, ystyriaeth fawr a phwysig yn ngolwg y anaer, yr hon oedd yn eibyn iddo gymeryd ei chwaer i'w lety, a dyma oedd hono: Yr oedd efe hyd yma wedi llwyddo i gadw ei enw priodol oddiwrth bawb yn Centrewich. Nid oedd neb yn amheu pwy oedd efe—ag eithro Johnson, arolygydd yr lieddlu, efallai gan mar dyn wedi dod o'r transport gyda ticket of leave oedd efe, ag yntau, byth er pan drodd ddalen newydd yn ei hanes, wedi esgeuluso hysbysu ei hun i'r awdurdodau, fel y gofynai y gyfraith iddo wneyd bob mis1, yr oedd yn bwysig iddo beidio enyn amheuaeth, yn enwedig gan fod Johnson yn amheu eisoes er heb wneyd hyny yn wybyddusi i neb arall. Ac yr oedd y lladted—oblegid dyna beth ydoedd, nlewn gwirioneddc-gyf- lawnodd rai blynyddau cyn hyny, pan y dygodd swllt oddiar fachgenyn o was bach fFerm gerllaw Abergwili, yn ei erbyn 0 hyd, ac nid yw trosedd o'r fath, gan nad pa faint o angen a chyni fel yr eiddo Herbert Hum- phreys ar y pryd all arwain i'w gyflawniad, byth yn cael ei groesi ffwtdd oddiar lyfrau yr awdurdodau hyd nes y bydd y gosp ofyn- edig gan y gyfraith wedi ei gweinyddu. Felly yr oedd y trosedd ylma, yn ei erbyn o hyd, en cymaint o ymdrech a wnaeth i ddod o hyd i'r gwas bach hwnw ac. i ddychwelyd ei swllt iddo yr oedd y trosedd yn ei erbyn er ei fod efe yn awr yn faer Centrewich ac yn un o'r dynion mwyaf llwyddiannus yn yr holl wlad-a,c yn un o'r dynion goreu yn yr holl wlad liefyd. Ond goreu neu beidio, yr oedd y trosedd yma yn ei erbyn ae yr oedd y fath droisedd yn cael ei gyfrif yn filwaith gwaeth drwy ei fod wedi cael ei gyflawni gan ddyn oedd allan o'r transport ar am- modau neillduol ac heb orphen ei amser, na phe y buasai rhywun arall yn oyflawni y fath drosedd. Bu yn petruso beth i'w wneryd-pa, un ai anturio cymeryd ei chwaer i'w lety ynteu gofalu am dani yn yr yspytty ond cyn iddo wneyd ei feddwl i fyny fe dorwyd pob dadl drwy i'r meddyg ddyweyd wrtho yn sydyn y trydydd boreu iddo ymweledl a'r yspytty lla, fyddai y ddynes ddyeithr byth mwyach yn ddigon cryf i gael ei symud o'r gwely "ond yn unig i'w hareh," ebafr meddyg, gyda'r dideimladrwydd hwnw sydd mor nod- weddradoJ o ambell feddyg. Foreu y chweched diwrniod wedi iddo ddod i gyfarfyddiad anor annisgwyliadwy a'i chwaer yr oedd: yn ei lety yn ymbaratoi gogyfer a, myn'd i'r yspytty i edrych am dani, fel y byddai yn gwneyd y peth cyntaf bob boreu. Ond dlYma, guro sydyn a thrwm ar ddrws ei ystafell, ac wedi iddo ei agor pwy oedd yno, yn edrych mor Ilym,,oeraidd, a ffurfiol a delw o farmor, ond Mr Johnson. Er mor liyin, ydoedd Johnson, nid oedd dim o'r llet-liwraidd, mawreddog, nac ym- firostgar ynddo. Yr oedd yn union fel hen filwr-wedi ei ddysgyblu i edrych ar Dduw Ily yn Oruchaf, y Frenhines ychydig bach (os dim, mewn ambell amgylchiad) yn is; y deddfau gwladol fel bron os nad Ilawn ogyfuwch a'r deg gorchymyn dwyfol swy^ogion y deddfau gwladol fel math o hoMalluogion yn cyniwair drwy'r wlad i ddim ond1 i ahwilio am a chospi y drwg- weithredflyr hyny oeddynt wedi tori hyd yn nod y lleiaf o orchymynion yr awdurdodku gwladol goruchel. Nid oedd yr un wreich- ionen o falais yn nghyfansoddiadi Johnson; creadur ilyn, ifurnol, ydoedd; dyn pren, dyn caled, wedi ei wneyd felly gan flynydd- oedd o ddysgyblaeth fanwl a llem, Yr oedd efe wedi bod "ar waed" y maer er's blyn- yddau, nid am fod ynddo yr un teimlad drwg na malais at Mr Gregory, eithr yn hytrach am ei fod yn amheus mai nid Gregory ond Herbert Humphreys; oedd y maer, ac os mai Herbert Humphreys oedd ef,) yna nid oedd ei fywyd da dilynol i'w droedigaeth drwy yr Esgob Thirlwall, nac ychwaith y llwyddiant rhyfeddol a gafodd. na'r cyfoeth enillodd yn y blynyddau di- weddar yn gwneyd yr un gwahaniaeth gan Johnson. Yr oedd yr oes o ddysgyblaeth lem a gawsai wedi ei ddysgu i gredhi ei bod yn Uawn cymaint o ddyledswydd arno ddwyn maer Centrewich æ afael cosp os caffai, sicr- wydd ei fod wedi troseddu rywbryd yn y gorphenol ag a fuasai iddo ddwyn Herbert Humphreys, y cyn-alltudiedig, i afael cyf- raith. Pobl o waedoliaeth—hen deuluoedd bon- lieddig gwlad a thref—oeddynt dduwiau Johnson,Yr oedd y ffaith hon felly nid am fod Johnson wedi ei lyncu i fyny gan yr ysfq ddylyfol, hunan-ddarostyngol hono sydd mor gyffredin y dyddiau hyn yn mhlith y bobl gyffredin a addolant waedoliaeth am eu bod yn gobeithio drwy hyny gael rhyw fan- teision neu ffafrau iddynt eu hunain; ac nid ychwaith am fod Johnson yn addoli cy- foeth y teuluoedd o waed. Nid oedd efe yn addoli cyfoeth mewn unrhyw ddull na modd. Ond yr oedd ganddo barch uchel, diledryw, i bawb allent olrhain eu hachau, yn ol at rhyw hen deuluoedd y ceid crybwylliadi am danynt yn hanesyddiaeth Lloegr gannoedd o flynyddoedd, yn ol—hwynt-hwy oeddynt wedi gwneyd Lloegr y peth ydoedd, a'u disgynyddion hwy, yn ol ei farn ef, oeddynt yn yr oes hon asgwm cefn y Wladwriaeth. Yr oedd Johnson yn y fan yma yn anghofio y ffaith fod pethau wedi newid1 yn ddirfawr yn Lloegr hyd yn nod er pan oedd Bess yn teyrnasu heb son am amser William1 y Gorchfygwr a'r hen frenhinoedd ereill ddaethant ar ei ol—yr oedd yn anghofio fod y "feudal system" wedi marw heb ofeaith adgyfodiad byth iddi, a,c mai ewyllys y bobl o hyn allan yw prif reolydid gwladwriaeth Prydain Fawr, ac nid ewyllys a dymuniadau anwadal ychydig o hen deuluoedd gawsant